Swydd Wag -- Uwch-reolwr – Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
£39,310, ond gall cyflog cychwynnol o hyd at £43,760 gael ei gynnig ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Dwy flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGIC yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn gwneud yn siŵr bod cleifion yn derbyn gofal iechyd o ansawdd da. Un o flaenoriaethau strategol AGIC yw ‘bod yn fwy amlwg’. Bydd y swydd hon yn arwain y gwaith o gyflawni gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu AGIC, a bydd yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu AGIC i gyflawni ei hamcan strategol. 

Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Pennaeth Strategaeth, Polisi ac Ymgysylltu, a bydd yn rhoi cymorth a chyngor integredig ar gyfathrebu i AGIC. Bydd deiliad y swydd yn helpu i gyflawni blaenoriaethau allweddol AGIC drwy'r dulliau cyfathrebu mwyaf priodol. Bydd hyn yn cynnwys y cyfryngau, ymgysylltu â'r gymuned, ymgysylltu digidol, dulliau cyfathrebu mewnol a rheoli rhanddeiliaid. 


Prif dasgau

  • Gweithio gyda'r Pennaeth Strategaeth, Polisi ac Ymgysylltu i ddatblygu strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu a'i rhoi ar waith, gan sicrhau bod pob sianel yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni amcanion cyfathrebu strategol AGIC; gan ystyried sianeli cyfathrebu newydd yn ôl yr angen. 
  • Datblygu cynllun i gyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid allweddol, a'i roi ar waith. 
  • Arwain y gwaith o sicrhau cysylltiadau rhagweithiol ac ymatebol â'r cyfryngau, gan gysylltu â swyddfa'r wasg a thîm cyfathrebu canolog Llywodraeth Cymru lle y bo angen.  
  • Adolygu cynlluniau cyfathrebu a chynlluniau'r cyfryngau er mwyn sicrhau yr adroddir ar weithgareddau AGIC yn briodol ac yn gywir, gan sicrhau cymaint o sylw â phosibl. 
  • Cyfrannu at welliannau wrth ddylunio cyhoeddiadau AGIC a'u cyflwyno. 
  • Darparu cynnwys ar gyfer sianeli cyfathrebu AGIC a'i hyrwyddo, gan sicrhau bod arddull, iaith a fformat gohebiaeth wedi'u targedu'n effeithiol ac yn hygyrch, a'i bod yn cael ei darllen gan amrywiaeth o gynulleidfaoedd.  
  • Cefnogi proses monitro a gwerthuso gadarn er mwyn sicrhau bod gweithgarwch cyfathrebu yn cyfrannu'n uniongyrchol at amcanion strategol AGIC. 
  • Defnyddio canlyniadau adborth, profion/cynlluniau peilot a dangosyddion effeithiolrwydd i wella dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu AGIC. 
  • Sicrhau bod gweithgarwch cyfathrebu AGIC yn gyson â phartneriaid Arolygu Cymru lle y bo'n berthnasol. 
  • Nodi tueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio'r wybodaeth hon wrth ddatblygu cynnwys a sianeli. 
  • Cynrychioli AGIC mewn digwyddiadau ymgysylltu fel y bo'n briodol.

Cyfleoedd datblygu

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o Wasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth, ac yn cael cyfle i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd o ran gyrfa a chyfleoedd datblygu sydd ar gael i staff cyfathrebu ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dyddiad Cau

15/06/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Meysydd Cymhwysedd ac Ymddygiad Proffesiynol Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth sy'n Benodol i'r Swydd:  https://gcs.civilservice.gov.uk/publications/competency-framework/

Dealltwriaeth 

  • Bod yn ymwybodol o faterion a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg a allai effeithio ar waith personol neu waith y tîm neu a allai fod o fudd i'r gwaith hwnnw. 
  • Mynd ati i annog syniadau gan amrywiaeth o ffynonellau a rhanddeiliaid, a'u defnyddio er mwyn llywio ffyrdd o feddwl. 

Syniadau 

  • Dylunio strategaethau cyfathrebu integredig ac ystyried eu haddasrwydd mewn perthynas â chynlluniau presennol. 
  • Dechrau ac arwain y gwaith o ddatblygu ymgyrchoedd integredig ymatebol a rhagweithiol ar gyfer y cyfryngau, gan adeiladu ar ddata deall ac olrhain. 

Gweithredu 

  • Meithrin cydberthnasau ag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn helpu i gyflawni canlyniadau busnes.
  • Ymdrin â materion proffil uchel a sensitif yn y cyfryngau. Cydymffurfio â pholisïau cyfrinachedd a darparu briff clir a dibynadwy i'r cyfryngau a phartneriaid eraill. 

Effaith 

  • Datblygu cynigion i wella ansawdd y gwasanaeth gan gynnwys amrywiaeth eang o staff, rhanddeiliaid neu bartneriaid cyflenwi yn y broses honno. 
  • Dadansoddi tystiolaeth i asesu effeithiolrwydd cyfathrebu a nodi gwersi a ddysgwyd.

Meini Prawf sy'n Benodol i'r Swydd 

  1. Profiad perthnasol o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu prysur, gan gynnwys profiad amlwg o gysylltiadau rhagweithiol ac ymatebol â'r cyfryngau. 
  2. Profiad o weithio gyda nifer o randdeiliaid gwahanol i ddatblygu dulliau cyfathrebu effeithiol a phriodol. 
  3. Profiad o fonitro a gwerthuso gweithgarwch cyfathrebu er mwyn arwain at welliannau. 



Proses Asesu

Bydd y broses asesu yn cynnwys sifft trwy'r ceisiadau ac wedyn cyfweliadau.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Rebecca Jewell - rebecca.jewell@gov.wales - 03000 622121

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.