Swydd Wag -- Swyddog Cymorth Busnes

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y Gwasanaeth Gyfieithu
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£20,500
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd, Y Canolbarth, Gogledd Cymru, Y De-orllewin
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Swyddogaeth Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yw darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer Llywodraeth Cymru a'i Gweinidogion, a chefnogi’r Llywodraeth i gydymffurfio â gofynion ieithyddol statudol.

Wrth graidd y Gwasanaeth mae’r Uned Fusnes, sy’n cynnwys Rheolwr Busnes, dau Swyddog Busnes a phedwar Swyddog Cymorth Busnes. Yn ogystal â bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid, sef gweision sifil o bob rhan o Lywodraeth Cymru, mae’r Uned Fusnes hefyd yn: cynorthwyo’r arweinwyr timau a’r cyfieithwyr drwy ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; darparu cymorth busnes a chyllid i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; cyd-drefnu’r gwaith cyfieithu allanol.

Prif gyfrifoldeb y Swyddogion Cymorth Busnes yw cefnogi’r broses o drefnu a pharatoi prosiectau cyfieithu gan gydweithio’n rhagweithiol ac yn effeithiol gyda’i gilydd, gyda’n cwsmeriaid, gydag arweinwyr y timau cyfieithu, a chyda cyfieithwyr mewnol ac allanol, er mwyn helpu i sicrhau proses gyfieithu effeithiol ac effeithlon.

Prif dasgau

Darparu cefnogaeth ar gyfer prosiectau cyfieithu (Cyffredinol, Deddfwriaethol a Chyfieithu ar y Pryd)

  • Bod yn gyfrifol am fonitro ceisiadau a ddaw i law am wasanaethau cyfieithu, a’u blaenoriaethu yn ôl y galw.
  • Ymateb yn brydlon i’r ceisiadau, a chyd-drafod yn ôl y galw â’r cwsmer er mwyn cael yr wybodaeth angenrheidiol (ee dyddiad dychwelyd, anghenion ac amodau penodol) ar gyfer darparu gwasanaeth safonol a phrydlon.
  • Paratoi prosiectau cyfieithu ar sail ceisiadau’r cwsmeriaid, dadansoddi pob cais yn drylwyr, dehongli natur y cais yng nghyd-destun Safonau'r Gymraeg a/neu’r Rheolau Sefydlog, a thrafod y gwaith yn ôl y galw gydag arweinwyr y timau cyfieithu.
  • Achub ar bob cyfle i baratoi'r gwaith mewn ffordd sy'n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd gyfieithu i baratoi prosiectau cyfieithu.
  • Dilyn prosesau sy'n gyson â gweddill yr Uned Fusnes o ran prosesu ceisiadau am gyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a chynnig syniadau i wella a mireinio'r drefn.
  • Defnyddio'r cytundeb fframwaith allanol ar gyfer comisiynu cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn briodol ac effeithiol, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyfieithwyr allanol.
  • Dilyn rota waith yr Uned Fusnes er mwyn sicrhau gwasanaethau di-dor yn ystod oriau swyddfa (08:00 i 17:00)

 

Darparu cymorth busnes

  • Ymgymryd ag amrywiol dasgau sydd wedi'u rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes, ee trefnu cyfarfodydd a chyflwyniadau, cymryd cofnodion, casglu data ac ystadegau, archebu offer a nwyddau swyddfa,a helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.
  • Datblygu a defnyddio sgiliau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i greu prosiectau, alinio a dadansoddi dogfennau, a mewnforio ac allforio cofau gan gyfieithwyr allanol) a systemau corfforaethol.
  • Cynorthwyo ag unrhyw agwedd arall ar waith gweinyddol a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau'r rheolwr llinell neu'r staff uwch.

Cyfleoedd datblygu

Gweithio i un o wasanaethau cyfieithu mwyaf Cymru, mewn uned sy'n ganolog i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfieithu proffesiynol i holl Weinidogion a staff Llywodraeth Cymru.

Yn sgil hynny, ceir cyfle i:

  • gael cyswllt dyddiol ag amryw randdeiliaid, gan gynnwys swyddogion ar bob lefel, ysgrifenyddion preifat y Gweinidogion, a chyfieithwyr allanol sy'n cynnig gwasanaeth ar gontract.
  • datblygu sgiliau sy'n ganolog i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau, ee gofal cwsmeriaid, rheoli cyllid, a chasglu data.
  • datblygu set o sgiliau 'paragyfieithu', gan gynnwys defnyddio systemau meddalwedd arbenigol i baratoi, dadansoddi a rhag-gyfieithu dogfennau ar gyfer cyfieithwyr mewnol ac allanol.
  • gweithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog lle mae'r Gymraeg yn iaith gwaith y gangen ac, os bydd gan yr ymgeisydd sgiliau Cymraeg ysgrifenedig cwbl gadarn, caiff gynnig yr opsiwn i ddilyn rhywfaint o hyfforddiant cyfieithu.

Dyddiad Cau

09/11/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Arwain a Chyfathrebu - Gweithredu mewn modd teg a pharchus wrth ymdrin ag eraill
Gwella Gallu Pawb - Dod o hyd i ffyrdd o ddysgu a gwella’n bersonol wrth gyflawni tasgau o ddydd i ddydd
Achieving Commercial Outcomes - Learn about customers and suppliers needs
Cyflawni’n brydlon - Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol

Meini prawf penodol i'r swydd

Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf er mwyn delio'n effeithiol â chwsmeriaid, cyfieithwyr a phartneriaid eraill drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Meddu ar sgiliau TG cadarn, gan gynnwys profiad o weithio â chronfeydd data, a bod yn barod i ddefnyddio ac i wella'r sgiliau hynny a chynefino â systemau newydd ac arbenigol.
Profiad o ddarparu gwasanaethau rheng flaen i gwsmeriaid o dan amodau prysur.

Proses Asesu

Y broses ymgeisio
Mae dau gam i'r broses ymgeisio, sef:
Cam 1: Cyflwyno ffurflen gais.
Disgwylir ichi gyflwyno’ch atebion yn Gymraeg ac eithrio yn achos y 3ydd cymhwysedd, sef Achieving Commercial Outcomes. Disgwylir ichi ateb hwnnw yn Saesneg. Caiff ansawdd yr iaith ysgrifenedig ei brofi yn y ffurflen ac os bydd yr ansawdd yr iaith yn ddigonol a’ch tystiolaeth yn dderbyniol, cewch wahoddiad i gyfweliad

Cam 2: Y cyfweliadau.
Os bydd eich tystiolaeth ac ansawdd iaith y ffurflen gais yn dderbyniol, cewch wahoddiad i gyfweliad a gynhelir drwy gyfrwng Microsoft Teams. 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Meinir Thomas – Meinir.Thomas@llyw.cymru/ Helen Phillips – Helen.Phillips@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.