Swydd Wag -- Pennaeth Eiddo dan Ofal - Cadw

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
£63,880
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cadw yw gwasanaeth amgylcheddol hanesyddol Llywodraeth Cymru yn gweithio dros amgylchedd hanesyddol hygyrch ac wedi’i warchod yn dda yng Nghymru.

Mae’r rôl hon yn golygu arwain y gangen Eiddo dan Ofal sy’n gyfrifol am gynnal, gwarchod a datblygu’r casgliad cenedlaethol o henebion hanesyddol dan ofal Gweinidogion Cymru. Mae cyfrifoldebau’r Gangen yn cynnwys sicrhau bod henebion yn ddiogel, yn hygyrch ac yn ennyn diddordeb y cyhoedd, wedi’u cyflwyno’n dda ac yn bodloni’r safonau gorau mewn gofal a chadwraeth.

 Byddwch yn atebol i Ddirprwy Gyfarwyddwr Cadw. Fel aelod o uwch dîm rheoli Cadw, byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol o ran gosod cyfeiriad strategol yr isadran yn gyffredinol, gyda chyfrifoldeb ar y cyd o ymwreiddio ei gwerthoedd a’i ymagwedd at welliannau parhaus.

Fel arweinydd aelodau staff sy’n arbenigo mewn rheoli eiddo a chyfleusterau, treftadaeth, cadwraeth, gweinyddu, prosiectau ac ymdrin â’r cyhoedd, bydd disgwyl i chi ddefnyddio dull cyson ac effeithiol o reoli pobl, prosesau ac adnoddau.

Byddwch yn cynrychioli’r sefydliad ledled Cymru ac yn ymgysylltu ag uwch randdeiliaid, gan feithrin partneriaethau a rhwydweithiau llwyddiannus. O’r herwydd, dylai bod gennych ddealltwriaeth dda o’r Gymraeg neu dylech fod yn barod i ddysgu’r iaith.

Prif dasgau

  • Rôl arweinydd strategol gyda Cadw, gan gyfrannu at y tîm uwch-reoli, cysylltu â staff allweddol ledled Llywodraeth Cymru a bod yn ddirprwy i’r Dirprwy Gyfarwyddwr fel bo’r angen.
  • Rheoli holl staff y gangen Eiddo dan Ofal a chyllidebau cysylltiedig y rhaglen (refeniw blynyddol o ryw £2 filiwn ar hyn o bryd a thua £7 miliwn o gyfalaf – ac eithrio costau staff). Bydd hyn yn cynnwys cynnal adolygiad rheolaidd o gyllidebau, prosiectau, prosesau a strwythurau sefydliadol a phennu safonau busnes priodol er mwyn perfformio i’r eithaf, bodloni targedau ariannol a gweithredol a chyfrannu at ddangosyddion y Rhaglen Lywodraethu.
  • Sicrhau bod y portffolio o 130 o eiddo hanesyddol sydd dan ofal Llywodraeth Cymru gan gynnwys adeiladau, safleoedd, tirweddau a chasgliadau, yn derbyn gofal da, yn hygyrch, yn ddiogel a sicr, yn unol â’r safonau priodol gan gynnwys rhai caffael, cynllunio, iechyd a diogelwch, mynediad, amgylcheddol, adeiladau a rheoli cyfleusterau.
  • Fel rhan o’r uwch dîm, helpu’r cyhoedd i ddeall a mwynhau eiddo sydd dan ofal Llywodraeth Cymru, trwy safonau uchel o gyflwyno eiddo, dehongli a chyfleusterau o’r radd flaenaf i ymwelwyr, yn ogystal â darparu gwasanaethau Cymraeg gwerth chweil.
  • Fel aelod o’r uwch dîm, datblygu eiddo sydd dan ofal Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud yn fawr o’u potensial masnachol a chyfrannu’n allweddol at enw Cymru fel cyrchfan wyliau o safon byd;
  • Goruchwylio rhaglenni blynyddol o brosiectau cyfalaf, cadwraeth, rheoli cyfleusterau a chynnal a chadw yn y 130 o eiddo dan ofal, gan sicrhau bod prosiectau yn cael eu cynllunio, eu caffael a’u cyflenwi’n brydlon ac o fewn y gyllideb, a bodloni gofynion cynllunio a chaniatadau statudol eraill;
  • Dangos arferion gorau rheoli treftadaeth, fel bod adeiladau, archaeoleg, casgliadau, tirweddau a bioamrywiaeth eiddo dan ofal yn cadw eu gwerthoedd naturiol, tystiolaethol, hanesyddol, gweledol a chymunol yn unol ag egwyddorion a safonau treftadaeth proffesiynol Cadw;
  • Arwain grwpiau gwaith mewnol, gan gynnwys Pwyllgor Cadwraeth Cadw, fel bod prosiectau’n cael eu datblygu a’u cyflawni gyda chyfraniad gan staff allweddol Cadw, gan ddatblygu blaenraglen o gyfarfodydd, diffinio aelodaeth a thelerau cyfeirio addas a sicrhau gwasanaeth ysgrifenyddiaeth effeithiol yn unol â safonau corfforaethol.
  • Cydweithio’n agos â chydweithwyr ledled Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith tîm angenrheidiol er mwyn sicrhau bod gwaith cadwraeth yn cael ei integreiddio fel rhan o waith dydd i ddydd yn y gwahanol eiddo, rheoli ymwelwyr a digwyddiadau.
  • Bod â rôl flaenllaw mewn datblygu a meithrin partneriaethau a rhwydweithiau strategol er mwyn helpu i gyflawni amcanion ehangach y llywodraeth e.e. trechu tlodi, cynhwysiant cymdeithasol, a’r agenda sgiliau gan gynnwys sgiliau adeiladu, darparu trosolwg strategol a chyfeirio prosiectau a rhaglenni gwaith fel bo’r angen.
  • Darparu arweiniad effeithiol a, lle bo’n berthnasol, bod yn rheolwr llinell i aelodau’r gangen Eiddo dan Ofal, gan gynnwys rheoli perfformiad, dysgu a datblygu, darparu cyfeiriad, gan osod ffiniau er mwyn darparu gwasanaeth rhagorol
  • Llywio prosiectau arbennig eraill ar draws portffolio Cadw pan/fel bo’r angen;
  • Cyfrannu at y dasg o baratoi a chyflwyno adroddiadau cryno i Fwrdd Mewnol Cadw gan dynnu sylw at y cynnydd tuag at gyflawni rhaglenni yn ogystal â’r allbynnau a chanlyniadau;
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau proffesiynol gyda sefydliadau perthnasol a phroffesiynau yn Llywodraeth Cymru, yng Nghymru a thu hwnt, gan hyrwyddo gwaith adfywio seiliedig ar gadwraeth a threftadaeth sydd o’r radd flaenaf;
  • Cynghori’r Gweinidog, adrannau Llywodraeth Cymru a chydweithwyr Cadw ar faterion gwarchod a datblygu’r henebion sydd dan ein gofal.

 

Cyfleoedd datblygu

Mae Cadw yn annog staff i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â chefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu penodol sy'n gysylltiedig ag anghenion busnes. 

Mae'r rôl yn cynnwys arwain timau cadwraeth, rheoli cyfleusterau a datblygiad cyfalaf yn atyniadau treftadaeth Cadw, gan gynnwys dau Safle Treftadaeth y Byd, Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd a Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Nhorfaen.

Mae'n cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad treftadaeth blaenllaw, ochr yn ochr â chydweithwyr ymroddedig, sy'n gwarchod, dehongli a dathlu ein hamgylchedd hanesyddol fel y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ei fwynhau, ei werthfawrogi a'i ddeall.

Dyddiad Cau

20/04/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Arwain a chyfathrebu

  • Ymgysylltu’n hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel er mwyn ennyn ymrwymiad i nodau.

Cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth

  • Cynnwys partneriaid yn llawn er mwyn sicrhau canlyniad busnes trwy gydweithio mewn ffordd sy’n cyflawni canlyniadau gwell i ddinasyddion.

Cyflwyno gwerth am arian

  • Cyflawni’r budd gorau o fuddsoddi, a chyflawni mwy am lai ar gyllidebau penodol trwy reoli adnoddau a defnyddio asedau i’r eithaf.

Cyflawni yn gyflym

  • Sicrhau perfformiad effeithiol dan amgylchiadau anodd a heriol, ac annog eraill i wneud yr un fath.


Gofynion penodol y swydd

  1. Cryn brofiad lefel uwch o arwain prosiectau datblygu a chadwraeth mewn safleoedd treftadaeth o bwys
  2. Sgiliau arwain ardderchog a phrofiad o reoli cyllidebau a phrosiectau cymhleth.
  3. Cymhwyster lefel gradd neu uwch ym maes treftadaeth neu bensaernïaeth archeolegol neu faes perthynol, ac aelodaeth o gorff treftadaeth neu gadwraeth proffesiynol.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau yn cael eu sifftio ac yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd pob cyfweliad yn cael ei gynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Y De-ddwyrain - byddwch yn aelod allweddol o dîm uwch-reoli Cadw, a disgwylir i chi gyfrannu at gyfarfodydd tîm wythnosol ym mhencadlys Cadw (Nantgarw ar hyn o bryd, cyn symud i Fedwas cyn bo hir).
Geraldine Andree Thomas - Geraldine.AndreeThomas@gov.wales - 01443 207665

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.