Swydd Wag -- Dadansoddwr Desg Wasanaeth x3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
TGCh
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£21,300
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Gwasanaethau TGCh sy'n gyfrifol am reoli'r seilwaith TGCh corfforaethol a chanolog ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r Ddesg Wasanaeth yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer staff Llywodraeth Cymru sydd â namau neu geisiadau yn ymwneud â TGCh.

Gan adrodd i Reolwr y Ddesg Wasanaeth, mae Dadansoddwr Desg Wasanaeth yn bwynt cyswllt ar gyfer y defnyddwyr mewn perthynas â phroblemau ac ymholiadau TG. Mae’n gyfrifol yn bennaf am gyfathrebu â'r defnyddwyr a sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin mewn ffordd gwrtais a chyfleus, yn unol â Dangosyddion Perfformiad Allweddol diffiniedig. Bydd y Dadansoddwr Desg Wasanaeth yn derbyn negeseuon gan staff ar draws y sefydliad, a allai fod yn alwadau ffôn, negeseuon e-bost neu geisiadau a gyflwynir drwy MyIT. Bydd yn rheoli problemau a'u datrys pan fo hynny'n bosibl, neu'n eu brysbennu a'u trosglwyddo i grŵp datrys arall. Bydd disgwyl i'r Dadansoddwr reoli ei achosion a'i geisiadau ei hun, ac achosion a cheisiadau'r tîm, i sicrhau datrysiad cyflym i'r staff. Fel swydd sy'n delio â chwsmeriaid mewnol, mae disgwyl i'r Dadansoddwr gael sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da.

O ganlyniad i ofynion y swydd, bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus aros yn y swydd am 2 flynedd. Bydd y swydd hefyd yn gofyn am wiriadau cliriad diogelwch ar lefel
Gwiriad Diogelwch, a fydd yn cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru.

Prif dasgau

  • Delio ag ymholiadau a phroblemau defnyddwyr - derbyn, cofnodi a rheoli galwadau dros y ffôn a thrwy ddulliau cyswllt eraill sydd ar gael ar yr adnodd Rheoli Gwasanaethau TG
  • Creu achosion a cheisiadau am wasanaeth, diweddaru cofnodion ceisiadau, blaenoriaethu a chategoreiddio'r achosion a'r ceisiadau yn ôl yr angen
  • Olrhain yr holl fanylion perthnasol a'u cofnodi, gan sicrhau bod yr wybodaeth sylfaenol sy'n ofynnol yn cael ei chasglu er mwyn cael sylfaen wybodaeth
  • Asesu a brysbennu achosion yn gyntaf cyn ceisio datrys neu uwchgyfeirio'r achosion at grwpiau datrys mewnol neu allanol (gwerthwyr) priodol
  • cymorth rheng flaen - datrys problemau sy'n ymwneud â TG
  • Sicrhau bod ceisiadau’n cael eu trosglwyddo'n gywir os nad oes modd datrys y broblem ar lefel y Ddesg Wasanaeth
  • Mynd ati'n rhagweithiol i reoli ciwiau'r grŵp a rhai personol
  • Darparu diweddariadau/statws cyfredol achosion a rheoli disgwyliadau defnyddwyr drwy weithio yn unol â’r Lefelau Gwasanaeth y cytunwyd arnynt
  • Cymryd cyfrifoldeb dros achosion ac olrhain statws achosion ar ran y defnyddiwr, gan roi gwybod am y cynnydd mewn modd prydlon
  • Uwchgyfeirio achosion i grwpiau datrys mewnol neu allanol (gwerthwyr) a mynd ar drywydd yr achosion hynny
  • Rheoli ac adolygu'r grŵp datrys/ciw achosion
  • Nodi tueddiadau a allai amlygu achos mawr neu achos brys (P1)
  • Cynnal gwasanaeth o safon uchel i'r holl gwsmeriaid, cefnogi ymholiadau a glynu wrth yr holl egwyddorion rheoli gwasanaeth
  • Rhoi gwybod am broblemau posibl i Reolwr Ciwiau y Ddesg Wasanaeth (Arweinydd y Tîm)
  • Ar ôl cael canllawiau gan un o uwch-ddadansoddwyr y ddesg wasanaeth, mynd ati i ddiweddaru'r Gronfa Ddata Wybodaeth
  • Defnyddio'r Gronfa Ddata Wybodaeth fel rhan o'r broses Rheoli Achosion
  • Cynnig erthyglau gwybodaeth newydd pan fo hynny’n berthnasol

Ymrwymiad i Gwsmeriaid

  • Sicrhau lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid drwy gyflenwi gwasanaethau, prydlondeb, ymddygiad proffesiynol ac agwedd gadarnhaol

Priodoleddau

  • Yn canolbwyntio ar Wasanaeth i Gwsmeriaid
  • Y gallu i weithio mewn amgylchedd sydd â llawer o bwysau
  • Yn gweithio'n dda mewn tîm
  • Yn dangos dyhead i ddysgu gwybodaeth dechnegol
  • Sgiliau datrys problemau effeithiol
  • Dycnwch a'r gallu i ddatrys problemau
  • Y gallu i gyflwyno atebion i broblem

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd rhagorol i feithrin dealltwriaeth eang o broblemau a datrysiadau sy'n ymwneud â TG. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddangos arweiniad a datblygu sgiliau trefnu. Bydd deiliaid y swyddi yn dysgu am swyddi mewn timau eraill ym maes TGCh, ac yn ymgysylltu â’r timau hynny. Bydd hynny’n yn eu helpu i benderfynu ar gamau nesaf eu gyrfa

Dyddiad Cau

27/08/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Cynnal dadansoddiadau priodol i gefnogi penderfyniadau neu argymhellion

Arwain a Chyfathrebu

Gweithredu mewn modd teg a pharchus wrth ymdrin ag eraill

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth 

Cyfrannu'n rhagweithiol i waith y tîm cyfan

Rheoli Gwasanaeth Safonol 

Cymryd cyfrifoldeb dros faterion, gan ganolbwyntio ar ddarparu’r ateb cywir a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a phartneriaid cyflenwi

Meini prawf penodol i'r swydd

Gwybodaeth am gyfres Microsoft Windows 10 a Microsoft Office a phrofiad o helpu â nhw.
Gwybodaeth sylfaenol am Microsoft Active Directory Application.
Profiad o weithio mewn swydd sy'n rhoi cymorth rheng flaen.

Proses Asesu

Y Cam Sifftio

Caiff Datganiadau Personol yr Ymgeiswyr eu hasesu mewn dau gam:

  • Cynhelir sifft gychwynnol yn erbyn y Meini Prawf Penodol i’r Swydd.
  • Yna caiff Datganiadau Personol yr ymgeiswyr sydd wedi pasio’r sifft gychwynnol eu hasesu ymhellach yn erbyn y cymwyseddau.

Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na 1500 o eiriau – bydd unrhyw gynnwys sydd dros yr uchafswm o 1500 o eiriau yn cael ei ddiystyru.

Y Cam Asesu

Caiff pob ymgeisydd sy’n llwyddo i basio’r cam sifftio ei wahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad asesu. Bydd dwy ran i’r cam hwn:

  • Rhan 1 – Ymarfer Technegol (sesiwn fideo o bell gyda Phanel Technegol)
  • Rhan 2 – Cyfweliad (sesiwn fideo o bell gyda Phanel Cyfweld)

Rhoddir rhagor o wybodaeth am y camau hyn yn dilyn canlyniad y cam sifftio.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Richard Rump - Richard.Rump@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.