Swydd Wag -- Uwch-swyddog Ymchwil (SEO) - Benthyciad o’r Tu Allan (Symud ar draws y Gwasanaeth Sifil yn unig)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Ein nod yw helpu'r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i greu Cymru decach, wyrddach a mwy cyfartal. Rydym yn awyddus i ddefnyddio profiad staff o bob rhan o'r Gwasanaeth Sifil i gael effaith ymarferol, gadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Rydym yn chwilio am bobl angerddol a galluog o bob cefndir. Rydym yn chwilio am bobl a all gynnig profiadau bywyd gwahanol i'n penderfyniadau ac, ar yr un pryd, ffynnu mewn timau cydweithredol a fydd yn helpu i newid ein ffordd o feddwl. Rydym yn chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol a all gynnig sgiliau, profiadau bywyd a safbwyntiau newydd i'n gwaith.
Rydym ni i gyd yn cael ein gyrru gan y gwerthoedd a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil: uniondeb, gwrthrychedd, gonestrwydd, a didueddrwydd. Yn ogystal â'r Cod mae gennym ein gwerthoedd a'n disgwyliadau ein hunain sy'n crisialu ein 'ffordd Gymreig' o weithio, gan adlewyrchu'r uchelgeisiau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â grŵp o ymchwilwyr sy'n gweithio fel rhan o broffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Fel Uwch-swyddog Ymchwil (SRO) yn Llywodraeth Cymru, byddai deiliaid y swyddi’n gweithio'n agos gyda chydweithwyr polisi a dadansoddwyr eraill, gan fod yn gyfrifol am ddatblygu a goruchwylio rhaglen ymchwil.
Bydd pob swydd yn cynnwys cefnogi anghenion sy'n dod i'r golwg o'r meysydd polisi perthnasol yn ogystal â chyfrannu at brosiectau sy'n gweithio ar draws timau gwahanol yn y Proffesiwn Ymchwil. Cysylltwch â ni os hoffech ofyn am y rhestr ddiweddaraf o swyddi gwag SRO o fewn y proffesiwn ymchwil gymdeithasol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â rolau addas yn seiliedig ar drafodaethau anffurfiol gyda'r pennaeth proffesiwn a’r rheolwr llinell perthnasol. Er y gwneir pob ymdrech i baru ymgeiswyr â’r rolau sydd orau ganddynt, nid oes modd gwarantu y gellir eu lleoli mewn swyddi penodol. Darllenwch y canllawiau i ymgeiswyr i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r paru'n digwydd.
Prif dasgau
Efallai na fydd y tasgau allweddol a amlinellir isod i gyd yn angenrheidiol mewn un swydd benodol a gallai tasgau eraill gael eu gwneud hefyd. Bydd mwy o bwyslais ar ymreolaeth ac arwain prosiectau ar gyfer rôl Uwch-swyddog Ymchwil.
Beth fydd eich sefydliad yn ei ddisgwyl?
- Cyfrannu at ddatblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi a dylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol, drwy ddarparu tystiolaeth berthnasol, amserol a dibynadwy.
- Gweithio gyda chydweithwyr polisi a dadansoddwyr eraill i helpu i gyflawni cynlluniau tystiolaeth adrannol, drwy nodi a blaenoriaethu gofynion ymchwil a bylchau yn y dystiolaeth, a datblygu prosiectau sy'n bodloni gofynion adrannol.
- Meddu ar wybodaeth gyfredol ynghylch tystiolaeth a dulliau perthnasol, a chyfleu canfyddiadau i gydweithwyr polisi allweddol.
- Sicrhau bod prosiectau a chontractau yn cael eu cyflawni o fewn terfynau amser a chyfyngiadau adnoddau, a hefyd sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol priodol, drwy ddefnyddio technegau rheoli prosiect.
- Sicrhau bod gweithdrefnau rheolaeth ariannol cadarn yn cael eu dilyn.
- Hyrwyddo'r defnydd effeithiol o ymchwil gymdeithasol mewn strategaethau, datblygiadau polisi ac wrth gyflawni amcanion, ar draws Llywodraeth Cymru ac yn allanol.
- Cyfrannu at weithgarwch sy'n ymwneud ag ansawdd/gwella o fewn y swydd, a thrwy rwydwaith ehangach Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
Beth fydd eich tîm yn ei ddisgwyl?
- Arwain a/neu reoli'r gwaith o ddatblygu a darparu prosiectau ymchwil a gwerthuso.
- Cefnogi ac annog cydweithwyr polisi i ddatblygu eu dealltwriaeth o ymchwil gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys gwerthfawrogi sut y gall ymchwil gymdeithasol gefnogi nodau ehangach Llywodraeth Cymru.
- Darparu cyngor a chymorth i gydweithwyr mewnol ar faterion technegol a phroffesiynol sy'n ymwneud ag ymchwil gymdeithasol.
- Sicrhau bod unrhyw aelodau o staff yr ydych yn rheolwr llinell arnynt yn cael eu datblygu, drwy ddarparu arweiniad, cyngor a chymorth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
- Dirprwyo ar ran Prif Swyddogion Ymchwil yn ôl y gofyn.
- Cyfrannu at feysydd ymchwil a gwerthuso eraill, fel y pennir yn briodol gan y rheolwr llinell.
Beth fydd eich rhanddeiliaid yn ei ddisgwyl?
- Sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu cyfleu'n effeithiol, a'u bod yn cyfrannu at ddatblygu, cyflawni a gwerthuso polisïau a gwasanaethau.
- Datblygu a chynnal cysylltiadau strategol â'r gymuned ymchwil ehangach, o fewn Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
- Cydweithio â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus sydd â diddordeb mewn meysydd cyffredin.
Cyfleoedd datblygu
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Serch hynny, croesawir ceisiadau gan y di-Gymraeg a siaradwyr Cymraeg. Bydd ymgeiswyr yn cael cyfleoedd i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd cyfle i ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig a llafar ym mhob swydd, a chyfle i'w defnyddio ar gyfer gwaith is-adrannol ehangach.
Dyma gyfle gwych i gael effaith drwy ddod â'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad gwerthfawr i adran wahanol o’r Llywodraeth. Byddwch hefyd yn gallu datblygu eich gallu a'ch setiau sgiliau drwy fod yn rhan o ystod eang o waith hanfodol, gan gynnwys blaenoriaethau megis ymateb i COVID-19 a meysydd blaenoriaeth ar draws Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Dyddiad Cau
Hyderus o ran Anabledd
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ar y ffurf ganlynol yn eu cais;
- Datganiad Personol – rhowch drosolwg byr o'ch sgiliau a pham rydych yn gwneud cais i symud (300 gair).
- Sgiliau arwain a phrofiad o reoli prosiect/au ymchwil lle rydych chi wedi rheoli perfformiad, adnoddau a’r berthynas rhwng pobl i sicrhau cyflawni effeithiol (500 gair).
Meini Prawf Penodol i'r Swydd:
- Rhaid bod yn aelod cyfredol o broffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Os nad ydych yn aelod o'r GSR, byddai angen ichi basio'r sifft a gwneud prawf gwybodaeth ar-lein i ddod yn aelod o’r GSR.
Proses Asesu
Y mae hon yn hysbyseb ‘agored’ fydd yn rhedeg tan y dyddiad cau a nodir uchod. Y mae hyn yn golygu y bydd ceisiadau yn cael eu sifftio, a bydd ymgeiswyr yn symud drwy’r broses asesu, pan ddaw’r ceisiadau i law. Unwaith y byddwn yn agos at lenwi ein swyddi gweigion byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd sydd wedi dechrau cais i roi gwybod y bydd yr hysbyseb yn cau ymhen pythefnos o ddyddiad yr e-bost.
Am ragor o wybodaeth ar y broses asesu gweler y pecyn ymgeisydd yma.
Gweler ‘Sut i Wneud Cais’ isod am ragor o gyfarwyddyd ar sut i gyflwyno ffurflen gais am y cyfle hwn.
Gwybodaeth arall
Penodi a Thelerau ac Amodau
- Mae'r cyfleoedd ar gyfer benthyciad mewnol ar agor i Weision Sifil presennol yn unig (ar sail benthyciad yn unig). Mae'r cyfle hwn yn agored i gyflogeion presennol y gwasanaeth sifil sydd ar gontract cyfnod penodol neu barhaol ac a gafodd eu recriwtio i'w swydd bresennol drwy gystadleuaeth deg ac agored. Dim ond am weddill eu contract cyfnod penodol y mae modd penodi'r rhai sydd ar gontractau cyfnod penodol. Nid yw'r rhai sydd ar gontractau cyfnod penodol neu barhaol nad ydynt yn gweithio yn y gwasanaeth sifil ar hyn o bryd yn gymwys i wneud cais.
- Mae rolau ar gael ar gyfer naill ai gyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd tymor hwy (hyd at uchafswm o 2 flynedd).
- Nid oes disgwyl ichi drosglwyddo’n barhaol i Lywodraeth Cymru.
- Mae pob rôl ar gael ar radd swydd bresennol a throsglwyddiad ar draws yn unig. Nid yw’r cyfle hwn ar gael ar sail dyrchafiad dros dro.
- Nid yw cyfleoedd dyrchafu dros dro na pharhaol ar gael drwy'r cyfle hwn, fodd bynnag, bydd llawer o'r rolau yn cynnig y cyfle i ennill profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
- Byddwn yn gwneud pob ymdrech i'ch paru â rôl yn seiliedig ar y dystiolaeth rydych yn ei rhoi ar eich ffurflen gais.
- Ni allwn warantu y cewch gynnig swydd nag unrhyw swydd benodol.
- Os byddwch yn llwyddo i gael eich paru â rôl, byddwch yn symud o dan drefniadau Benthyciad Mewnol ffurfiol, hynny yw byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru, os yw'r benthyciad am gyfnod o fwy na 6 mis.
- Bydd eich cyflog parhaol presennol yn cael ei baru â'r pwynt cyflog agosaf o fewn y band tâl gradd, heb golled https://llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
- Sicrhewch fod gennych gymeradwyaeth/awdurdodiad eich rheolwr llinell i gael eich rhyddhau.
- Rhaid ichi fod ar gael i'ch rhyddhau ar unwaith, oherwydd unwaith y byddwch wedi’ch paru â rôl bydd disgwyl ichi ymgymryd â'r swydd yn gyflym.
- Er nad yw sgiliau Cymraeg yn ofyniad hanfodol yn y broses ddethol ar gyfer yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n gallu gweithio'n ddwyieithog.
- Gan mai cyfle am fenthyciad yw hwn, cofiwch, os daw'r swydd i ben, neu os daw'r contract gyda'ch sefydliad cartref i ben, bydd disgwyl ichi ddychwelyd i'ch sefydliad presennol.
Sut i wneud cais
Dylid cyflwyno pob cais ar gyfer y swydd hon ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.
I wneud cais am gyfle benthyciad mewnol, bydd angen ichi lenwi templed ffurflen gais Symudiadau ar Draws. Os na fydd wedi'i gwblhau a/neu ei gyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.
Yn y ffurflen gais Symud ar Draws, bydd gofyn ichi ddarparu'r canlynol:
Datganiad Personol – rhowch amlinelliad byr o'ch sgiliau a pham eich bod yn gwneud cais i symud. (300 gair)
Sgiliau arwain a phrofiad o reoli prosiect/au ymchwil lle rydych chi wedi rheoli perfformiad, adnoddau a’r berthynas rhwng pobl i sicrhau cyflawni effeithiol. (500 gair)
Bydd gofyn ichi hefyd amlinellu’ch sgiliau a'ch profiad, hanes byr o’ch gyrfa yn ogystal â pha Grŵp/Adran a maes gwaith blaenoriaeth craidd fyddai orau gennych.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd a chamau'r broses ddethol a pharu i'w gweld yn y pecyn i ymgeiswyr sydd ynghlwm.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.