Swydd Wag -- Cynghorydd Cadwraeth a Chasgliadau

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
CyMAAL (Amgueddfeydd, Y Celfyddydau, Archifau a Llyfrgelloedd)
HEO - £32,460 - £39,690
£29,850
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan, Y Canolbarth
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Diben y swydd yw bod yn gynghorydd arbenigol ar faterion casgliadau a chadwraeth i amgueddfeydd, gwasanaethau archifau a llyfrgelloedd lleol, nad oes gan lawer ohonynt fynediad at arbenigedd cadwraeth arbenigol, ac i roi cymorth iddynt a'u galluogi i gyrraedd safonau proffesiynol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn rhoi cyngor arbenigol i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, ac yn cyfrannu at ddatblygu polisi a strategaeth yn ymwneud â chasgliadau.

Prif dasgau

  • Rhoi cymorth i'r sector ynghylch cadwraeth a rheoli casgliadau i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru
  • Rhoi cyngor pwrpasol i wasanaethau amgueddfeydd ac archifau yn ymwneud â cheisiadau ar gyfer Achredu Gwasanaethau Amgueddfeydd ac Archifau; ac i weithio gyda chydweithwyr i adolygu ac asesu ceisiadau ar gyfer Achredu Gwasanaethau Amgueddfeydd ac Archifau.
  • Cydweithio'n agos â'r Swyddog Datblygu Gweithlu a Sgiliau i ddarparu a/neu gomisiynu digwyddiadau a gweithgareddau hyfforddiant arbenigol mewn perthynas â rheoli casgliadau a gofalu amdanynt i staff a gwirfoddolwyr
  • Cyfrannu at ddatblygu polisi a strategaeth reoli a gofalu am gasgliadau yn y dyfodol, gan gynnwys comisiynu prosiectau ymchwil a gwerthuso a datrysiadau storio
  • Rheoli a gweinyddu partneriaeth Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Gadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol, a chynghori ar faterion cyllido eraill yn ôl y gofyn
  • Meithrin a chynnal rhwydwaith o gysylltiadau yng Nghymru a thu hwnt ac i hwyluso cyfnewid a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â rheoli casgliadau a gofalu amdanynt, gan weithio fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer materion casgliadau yn Llywodraeth Cymru, a chynrychioli Llywodraeth Cymru ar gyrff y sector a gweithgorau proffesiynol
  • Cefnogi gweinyddu cynlluniau eiddo diwylliannol y Llywodraeth yng Nghymru e.e. Cynllun Indemniad y Llywodraeth, cynlluniau Derbyn Eitemau yn Lle Treth a Rhoddion Diwylliannol, ac Esemptiad Amodol (bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu)
  • Paratoi cyngor i weinidogion, ffurflenni corfforaethol ac ymatebion i ohebiaeth Gweinidogion a gohebiaeth arall sy'n ymwneud â materion casgliadau, a mynychu ymweliadau Gweinidogion
  • Cynnal gweithgareddau proffesiynol priodol i gynnal statws y gwarchodwr achrededig
  • Gweithio fel rheolwr llinell yn ôl y gofyn a chyfrannu at reoli'r tîm
  • Dyletswyddau eraill, fel y cytunwyd, yn ôl y gofyn sy'n addas i'r swydd a'r radd hon

Cyfleoedd datblygu

Mae hon yn rôl ddiddorol, gyffrous a gwerth chweil sy'n gofyn llawer, ar gyfer gwarchodwr cymwys. Mae'n cynnig cyfle i weithio â gwasanaethau llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau lleol ledled Cymru, nad oes gan lawer ohonynt fynediad i wasanaethau cadwraeth mewnol, a’u cefnogi i sicrhau safonau uchel o ran rheoli casgliadau a gofalu amdanynt, a bodloni gofynion safonau proffesiynol gan gynnwys Achredu Gwasanaethau Amgueddfeydd ac Archifau.  Mae'r swydd yn cynnig y cyfle i gysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau lleol ac mae gan bob un ohonynt gasgliadau unigryw ac amrywiol, ac i feithrin profiad eang o'r heriau a wynebir gan y sefydliadau hyn wrth ofalu am eu casgliadau. 

Mae'r rôl hefyd yn cynnig y cyfle i gyfrannu at ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru o ran casgliadau ar gyfer y sector amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, ac ennyn profiad o reoli cynlluniau eiddo diwylliannol ar draws y DU.  

Dyddiad Cau

20/01/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwysedday:

  1. Newid a Gwella - Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain
  2. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, fod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol
  3. Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen
  4. Arwain a Chyfathrebu - Arddangos brwdfrydedd a bwrlwm am eu gwaith ac annog eraill i wneud yr un peth

Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

  1. Cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig a pherthnasol mewn cadwraeth erbyn i chi ddechrau, ac wedi ennill neu fod yn barod i ennill y cymhwyster Achredu Proffesiynol Gwarchodwyr-Adnewyddwyr (PACR), a weinyddir gan Icon
  2. Profiad proffesiynol diweddar mewn rôl rheoli casgliadau/gofalu am gasgliadau
  3. Profiad o ddatblygu a gweithredu polisïau a strategaethau rheoli casgliadau / gofalu am gasgliadau ar gyfer sefydliadau diwylliannol

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mary Ellis - mary.ellis@gov.wales - 0300 062 2105

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.