Swydd Wag -- Uwch-reolwr Marchnata – Busnes

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£53,440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 blwyddyn
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Prif ddiben y swydd hon yw ysgogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu gweithgareddau brand Cymru o safbwynt busnes drwy'r themâu canlynol: Dechrau busnesau; tyfu busnesau a buddsoddi mewn busnesau. Mae pwyslais penodol ar gaffael a chreu cynnwys a fydd yn cefnogi ymgyrchoedd.

Bydd deiliad y swydd yn sefydlu ffyrdd o adeiladau a chynnal cynnwys o ansawdd uchel, a fydd yn arwain at ragor o awdurdod ar-lein i godi ymwybyddiaeth o Gymru ac yn ysgogi pobl i weld Cymru fel cyrchfan busnes hyfyw.  

Disgwylir i ddeiliad y swydd arwain y gwaith o integreiddio gweithgareddau ymgyrchu yn gynllun cydlynus sy'n cynnwys cysylltiadau cyhoeddus, y cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau y telir amdanynt.   

Sicrhau bod y brand yn ganolig i bopeth mae'r tîm marchnata busnes yn ei wneud, gan sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau cyfathrebu’n cyd-fynd ag amcanion a gwerthoedd y brand. 

Prif dasgau

Arwain y gwaith o gaffael, creu a chydgysylltu cynnwys ar gyfer platfform digidol busnes Cymru a fydd yn tynnu sylw at Gymru fel cyrchfan busnes ar gyfer entrepreneuriaid, allforwyr a buddsoddwyr.

Rheoli cyllideb gwerth tua £2.4 miliwn y flwyddyn, gan sicrhau bod gwariant yn rhoi gwerth am arian a bod rheolaethau a phrosesau llywodraethu ar waith ac yn cael eu dilyn.

Datblygu polisïau golygyddol a goruchwyliaeth ar y gwaith o greu cynnwys, gan sicrhau bod cysylltiad clir â'r Rhaglen Lywodraethu ac amcanion ehangach brand Cymru.

Adeiladu rhwydwaith cefnogol ar gyfer rhanddeiliad mewnol ac allanol a fydd yn ysgogi ffrwd reolaidd o gynnwys, mewn fformatau gwahanol, y gellir ei ddefnyddio i ddenu ymwelwyr, ennyn diddordeb ac yn y pen draw annog pobl i weld Cymru fel cyrchfan busnes hyfyw.  

Sefydlu rhwydwaith o bartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol (gan gynnwys yr Adran Masnach Ryngwladol) a fydd yn gweithredu fel sianeli a derbynwyr cynnwys busnes Cymru.

Rheoli a hyfforddi tîm o reolwyr marchnata, a'r bobl sy'n adrodd iddynt yn uniongyrchol, i sicrhau bod gweithgareddau'n cyd-fynd â brand Cymru a themâu allweddol y cytunwyd arnynt – gyda'r nod o ysgogi ymwybyddiaeth o'r brand ac arwain cynhyrchu.  

Sicrhau bod arweinydd y contract cysylltiadau cyhoeddus yn ymwybodol o'r themâu y cytunwyd arnynt, ac yn canolbwyntio arnynt, er mwyn sicrhau bod y negeseuon allweddol yn derbyn sylw yn y cyfryngau perthnasol.

Monitro ac adrodd ar berfformiad marchnata, gan ddarparu adroddiadau a dadansoddiadau i Bennaeth Marchnata Busnes ar y gwahaniaeth rhwng yr rhagolygon a'r perfformiad gwirioneddol.  Darparu cyngor ar lle i ddechrau, stopio neu estyn gweithgareddau, neu eu hatal dros dro.

Arwain y gwaith o ddatblygu a chynnal cynnwys ar thema'r farchnad sy'n darparu cyfeiriad ar gyfer timau'r sector buddsoddi ac sy'n integreiddio â gweithgareddau datblygu busnes y Tîm Masnachu a Buddsoddi | Trawsnewidiad Diwylliannol a thimau rhanbarthol.

Gweithio gyda Phennaeth Marchnata Busnes i sefydlu partneriaethau sianel llwyddiannus i rannu negeseuon am frand Cymru – fel KLM / First Great Western / LinkedIn / gweithgareddau wedi'u targedu gyda chwmnïau hedfan perthnasol ym Maes Awyr Caerdydd ac ati.

Cynnal rhaglen i sicrhau dealltwriaeth gadarn er mwyn adeiladu sail dystiolaeth a fydd yn gwneud y canlynol: arwain y broses o wneud penderfyniadau a darparu atebion cadarn ynghylch gwerth marchnata a'i gyfraniad at amcanion strategol.  

Sicrhau bod gan dimau tramor y cynnwys a'r deunyddiau i ymgysylltu o fewn eu marchnadoedd lleol, er enghraifft, mewn tiriogaethau lle mae seiberddiogelwch yn cael ei hyrwyddo, dylai'r timau lleol fod â chynigion a gweithgareddau a deunyddiau ategol clir.

Ysgrifennu nodiadau briffio clir ar gyfer asiantiaid yn cefnogi targedau i gyflawni'r gweithgareddau priodol, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â'r amserlen, y gyllideb a’r safonau y cytunwyd arnynt.

Ymateb i ohebiaeth busnes y Llywodraeth a cheisiadau rhyddid gwybodaeth yn ôl angen, gan sicrhau ymatebion cyson a chynnal safbwynt clir y gellir ei amddiffyn. 

Parhau i fod yn ddiogon hyblyg i gefnogi adrannau masnach eraill pan fyddant o dan bwysau i gwblhau eu gwaith.

Cyfleoedd datblygu

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o Grŵp Rheoli Marchnata Grŵp yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad, ac yn gyfrifol am helpu i ysgogi newidiadau mawr ar draws y tîm. Bydd yn cael mynediad at amrediad o gyfleoedd gyrfa a datblygu sy'n ar gael i staff marchnata ar draws Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau

14/02/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

Pennu'r Cyfeiriad – Newid a Gwella:

Herio uwch-reolwyr mewn ffordd adeiladol ar gynigion ar gyfer newid a fydd yn effeithio ar eich maes eich hun. 

Cynnwys Pobl:

Egluro strategaethau a chynlluniau, gan gyfleu diben a chyfeiriad mewn modd clir a brwdfrydig. 

Cyflawni Canlyniadau – Sicrhau Gwerth am Arian:

Cael yr enillion gorau gan fuddsoddiadau a sicrhau bod mwy yn cael ei gyflawni am lai o fewn cyllidebau penodol drwy reoli adnoddau a sicrhau bod asedau’n cael eu defnyddio i’r eithaf. 

Cyflawni Canlyniadau – Gweithio'n Gyflym:

Adolygu, herio ac addasu perfformiad er mwyn sicrhau bod canlyniadau o safon yn cael eu gwireddu’n brydlon, yn ogystal â gwobrwyo llwyddiant.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Saith mlynedd neu fwy o brofiad ym maes marchnata – yn ddelfrydol gyda chefndir marchnata busnes-i-fusnes – gyda phwyslais ar farchnata digidol.
  2. Y cyfryngau cymdeithasol / cynllunio cynnwys
  3. Cymwysterau CIM / IDM / CIPR yn ddelfrydol.

 

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Paul Landricombe paul.landricombe@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.