Swydd Wag -- Dirprwy Gyfarwyddwr, Dysgu Digidol

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 1
tua £71,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

19/10/21 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae'r swydd hon yn gyfle i arwain ein dull gweithredu o ran Dysgu Digidol ledled Cymru – i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y profiad dysgu gorau posibl drwy ddefnyddio technoleg newydd ac arloesi, a bod ysgolion yn cael y llwyfannau a'r gallu digidol sydd 
eu hangen arnynt i helpu dysgwyr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld pwysigrwydd hanfodol llwyfannau digidol i gefnogi dysgu. Gan adeiladu ar waith yr Is-adran Dysgu Digidol dros y blynyddoedd diwethaf, llwyddodd ysgolion yng Nghymru yn gyflym i drosglwyddo’n llyfn i ddysgu o bell a dysgu cyfunol mewn ymateb i bandemig Covid-19. Bu'r tîm Dysgu Digidol hefyd 
yn gweithio gydag eraill i gyflwyno rhaglen uchelgeisiol i sicrhau bod gan ddysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yr offer yr oedd eu hangen arnynt i allu cymryd rhan mewn sesiynau dysgu drwy gydol y pandemig.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd hon rôl arweiniol allweddol wrth ddatblygu'r agenda hon yn y dyfodol. Bydd disgwyl iddo adeiladu ar waith rhaglen Hwb, a'r hyn a ddysgwyd yn ystod y pandemig, i sicrhau ein bod yn gwella ac yn datblygu Hwb ymhellach yn barhaus fel gwasanaeth blaengar, arloesol i athrawon, gan ddysgu i 
gefnogi cenhadaeth ein cenedl, Addysg yng Nghymru. 

Bydd hefyd yn rhan o agenda ddigidol uchelgeisiol a chyffrous yng Nghymru, gan weithio gyda Phrif Swyddogion Digidol Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a'r GIG, a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, i gyflawni uchelgeisiau Gweinidogol a nodir yn Strategaeth Ddigidol Cymru. 
Felly, bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag eraill o fewn y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod yr agenda ddigidol yn cael blaenoriaeth yn ein cenhadaeth addysg, ar lefel dysgu proffesiynol, cymwysterau a'r cwricwlwm. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb strategol dros ddatblygu a chyflawni polisi dysgu digidol, a bydd yn cyfarwyddo nifer o brosiectau lefel uchel sy'n ymwneud â blaenoriaethau Gweinidogol y bydd disgwyl iddo eu hyrwyddo yn unol â’r fanyleb, o fewn y gyllideb ac yn brydlon. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cyngor polisi a phroffesiynol i Weinidogion ar arfer gorau, tueddiadau wrth edrych i’r dyfodol, 
buddsoddiadau a gwerth am arian o fewn yr agenda dysgu digidol sy'n newid yn gyflym, a’r cyfan o fewn y dirwedd ddigidol ehangach. 
Mae'r Is-adran Dysgu Digidol yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, o fewn y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae'r Is-adran yn cynnwys 41 o staff, sydd wedi'u grwpio ar hyn o bryd mewn dwy gangen sy'n gyfrifol am gyllideb refeniw o £4.4 miliwn a chyllideb gyfalaf o £15 miliwn yn 2020-21, gan adlewyrchu'r blaenoriaethau presennol. Bydd cyllidebau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn unol â'r blaenoriaethau ar y pryd, a bydd angen i ddeiliad y swydd arwain y gwaith o wneud y gorau o fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru ym maes dysgu digidol drwy gydweithio a chyd-greu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr. O'r herwydd, mae angen lefel uchel o grebwyll masnachol, sgiliau cyfathrebu rhagorol a lefel uchel o hygrededd o fewn y sector.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Asesiadau ar gyfer ymgeiswyr a fydd yn cyrraedd y rhestr fer.

Profion Seicometrig Ar-lein – bydd y rhain yn cynnwys rhesymeg rifyddol a geiriol a thrafodaeth gyda seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein o fewn 10 diwrnod i'r cyfarfod i lunio’r rhestr fer. 
Os ydych wedi cwblhau'r profion seicometrig ar-lein yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ar gyfer swydd ar yr un radd, ni fydd angen ichi gwblhau'r profion hyn eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio penodol hwn.

Ymarfer Ymgysylltu â Rhanddeiliaid – bydd hyn yn digwydd ar 5 Tachwedd 2021.Bydd y gweithgareddau uchod yn rhan o’r asesiad cyffredinol sy’n ofynnol ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn yn ogystal â chyfweliad y panel dethol.Cyfweliadau’r Panel – mae’r rhain wedi’u trefnu ar gyfer 15 Tachwedd 2021.

Caiff pob un o’r uchod eu cynnal drwy Microsoft Teams

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Dylai’ch enw gael ei dynnu o'ch CV a'ch datganiad personol pan fyddwch yn 
cyflwyno eich cais.
15eg o Dachwedd 2021
SCSRecruitment@gov.wales

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.