Swydd Wag -- Dylunydd Cynnwys Cyswllt (Cymraeg Hanfodol)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Cangen Gwasanaeth Hwb
EO - £26,900 - £30,610
£26,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg yn Llywodraeth Cymru yn cefnogi pob math o wasanaethau digidol ar draws y sefydliad cyfan. Fel rhan o'n proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg, byddwch yn rhan allweddol o'r Is-adran Dysgu Digidol ac yn gwneud cyfraniad sylweddol ac uniongyrchol i bobl Cymru.

Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru sydd â chyllideb flynyddol o tua £15 biliwn. Rydym yn gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus Cymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Mae Gweinidogion Cymru yn cael eu cefnogi gan weithlu o 5,000 a mwy o weision sifil gyda swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, a thramor.

Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn cael eu hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen ac mae ganddi uchelgais gyffredinol i greu cenedl hunan-hyderus, ffyniannus, iach a chymdeithas sy'n deg i bawb. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi amlinellu blaenoriaethau clir i Gymru ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym yn awyddus i ddenu pobl a all roi cymorth a chyngor rhagorol, sy'n gallu canolbwyntio adnoddau ac yn llawn egni ac arbenigedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi cyd-destun i'n gwaith.

Mae trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hanfodol er mwyn darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu disgwyl a'u hangen. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n darparu llawer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ar hyd a lled y wlad. Dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy a mwy o wasanaethau ar-lein. Mae'r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth ymgynghori o arbenigedd digidol a data ar draws Llywodraeth Cymru.

Rôl

Rydym yn chwilio am ddylunydd cynnwys cyswllt angerddol i ymuno â'n tîm a chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno strategaeth cynnwys digidol Hwb ar gyfer addysg, gyda chryn bwyslais ar sicrhau profiad digidol cydlynus sy'n rhoi'r defnyddiwr wrth wraidd y cyfan, er mwyn helpu i gyflawni'r cwricwlwm i Gymru.

Byddwch yn cefnogi'r agweddau ar gynnwys digidol LLYW.CYMRU a Hwb, gan ddefnyddio'ch sgiliau golygu i ddrafftio cynnwys er mwyn helpu defnyddwyr i gyrraedd y nod a helpu'r llywodraeth i wireddu bwriad polisi.

Byddwch yn ymuno â thîm ehangach o arbenigwyr cynnwys sy'n rheoli ansawdd ein cynnwys digidol ar LLYW.CYMRU a Hwb. Byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau polisi a rhanddeiliaid i gasglu cynnwys a gofynion technegol ac yn darparu cyngor wrth gydbwyso anghenion y busnes a defnyddwyr allanol.

Prif dasgau

  • Rheoli'r broses o gyhoeddi cynnwys, o'r adolygiad cychwynnol a sicrhau ansawdd i'w lanlwytho, gan weithio'n agos gyda thimau polisi addysg a darparwyr cynnwys allanol
  • Gweithio gyda staff eraill i sicrhau bod protocolau rheoli ansawdd Hwb yn cael eu gweithredu mewn perthynas â chynnwys Hwb.
  • Gweithio gyda staff eraill i ddarparu lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid a bod yn bwynt cyswllt priodol i randdeiliaid o safbwynt cynnwys digidol.
  • Rheoli'r broses o gyhoeddi erthyglau newyddion a digwyddiadau, o'r adolygiad cychwynnol i'w lanlwytho.
  • Gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn nhimau'r Wasg a Marchnata ehangach i sicrhau bod datblygiadau a chynnwys perthnasol Hwb yn cael eu hyrwyddo drwy sianeli cyfathrebu eraill Llywodraeth Cymru.
  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer partneriaid penodedig Hwb y gellir ymddiried ynddynt.
  • Cynnal perthnasoedd drwy gynnal cyfarfodydd rheolaidd er mwyn adolygu'r cynnwys sydd i'w lanlwytho i Hwb a LLYW.CYMRU.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru. Bydd cyfle i chi weithio ar brosiectau a rhaglenni niferus ar draws holl feysydd Llywodraeth Cymru. Byddwch yn gweithio gyda staff ar bob lefel gan gynnwys uwch staff, Gweinidogion a'n carfan o Brentisiaid Digidol. Byddwch yn helpu i greu a gwella cysylltiadau a threfniadau chydweithio yn y gymuned ddigidol, data a thechnoleg trawslywodraethol.

Dyddiad Cau

05/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau a Sgiliau 

Byddwn yn asesu yr ymddygiadau a’r sgiliau canlynol yn ystod y cyfweliad.

Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil

  • Cyfathrebu a dylanwadu. Cyfathrebu'n glir ac yn gryno ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Gweithio ar y cyd. Datblygu ystod o gysylltiadau y tu allan i'ch tîm eich hun a nodi cyfleoedd i rannu gwybodaeth a dysgu.

Sgiliau Digidol, Data a Thechnoleg

  • Rheoli’r berthynas â rhanddeiliaid (dylunio cynnwys). Rydych chi'n gwybod pwy yw eich rhanddeiliaid, pa dystiolaeth sy'n berthnasol iddyn nhw a phwysigrwydd rheoli’r berthynas â nhw.
  • Canolbwyntio ar y defnyddiwr (dylunio cynnwys). Gallwch roi defnyddwyr yn gyntaf a rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu rhwng anghenion defnyddwyr a busnes.

I gael rhagor o wybodaeth am Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil a'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer pob gradd, trowch i Proffiliau Llwyddiant: Ymddygiadau Gwasanaeth Sifil.

I gael rhagor o wybodaeth am y sgiliau digidol, data a thechnoleg sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, darllenwch Fframwaith Gallu ym maes DDaT.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd

Bydd y meini prawf penodol i'r swydd canlynol yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses sifftio a chyfweld.

Yn eich CV, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob un o Feini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl hon.

  1. Profiad golygyddol gyda gallu profedig i greu cynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  2. Dealltwriaeth o sut mae cynnwys digidol yn cael ei reoli ar draws cylchoedd oes cyfan
  3. Dealltwriaeth o fanteision dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac arferion cynnwys da

Proses Asesu

Mae 4 cam i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 – Cwblhau cais ar-lein a chyflwyno CV (dim mwy na 2 dudalen)

Uwchlwythwch eich CV.

Sylwch y byddwn yn asesu eich CV yn erbyn y Meini Prawf Penodol i’r Swydd a restrir yn yr hysbyseb yn unig. Gallwch ddod o hyd i'r rhain yn yr adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yn yr hysbyseb.

RHAID i'ch CV ddangos sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl, gan gynnwys enghreifftiau. Os na fyddwch chi’n rhoi enghreifftiau manwl, caiff eich cais ei wrthod yn ystod y sifft.

Sicrhewch fod gan eich CV adran wedi'i marcio'n glir sy'n nodi sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 o eiriau ar gyfer pob maen prawf).


Cam 2 – Sifftio CV

Ar ôl y dyddiad cau, bydd CVs yr holl ymgeiswyr yn cael eu hasesu.

Bydd ymgeiswyr sy'n dangos yn llwyddiannus eu bod yn bodloni’r Meini Prawf Penodol gofynnol i’r Swydd yn derbyn prawf sgiliau ysgrifenedig.

 

Cam 3 – Prawf sgiliau (ar-lein)

Bydd prawf sgiliau yn cael ei drefnu o 12 Ebrill 2023 a bydd gennych 7 diwrnod calendr i gwblhau'r prawf hwn.

Os llwyddwch chi basio’r prawf sgiliau ar-lein, byddwn yn gofyn ichi ddod i gyfweliad.

Bydd cyfweliadau yn cael eu trefnu ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau i'w gadarnhau.

 

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd y cyfweliadau'n seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a’r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr adrannau perthnasol o’r hysbyseb hon. Bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithiol.

Yn y cyfweliad gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn caniatáu ichi ddarparu tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Byddwn yn cadw rhestr wrth gefn am 12 mis rhag ofn y bydd unrhyw swyddi gwag yn codi yn y dyfodol.

Manteision gweithio yn Llywodraeth Cymru

Lle alla i weithio?

Ar gyfer llawer o rolau, rydym yn gweithredu dull hybrid o weithio - a elwir yn 'Gweithio'n Glyfar'; mae hyn yn cynnwys cyfuniad o weithio gartref ac mewn swyddfa. Efallai y cewch gyfle i weithio o gartref yn dibynnu ar yr anghenion busnes a'r ymrwymiadau i'ch tîm. Cewch gyfle i drafod a chytuno ar drefniadau gwaith gyda'ch rheolwr llinell wrth ymuno.

Byddwn ni'n ystyried ceisiadau i weithio mewn lleoliadau penodol yn seiliedig ar amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofal neu nam neu gyflwr iechyd. Cofiwch nodi'ch hoff leoliadau ym mlwch ‘Dewisiadau lleoliad' eich CV.

Drwy wneud cais am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich prif swyddfa:

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno, Caerfyrddin

Beth yw’r manteision?

Mae gweithio i Lywodraeth Cymru yn arwain at fanteision di-ri, gan gynnwys:

  • Yr amrediad cyflog ar gyfer y radd hon yw £26,900 i £30,610.
  • Byddwch yn ennill £26,900 am y 12 mis cyntaf, ac wedyn yn cael cynnydd blynyddol hyd nes y byddwch yn cyrraedd uchafswm y radd (yn amodol ar basio'r cyfnod prawf).
  • DS: Efallai y bydd ymgeiswyr eithriadol yn gymwys am gyflog cychwynnol ymhellach yn uwch i fyny'r raddfa.
  • Cewch 31 diwrnod o wyliau a 10 diwrnod cyhoeddus a braint.
  • Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg er mwyn eich helpu i gael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.
  • Byddwch hefyd yn gymwys i fod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manteision eraill

  • Gweithio hyblyg – rydym yn cefnogi staff i reoli eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith trwy weithio gartref (yn amodol ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl).
  • Patrymau gwaith – mae dewisiadau gwahanol ar gael: llawn amser, rhan-amser, rhannu swyddi, oriau cywasgedig, yn ystod y tymor, ac ati (yn amodol ar angen busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl).
  • Cynllun Car Gwyrdd – sy'n eich galluogi i brydlesu car allyriadau carbon isel newydd sbon a thalu amdano trwy aberth cyflog.
  • Cyllid cefnogol – benthyciadau cyflog ymlaen llaw tuag at bob math o sefyllfaoedd fel: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Cycle2Work a mwy.
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o absenoldeb tadolaeth.
  • Amser llesiant – awr lesiant benodol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed yn gyfle i fynd am dro bach i'r parc, ioga, amser i fyfyrio neu yn y gampfa, eich amser chi yw hwn.
  • Cyflog – cynyddrannau cystadleuol ar draws y bandiau cyflog.
  • Hyfforddiant a chamu ymlaen yn eich gyrfa – cyfleoedd datblygu a hyfforddiant wedi'u teilwra i’ch rôl.
  • Cynhwysiant ac amrywiaeth – rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo y gallan nhw fod yn nhw eu hunain a lle nad oes unrhyw un yn teimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn ei erbyn.
  • Ymgysylltu â staff – mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn gan gynnwys: Awtistiaeth, Gofalwyr, Menywod Ynghyd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy.
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol - timau ymroddedig i ddarparu’r help a’r gefnogaeth sydd eu hangen fwyaf ar staff.
  • Iechyd meddwl – rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth arbennig er mwyn helpu saff i reoli eu hiechyd meddwl.
  • Y cyfarpar TG diweddaraf – bydd gliniaduron gydag Office 365 yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a lle rydych chi'n gweithio.
Nia Davies - educationcontent@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.