Swydd Wag -- Dadansoddwr Desg Wasanaeth

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr Uned Dysgu Digidol
EO - £26,900 - £30,610
£27,400
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-orllewin
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cefndir

Llywodraeth Cymru yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru gyda chyllideb flynyddol o tua £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Caiff Gweinidogion Cymru eu cefnogi gan weithlu o fwy na 5,000 o weision sifil gyda swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel a thramor.

Caiff blaenoriaethau Llywodraeth Cymru eu hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen gydag uchelgais cyffredinol i greu Cymru sy'n wlad hunanhyderus, ffyniannus ac iach a chymdeithas sy'n deg i bawb. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi pennu blaenoriaethau clir i Gymru ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddenu pobl sy'n gallu rhoi cyngor a chymorth rhagorol, canolbwyntio adnoddau ac sy'n meddu ar egni ac arbenigedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn darparu cyd-destun ar gyfer ein gwaith. 

Mae'r gwaith o drawsnewid y gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hollbwysig i ddarparu'r gwasanaethau mae pobl Cymru yn eu disgwyl ac sydd eu hangen arnynt. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu nifer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ledled Cymru. Rydym hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ein gwefannau. 

Dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, Mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o wasanaethau ar-lein yn gynyddol. Mae ein Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth ymgynghori yn cynnwys arbenigedd digidol a data ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.

 

Dysgu yn y Gymru Ddigidol

Rhaglen weithredu Llywodraeth Cymru i wella'r defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer dysgu ac addysgu yw Dysgu yn y Gymru Ddigidol. Mae'r rhaglen addysg dyngedfennol hon yn rhoi mynediad parhaus i randdeiliaid ledled Cymru at ystod eang o offer ac adnoddau dwyieithog digidol a ariennir yn ganolog, sy’n gallu helpu i drawsnewid arferion addysg ddigidol.


Rôl

Bydd dadansoddwyr y ddesg wasanaeth yn delio â chwsmeriaid ac yn cyflawni tasgau fel cofnodi a datrys problemau, a byddant yn eu cyfeirio lle bo'n briodol.

Byddant yn sicrhau:

  • bod unrhyw beth a godir gan gwsmeriaid yn cael ei gofnodi a'i fonitro yn briodol, gan flaenoriaethu yn ôl yr angen
  • bod achosion sydd heb eu datrys yn cael eu monitro yn erbyn Cytundebau Lefel Gwasanaeth y cytunwyd arnynt
  • bod y Catalog Gwasanaethau yn cael ei ddiweddaru
  • bod cymorth yn cael ei roi i'r timau technegol ehangach.

 

Prif dasgau

  • Datrys y nifer gofynnol o broblemau gan ddefnyddwyr a nodir yn y cytundeb lefel gwasanaeth y cytunwyd arno
  • Dangos empathi i'r defnyddiwr
  • Defnyddio metrigau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i sicrhau canlyniad addas
  • Bod yn gyfrifol am gais hyd nes y bydd rhywun arall wedi ymgymryd â'r mater neu hyd nes y bydd y broblem wedi'i gwella neu ei datrys
  • Cymryd camau rhagweithiol i ddatrys problemau technegol 
  • Bod yn ymwybodol o wahanol nwyddau a gwasanaethau
  • Llunio'r adroddiadau gofynnol ar ffurf safonol ac o fewn amserlen y cytunwyd arni
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i drafod unrhyw newidiadau i'r prosesau adrodd
  • Ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o ddadansoddi profiad defnyddwyr a'i egwyddorion
  • Rhoi'r lle blaenaf i ddefnyddwyr a rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd. 

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.  Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o’i siapio a’i thyfu.

Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu sgiliau a medr ein staff ac yn annog eu bod yn defnyddio pum diwrnod o ddysgu’r flwyddyn.  Rydym yn cefnogi hyn gydag ystod o gyfleoedd gan gynnwys:

  • Cysgodi
  • Mentora
  • Dysgu wrth weithio
  • Cymwysterau
  • Hyfforddiant
  • Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)
  • Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau LlC a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau’r DU

Dyddiad Cau

14/03/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys:


• Cymorth er mwyn i bob gweithiwr cyflogedig wella neu feithrin ei sgiliau iaith Gymraeg
• Trafodaethau datblygu rheolaidd a’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn eich swydd ac er mwyn i chi dyfu
• Codiadau cyflog blynyddol, sy’n fodd i chi weithio eich ffordd i fyny’r raddfa gyflog o fewn 3-4 blynedd
• 31 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â diwrnod ar gyfer y Nadolig a Phen-blwydd y Fren-hines
• Cyfnod hael o absenoldeb rhiant, yn cynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cyflogedig cymwys
• Cynllun pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
• Cynllun Talebau Gofal Plant, gan arbed hyd at £933 y flwyddyn
• Cynllun Seiclo i’r Gwaith: dewiswch feic newydd sy’n werth hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
• Blaensymiau Cyflog: gallwch ofyn am flaensymiau cyn y Nadolig, ar gyfer offer cyfrifiadurol neu Flaendaliadau Tenantiaeth
• Benthyciadau Tocyn Tymor
• Polisi oriau hyblyg

Anthony Breach / Anthony.Breach@gov.wales / 03000 625 445

Sut i wneud cais

Fel rhan o'ch cais, byddwch cystal â pharatoi datganiad personol sy'n amlinellu sut yr ydych yn bodloni gofynion HANFODOL canlynol y rôl.  Ni ddylai'r datganiad personol fod yn fwy na dwy dudalen A4.

I lwyddo yn y rôl hon byddwch:

  • yn gweithio'n dda fel rhan o dîm ac yn gweithio'n effeithiol gyda holl elfennau TG
  • yn canolbwyntio ar gyflawni’n brydlon, ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb ac atebolrwydd am ganlyniadau safonol
  • yn gallu gweld, cyfleu a datrys problemau a chysyniadau
  • yn blaenoriaethu tasgau ac yn deall anghenion busnes
  • yn cymryd camau rhagweithiol i reoli problemau sy'n effeithio ar wasanaethau drwy ddefnyddio dulliau priodol o reoli rhaglenni, prosiectau a risgiau

 

Mae'r sgiliau technegol a ganlyn hefyd yn HANFODOL ar gyfer llwyddo yn y rôl hon. Byddwch cystal â sicrhau eich bod yn amgáu CV sy'n dangos eich gallu mewn perthynas â'r sgiliau hyn.

  • Gwybodaeth am adnoddau rheoli gwasanaethau TG (ITSM)
  • eisoes wedi cael o leiaf ddwy flynedd o brofiad ym maes Rheoli Gwasanaethau TG

 

GELLIR darparu tystiolaeth ychwanegol yn erbyn UNRHYW rai o'r cymwyseddau DYMUNOL canlynol sy'n benodol i'r swydd (ac fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng ymgeiswyr sydd ar lefel debyg).  Dylech gynnwys y dystiolaeth hon yn eich CV.

  • Yn gymwysedig ym maes ITIL i lefel sylfaen v3 o leiaf

 

GELLIR darparu tystiolaeth ychwanegol sy'n cyfeirio at brofiad o UNRHYW rai o'r sgiliau canlynol, sy'n cael eu hystyried yn DDYMUNOL ar gyfer y rôl (ac fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng ymgeiswyr sydd ar lefel debyg). 

  • Profiad o reoli prosiectau a rhaglenni, ee Agile / Prince 2

 

Dull Asesu

I wneud cais am y rôl hon, gofynnir ichi amgáu'r canlynol:

 

  • Datganiad Personol o addasrwydd yn esbonio sut y mae eich profiad a'ch sgiliau'n darparu tystiolaeth yn erbyn gofynion sylfaenol y swydd.  Ni ddylai'r Datganiad Personol fod yn fwy na dwy dudalen A4.

 

  • CV cyfredol, sy'n cynnwys tystiolaeth o'r sgiliau technegol hanfodol ac unrhyw alluoedd sy'n benodol i'r swydd lle bo’n briodol.

 

Os byddwch yn llwyddo adeg y sifft, cewch eich gwahodd i gyfweliad.  Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau â'ch profiad mewn perthynas â gofynion hanfodol y rôl.  Efallai y byddwn yn cynnwys prawf neu asesiad hefyd, os yw hynny'n briodol.

 

Ar ôl y cyfweliad, os ydych yn llwyddiannus, efallai y byddwn yn cadw'ch manylion am hyd at 12 mis ar restr wrth gefn, rhag ofn i swyddi tebyg ddod ar gael.

 

NODER: Mae'n bwysig eich bod yn amgáu’r ddwy ddogfen hyn (y Datganiad Personol a'r CV) yn eich cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                     

 

 

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.