Swydd Wag -- Arweinydd Tîm – Caffael Tir (Is-adran y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Tiroedd
HEO - £32,460 - £39,690
£32,460
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Ymrwymiadau a swyddogaethau

Ar draws yr holl ddulliau, mae bron i 40 o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu gan y Gyfarwyddiaeth, y mae nifer ohonynt yn deillio’n uniongyrchol o’r strategaeth drafnidiaeth. Fodd bynnag, dim ond un rhan o’r hyn yr ydym yn ei wneud yw gwaith polisi newydd; mae elfen weithredol a llywodraethu sylweddol i’n gwaith – o ran swyddogaethau statudol a rheoli prosiectau. Yn gyffredinol, mae’r Gyfarwyddiaeth yn arwain ar bolisi, cyllid, cynllunio a chyflawni’r holl swyddogaethau datganoledig a ddisgrifir uchod – yn ogystal â phortffolio eang o brosiectau cyfalaf.

Sut yr ydym yn ymgorffori gwerthoedd Llywodraeth Cymru

Creadigrwydd. Rydym yn edrych yn barhaus am ffyrdd newydd i wneud hyn ac i brofi dulliau arloesi. Rydym yn gefnogol o herio’r status quo yn ein hymdrechion i ddarparu polisïau a gweithrediadau newydd.

Tegwch. Rydym yn gwybod bod angen inni fod yn amrywiol er mwyn darparu trafnidiaeth a chysylltedd sydd yn gwasanaethu’r holl grwpiau. Rydym yn buddsoddi mewn rheolaeth ardderchog ac yn trin ein staff yn deg, waeth beth yw eu rôl, eu graddfa na’u proffesiwn.

Partneriaeth. Rydym yn edrych tuag allan ac yn gwybod mai dim ond gyda’n partneriaid y gallwn gyflawni – a hynny y tu mewn a’r tu allan i lywodraeth. Rydym yn datblygu cysylltiadau diwylliannol ystyrlon er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni’n strategaeth.

Proffesiynoldeb. Rydym yn ddiduedd ac yn wrthrychol, gan sicrhau bod ein penderfyniadau wedi eu seilio ar dystiolaeth eang. Rydym yn blaenoriaethu’n barhaus er mwyn cael y gwerth gorau am arian. Rydym yn parchu ac yn cefnogi’n proffesiynau.

Braslun o'r rôl

Mae'r Tîm Tir ac Eiddo yn rhan allweddol o'r tîm cyflawni ehangach o fewn Is-adran y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Mae'r is-adran yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu, cynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, ar ran Gweinidogion Cymru. Dyma un o asedau seilwaith pwysicaf Cymru. Mae'n werth dros £18 biliwn ac yn hanfodol ar gyfer cefnogi Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gynaliadwy a ffyniannus. Mae'r Tîm Tir ac Eiddo yn gyfrifol am gaffael, rheoli a gwerthu tir ac eiddo, ac am unrhyw daliadau digollediad cysylltiedig am dir mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau. 

Bydd angen i ddeiliad y swydd arwain tîm bach o swyddogion achos a swyddogion cymorth tîm.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag aelodau eraill o'r tîm a Phennaeth y Gangen wrth adolygu/datblygu gweithdrefnau a phrosesau, gan gefnogi gweddill y tîm yn ystod y broses o wneud unrhyw newidiadau. Bydd yn cynnal adolygiadau tîm gyda'r Pennaeth ac unrhyw arweinwyr tîm eraill mewn perthynas â newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisïau, ynghyd a'r gwaith cysylltiedig o roi’r newidiadau ar waith.

Bydd angen i ddeiliad y swydd weithio'n agos â sefydliadau allanol, peirianwyr Llywodraeth Cymru, cyfreithwyr, asiantiaid tir ac aelodau o'r cyhoedd.

Sylwch y bydd angen i ddeiliad y swydd deithio ar adegau prin, bod yn bresennol mewn cyfarfodydd gwybodaeth i'r cyhoedd mewn perthynas â chynlluniau'r dyfodol ac aros dros nos ledled Cymru pan fydd angen. O bryd i'w gilydd bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn bresennol mewn ymweliadau â safleoedd a chyfarfodydd â chydweithwyr a darparwyr gwasanaethau allanol.

Cyfleoedd a gynigir gan y swydd

Mae'r rôl yn cynnig cyfle cyffrous i weithio mewn maes cymhleth o fewn Llywodraeth Cymru, gyda'r cyfle i ddatblygu amrediad eang o gysylltiadau mewnol ac allanol.  Fel rhan o'r rôl byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Gorchmynion Prynu Gorfodol a phrynu tir drwy gytundeb.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn gallu datblygu ei sgiliau ariannol wrth ragolygu a chyllidebu ar ran y tîm, ac yn cael y cyfle i arwain ymarferion caffael i sicrhau'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ran y tîm.

Bydd y rôl yn darparu cryn brofiad o linell-reoli a datblygu tîm bach. Bydd hefyd yn rhoi profiad o ymdrin ag aelodau'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth 


Prif dasgau

Tasgau Allweddol

  • Cyfrifoldeb am linell-reoli a datblygu tîm bach rhwng tri a phump o aelodau, sydd ar hyn o bryd wedi'u lleol ledled Cymru. Cefnogi'r tîm hwn gydag adolygiadau ar y cyd o ddogfennau achos a chynlluniau.
  • Gweithio'n agos gyda'r tîm i gynnal y prosesau sydd eu hangen i gaffael hawliau tir (drwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu ddeddfwriaeth arall) sy'n gysylltiedig ag adeiladu a gwella Traffyrdd a Chefnffyrdd yng Nghymru.
  • Gorchwylio'r gwaith o gaffael tir ar gyfer gwelliannau bach i'r cefnffyrdd gweithredol presennol; gan drafod â chydweithwyr y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol ac alinio gweithdrefnau i gaffael tir drwy Orchmynion Prynu Gorfodol.
  • Ymdrin ag ymholiadau drwy ohebiaeth a galwadau ffôn gan berchnogion a meddianwyr tir sydd eu hangen ar gyfer cynlluniau ffyrdd.
  • Ymdrin â gwaith achos mwy cymhleth a darparu cyngor i rannau eraill o'r tîm ar weithdrefnau a chynseiliau. Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn cymorthfeydd wythnosol gydag arweinwyr tîm eraill a Phennaeth y Gangen i gefnogi hyn.
  • Awdurdodi taliadau hyd at uchafswm o 500k a monitro gwariant ar draws y gangen. Gweithio gyda Phennaeth y Gangen i baratoi amcangyfrifon o wariant yn ystod y flwyddyn a rhagolygon ar gyfer blynyddoedd y dyfodol.
  • Gweithio gyda Phennaeth y Gangen a'r tîm drafftio wrth ddarparu drafftiau a chyngor ar gyfer gohebiaeth weinidogol. Gweithio gyda Phennaeth y Gangen i gasglu/coladu gwybodaeth yn unol ag archwiliadau, Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus a briffiau Gweinidogion

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn datblygu gwybodaeth helaeth am y ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â chaffael tir o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a'r amryw ddarpariaethau sy'n galluogi talu digollediad i hawlwyr o dan Ddeddfau sy'n cynnwys Deddfau Digollediad Tir 1961 a 1973, Deddf Prynu Gorfodol 1965, Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, a Deddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (yn ogystal â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r ddeddfwriaeth ar hyn o bryd)

Oherwydd bod y swydd hon mor amrywiol, bydd gan ddeiliaid y swydd y cyfle i ddatblygu sgiliau mewn llawer o feysydd proffesiynol. Yn rhan o'r swydd hon bydd angen ymgymryd â dyletswyddau ariannol. Bydd hyn yn rhoi profiad i ddeiliad y swydd o ddata, monitro a rhagolygu. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys prosiectau o fewn cynlluniau, a bydd gan ddeiliad y swydd y cyfle i ddatblygu sgiliau rheoli prosiect.

Bydd deiliad y swydd y datblygu profiad helaeth o'r gwaith gweithredol o gyflawni cynllun ffyrdd, ac yn chwarae rôl allweddol yn y cynllun ffyrdd yn gyffredinol. Mae'n bosibl y bydd angen i ddeiliad y swydd linell-reoli swyddogion cymorth tîm; bydd hyn yn datblygu ei sgiliau rheoli llinell, gyda chymorth gan ei arweinydd tîm.

Bydd gan ddeiliad y swydd y cyfle i weithio gyda chydweithwyr ar draws yr Is-adran Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol i gyflawni'r blaenoriaethau yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar Gyfer Trafnidiaeth

Dyddiad Cau

09/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Y Clwstwr Strategol: Gosod y Trywydd – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Adnabod patrymau a thueddiadau mewn amrediad eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol gan amlinellu costau, manteision, risgiau at ymatebion posibl.

Y Clwstwr Perfformiad: Cyflawni Canlyniadau – Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gweithio gyda'r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni.

Y Clwstwr Pobl: Ymwneud â Phobl – Gweithio ar y cyd ac mewn Partneriaeth - Meithrin cysylltiadau ag amrediad o randdeiliaid i gefnogi’r broses o gyflawni canlyniadau busnes.

Y Clwstwr Pobl: Ymwneud â Phobl – Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu â phob rhanddeiliad mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb a dal eich tir pan fydd angen.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Profiad o negodi a chaffael eiddo
  2. Profiad o reoli tîm amrywiol 
  3. Profiad o reoli arian

Proses Asesu

Bydd ceisiadau’n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gael cyfweliad. Cadarnheir y dyddiadau pan fydd canlyniadau’r sifft wedi cael eu cyhoeddi.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Y Gyfarwyddiaeth Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol

‘Pwy ydym ni a pham yr ydym yma’

Ein cefndir

Mae cyfrifoldebau Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol wedi ehangu o ganlyniad i setliadau datganoli olynol, ac erbyn hyn mae cyfrifoldebau wedi ymestyn i gynnwys ffyrdd, gweithrediadau rheilffyrdd, y diwydiant bysiau, teithio llesol (cerdded a beicio), porthladdoedd a hedfanaeth.

Mae’r Gyfarwyddiaeth yn rhan o’r Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, gan adlewyrchu mai datgarboneiddio’r system drafnidiaeth a gwneud y defnydd gorau o gysylltedd digidol yw un o’r heriau mwyaf o ran cyrraedd targedau sero net Cymru.

Cysylltedd yw’r hyn sy’n ein clymu at ein gilydd – drwy dechnoleg, seilwaith a pholisïau trafnidiaeth, rydym yn cynorthwyo pobl a busnesau i gysylltu â’i gilydd ledled Cymru, y DU a gweddill y byd.

Ein cenhadaeth

Newid dulliau teithio a lleihau carbon yw’r prif amcanion ac mae targedau heriol wedi eu gosod yn Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth 2021, ac mae’n llywio ein system drafnidiaeth dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ffordd newydd o feddwl sy’n gosod pobl a newid hinsawdd wrth wraidd ein system drafnidiaeth. Dyma’r tro cyntaf hefyd i’n strategaeth drafnidiaeth gynnwys cysylltedd digidol a newid ymddygiad yn benodol.

Ein strwythur

Mae oddeutu 150 o bobl yn ein tîm, sy’n cynnwys pum Is-adran.

Mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ddarparu rhwydwaith cefnffyrdd diogel a dibynadwy. Mae Is-adran y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) yn gweithredu, yn cynnal ac yn gwella rhwydwaith cefnffyrdd Cymru fel awdurdod priffyrdd statudol.

Mae’r Is-adran yn un o’r asedau unigol mwyaf sydd ar fantolen Llywodraeth Cymru, gyda chost amnewid dibrisiedig o oddeutu £18 biliwn. Yn ddim ond oddeutu 5% o gyfanswm hyd y ffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys 75 milltir o draffordd a 1000 o filltiroedd o gefnffyrdd, mae’r rhwydwaith yn cario un rhan o dair o’r holl draffig ac yn cefnogi’r broses o gyflawni nifer o amcanion strategol Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol i’r economi, ac yn cysylltu pobl a chymunedau â’i gilydd.  Mae’n galluogi mynediad at wasanaethau pwysig ac mae ganddi rôl bwysig i’w chwarae mewn perthynas â chynnal a gwella ein hasedau amgylcheddol, cefnogi teithio llesol a newid dulliau teithio.

Ar hyn o bryd mae’r model darparu ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol yn seiliedig ar ddirprwyo rhai swyddogaethau statudol i’r asiantau cefnffyrdd, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA). O ddydd i ddydd maent yn gweithredu, yn cynnal ac yn gwella’r rhwydwaith yn eu hardal hwy o dan gyfarwyddyd a llywodraethiant Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio eu cadwyni cyflenwi o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Gan weithio drwy’r asiantau cefnffyrdd, mae’r Is-adran yn sicrhau bod y rhwydwaith yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel, ochr yn ochr â rheoli nifer o brosiectau sydd ar y gweill ar gyfer cynnal a gwella’r rhwydwaith. Mae’n Is-adran fawr, ag elfen sylweddol o waith technegol, yn enwedig o ran y proffesiwn peirianneg.

Mae’r Is-adran yn cynnwys 70 o staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a channoedd yn rhagor yn cael eu cyflogi drwy’r Asiantau Cefnffyrdd a’n cadwyn gyflenwi. 

Byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddgar er mwyn cynorthwyo i sicrhau uniondeb a chynaliadwyedd y rhwydwaith cefnffyrdd.  Mae’n prosiectau ledled Cymru yn cynnwys rhai sy’n mynd i’r afael â heriau mwyaf hanfodol y wlad; o brosiectau seilwaith cymhleth, cynyddu anghenion trafnidiaeth aml-ddull, i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.  Bydd eich gwaith yn helpu i gyfrannu at gefnogi’r ased pwysig hwn a chael effaith barhaol ar Gymru a chymunedau lleol. 

Mae’r Is-adran Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth (TSP) yn gyfrifol am weithredu a monitro’r strategaeth drafnidiaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar newid dulliau teithio. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn teithio llesol, pontio at ddefnyddio cerbydau trydan, gwneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl a hyrwyddo newid ymddygiad. Mae’r Is-adran yn gweithio’n agos iawn gyda llywodraeth leol a Thrafnidiaeth Cymru.

Trafnidiaeth Gyhoeddus ac Integredig sydd yn gyfrifol am bolisïau rheilffyrdd a bysiau yng Nghymru, gan integreiddio’r ddau rwydwaith cymaint â phosibl lle bynnag y bo’n bosibl. Mae swyddogaethau’r rheilffyrdd yn cael eu cyflawni mewn partneriaeth agos iawn â Thrafnidiaeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â darparu cerbydau rheilffyrdd newydd a thrawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn wasanaethau modern, sy’n rhedeg yn aml. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Is-adran yn arwain ar y diwygiadau mwyaf uchelgeisiol yn y DU o ran y sector bysiau, sy’n golygu gweithio ar ddeddfwriaeth sylfaenol, dylunio rhwydweithiau a pholisïau prisiau.

Mae’r Is-adran Cysylltedd Cenedlaethol a Rhyngwladol yn gyfrifol am drafnidiaeth pan fo cydgyfrifoldeb gan lefelau eraill o lywodraeth – llywodraeth leol a Llywodraeth y DU, gan gynnwys hedfanaeth, cludo llwythi, y sector morol a thacsis. Mae rolau allweddol o fewn yr Is-adran yn cynnwys y model llywodraethu ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, creu cynllun cludo llwythi a logisteg newydd, a moderneiddio’r sail gyfreithiol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.

Is-adran y Seilwaith Digidol sydd â chyfrifoldeb polisi dros faterion teleathrebu, gan gynnwys band eang, ffonau symudol ac ymgysylltu ag Ofcom. Mae’r Is-adran hefyd yn darparu ymyraethau seilwaith wedi eu targedu er mwyn mynd i’r afael â methiant yn y farchnad, datrys problemau diffyg capasiti ac ymestyn gwasanaethau cysylltedd ledled Cymru.

Thomas Maton - EST-NMDmailbox@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.