Swydd Wag -- Ymatebwr Bwrdd Gwaith Rhanbarthol (Cymru gyfan) x3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Gwasanaethau TG
EO - £26,900 - £30,610
£26,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae’r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) yn Llywodraeth Cymru yn cefnogi ystod o wasanaethau digidol ledled y corff cyfan. Yn rhan o’n proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg, byddwch yn aelod allweddol o’r tîm Gwasanaethau TG a byddwch yn gwneud cyfraniad arwyddocaol ac uniongyrchol er lles pobl Cymru. 

Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru ac mae ganddi gyllideb flynyddol o ryw £15 biliwn. Rydym yn gyfrifol am agweddau pwysig ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaeth a’r amgylchedd. Cefnogir Gweinidogion Cymru gan weithlu o dros 5,000 o bobl mewn swyddfeydd yng Nghymru, Llundain a thramor.

Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wedi’u hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen gydag uchelgais gyffredinol i ddatblygu Cymru i fod yn wlad hunanhyderus, ffyniannus ac iach a chymdeithas sy’n deg i bawb. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod blaenoriaethau clir i Gymru yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Rydym yn chwilio am bobl sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth rhagorol, sy’n gallu sianelu adnoddau ac sydd ag egni ac arbenigedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyd-destun i’n gwaith.

Mae’n hanfodol trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol er mwyn darparu’r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu disgwyl a’u hangen. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau digidol i bobl a busnesau ledled Cymru. O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae mwy a mwy o wasanaethau Llywodraeth Cymru yn cael eu darparu ar-lein. Mae’r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth cynghori data a digidol arbenigol i feysydd busnes ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.

Y swydd

Mae swydd yr Ymatebwr Bwrdd Gwaith yn un hanfodol o fewn Gwasanaethau TG, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth ar y safle i bob defnyddiwr, gan gynnwys Gweinidogion. Gwneir hynny wrth sicrhau bod gweithrediadau o ddydd i ddydd a darpariaethau TG yn cael eu darparu ledled Llywodraeth Cymru. Yn ymatebwr, byddwch yn cyflawni datrysiadau yn y fan a’r lle drwy ddatrys problemau a gwneud diagnosis, a thynnu sylw rheolwyr y ddesg gymorth, rheolwyr digwyddiadau a rheolwyr problemau at namau er mwyn eu hymchwilio a’u datrys.

Prif dasgau

Cyfrifoldebau Technegol / Cyflawni Gweithredol

  • Datrys problemau, trwsio namau ac ailosod holl galedwedd TGCh pan fo angen.
  • Yn gyfrifol am roi gliniaduron at ei gilydd, eu gosod a’u dosbarthu.
  • Yn gyfrifol am roi cymorth sy’n ymwneud â dyfeisiau iOS, gan gynnwys eu gosod a’u dosbarthu.
  • Darparu cymorth ac arweiniad i wasanaethau hollbwysig o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gweinidogion.
  • Cydweithio technegol a chysylltu gyda’r gwerthwr ar gyfer Gwasanaethau Argraffu.
  • Yn ôl y gofyn, rhoi cymorth i ddefnyddwyr o ran newid defnyddiau traul argraffu.
  • Darparu cymorth band eang a Wi-Fi er enghraifft i’r holl wasanaethau o fewn y swyddfeydd rhanbarthol.
  • Cynnal gwiriadau rheolaidd yn yr ystafelloedd cyfarfod yn ddyddiol er mwyn sicrhau bod offer clyweledol (A/V) yn addas i’w diben ac yn gweithio’n iawn.
  • Yn ôl y gofyn, datrys problemau sylfaenol sy’n ymwneud ag offer clyweledol a thynnu sylw peirianwyr clyweledol at broblemau er mwyn cael eu harbenigedd ac i sicrhau datrysiadau.
  • Rhoi cymorth i staff o ran trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau mewn perthynas â gwasanaethau clyweledol sydd ar y safle, gan sicrhau bod yr offer ar gael ar y diwrnod pan fo angen.
  • Darparu hyfforddiant ar y safle i ddefnyddwyr ynghylch;
    • unrhyw ofynion gwasanaeth penodol sy’n dod i’r amlwg yn sgil newidiadau i wasanaethau
    • unrhyw feddalwedd neu galedwedd newydd sy’n gofyn am hyfforddiant manylach ac sydd y tu hwnt i geisiadau cyffredinol am gymorth gan ddefnyddwyr
    • unrhyw gymorth i ddefnyddwyr ar y safle nad yw ar gael drwy’r Ddesg Gymorth na’r porth Hunanwasanaeth
  • Yn ôl yr angen, darparu hyfforddiant uwchsgilio i ddefnyddwyr ar swyddogaethau gwasanaethau newydd.
  • Cofnodi galwadau yn adnodd Rheoli Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth (ITSM) Llywodraeth Cymru ar ran y defnyddiwr yn ôl yr angen a rheoli tocynnau a neilltuir i’w cwblhau gan ddilyn prosesau a gweithdrefnau safonol.
  • Rheoli Ceisiadau am Wasanaeth i’w cwblhau.
  • Sicrhau bod tocynnau yn cael eu neilltuo yn gywir os nad oes modd eu datrys ar lefel Gwasanaethau Rhanbarthol.
  • Rheoli ciw digwyddiadau/grŵp Resolver.
  • Cynnal safon uchel o wasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer pob ymholiad am gymorth ac arddel holl egwyddorion rheoli gwasanaethau.
  • Datblygu tueddiadau gan fonitro a dadansoddi galwadau, materion a cheisiadau am gymorth sy’n dod i mewn i’r gwasanaeth.
  • Dadansoddi gwallau yn systematig ac adfer problemau.
  • Cofnodi, rheoli ac ymdrin â phroblemau gwasanaeth fel y bo'n briodol.
  • Dadansoddi data hanesyddol er mwyn nodi a dileu digwyddiadau posibl cyn iddynt ddigwydd.
  • Nodi achosion sylfaenol digwyddiadau ac atal digwyddiadau rhag digwydd eto.
  • Sicrhau bod y Gronfa Data Gwallau Hysbys (KEDB) wedi’i llenwi’n briodol.
  • Datblygu technegau gwaith neu ddatrysiadau eraill i ddigwyddiadau.
  • Diweddaru’r Gronfa Data Gwybodaeth yn weithredol gan ddefnyddio dogfennau technegol perthnasol.
  • Defnyddio’r Gronfa Data Gwybodaeth yn rhan o’r broses Rheoli Digwyddiadau/Problemau.
  • Sicrhau gwybodaeth lawn am brosesau TGCh craidd Llywodraeth Cymru bob amser.
  • Bod yn weithiwr llanw ar y ddesg gymorth pan fo angen.
  • Yn achlysurol ac ar gais eich rheolwr llinell, cwblhau dyletswyddau eraill sy’n gymesur â’r swydd
  • Cyfrifoldebau’r Contract / Cysylltu â Gwerthwyr Cydweithio technegol a chysylltu â thrydydd partïon fel y bo’n briodol.

Sgiliau Digidol, Data a Thechnoleg sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon;

  • Rheoli asedau a ffurfweddiadau Gallwch gynnal ffurfweddiadau diogel a gwybodaeth gywir, gan reoli asedau TG mewn un neu ragor o feysydd arwyddocaol. Gallwch ddilysu lleoliad a chyflwr asedau. (Lefel sgil: gweithio)
  • Rheoli digwyddiadau. Gallwch nodi a chofnodi digwyddiadau, gan gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen a’i dyrannu i’r sianel briodol (Lefel sgil: ymwybyddiaeth)
  • Perchnogaeth a blaengaredd. Gallwch fod yn berchen ar broblem hyd nes y bydd perchennog newydd wedi'i ganfod neu hyd nes bod y broblem wedi'i lliniaru neu ei datrys. (Lefel sgil: gweithio)
  • Rheoli problemau Gallwch ymchwilio i broblemau mewn systemau, prosesau a gwasanaethau gan ddangos dealltwriaeth ynghylch lefel y broblem (er enghraifft, strategol, tactegol neu weithredol). Gallwch gyfrannu at weithredu datrysiadau a mesurau ataliol. (Lefel sgil: ymwybyddiaeth)
  • Gwella gwasanaethau yn barhaus. Gallwch ddangos ymwybyddiaeth o ddatblygu effeithlonrwydd prosesau a ffyrdd cyffredin er mwyn gallu manteisio i’r eithaf ar brosesau. Gallwch gefnogi gweithgareddau penodol er mwyn gwella’r gwaith o ddatblygu prosesau. Gallwch sylwi ar ddiffygion amlwg a’u nodi. (Lefel sgil: ymwybyddiaeth)
  • Arbenigedd Technegol. Gallwch gynorthwyo â gweithgareddau cymorth technegol a chwblhau tasgau gweinyddol a thasgau cynnal a chadw rheolaidd neu y rhai hynny y cytunwyd arnynt. (Lefel sgil: ymwybyddiaeth)
  • Dealltwriaeth dechnegol. Gallwch ddangos ymwybyddiaeth ynghylch y pwnc perthnasol yn ogystal â lefel uchel o ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ynghlwm wrth y gwaith. (Lefel sgil: ymwybyddiaeth)
  • Canolbwyntio ar ddefnyddwyr. Gallwch nodi a chysylltu â defnyddwyr a rhanddeiliaid er mwyn casglu tystiolaeth ynghylch anghenion defnyddwyr. Gallwch ddeall a phennu ymchwil sy’n berthnasol i anghenion defnyddwyr. (Lefel sgil: gweithio)

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich swydd yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.

Byddwch yn cael y cyfle i weithio ar lawer o brosiectau a rhaglenni ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.

Byddwch yn gweithio gyda staff ar bob lefel, gan gynnwys staff uwch, Gweinidogion a’n carfan o Brentisiaid Digidol.

Byddwch yn helpu i ddatblygu a gwella cysylltiadau a’r cydweithio o fewn y gymuned Digidol, Data a Thechnoleg drawslywodraethol.

Cyfleoedd i ddatblygu gyrfa o fewn gwasanaethau TG.

Dyddiad Cau

19/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau a Sgiliau

Bydd yr ymddygiadau a sgiliau a ganlyn yn cael eu hasesu yn ystod y cyfweliad:

Ymddygiadau Gwasanaeth Sifil

Gwneud penderfyniadau effeithiol.

  • Siarad â phobl berthnasol i gael cyngor a gwybodaeth pan yn ansicr sut i fynd ymlaen.

Rheoli Gwasanaeth Safonol.

  • Gweithio gyda chwsmeriaid i ddeall eu hanghenion a'u disgwyliadau.

Sgiliau Digidol, Data a Thechnoleg

Arbenigedd Technegol.

  • Gallwch gynorthwyo â gweithgareddau cymorth technegol a chwblhau tasgau gweinyddol a thasgau cynnal a chadw rheolaidd neu y rhai hynny y cytunwyd arnynt.

Perchnogaeth a blaengaredd.

  • Gallwch fod yn berchen ar broblem hyd nes y bydd perchennog newydd wedi'i ganfod neu hyd nes bod y broblem wedi'i lliniaru neu ei datrys.

Am ragor o wybodaeth am Ymddygiadau Gwasanaeth Sifil a’r hyn sydd ei angen ar gyfer pob gradd, cyfeiriwch at Proffiliau Llwyddiant: Ymddygiadau Gwasanaeth Sifil.

Am ragor o wybodaeth am y Sgiliau Digidol, Data a Thechnoleg sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon, cyfeiriwch at swydd Peiriannydd Cyfrifiadura Defnyddwyr yn y Fframwaith Galluoedd Digidol, Data a Thechnoleg (Saesneg yn unig).


Meini Prawf Penodol i’r Swydd

Bydd y meini prawf a ganlyn sy’n benodol i’r swydd yn cael eu hasesu yn ystod y cam sifftio a’r cyfweliad.

Yn eich CV, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych yn bodloni bob un o’r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y swydd hon.

  1. Profiad o ddarparu cymorth ynghylch Windows 10 ac Office365 i ystod eang o ddefnyddwyr.
  2. Profiad o weithio mewn tîm sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid a phrofiad o weithio o fewn amserlenni tynn.
  3. Y gallu i berchnogi problemau a datrys problemau technegol yn rhagweithiol gan sicrhau bod datrysiadau technegol yn parhau i fodloni gofynion busnes.

Proses Asesu

Mae 4 cam i’r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 – Cwblhewch gais ar-lein, cyflwynwch CV a Thystiolaeth Benodol am Swydd

Llwythwch eich CV ( dim mwy na 2 dudalen) a'ch Tystiolaeth Benodol am Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf)

Sylwch y byddwn yn asesu yn erbyn y Meini Prawf Penodol i Swydd a restrir yn yr hysbyseb yn unig. Gallwch ddod o hyd i'r rhain yn adran Meini Prawf Swydd Benodol yr hysbyseb.

RHAID i chi ddangos sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf Penodol am Swydd ar gyfer y rôl, gan gynnwys enghreifftiau. Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn darparu enghreifftiau manwl yn cael eu sifftio allan.

Cam 2 – Prawf Sgiliau (Ar-lein)

Bydd y prawf sgiliau yn cael ei drefnu o i'w gadarnhau a bydd gennych 5 diwrnod calendr i gwblhau'r prawf hwn.

Bydd y prawf sgiliau yn ymdrin â'r pynciau hyn:

LLYTHRENNEDD CYFRIFIADUROL: CYSYNIADAU CYFRIFIADUROL SYLFAENOL AR GYFER DEFNYDDWYR TERFYNOL

  • Rhwydweithio cyfrifiadurol
  • Cysyniadau caledwedd
  • Pecynnau Meddalwedd
  • Gweithio gyda'r Gweithfwrdd

PC CYMORTH TECHNEGOL (WINDOWS 10) NEWYDD

  • Dyfeisiau ac argraffwyr
  • Mynediad a Chefnogaeth o Bell
  • Ceisiadau ac apiau Windows 10
  • Gosod a Defnyddio Windows 10

CYMORTH TECHNEGOL WINDOWS 10

  • Rheoli Polisi Lleol a Grŵp
  • Rhwydweithio a Chysylltedd
  • Rhyngwyneb Defnyddiwr Windows 10

Cam 3 – Hidlo'r Meini Prawf Swydd Benodol

Bydd yr ymgeiswyr a lwyddodd i basio'r prawf ac sy'n dangos yn llwyddiannus eu bod yn bodloni'r Meini Prawf Penodol am Swydd leiaf  yn cael eu gwahodd i gyfweliad. 

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar y Meini Prawf Ymddygiad/Sgiliau  a’r  Meini Prawf Swydd Benodol amlinellir yn adrannau'r hysbyseb hon.

Yn ystod y cyfnod Cyfweliad gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn eich galluogi i ddarparu tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf Swydd Penodol ac Ymddygiad a Sgiliau sy'n  Benodol i Swydd sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Lleoliad: Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl y bydd angen teithio i leoliadau eraill er mwyn darparu cymorth.

Fetio: Bydd y swydd hon hefyd yn gofyn am fetio Diogelwch Cenedlaethol i lefel CD (Cliriad Diogelwch) a fydd yn cael ei gwblhau gan Lywodraeth Cymru.

Caiff rhestr wrth gefn ei chadw am 12 mis rhag ofn y daw swyddi gwag yn y dyfodol.

Manteision o weithio i Lywodraeth Cymru

Ble caf i weithio?

Ar gyfer nifer o swyddi, rydym yn gweithredu ffordd hybrid o weithio – ‘Gweithio Clyfar’ fel y’i gelwir. Mae’n golygu cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio gartref gan ddibynnu ar anghenion y busnes a'r ymrwymiadau i’ch tîm.  Byddwch yn trafod ac yn cytuno ar eich trefniadau gweithio gyda’ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio mewn lleoliadau penodol yn ôl eich amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu a oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd. Dywedwch ble yr hoffech weithio yn eich CV, yn y blwch 'Dewisiadau lleoliad'.

Trwy ymgeisio am y swydd hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau a ganlyn fel eich prif swyddfa:

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno, Caerfyrddin

Beth yw’r manteision?

Mae llawer o fanteision o weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Yr ystod gyflog ar gyfer y radd hon yw £26,900 i £30,610.
  • Am y 12 mis cyntaf, byddwch yn ennill £26,900 ac wedi hynny byddwch yn cael cynyddran blynyddol hyd nes y cyrhaeddwch uchafswm y radd (mae hyn yn ddibynnol ar basio’r cyfnod prawf).
  • Byddwch yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.
  • Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i’ch helpu i gael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.  
  • Byddwch hefyd yn cael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manteision eraill

  • Gweithio Hyblyg – Rydym yn helpu staff i reoli eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith drwy weithio gartref (yn amodol ar anghenion y busnes ac a yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn Amser, Rhan Amser, Rhannu Swyddi, Oriau Cywasgedig, Amser Tymor ac ati (yn amodol ar anghenion y busnes ac a yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Cynllun Car Gwyrdd – Mae’r cynllun hwn yn caniatáu ichi brydlesu car allyriadau carbon isel-iawn newydd sbon a thalu amdano drwy aberth cyflog
  • Cyllid Cefnogol – Benthyciadau cyn talu cyflog ar gyfer amrywiaeth o bethau gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Beicio i’r Gwaith a mwy
  • Absenoldeb Rhiant – 26 wythnos o gyfnod mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o gyfnod tadolaeth
  • Amser Llesiant – Awr lesiant bwrpasol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed hynny er mwyn mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu amser yn y gampfa. Amser i chi yw hwn
  • Tâl – cynyddrannau cystadleuol drwy’r bandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Dyrchafiad – Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle y mae pawb yn teimlo eu bod yn cael bod yn nhw eu hunain, ac nad oes neb yn teimlo unrhyw wahaniaethu yn eu herbyn
  • Cysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn gan gynnwys: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda'n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth i staff pan fydd ei angen fwyaf
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i reoli eu hiechyd meddwl
  • Offer TG modern – Gliniaduron Office 365 a fydd yn rhoi gwell hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble i weithio
  • 3 Undeb – Mae 3 undeb yn weithredol yn ein sefydliad ar hyn o bryd
Jessica Williams - ictservicecontrol@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.