Swydd Wag -- Uwch-arolygydd Gofal Iechyd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
£40,100, ond gall cyflog cychwynnol o hyd at £44,200 gael ei gynnig ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.

Pwrpas y swydd

  • Casglu a defnyddio gwybodaeth i helpu i sicrhau bod gweithgareddau AGIC yn canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion ac ansawdd, a'i bod yn llywio gwelliant mewn gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru (gan gynnwys Iechyd Meddwl).
  • Sicrhau y caiff rhaglen o weithgarwch arolygu, adolygu a/neu reoleiddio ei chynllunio a'i rheoli, ac yr adroddir arni, mewn modd amserol ac i safon broffesiynol.
  • Rheoli ac arwain timau (a allai gynnwys staff AGIC a/neu adolygwyr allanol o amrywiaeth o gefndiroedd) i gynnal arolygiadau ac adolygiadau i safon broffesiynol.
  • I arwain ar adolygiadau cenedlaethol a rhaglen o adolygiadau lleol/llywodraethu

Prif dasgau

Gellir gofyn i Uwch-arolygwyr Gofal Iechyd arwain timau sy'n delio â gwaith arolygu, adolygiadau neu weithgarwch rheoleiddio. Yn ystod eich gyrfa, cewch eich annog a'ch cefnogi i ennill profiad yn yr ystod o swyddogaethau yn AGIC. 


Tasgau sy'n benodol i'r swydd (ni fydd y rôl yn cynnwys pob un o'r tasgau hyn o reidrwydd)


Casglu a defnyddio gwybodaeth
1.    Gweithredu fel Rheolwr Cydberthynas â darparwyr gofal iechyd ledled Cymru, gan gasglu a dadansoddi gwybodaeth a'i hasesu i ganfod themâu allweddol a materion sy'n codi. 
2.    Cydweithio â gweithgareddau arolygu, rheoleiddio ac adolygu eraill, ac â rhanddeiliaid fel y bo'n briodol, i rannu gwybodaeth a datblygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith AGIC.
3.    Ystyried gwybodaeth sy'n peri pryder am ddarpariaeth gofal iechyd (y GIG a Gofal Iechyd Annibynnol) a gyflwynir i AGIC ac argymell camau am fewnbwn pellach gan AGIC. 
4.    Cydgysylltu ag achwynwyr yn uniongyrchol lle y bo'n briodol, a chyfarfod â nhw os oes angen i drafod eu pryderon, fel y gellir casglu'r wybodaeth sydd ganddynt a phenderfynu a yw eu gwybodaeth yn peri pryderon uniongyrchol o ran diogelu a/neu ddiogelwch cleifion, neu'n darparu tystiolaeth o fethiant systemig.
5.    Mynd ati'n barhaus i ddefnyddio'r wybodaeth a gesglir gan amrywiaeth o ffynonellau i gynnal asesiadau risg o'r systemau a'r gwasanaethau sy'n gweithredu ar wahanol lefelau ledled GIG Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, Sefydliadau Gofal Iechyd Annibynnol a gwasanaethau, er mwyn argymell camau i'w cymryd gan AGIC.  Gall y camau hyn gynnwys atgyfeirio pryderon at gorff arall sydd mewn gwell sefyllfa i fynd i'r afael â'r mater neu'r maes sy'n peri pryder. 

Cynllunio a chyflenwi
6.    Mynd ati'n rhagweithiol i ddatblygu, cynllunio, goruchwylio a sicrhau ansawdd y rhaglen flynyddol o weithgareddau y cytunwyd arni ar gyfer y tîm. Gallai hyn gynnwys: 
•    arolygiadau arferol o wasanaethau'r GIG a Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol mewn perthynas â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol / Safonau Gofal Iechyd perthnasol.
•    prosesau a systemau ar gyfer cofrestriadau, amrywiadau, ymholiadau a datgofrestriadau darparwyr gofal iechyd preifat a gwirfoddol. 
•    adolygiadau uchel eu proffil, a fydd yn cynnwys ystod amrywiol o randdeiliaid megis yr Heddlu, gwasanaethau Prawf, gwasanaethau carchardai ac Awdurdodau Lleol. 
7.    Gwneud gwaith fel y bo'n briodol i ymateb i faterion a phryderon newydd mewn perthynas â gofal iechyd yn ystod y flwyddyn, a allai gynnwys:
•    cynllunio, trefnu ac arwain adolygiadau ac arolygiadau, gan gynnwys darnau o waith uchel eu proffil.
•    sicrhau y caiff unrhyw gamau gorfodi posibl eu cymryd yn unol â'r fframwaith rheoleiddio a chanllawiau perthnasol.
•    gweithio gyda'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol i roi unrhyw gamau rheoleiddio neu orfodi ar waith. 
•    paratoi a, lle y bo'n ofynnol, cyflwyno tystiolaeth i'r Tribiwnlys Safonau Gofal neu'r Llysoedd. 
•    uwchgyfeirio pryderon i gyrff rheoleiddio proffesiynol megis y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. 
•    cydgysylltu â Llywodraeth Cymru a chyrff y GIG i roi mesurau arbennig ar waith. 
8.    Trefnu timau arolygu ac adolygu a sicrhau eu bod yn defnyddio ac yn rheoli mewnbwn priodol gan gymheiriaid ac adolygwyr lleyg sy'n berthnasol i bob agwedd ar waith AGIC, gan gynnwys y gwaith o ddatblygu dulliau newydd, pennu cwmpas gwaith adolygu, cyflawni gwaith maes a pharatoi adolygiadau. 

Adrodd a chymryd camau dilynol
9.    Paratoi a sicrhauansawdd adroddiadau i'w cymeradwyo'n derfynol i'w cyhoeddi, er mwyn sicrhau eu bod o ansawdd uchel a bod rhanddeiliaid allweddol wedi'u hystyried wrth eu hysgrifennu. Ar gyfer llawer o adroddiadau AGIC, gall fod angen darparu fersiynau hawdd eu darllen, neu fformatau amgen sy'n diwallu anghenion unigol.  
10.    Cyfrannu at ddigwyddiadau'r cyfryngau a'r wasg sy'n cyfleu rhaglen waith a chanfyddiadau AGIC.
11.    Cydweithio ag eraill er mwyn sicrhau y caiff camau dilynol priodol eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion a nodir yn ystod adolygiadau ac arolygiadau.

Effaith bersonol
12.    Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cydweithwyr yn AGIC, Llywodraeth Cymru, Darparwyr Gofal Iechyd, Arolygiaethau eraill a phroffesiynau gofal iechyd er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio i wella gwasanaethau gofal iechyd. 
13.    Rhoi cyngor arbenigol i gydweithwyr ac uwch-reolwyr. 

Tasgau cyffredin
1.    Rheoli, helpu ac arfarnu staff drwy brosesau sefydledig Llywodraeth Cymru.
2.    Cydweithio â chydweithwyr yn AGIC.
3.    Cyfrannu at weithgareddau corfforaethol AGIC a'u datblygu.
4.    Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau'r tîm.
5.    Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhan o'r Proffesiwn Arolygwyr Gofal Iechyd. Bydd disgwyl i chi lunio, cynnal a dilyn cynllun datblygiad proffesiynol priodol a chwblhau dysgu fel sy'n ofynnol gan AGIC.

Dyddiad Cau

29/11/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau ac ymddygiadau 

Gosod y Trywydd - Gwneud penderfyniadau effeithiol 
•    Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol

Ymwneud â phobl - Arwain a chyfathrebu
•    Cyfathrebu’n brydlon drwy ddefnyddio arddulliau a 
chyfryngau priodol, gan gynnwys sianeli digidol, er mwyn 
sicrhau bod gymaint o ddealltwriaeth ac effaith â phosibl 

Gwireddu canlyniadau - Rheoli gwasanaeth safonol
•    Gweithio gyda'r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni

Gwireddu canlyniadau - Cyflawni'n brydlon
•   Monitro eu gwaith eu hunain a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu’n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad


Meini prawf sy'n benodol i'r swydd 

1    Profiad o gynnal arolygiadau a/neu adolygiadau gan ddefnyddio fframwaith proffesiynol er mwyn sicrhau y caiff adolygiadau eu llunio'n briodol a'u bod yn seiliedig ar wybodaeth. 
2    Profiad o wahanol systemau rheoleiddio a fframweithiau safonau, a gwybodaeth amdanynt.  
3    Y gallu i nodi a sicrhau ansawdd canlyniadau a chanfyddiadau i ansawdd uchel, a chyfleu'r rhain yn glir ar lafar ac yn ysgrifenedig.  

Proses Asesu

Bydd y ceisiadau yn cael eu hasesu, ac yna cyfweliadau. Bydd yna brawf byr cyn y cyfweliad. Bydd cyfyngiad amser i'r prawf (tua 45 munud). Byddwn yn anfon y prawf trwy e-bost, 45 munud cyn y cyfweliad, yna yn gofyn iddynt baratoi nodyn briffio, a'i e-bostio yn ôl atom o flaen amser.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Zoe Weaver - HIW@gov.wales - 03000 628539

Sut i wneud cais

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.