Swydd Wag -- Hyd at 20 Swyddi Prentisiaethau Llywodraeth Cymru 2019

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£19,240
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Prentisiaeth
18 mis – 37 awr yr wythnos. Croesewir ceisiadau gan rai sy’n dymuno gweithio’n rhan-amser hefyd, ond bydd angen ichi allu gweithio o leiaf 21 awr yr wythnos er mwyn rhoi digon o amser i gwblhau’r brentisiaeth.
Lleoliad arall
Mae’r lleoliadau’n debygol o gynnwys Merthyr, Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin, Llandudno Junction, Aberystwyth a Newtown.

Y bwriad yw cynnal y cyfweliadau rhwng 28/10/2019 – 8/11/2019. Efallai y bydd y manylion hyn yn newid yn dibynnu ar nifer y ceisiadau; fodd bynnag, bydd yr ymgeiswyr yn cael digon o amser i baratoi os cânt eu gwahodd i gyfweliad.

Yn ôl pob tebyg bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal (yng Nghaerdydd / ym Merthyr / yn Abertawe / yn Llandudno, yn Aberystwyth). Fodd bynnag, os ydych yn berson anabl ag amhariad neu gyflwr iechyd sy’n golygu yr hoffech gael eich cyfweld mewn lleoliad arall fel addasiad rhesymol, a wnewch chi ffonio neu e-bostio’r rhif cyswllt fel y gellir gwneud trefniadau eraill. 

Canllaw Cyfweliad

Pwrpas y swydd

Pam prentisiaeth?

Fel prentis byddwch yn ennill wrth hyfforddi. Mae’n ddewis gwych o ran gyrfa, pa un a ydych yn gadael yr ysgol neu’r coleg, yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl cychwyn teulu neu’n chwilio am yrfa newydd. Mae amrywiaeth eang o swyddi i’w cael. Mae swydd yn Llywodraeth Cymru yn annhebyg i unrhyw swydd arall yng Nghymru.

Yn Llywodraeth Cymru byddwch yn cael cymorth ac arweiniad er mwyn ichi allu datblygu eich sgiliau yn y gweithle. Bydd angen i chithau hefyd neilltuo amser i astudio ar gyfer eich prentisiaeth. Byddwch yn aelod gwerthfawr o’r tîm o’r diwrnod cyntaf.

Pa brentisiaethau sydd ar gael?

Bydd cynlluniau prentisiaethau eleni’n cynnig nifer o brentisiaethau NVQ, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Prentisiaethau Gweinyddu Busnes
  • Prentisiaethau Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Prentisiaethau TGCh

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â’r cymhwyster mwyaf priodol i’r swydd a gynigir iddynt. Ag un o’r cymwysterau uchod y byddwch yn cael eich cysylltu, nid â’r tri. Yn anffodus, ni all yr ymgeiswyr ddewis pa brentisiaeth i’w dilyn, ond byddwn yn ystyried hoff ddewis yr ymgeiswyr pan fo modd.

Rydym yn recriwtio prentisiaid i gychwyn rhwng diwedd 2019 a dechrau 2020.

Bydd mwyafrif y swyddi hyn wedi’u lleoli yn swyddfeydd Merthyr, Trefforest, Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin a Llandudno. Byddwn yn ystyried eich hoff leoliad wrth neilltuo swydd ar eich cyfer, ond ni allwn warantu y bydd modd inni gynnig lleoliad ichi yn eich hoff le. Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio mewn lleoliadau penodol ar sail amgylchiadau personol, fel dyletswyddau gofalu neu amhariad neu gyflwr iechyd. Nodwch eich hoff leoliadau yn y blwch ‘Gwybodaeth Ychwanegol’. Os byddwch yn nodi hoff leoliad, dim ond y lleoliadau yr ydych wedi’u nodi yn eich cais a gynigir ichi, ni waeth beth fo’r drefn teilyngdod.

A yw prentisiaeth yn iawn i mi; a wyf yn gymwys?

I ymgeisio, bydd angen ichi fodloni gofynion Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.

  • Byddwch yn wladolyn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn cynnwys dinesydd Prydeinig
  • Byddwch yn ddinesydd o’r Gymanwlad
  • Byddwch yn wladolyn y Swistir
  • Byddwch yn wladolyn Twrci (mewn rhai amgylchiadau)
  • Byddwch yn 16 oed o leiaf erbyn 16 Medi 2019; ni cheir terfyn oedran uwch
  • Ni fyddwch mewn addysg lawn amser pan fyddwch yn cychwyn ym mis Rhagfyr 2019
  • Ni fyddwch angen cymhwyster penodol. Os oes gennych gymhwyster Lefel 3 neu uwch eisoes mewn pwnc tebyg, efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun prentisiaeth hwn (os byddwch yn ansicr, e-bostiwch PrentisiaethauLlC2019@llyw.cymru
  • Bydd angen ichi fodloni gofynion Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil i ymgeisio.

Prif dasgau

Y mathau o dasgau y gallech eu gwneud

  • Cyfathrebu gyda gwahanol gwsmeriaid / sefydliadau / cyflenwyr a delio ag ymholiadau; wyneb yn wyneb, trwy e-bost neu ar y ffôn
  • Cynnig cymorth mewn cyfarfodydd a thrafodaethau mewnol ac allanol
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb dros wneud gwaith ffeilio electronig drosoch eich hun ac ar ran y tîm ehangach
  • Drafftio dogfennau a llythyrau
  • Trefnu digwyddiadau a chyfarfodydd
  • Rheoli taenlenni/cronfeydd data
  • Prosesu taliadau ariannol
  • Gweithio gyda thimau eraill yn eich maes busnes ehangach pan fo angen

Sut fath o unigolion yr ydym yn chwilio amdanynt?

Unigolion sy’n awyddus i ddysgu, ac sydd ag ymrwymiad i ennill cymhwyster tra hefyd yn gweithio fel rhan o dîm.

Byddwch yn:

  • Llawn cymhelliant i astudio wrth weithio, er mwyn datblygu eich sgiliau
  • Gweithio’n dda mewn tîm
  • Gallu gweithio o fewn amserlenni, heb fawr ddim goruchwyliaeth
  • Hyblyg yn eich dull a’ch agwedd
  • Gallu cyfathrebu’n dda
  • Hyderus wrth ddefnyddio TGCh ac yn meddu ar sgiliau digidol da
  • Gallu dangos sgiliau rhifedd a llythrennedd da iawn

Byddwn yn asesu’r holl sgiliau hyn yn ystod y broses ddethol.

Rydym yn chwilio am unigolion a all ddarparu gwasanaeth proffesiynol, cyfeillgar a manwl gywir i’n cwsmeriaid; mae hyn yn debygol o gynnwys ateb galwadau ffôn, e-byst, drafftio llythyrau / gohebiaeth gyda’r manylion wedi’u rhaglenwi, ac ailgyfeirio cwsmeriaid at gydweithiwr priodol i gael cymorth pellach, pan fo angen. Yn ôl pob tebyg cewch gyfle i gymryd rhan yn y gwaith o drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, a chynorthwyo timau gyda gwaith ffeilio electronig a gwaith trefnu cyffredinol. Rydym angen unigolion sy’n gymwys i ddefnyddio TGCh, boed hyn ar gyfer rheoli taenlenni / cronfeydd data neu brosesu taliadau ariannol yn gywir ar-lein. Bydd angen ichi fod yn hyblyg yn eich dull a’ch agwedd a gallu gweithio ar draws timau eraill pan fo angen.

Iaith

Mae’r iaith Gymraeg yn sgil da i’w gael ac mae’n hanfodol i rai o’n rolau, ond nid pob un. Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg ac unigolion nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg i ymgeisio am y swyddi hyn. Mae gennym amrywiaeth o rolau lle y cewch gyfle i roi eich sgiliau ar waith. Hefyd, gallwn eich helpu i ddysgu neu wella eich Cymraeg os dymunwch.

Bydd y rhai sydd wedi cofrestru fel Siaradwyr Cymraeg rhugl yn cael eu paru â swydd lle y mae’r Gymraeg yn hanfodol. Bydd angen inni brofi eich sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfweliad.

Am wybod mwy?

Diwrnodau agored recriwtio:Darganfyddwch fwy am y gwaith rydyn ni'n ei wneud, clywed gan ein prentisiaid cyfredol, darganfod mwy am y prentisiaethau rydyn ni'n eu hysbysebu a chael cymorth ar sut i gwblhau eich cais ar-lein. Mae yna 5 sesiwn, dewiswch naill ai 10-11am, 11-12 canol dydd, 1-2pm, 2-3pm neu 3-4pm:

19 Awst - Canolfan swyddi Pontypridd

20 Awst - Canolfan swyddi Merthyr

21 Awst - Pafiliwn Butetown Caerdydd

27 Awst - Canolbwynt cymunedol Caerdydd Grangetown

28 Awst - canolfan Gyrfaoedd Caerfyrddin Cymru

29 Awst - Llyfrgell Llandudno

02 Medi- canolfan Gyrfaoedd Merthyr Cymru

05 Medi - Canolfan Gyrfaoedd Aberystwyth Cymru

09 Medi - canolfan Gyrfaoedd Caerdydd Cymru

10 Medi - Canolfan swyddi Llandudno

 

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn astudio tuag at gymhwyster Lefel 3 yn un o’r meysydd canlynol – Gweinyddu Busnes, TGCh, Gwasanaethau i Gwsmeriaid.

Caiff Prentisiaethau dan arweiniad Llywodraeth Cymru eu cefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Pam Llywodraeth Cymru?

Yn Llywodraeth Cymru mae gennym fwy na 5,000 o staff yn gweithio mewn swyddfeydd ar draws Cymru. Mae ein swyddi’n amrywiol. Gallech weithio yn y meysydd iechyd, addysg, amgylchedd, chwaraeon, twristiaeth, CADW, ac mewn nifer o feysydd eraill.

Rydym yn cynnig rhai o’r cyfleoedd gorau yng Nghymru i ddilyn prentisiaethau – rhywbeth a all agor drysau i’ch gyrfa yn y dyfodol. Fel prentis Llywodraeth Cymru cewch ddysgu am y llu o wahanol bethau a wnawn. Mae nifer o’n staff yn gweithio mewn swyddfeydd, tra mae eraill hwnt ac yma yn gweithio yn y maes gorfodi morol, neu’n gweithio fel ceidwaid cestyll, swyddogion traffig, swyddogion cyswllt ffermydd neu rywbeth arall hollol wahanol.

Beth yw’r manteision?

Ceir llu o fanteision wrth weithio i Lywodraeth Cymru, yn cynnwys:

Byddwch yn ennill £19,240 y flwyddyn wrth hyfforddi. Ar ôl ichi basio eich prentisiaeth, efallai y bydd modd ichi ymgeisio am swydd barhaol yn Llywodraeth Cymru. O fewn dwy flynedd i gychwyn eich prentisiaeth fe allech ennill £22,500.

Cewch 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i’ch helpu i gael y cydbwysedd iawn rhwng bywyd a gwaith. Hefyd, byddwch yn gymwys i fod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manteision eraill

  • Bydd yr holl staff yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi, yn cynnwys trafodaethau rheolaidd yn ymwneud â datblygiad personol.
  • Arferion gweithio hyblyg i’ch helpu i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Hefyd, rydym yn cynnig trefniadau gweithio yn ystod tymor yr ysgol i staff a chanddynt gyfrifoldebau gofal plant.
  • Timau iechyd a diogelwch ac iechyd galwedigaethol i gynnig cymorth i’r staff.
  • Tri undeb llafur o fewn y sefydliad: PCSIPMS/Prospect a’r FDA.
    • Mae pob swyddfa’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau, fel dosbarthiadau gwella iechyd, mynediad at gampfa, dosbarthiadau rhedeg, mynediad at feiciau cyhoeddus, timau chwaraeon, a grwpiau a dosbarthiadau iaith.

Mentoriaid, cyfeillion swyddfa, grwpiau rhwydweithio cymdeithasol.

Dyddiad Cau

16/09/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

1. Pam yr ydych eisiau astudio ar gyfer prentisiaeth yn Llywodraeth Cymru? (Hyd at 500 gair)

2. Dywedwch wrthym am waith yr ydych wedi’i gyflawni’n llwyddiannus trwy ddefnyddio eich sgiliau TG a’ch sgiliau digidol. Gallwch gynnwys enghraifft o unrhyw agwedd ar eich addysg, eich gwaith neu eich bywyd cymdeithasol. (Hyd at 300 gair)

3. O blith y sgiliau yr ydych wedi’u dysgu trwy gyfrwng eich addysg, eich gwaith neu eich bywyd cymdeithasol, pa rai a fyddai’n bwysig yn eich rôl yn Llywodraeth Cymru? Cadwch y tasgau allweddol a restrir yn yr hysbyseb hon mewn cof. (Hyd at 300 gair)

Proses Asesu

Gwelir y pecyn cymorth am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hamcanion cydraddoldeb strategol yn 2016 ac roedd y rhain yn cynnwys ymrwymiad i fod yn batrwm o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan bawb, ni waeth be fo’u sefyllfa o ran oedran, priodas (yn cynnwys priodasau cyfartal/o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd/mamolaeth.

Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ennill Statws Arweinydd Lefel 3 am fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn wythfed yn y DU ar hyn o bryd ym Mynegai Gweithle Stonewall sy’n cefnogi gweithwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT), rydym wedi ymuno â’r Siarter Hil yn y Gwaith ac rydym wedi ein cynnwys ar y rhestr o sefydliadau sydd wedi’u cydnabod fel bod yn gyflogwyr cynhwysol o ran hil. Ymhellach, rydym wedi ennill statws Aur gan a:gender, sef rhwydwaith cymorth cynhwysol i staff yn Adrannau ac Asiantaethau’r Llywodraeth, sy’n ymdrin â phob agwedd ar ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd a phobl ryngrywiol. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr o ddewis, ac yn sefydliad y mae pobl yn dymuno ac yn falch o gael gweithio ynddo. Oherwydd hyn, rydym wedi rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pob aelod o staff (neu aelodau staff newydd posibl) berfformio ar ei orau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”).

Os byddwch yn teimlo eich bod wedi'ch trin yn annheg, neu os oes gyda chi gwyn am sut cafodd y broses ei chynnal, gallwch naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu anfonwch e-bost i HR-Helpdesk@wales.gsi.gov.uk. Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad y broses gwyno ac yn teimlo na chadwyd at egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored, cewch fynd a'r mater ymhellach drwy gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Civil Service Comission), 3rd Floor, 35 Great Smith Street, London SW1P 3BQ

Shared Service Helpdesk - sharedservicehelpdesk@gov.wales - 0300 0255454

Sut i wneud cais

Y Broses Ymgeisio

Ceir manylion llawn am y broses yn ein Canllawiau i Ymgeiswyr.

Mae’n bwysig ichi ddarllen y ddogfen hon cyn cychwyn ar eich cais. Mae’n cynnwys canllawiau hefyd ar ysgrifennu eich cais, ac mae’n nodi dyddiadau hollbwysig y broses – bydd angen ichi fod ar gael ar y dyddiadau hyn. Yn ogystal â llenwi’r cais ar-lein, MAE’N HANFODOL ICHI LENWI FFURFLEN ARGYMHELLIAD PRENTISIAETH ALS A’I HATODI WRTH EICH CAIS – HEB ICHI WNEUD HYN, NI FYDD MODD INNI FWRW YMLAEN Â’CH CAIS.

Lawrlwythwch neu argraffwch Ffurflen Argymhelliad Prentisiaeth ALS (dogfen Word, 9 tudalen) yn awr. Ar ôl ichi lenwi’r ffurflen, dylech ei chadw ar eich dyfais a’i hatodi wedyn wrth eich cais ar y dudalen ‘ALS – Ffurflen Argymhelliad Prentisiaeth’.

**Dim ond os byddwch yn cymryd rhan mewn cyfweliad y gallwn roi adborth; ni allwn roi adborth ar eich cais**

Dylid cyflwyno’r holl geisiadau ar gyfer y swydd hon ar-lein trwy ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os ydych yn berson anabl ag amhariad neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SharedServiceHelpdesk@gov.wales i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol er mwyn eich galluogi i gyflwyno eich cais.

Rydym yn cynnig addasiad rhesymol yn ystod pob cam o’n proses recriwtio. Os byddwch angen unrhyw addasiad er mwyn eich galluogi i lenwi eich cais neu gymryd rhan mewn cyfweliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod inni cyn gynted ag y bo modd. Fel Cyflogwr, rydym yn cynnig Cynllun Cyfweliad Hyderus o ran Anabledd.

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy’n anabl os yw ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol yn golygu bod rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd ac unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a diffinnir yn rhai hanfodol.

Os oes gennych chi amhariad neu gyflwr iechyd, neu os ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a bod angen i chi drafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o’r broses recriwtio hon, neu’n dymuno trafod sut y byddwn yn eich cynorthwyo pe baech yn cael eich penodi, anfonwch e-bost i sharedservicehelpdesk@gov.wales

Fel enghraifft, gweler isod rai addasiadau yr ydym wedi’u cynnig yn y gorffennol. Nid yw’r enghreifftiau hyn yn cynnwys pob amhariad, ac enghreifftiau ydynt yn unig; gwyddom fod anghenion unigol pawb yn wahanol ac efallai y bydd addasiadau eraill ar gael i fodloni eich anghenion chi. Dim ond os cawn wybod beth yw eich anghenion cyn ichi gyflwyno eich cais neu fynychu cyfweliad y gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl ac rydym yn eich annog i siarad gyda ni am addasiadau os ydych eu hangen.

  • Awtistiaeth (Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig) - Efallai y byddwn yn cynnig asesiadau unigol yn hytrach nag asesiadau grŵp, efallai y gellir ail-eirio cwestiynau er mwyn defnyddio iaith briodol.
  • Nam ar y Golwg – Gellir gofyn am geisiadau mewn Braille a gellir darparu arweiniad ar gyfer cyfweliad.
  • Enseffalomyelitis Myalgig (M.E.) / Syndrom Blinder Cronig (CFS) – Gellir cynnig amser addas ar gyfer cyfweliad i weddu i anghenion yr unigolyn.
  • Byddardod / Nam ar y Clyw – Gallwn drefnu i ddehonglwr fynychu’r cyfweliad.
  • Dyslecsia – Gellir rhoi mwy o amser yn ystod y cyfweliad neu ar gyfer unrhyw asesiad. Hefyd, gellir geirio’r cais mewn modd a fydd yn sicrhau ei fod yn glir ac yn llawn gwybodaeth.
  • Nam Symudedd ac Anghenion Mynediad – Gellir darparu ar gyfer y rhain hefyd.

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.