Swydd Wag -- Uwch-swyddog Gorfodi Morol (Gorfodi) x2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cangen Rheoli a Gorfodi
HEO - £32,460 - £39,690
Hyd at bwynt 3 ar raddfa gyflog yn dibynnu ar brofiad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru, Y De-orllewin
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

  • Mae Cangen Rheoli a Gorfodi Is-adran y Môr a Physgodfeydd yn gyfrifol am bob agwedd ar bysgod, pysgota a gorfodi rheolau pysgodfeydd. Strategaeth Pysgodfeydd Cymru yw sail polisi pysgodfeydd Cymru. Un o brif feysydd y polisi Pysgodfeydd yw Pysgota Môr. Mae'r maes hwn yn dod â staff i gysylltiad uniongyrchol â'r diwydiant pysgota, y mesurau technegol sy'n rheoli pysgota a gyda rhannau eraill o'r DU ac Ewrop.
  • Rydym yn chwilio am 2 Uwch-swyddog Gorfodi Morol (Arweinwyr Tîm) i reoli tîm ar wasgar o Swyddogion Gorfodi Morol i ddarparu gweithgareddau archwilio a gorfodi Pysgodfeydd a Môr ar ran Llywodraeth Cymru.
  • Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arolygu, rheoli ac ysgogi aelodau'r tîm i ddarparu gwasanaeth effeithiol ar ran Llywodraeth Cymru i randdeiliaid Morol yng Nghymru.
  • Fel arweinydd tîm, chi fydd y pwynt cyswllt ar gyfer holl aelodau'r tîm, felly dylai eich sgiliau cyfathrebu fod yn rhagorol. Dylech hefyd allu gweithredu'n broactif i sicrhau gweithrediadau esmwyth o fewn y tîm a chydweithio effeithiol.
  • Dylai deiliad y swydd allu arwain drwy osod enghraifft dda a chael y tîm i gyrraedd amcanion.
  • Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd dreulio peth o'i amser ar y môr i wneud gwaith gorfodi ar un o gychod patrolio pysgodfeydd Llywodraeth Cymru.

Prif dasgau

  • Rheoli, cydlynu, monitro a chyfarwyddo datblygiad gwaith Swyddogion Gorfodi Morol ar y tir gan gynnwys gosod amcanion clir i'r tîm, dirprwyo tasgau a gosod dyddiad cau ar gyfer gwaith.
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer pysgodfeydd masnachol yng Nghymru a'u gorfodi
  • Bod yn gyfrifol am weithredu a monitro gweithdrefnau rheoli iechyd a diogelwch y cytunwyd arnynt o fewn y tîm gan gynnwys asesiadau risg, systemau gwaith diogel a darparu Cyfarpar Diogelu Personol.
  • Deall deddfwriaeth pysgodfeydd yn iawn er mwyn rhoi cyngor a chyfarwyddyd i'r tîm
  • Cynnal archwiliadau o bysgodfeydd a materion yn gysylltiedig â'r môr ac arolygu yr holl archwiliadau gan eu tîm gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau a'r amserlenni gofynnol.
  • Trefnu a chyfrannu at hyfforddiant Swyddogion Gorfodi Morol, yn fewnol ac ar gyrsiau allanol.
  • Cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r diwydiant pysgota, rhannau eraill Llywodraeth Cymru, Adrannau eraill y Llywodraeth, yr Heddlu, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff statudol ac anstatudol.
  • Trefnu a chymryd rhan mewn dyletswyddau cysylltiadau cyhoeddus
  • Rhoi cyngor gweithredol ar faterion sy'n gysylltiedig â physgodfeydd i dimau eraill o fewn yr Is-adran Môr a Physgodfeydd yn ogystal â Llywodraeth Cymru yn ehangach.
  • Gwerthuso perfformiad y staff y maent yn rheolwyr llinell iddynt yn unol â gweithdrefnau a fabwysiadwyd.
  • Sicrhau bod y gweithdrefnau cofnodi gofynnol ar gyfer Swyddogion Gorfodi Morol ar y lan yn cael eu cwblhau a'u cyflwyno o fewn yr amserlenni gofynnol.                                    
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n cyd-fynd â gradd y swydd yr ydych yn cael cyfarwyddyd i’w cyflawni.

Cyfleoedd datblygu

Bydd gofyn i unigolion hyfforddi i ddod yn Swyddog Gorfodi Morol llawn.  Bydd angen rhyw flwyddyn o hyfforddiant a goruchwyliaeth a bydd yn cynnwys cyrsiau dwys mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Dyddiad Cau

31/12/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Meini Prawf Penodol i'r Swydd 

  1. Swyddog Gorfodi Morol Gwarantedig neu â phrofiad o weithio mewn swydd weithredol neu orfodi.
  2. Profiad blaenorol o weithio gyda a rheoli tîm ar wasgar.
  3. Sgiliau gweinyddol a sgiliau trefnu cryf iawn

Cymwyseddau

  • Sylweddoli faint o awdurdod sydd ganddynt i wneud penderfyniadau ac awdurdodi aelodau eraill o’r tîm i wneud penderfyniadau.
  • Cyfathrebu’n rheolaidd â staff, gan helpu i egluro nodau a gweithgareddau a’r cysylltiadau rhwng y rheini a strategaeth yr Adran.
  • Nodi a mynd i’r afael â gofynion neu fylchau o ran gallu ymhlith timau neu unigolion, er mwyn cyflawni gwaith heddiw ac yfory.
  • Rheoli, cefnogi ac ymestyn eu hunain a’u tîm yn llwyddiannus i gyflawni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Gofynion hanfodol


  • Trwydded yrru lawn y DU

Gofynion dymunol

  • Tystysgrif meddygol morwyr ENG1 (rhaid i ymgeiswyr ei phasio yn y cyfnod prawf o 6 mis)
  • STCW - Technegau Goroesi Personol (rhaid i ymgeiswyr eu pasio yn y cyfnod prawf o 6 mis)

Dyddiau Agored / Sesiynau Galw Heibio

Dewch draw i'n sesiynau galw heibio i:

  • Ddysgu mwy am y gwaith rydyn ni'n ei wneud;
  • Clywed gan Swyddogion Gorfodi Morol, staff Canolfan Monitro Pysgodfeydd Cymru a chriwiau cychod;
  • Cael gwybodaeth am y swyddi rydym yn eu hysbysebu;
  • Cael help gan reolwyr Adnoddau Dynol ar sut i lenwi'r cais ar-lein.

Cynhelir y sesiynau yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru:

Dydd Llun, 9 Rhagfyr - Penlle'r-gaer, Abertawe

Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr - Rhodfa Padarn, Aberystwyth

Dydd Gwener, 13 Rhagfyr - Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno

Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio trwy'r dydd ar yr amserau canlynol: 9am-11am, 12pm-1pm, 2pm-4pm, 5pm-6:30pm.

Does dim angen trefnu ymlaen llaw - dewch heibio pryd fynnoch.

Os nad yw'r dyddiadau/amserau uchod yn gyfleus, mae croeso ichi gysylltu â'r enw cyswllt ar yr hysbyseb.



Patrwm Gwaith

Bydd y swydd hon yn dod o dan gontract Oriau Blynyddol Llywodraeth Cymru a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i staff weithio nifer penodol o oriau’r flwyddyn ond bydd angen gweithio mwy o oriau ar adegau penodol a llai ar adegau eraill.  Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio oriau anghymdeithasol (gyda'r nos, dros nos ac ar benwythnos, i gyd-fynd â gweithgarwch pysgota) ac ar fwrdd Cychod Patrolio Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru 


Rhestr fer/sifftio

Bydd angen i chi sicrhau eich hun eich bod yn gallu darparu tystiolaeth ddigonol o'r sgiliau craidd, yr ymddygiadau a'r meini prawf penodol i'r swydd.   

Bydd tystiolaeth a ddarperir gan ymgeiswyr yn y cais a’r CV yn cael eu hasesu gan ddefnyddio matrics sgorio yn erbyn y meini prawf penodol i’r swydd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddianus yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

Dylid cynnwys tystiolaeth yn erbyn y meysydd cymhwysedd yn eich cais, ond dim ond yn y cyfweliad y caiff y rhain eu hasesu.

Tim Croucher - Tim.Croucher@gov.wales - 03000258757

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.