Swydd Wag -- Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr
HEO - £32,460 - £39,690
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi a gweithredu argymhellion adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, yn unol ag Ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i fwrw ati â chynigion y Bwrdd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried argymhellion penodol, yn ogystal â chydweithio â rhanddeiliaid allweddol mewnol ac allanol er mwyn datblygu opsiynau polisi ar gyfer eu gweithredu.

Yn ôl yr angen, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gefnogi gwaith ehangach y gangen, yn enwedig o ran polisïau ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o fyd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, neu sydd mewn perygl o wneud hynny, yn ogystal â pholisïau ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o wynebu digartrefedd. Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at Ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gryfhau’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF).

Prif dasgau

  • Rheoli eich gwaith eich hun a blaenoriaethu tasgau er mwyn sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni’n brydlon ac i safon, defnyddio eich blaengaredd eich hun, gwneud penderfyniadau a rheoli risgiau fel y bo’n briodol.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu safbwyntiau polisi a chyflwyno argymhellion cadarn yn seiliedig ar dystiolaeth i uwch-reolwyr a Gweinidogion.
  • Cynnal asesiadau effaith ar y gwaith o weithredu’r argymhellion a’r gwaith cysylltiedig o ddatblygu polisi.
  • Datblygu a chynnal perthynas effeithiol â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol mewnol ac allanol i helpu i ddatblygu polisïau ac opsiynau ar gyfer eu gweithredu. Mae’r rhain yn cynnwys y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, arweinwyr strategol allweddol, unrhyw grwpiau sy’n cefnogi’r Bwrdd Gweithredu, y Pwyllgor Pobl Ifanc a chydweithwyr ar draws y llywodraeth.
  • Cyfrannu at ohebiaeth, cwestiynau’r Senedd a chyfarfodydd briffio Gweinidogol i safon uchel.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cynllun gweithredu sy’n sail i’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd hon yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth drwy ddod â’ch gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiadau gwerthfawr i un o adrannau’r llywodraeth. Byddwch hefyd yn gallu datblygu eich gallu a’ch sgiliau drwy gymryd rhan mewn ystod eang o waith hanfodol, gan gynnwys bwrw ati ag ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.

Dyddiad Cau

17/08/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Y Clwstwr Strategol – Gosod y Trywydd

  • Newid a Gwella: Bod yn barod i gymryd risgiau a reolir, gan sicrhau bod y rhain wedi’u cynllunio a bod eu heffeithiau yn cael eu hasesu.
  •  Gwneud Penderfyniadau Effeithiol: Croesawu heriau, a lle bo’n briodol, cynnwys eraill yn y broses o wneud penderfyniadau er mwyn helpu i ennyn diddordeb a chyflwyno argymhellion cadarn.

 Y Clwstwr Pobl – Ymwneud â Phobl

  •  Arwain a Chyfathrebu: Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

 Y Clwstwr Perfformiad - Gwireddu Canlyniadau

  •  Rheoli Gwasanaeth Safonol: Gwneud defnydd effeithiol o sgiliau a thechnegau rheoli prosiectau i wireddu canlyniadau, gan gynnwys nodi risgiau a chamau i’w lliniaru.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Profiad o ddatblygu polisïau a/neu raglenni sydd o fudd i blant a phobl ifanc.
  •  Y gallu i gydweithio, cyfathrebu’n effeithiol a meithrin perthynas broffesiynol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allanol ar wahanol lefelau.
  •  Rhoi barn gadarn gyda’r gallu i ddehongli gwybodaeth pan fo materion yn gymhleth neu’n gwrthdaro gyda’r gallu i bwyso a mesur nifer o ffactorau i lunio syniadau a datrysiadau cynhyrchiol.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Dyfan Evans - Dyfan.Evans@gov.wales - 03000 253700

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.