Swydd Wag -- Swyddog Cymorth Busnes AGC x3 – Cymraeg yn Hanfodol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Cymorth Busnes AGC
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£22,150
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Tymor Penodol hyd at 12 mis, gyda'r posibilrwydd o swydd barhaol yn amodol ar y meini prawf sydd ar waith ar y pryd.
Lleoliad arall
Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC, ym Merthyr, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i'ch man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

Mae cangen Gwasanaethau Busnes AGC yn cynnwys y tri tîm canlynol:

  • Cysylltu
  • Cyflawni
  • Gorfodi

Mae'r tîm Cysylltu yn darparu gwasanaeth cymorth rheng flaen o ansawdd uchel i gwsmeriaid, gan ateb a chofnodi galwadau, rhoi cymorth ar-lein i gwsmeriaid, brysbennu e-byst, cofnodi pryderon a chyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol er mwyn helpu'r Rheolwr Cymorth Cysylltu i gyflawni swyddogaethau'r tîm Cysylltu.

Mae'r tîm Cyflawni yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gweinyddol, gan gynnwys cwblhau gwiriadau o geisiadau a hysbysiadau ar-lein a chyhoeddi adroddiadau arolygu er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni swyddogaethau ar gyfer y timau cofrestru ac arolygu.

Mae'r tîm Gorfodi yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddol, gan weithio'n agos gyda'r rheolwr cymorth gorfodi i drefnu cyfarfodydd panel, cymryd cofnodion a diweddaru cofnodion gorfodi yn ogystal â chyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr cymorth gorfodi.

Bydd y ffordd y rhennir dyletswyddau yn ôl disgresiwn y Rheolwr Cymorth Busnes.

Gan ein bod yn wasanaeth cyflawni gweithredol, rydym yn disgwyl i'r tîm cymorth busnes weithio rhwng 9:00am a 5:00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9:00am-4:30pm ar ddydd Gwener er mwyn sicrhau capasiti busnes digonol.

Prif dasgau

  • Gweithio o Ddangosfwrdd CRM i gyflawni amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys anfon adroddiadau arolygu, cyfeiriadau gwasanaethau cymdeithasol, ceisiadau cyfieithu, gwiriadau maethu a mabwysiadu, pennu tasgau a sicrhau bod hysbysiadau a cheisiadau sydd wedi'u cyflwyno ar-lein yn gyflawn
  • Cofnodi pob ymholiad dros y ffôn ac ar e-bost drwy ein system CRM a’u brysbennu fel y bo angen.
  • Defnyddio AGC Ar-lein i gofnodi gwybodaeth am wasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad a phryderon yn sensitif ac yn gyfrinachol.
  • Cysylltu â darparwyr y mae eu cyfnod o atal cofrestriad yn wirfoddol wedi dod i ben a phrosesu ceisiadau canslo ceisiadau yn wirfoddol ar gyfer gwarchodwyr plant
  • Cwblhau gwiriadau adnabod ar gyfer adnewyddiadau DBS i arolygwyr.
  • Cynnal system CRM AGC drwy fewnbynnu data yn gywir ac yn brydlon a sganio ac atodi dogfennau. Cadarnhau cywirdeb manylion cyswllt cyn cyfathrebu â darparwr. Hysbysu'r tîm perthnasol am broblemau sy'n codi wrth ddefnyddio'r gronfa ddata pan na all eu datrys;
  • Prosesu ceisiadau Cynllun Nanis drwy gymryd taliadau gan ddefnyddio 'world pay', prosesu eu ceisiadau a rheoli taenlen yn effeithiol
  • Monitro blychau post amrywiol y tîm cymorth busnes drwy system ddyletswydd, gan godi ymholiadau a brysbennu fel y bo angen.
  • Darparu cymorth ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol; gan gynnwys trefnu cyfarfodydd, llunio agendâu a chymryd cofnodion;
  • Darparu cymorth ar gyfer rhaglen Arolygiad ar y Cyd Estyn, gan gynnwys y gwaith o gyfieithu a chyhoeddi adroddiadau. Mae'r prif dasgau hefyd yn cynnwys darparu cymorth ysgrifenyddol ar gyfer gweithgorau a byrddau prosiect.
  • Hyblygrwydd i gyflawni rolau/swyddogaethau eraill o fewn y tîm cymorth busnes yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.

Cyfleoedd datblygu

  • Cyfle i weithio mewn arolygiaeth brysur.
  • Profiad gwaith amrywiol, tra'n gweithio gyda chydweithwyr i gyflawni gweithgarwch rheoleiddio.
  • Cyfle i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

Dyddiad Cau

02/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Monitro a storio data critigol mewn modd diogel, priodol a chyfrifol gan gynnal cyfrinachedd.
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Cyfrannu’n rhagweithiol i waith y tîm cyfan.
Gwella gallu pawb – Dod o hyd i ffyrdd o ddysgu a gwella’n bersonol wrth gyflawni tasgau o ddydd i ddydd.
Rheoli Gwasanaeth Safonol - Bod yn atebol am faterion, gan ganolbwyntio ar ddarparu’r ateb cywir a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a phartneriaid cyflenwi.

Meini prawf penodol i'r swydd

Y gallu i ddefnyddio Microsoft Word, Excel a chronfeydd data rheoli cydberthynas â chwsmeriaid.
Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol i fodloni terfynau amser a gweithio'n hyblyg fel rhan o dîm ac ar eich liwt eich hun.
Y gallu i ddangos sgiliau gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar i ddelio ag amrywiaeth o gydweithwyr mewnol ac allanol gan gynnwys uwch-reolwyr.

Proses Asesu

Mae'r broses recriwtio yn cynnwys dau gam:

Cam 1 - Cwblhau cais ar-lein.

Cam 2 – Cyfweliad ac asesiad. Os yw'r swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg, bydd asesiad ysgrifenedig Cymraeg hefyd.

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru sef ffurflenni cais a chyfweliadau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeiswyr AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddiwch ddull STAR wrth roi tystiolaeth.

Cam 1 - Llunio Rhestr Fer/Sifftio Ceisiadau

Caiff rhestr fer o ymgeiswyr ei llunio drwy asesu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y ffurflen gais yn erbyn y pedwar cymhwysedd a’r tri maen prawf penodol ar gyfer y swydd. 

Os daw nifer mawr o geisiadau i law, efallai mai dim ond yn seiliedig ar eich ymatebion i'r tri maen prawf penodol i'r swydd y bydd y panel yn llunio'r rhestr fer.  Noder: bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â'r pedwar cymhwysedd o hyd, er mwyn pasio'r cam rhestr fer yn llwyddiannus.

Cewch wybod y canlyniad drwy'r system ar-lein. Bydd rhywfaint o adborth ysgrifenedig yn cael ei roi yn ystod y cam sifftio.

Cam 2

Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad rhithwir dros Microsoft Teams.

Os yw'r swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg, bydd asesiad ysgrifenedig Cymraeg hefyd. 

Os na allwch gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau amgen lle y bo'n bosibl. 

Os ydych yn anabl, os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, os ydych yn niwrowahanol neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a hoffech wneud cais am addasiadau rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i CIWHR@gov.wales.

Yn ystod y cam sifftio a chyfweld, byddwn yn eich  asesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn y cymwyseddau a'r meini prawf penodol i'r swydd a nodir yn y disgrifiad swydd/hysbyseb swydd.  

Sgiliau Cymraeg

Gan fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ar gyfer dau gwestiwn, o leiaf, o'r meini prawf cymhwysedd neu feini prawf penodol i'r swydd yn yr iaith amgen. Er enghraifft, os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, dylai dwy o'r enghreifftiau, o leiaf, gael eu hysgrifennu yn Gymraeg. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, dylai dwy o'r enghreifftiau, o leiaf, gael eu hysgrifennu yn Saesneg.

Efallai y caiff eich sgiliau ysgrifenedig Cymraeg eu hasesu fel rhan o'r broses gyfweld drwy brawf.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Swyddi sydd ar gael

Mae dwy swydd ar gael o fewn Tîm Gwasanaethau Busnes AGC a fydd, o bosibl, yn cynyddu erbyn i gynnig gael ei wneud.

Byddwch yn cael eich pennu i swydd yn un o'r Timau Gwasanaethau Busnes (Cysylltu, Cyflawni neu Gorfodi), gan ddibynnu ar yr anghenion busnes.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn cydnabod yr heriau y gall pobl â nodweddion gwarchodedig (lluosog) eu hwynebu yn y farchnad swyddi ac wrth symud ymlaen yn eu gyrfa. Rydym yn gwbl ymrwymedig i fod yn gyflogwr cynhwysol a sicrhau cyfle cyfartal. Rydym yn awyddus i wneud ein gweithlu mor amrywiol â phosibl, ac yn gobeithio denu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anabledd, a phobl â hunaniaethau amrywiol o ran rhywedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gweithio Hyblyg – Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd.

Gwyliau Blynyddol – Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol os byddwch yn gweithio'n llawn amser, pro rata ar gyfer rhan amser (e.e. 4 diwrnod = 25 diwrnod).

Gwyliau Banc – Mae cyflogeion llawn amser yn cael 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn, pro rata ar gyfer rhan amser.

Cyflog – Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw â graddfeydd cyflog cynyddrannol. Mae gennym hefyd strwythur cyflog cyfartal, beth bynnag fo oedran, statws priodasol, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth o ran rhywedd. Ceir rhagor o wybodaeth yma. https://llyw.cymru/datganiad-polisi-tal-llywodraeth-cymru-2020

Teithio a Chynhaliaeth – Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau angenrheidiol, ychwanegol yr eir iddynt ar deithio a chynhaliaeth pan fydd cyflogeion yn teithio i ffwrdd o leoliad arferol y swyddfa o ganlyniad i fusnes swyddogol.  Ni fydd yn ad-dalu costau y gellid bod wedi eu hosgoi drwy gynllunio'n well neu a oedd yn angenrheidiol fel arall i gyflawni diben swyddogol yr ymweliad.

Pensiwn – Ceir rhagor o wybodaeth am gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yma: https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei holl gyflogeion. Mae gennym rwydweithiau staff cryf a rhagweithiol a rhaglenni hybu talentau ar sail amrywiaeth er mwyn helpu pawb, ni waeth beth fo'u cefndir, i gyrraedd eu llawn botensial.

Dysgu a Datblygu – Caiff pob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru ei gefnogi i ddatblygu ei sgiliau a'i alluoedd, sy'n cynnwys mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygu gyda darparwyr o'r radd flaenaf.  Mae AGC yn ymrwymedig i Ddysgu a Datblygu ac i sicrhau bod ein staff yn cwblhau pum diwrnod o ddysgu o leiaf bob blwyddyn.  Caiff hyn ei gefnogi gan raglen ddysgu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC. 

Sefydlu – Caiff pob newydd-ddyfodiad hyfforddiant Sefydlu fel un o gyflogeion Llywodraeth Cymru.  Caiff hyn ei gefnogi gan raglen sefydlu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC.

Cod y Gwasanaeth Sifil – Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi'r gwerthoedd craidd a'r safonau a ddisgwylir gan bob gwas sifil: hygrededd, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd.  Disgwylir i bob gwas sifil ymddwyn yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, https://llyw.cymru/cod-y-gwasanaeth-sifil

Gwerthoedd Craidd AGC – Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a'n dyheadau fel sefydliad.

  • Gofalgar: rydym yn dosturiol ac yn gyfeillgar
  • Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
  • Uniondeb: rydym yn onest a gellir ymddiried ynom
  • Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
  • Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
Donna Brain - ciwhr@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.