Swydd Wag -- Swyddog Gweithredol Dadansoddwr Seiberddiogelwch Cyswllt

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
DDaT - Is-adran Gwasanaethau TG
EO - £26,900 - £30,610
Cyflog cychwynnol o £25,030 - Gellir cynnig cyflog cychwynnol o hyd at £28,850 ar gyfer ymgeiswyr eithriadol yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'w thechnoleg gwybodaeth (TG) dros y blynyddoedd diwethaf ac ystyrir ei bod yn un o brif sefydliadau sector cyhoeddus y DU o ran galluogrwydd Digidol a TG.  Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau nifer o brosiectau TG megis symud i Exchange 365, symud i ffwrdd oddi wrth e-bost Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI), cyflwyno gliniaduron newydd i holl staff Llywodraeth Cymru (gan alluogi gweithio hyblyg) a chwblhau’r gwaith o fudo cymwysiadau mawr i Microsoft Azure.  Cofnodwyd hyn mewn astudiaeth achos GDS ar enghreifftiau o arferion gorau o fudo i’r Cwmwl (gweler https://www.gov.uk/government/case-studies/how-the-welsh-government-migrated-their-technology-to-the-cloud)

Y Dadansoddwr Seiberddiogelwch Cyswllt sy'n bennaf gyfrifol am gynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaethau diogelwch gweithredol a thechnegol, lle bo hynny'n berthnasol.  Mae hyn yn cynnwys ymgymryd â gwaith monitro rhagweithiol technegol, rheoli newid diogelwch, sganio am wendidau a swyddogaethau tebyg yn ogystal â gweithredu strategaethau rheoli risg cymesur i asesu a chofnodi’r bygythiad i systemau a rhwydweithiau TG.

Prif dasgau

Fel Dadansoddwr Seiberddiogelwch Cyswllt, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Mewn Amser Real, dadansoddi rhybuddion o systemau darganfod tresmasu a systemau diogelwch eraill (SIEM, IDS, NIDS, AV, EPS, Waliau Tân ac ati) ac ymateb neu uwchgyfeirio mewn modd amserol, priodol a chymesur.
  • Cynnal dadansoddiad o logiau o ystod eang o seilwaith, a chymwysiadau i fonitro tueddiadau.
  • Cynnal asesiadau risg a darparu argymhellion i wneud y gorau o dechnoleg bresennol i wella'r amddiffyniadau seiber.
  • Ymchwilio i ddigwyddiadau a’u huwchgyfeirio fel y bo'n briodol.
  • Sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r diweddaraf ac yn wybodus o ran bygythiadau a pheryglon sy’n ymwneud â TG, asesu'r bygythiad a nodi a yw'r sefydliad mewn perygl ac uwchgyfeirio mewn modd amserol, priodol a chymesur.
  • Gweithio ar sail cylchdro, cymryd rhan mewn gwiriadau dyddiol sy'n cynnwys rhybuddion diogelwch a gwiriadau ar wefannau gweithgynhyrchwyr ar gyfer gwendidau mewn caledwedd seilwaith craidd, meddalwedd a chadarnwedd.
  • Defnyddio Gwybodaeth ar y Cyfryngau i ganfod bygythiadau o ddiddordeb sy’n dod i’r amlwg, ac ymateb i negeseuon e-bost brys gan randdeiliaid diogelwch ac allweddol Llywodraeth Cymru.
  • Helpu i ddatblygu prosesau gweithredol i gefnogi'r gallu i reoli gwendidau.
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o reoli digwyddiadau diogelwch fel y bo'n briodol.
  • Cynnal dogfennau diogelwch.
  • Ymgymryd ag unrhyw ofynion eraill fel yr amlinellwyd gan yr Uwch Ddadansoddwr Seiberddiogelwch a/neu Ddadansoddwr Seiberddiogelwch.

 

 

Cyfleoedd datblygu

Mae rôl y Dadansoddwr Seiberddiogelwch Cyswllt yn rhan o'r Proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) yn Llywodraeth Cymru (LlC).  Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu yn Llywodraeth Cymru ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gymuned ac i ddatblygu rôl y gymuned yn Llywodraeth Cymru. 

Mae'r swydd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i weithio gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr diogelwch o fewn Llywodraeth Cymru a thu allan iddi.  Mae'r bygythiad seiber byd-eang yn parhau i esblygu'n gyflym felly bydd dysgu a datblygu parhaus yn allweddol i sicrhau bod y tîm seiber yn parhau i ddiogelu ac amddiffyn systemau TG Llywodraeth Cymru yn effeithiol.

Dyddiad Cau

28/06/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Gan ystyried y Disgrifiad o'r Radd uchod, dylech gyflwyno eich Datganiad Personol yng nghyd-destun y 5 Ymddygiad canlynol:

Technoleg a Dealltwriaeth Diogelwch Penodol – Gallwch ddeall a chyfleu effaith gwendidau ar ddyluniadau a systemau presennol ac yn y dyfodol, a pha mor hawdd neu anodd fydd manteisio ar y gwendidau hyn.  (Lefel sgiliau DDaT perthnasol: ymwybyddiaeth)

Sgiliau Cyfathrebu (Diogelwch) – Gallwch ddehongli a chyfleu goblygiadau diogelwch a risg yn gywir ar draws rhanddeiliaid technegol ac annhechegol.  (Lefel sgiliau DDaT perthnasol: gweithio)

Arweinyddiaeth – Rydych yn deall eich meysydd cyfrifoldeb ac yn dangos ymwybyddiaeth o effaith ehangach eich gweithredoedd.

Gweld y Darlun Cyflawn – Rydych yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r materion diweddaraf sy'n effeithio ar eich maes gwaith.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol – Rydych yn dadansoddi ac yn ymchwilio i ragor o wybodaeth i gefnogi penderfyniadau.

Proses Asesu

Drwy gydol y broses asesu gyfan, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn yr Ymddygiadau o Broffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil a'r fframwaith Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT).

Arweinyddiaeth, Gweld y Darlun Cyflawn, Gwneud Penderfyniadau Effeithiol, Cyfathrebu a Dylanwadu, Datblygu eich Hun ac Eraill, Sgiliau Technoleg Diogelwch Penodol a Dealltwriaeth a Chyfathrebu (Diogelwch).

Y Cam Sifftio:

Caiff eich Datganiad Personol ei asesu mewn dau gam:

  • Cynhelir y cam sifftio cychwynnol yn erbyn y ddau Sgil Digidol, Data a Thechnoleg sydd yn yr adran ‘Meysydd i’w Dangos’. Mae hyn yn cynnwys Sgiliau Technoleg Diogelwch Penodol a Dealltwriaeth a Chyfathrebu (Diogelwch).
  • Caiff Datganiadau Personol yr ymgeiswyr hynny sydd wedi pasio'r cam sifftio cychwynnol eu hasesu ymhellach yn erbyn y tri Ymddygiad Proffil Llwyddiant sydd yn yr adran ‘Meysydd i'w Dangos’. Mae hyn yn cynnwys Arweinyddiaeth, Gweld y Darlun Cyflawn a Gwneud Penderfyniadau Effeithiol.

Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na 1500 o eiriau - bydd unrhyw gynnwys sy'n uwch na'r terfyn o 1500 o eiriau yn cael ei ddiystyru.

Defnyddir eich CV i helpu i roi gwybod i'r panel am hanes eich gyrfa, ond ni fydd yn cyfrannu at eich sgôr sifftio gyffredinol. Ni ddylai CV fod yn fwy na dwy ochr A4.

Disgwylir i ganlyniadau'r cam sifftio gael eu cyhoeddi ddechrau mis Gorffennaf.  Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, ni fydd modd i chi ofyn am eich sgoriau yn y cam sifftio hyd nes y bydd y broses asesu lawn wedi'i chwblhau.

Y Cam Asesu:

Gwahoddir pob ymgeisydd sy'n llwyddiannus ar y cam sifftio i gymryd rhan mewn digwyddiad asesu.  Bydd dwy ran i hyn:

Rhan 1 – Ymarfer Technegol (sesiwn fideo o bell gyda Phanel Technegol)

Rhan 2 – Y Cyfweliad (sesiwn fideo o bell gyda Phanel Cyf-weld)

Darperir rhagor o wybodaeth am y camau hyn yn dilyn y cam sifftio.

Yn dilyn y digwyddiadau asesu, disgwylir i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi ddechrau mis Awst.

Rhestr Wrth Gefn:

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi derbyn yr isafswm sgôr ar draws yr holl ymddygiadau  gofynnol yn cael y cyfle i fod ar restr ‘wrth gefn’ Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau.  Os bydd rolau ychwanegol ar gael neu os bydd rolau presennol yn dod yn wag yn ystod y cyfnod hwn, gall Llywodraeth Cymru gynnig y rôl i'r ymgeisydd sydd wedi sgorio uchaf ar y rhestr wrth gefn.  Os byddant yn gwrthod, gall Llywodraeth Cymru gynnig y rôl i'r ymgeisydd nesaf sydd wedi sgorio uchaf ac yn y blaen.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Buddion:

  • 31 diwrnod o wyliau (yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint)
  • Swydd barhaol
  • Cyllideb datblygiad personol
  • Gweithio gartref
  • Y pecyn TGCh diweddaraf
  • Yswiriant marw yn y swydd
  • Oriau gwaith hyblyg
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith - beic newydd sbon gwerth hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
  • Cynllun Talebau Gofal Plant, gan arbed hyd at £933 y flwyddyn
  • Cynllun Pensiwn Cyfrannol

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb

Oherwydd tangynrychiolaeth gyfredol yn y sefydliad, bydd ymgeiswyr sy'n datgan eu bod yn anabl neu o gefndir pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn cael eu cyflwyno'n awtomatig i'r Porth Asesu os yw eu cais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol. Dim ond os bydd ymgeiswyr yn darparu'r wybodaeth hon yn eu cais y gallwn wneud hyn. Bydd gwybodaeth am ymgeiswyr BAME yn cael ei chymryd o'r ffurflen monitro cydraddoldeb ac mae'n bwysig eich bod yn cwblhau hyn fel rhan o'ch cais.

Philip Anderton - philip.anderton@gov.wales - 03000 625643

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.