Swydd Wag -- Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles - Cadw

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
SEO - £41,700 - £49,370
£37,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cadw yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru ac yn cyfuno swyddogaethau rheoleiddio, cynghori a grantiau yn yr amgylchedd hanesyddol ehangach â gwarchod, cynnal a chyflwyno’r casgliad cenedlaethol o henebion hanesyddol, gan gynnwys dau Safle Treftadaeth y Byd. 

Mae hon yn swydd ar lefel uwch yn Cadw yn darparu cyngor a chanllawiau ar faterion iechyd, diogelwch a lles ledled safleoedd Cadw (130 ar hyn o bryd), sy’n cynnwys trefniadau gweithio ar eich pen eich hun, gweithgareddau masnachol, digwyddiadau, adeiladu/cynnal a chadw a’r amgylchedd swyddfa. Bydd deiliad y swydd yn arwain o ran sicrhau bod Cadw yn cynnig amgylchedd diogel ar gyfer ymwelwyr a staff ar draws ei holl weithrediadau a bydd yn gweithio’n agos gyda thimau o weithwyr iechyd proffesiynol a staff arbenigol eraill i roi systemau a gweithdrefnau priodol ar waith i gefnogi ei nod. 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu prosesau a gweithdrefnau sy’n sicrhau bod Cadw yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol ar gyfer iechyd a diogelwch. Bydd yn cymryd rôl arweiniol wrth nodi’r risgiau a’r materion sy’n anochel i’n gwaith ac yn sbarduno gwelliannau parhaus ledled y sefydliad i hyrwyddo diwylliant iechyd, diogelwch a lles cadarnhaol. Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor proffesiynol i gydweithwyr ac uwch reolwyr i sicrhau bod gweithrediadau ar draws pob safle a changen yn cael eu rheoli’n ddiogel yn unol â gofynion deddfwriaethol a gofynion Llywodraeth Cymru, gan nodi lle mae angen addasu gweithdrefnau presennol neu safonol neu lle mae angen polisïau a gweithdrefnau newydd sy’n benodol i anghenion busnes Cadw. 

Bydd deiliad y swydd yn arwain adolygiad o bolisïau ac arferion presennol ac yn rhoi systemau a fframweithiau ar waith sy’n ofynnol i sicrhau cydymffurfiaeth. Byddant yn nodi rolau a chyfrifoldebau ar draws y sefydliad, yn gwneud cydweithwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau ac yn eu cefnogi i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol, drwy gyrsiau hyfforddiant, rhaglenni, deunydd cyfathrebu, mentora a ffyrdd priodol eraill. 

Bydd deiliad y swydd yn sbarduno gwelliannau parhaus i weithgareddau rheoli iechyd a diogelwch ac arferion gwaith drwy archwiliadau rhagweithiol, gweithio gyda chydweithwyr a nodi risgiau a chymryd camau priodol. 

Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar drwydded yrru gyfredol.

Prif dasgau

  • Datblygu, cynnal ac arwain ar brosesau rheoli risgiau iechyd a diogelwch Cadw gan sicrhau bod y dull sy’n cael ei ddefnyddio yn cwmpasu’r amgylchedd, systemau rheoli, y sefydliad a’i bobl (gan gynnwys staff a nifer fawr o ymwelwyr â safleoedd Cadw). 
  • Adolygu arferion a gweithdrefnau cyfredol yn erbyn gofynion deddfwriaethol ac arferion gorau a rhoi systemau a phrosesau ar waith i wneud gwelliannau a nodwyd.
  • Nodi bylchau o fewn polisïau/ arferion/gweithdrefnau presennol, gan ddatblygu a gweithredu systemau priodol i fynd i’r afael â risgiau a nodwyd. 
  • Sefydlu systemau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau bod Cadw yn gweithredu’n effeithiol yn unol â gweithdrefnau a gofynion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
  • Cyflawni, adolygu a dadansoddi trefniadau asesu risg presennol i sicrhau effeithlonrwydd a gweithrediad parhaus camau lliniaru, gan wneud newidiadau lle’n briodol mewn ymgynghoriad â staff cyfrifol. 
  • Datblygu a chynnal cofnod canolog o bob polisi iechyd a diogelwch, canllawiau a dogfennaeth drefniadol. 
  • Cynnal cofnod o dueddiadau/ materion a chynnal dadansoddiad rheolaidd i nodi camau ataliol a gwelliannau. 
  • Creu a gweithredu mesuriadau perthnasol i ddangos perfformiad iechyd a diogelwch a llunio adroddiadau rheolaidd ar gyfer Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Cadw, Tîm yr Uwch Reolwyr, Bwrdd Gweithredu newydd Cadw a Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at faterion allweddol, tueddiadau ac i ddangos cydymffurfiaeth neu fel arall. 
  • Darparu cyngor ac arweiniad proffesiynol i gydweithwyr ar bob mater sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, yn benodol, cefnogi cydweithwyr gyda chyngor arbenigol mewn perthynas â gweithgareddau newydd, e.e. digwyddiadau untro ar safle, cefnogi’r broses asesu risg a sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i leihau risgiau. 
  • Arwain drwy esiampl a dangos cymhwysedd technegol iechyd a diogelwch proffesiynol, gan ddal i fyny gydag arferion gorau drwy ddatblygu proffesiynol parhaus. 
  • Datblygu a gwella diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol i sicrhau a chynnal amgylchedd diogel i staff ac ymwelwyr. 
  • Adeiladu rhwydwaith o gydweithwyr ledled Llywodraeth Cymru a thu hwnt a chysylltu’n effeithiol â nhw fel y gall Cadw gyflawni ei ymrwymiadau iechyd a diogelwch yn effeithiol. 
  • Cynnal adolygiadau blynyddol o drefniadau gweithio unigol i sicrhau bod risgiau’n cael eu nodi a’u lliniaru, gan weithio’n agos gyda rheolwyr llinell i sicrhau cydymffurfiaeth. 
  • Datblygu amserlenni archwilio a phecynnau adnoddau a chynnal archwiliadau rheolaidd i bennu lefelau cydymffurfiaeth, aneffeithlonrwydd polisi a threfniadol, tra’n cefnogi datblygiad effeithlon cynlluniau gweithredu adferol i wella perfformiad. 
  • Gweithio gyda chydweithwyr i adolygu, diweddaru a drafftio polisïau iechyd, diogelwch a lles, gweithredu gweithdrefnau a chanllawiau gweithredu safonol ar gyfer staff. 
  • Cynnal gweithgarwch cyfathrebu rheolaidd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd a diogelwch, i ddiweddaru cydweithwyr ar ofynion newydd a gwybodaeth ac atgyfnerthu negeseuon diogelwch, gan ymateb yn briodol i faterion/ pryderon a godwyd a chefnogi dysgu a datblygu parhaus. 
  • Ymchwilio i ddamweiniau a digwyddiadau gan nodi tueddiadau ac atebion a gweithio gyda chydweithwyr i roi camau gwella ar waith. 
  • Nodi gofynion hyfforddiant iechyd a diogelwch pwrpasol a chyrchu darparwyr priodol yn unol â gweithdrefnau caffael Llywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd hon yn cynnig y cyfle i fod yn rhan o dîm ymroddgar sy’n gofalu am asedau hanesyddol Cymru gan alluogi ymwelwyr i gael mynediad i, mwynhau a datblygu eu dealltwriaeth o hanes Cymru. Mae Cadw yn sefydliad dysgu ac mae’n annog staff i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant priodol a nodir law yn llaw â datblygu proffesiynol parhaus.

Dyddiad Cau

14/10/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Newid a Gwella - Adolygu gweithdrefnau neu systemau yn rheolaidd gyda thimau er mwyn nodi gwelliannau a symleiddio prosesau a phenderfyniadau.
  2. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeh eang o dydtiolaeth / data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu'r costau, y manteision, y risgiau a'r ymatebion posibl.
  3. Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy'n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir oan fo angen.
  4. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Gweithredu fel aelod o dîm, gan dreulio amser yn creu ffocws cyffredinac ennyn ysbryd tîm.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Tystysgrif Gyffredinol NEBOSH mewn Iechyd Galwedigaethol a Diogelwch yn ddymunol, ynghyd â aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol (e.e. IOSH, ROSPA, IIRSM).
  2. Tystiolaeth o allu i weithredu a chynnal system rheoli iechyd a diogelwch effeithiol mewn sefydliad aml-safle mawr neu gymhleth. 
  3. Tystiolaeth o allu i fynd i’r afael yn gyflym â materion a risgiau allweddol a datblygu atebion addas.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Huw Davies - huw.davies@gov.wales - 03000 250374

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.