Swydd Wag -- Pennaeth Buddsoddi mewn Seilwaith a Datblygu - Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif (y De).

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynllunio Busnes a Llywodraethiant Addysg
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£50,870 gyda’r gallu i benodi hyd at bwynt 3 ar raddfa G7 ar gyfer ymgeisydd eithriadol.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd - Cynhelir adolygiad o’r anghenion gwaith a’r trefniadau cyllidol cyn y daw’r cyfnod 2 flynedd i ben i benderfynu a ddylid gwneud y penodiad yn barhaol, ar yr amod y bydd y cymeradwyaethau a’r cyllid priodol yn cael eu cadarnhau ar y pryd.
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Rheoli tîm bach wrth fynd ati i ddefnyddio’n effeithiol gyfalaf (tua £150m) a dyraniadau cyllid refeniw blynyddol i sefydliadau addysgol gan gynnwys Ysgolion, Addysg Bellach a Sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru fel ffordd o gynnal a gwella cyfleusterau er mwyn cynorthwyo gyda darpariaeth barhaus i ddysgwyr, gwell canlyniadau o ran cyrhaeddiad ac Ystâd Addysg gynaliadwy i Gymru. 

Bydd deiliad y swydd yn atebol i Gyfarwyddwr y Rhaglen a bydd yn arwain ac yn rheoli'r gwaith o fuddsoddi, datblygu a chyflawni rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru, Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif, ledled y De.


Prif dasgau

  • Gweithio gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach ac eraill i'w cynghori ar bolisi Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu achosion busnes i gefnogi prosiectau o fewn Rhaglen Ysgolion ac Addysg ar gyfer yr 21ain Ganrif.
  • Bod yn gyfrifol am gyflenwi a rheoli cyllidebau cyfalaf yr Adran Addysg yn effeithiol drwy wneud y canlynol:

- sicrhau taliadau cywir a phrydlon;
- dilyn prosesau cysoni a rheoli risg priodol sy'n rhan annatod o fesurau rheoli is-adrannau, grwpiau ac adrannau;
- bod yn rhagweithiol wrth fynd ati i Reoli Prosiectau, gan sicrhau prosesau adrodd priodol yn cynnwys darparu adroddiadau misol ar brif bwyntiau, gan gynnwys llithriant rhaglenni a gor-raglennu gwaith o dan reolaeth er mwyn cyflawni targedau diwedd blwyddyn; 
- cyflawni prosiectau yn erbyn amserlen a gytunwyd a phroffiliau ariannol o fewn blwyddyn ariannol;
- modelu a gweithredu prosiectau / rhaglenni o fewn cyllidebau cyfalaf a ddyrannwyd. 


  • Sicrhau bod systemau priodol ar gyfer llywodraethiant a rheolaeth ariannol yn eu lle a monitro gwariant yn erbyn y gyllideb yn fisol.
  • Cydweithio â thimau Archwilio Mewnol a Llywodraethiant Rhaglenni Llywodraeth Cymru i adolygu prosiectau/rhaglenni ac i roi pob argymhelliad sy’n deillio o’r broses ar waith.
  • Gweithio gyda chydweithwyr ar y rhaglen yn Llywodraeth Cymru a chyda rhanddeiliaid allanol wrth ddatblygu a chyflawni ymrwymiadau datgarboneiddio a chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru.
  • Gweithio'n agos gyda chydweithwyr i gyfrannu at reoli a chasglu'r holl ddata matrics eiddo a darparu atebion priodol ar gyfer hygyrchedd y data; yn enwedig mewn perthynas ag Arolwg Ystadau Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Arolwg Ystadau Addysg Bellach ac unrhyw ddata eiddo arall sydd ei angen i lywio'r gwaith o wireddu manteision y Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf. 
  • Rheoli a chwblhau'r broses o asesu cynigion buddsoddi'r holl randdeiliaid yn unol â model busnes 5 achos Trysorlys ei Mawrhydi, o'r cam Amlinelliad Strategol o'r Rhaglen i'r cam Achos Busnes llawn.
  • Rheoli a chwblhau'r broses o asesu cynigion buddsoddi Sefydliadau Addysg Bellach a Sefydliadau Addysg uwch sy’n darparu amlinelliad o gynllun buddsoddiad yn y dyfodol sy’n gydnaws â’r Rhaglen Ysgolion ac Addysg ar gyfer yr 21ain Ganrif.
  • Arwain y gwaith o gyflwyno achosion busnes/ceisiadau i sicrhau arian cyfalaf ychwanegol i'r safon a'r amserlen a osodir gan Cyllid Canolog.
  • Cefnogi'r gwaith o weinyddu a gweithredu Panel Buddsoddi Cyfalaf yr adran gan ddarparu adroddiadau rheolaidd ar brif bwyntiau a phapurau ad hoc yn unol â’r gwaith o reoli a chyflenwi cyllidebau rhaglenni.
  • Sefydlu a chynnal perthynas adeiladol â'r holl asiantau cyflawni (Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Addysg Bellach a Sefydliadau Addysg Uwch) a'u cynghorwyr technegol, gan reoli a sicrhau bod prosesau asesu ar gyfer buddsoddiadau cysylltiedig yn cael eu cwblhau.
  • Arwain ar bob mater sy'n ymwneud ag integreiddio strategaethau buddsoddi cyfalaf Gofal Plant, y Blynyddoedd Cynnar, a Cymru Ddigidol, gan alinio blaenoriaethau â rhaglenni Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif a sicrhau'r effeithlonrwydd a'r canlyniadau gorau posibl.
  • Arwain, darparu cyfeiriad a rheoli tîm y rhaglen wrth ragwerthuso achosion busnes gan sicrhau bod cyflwyniadau'n gydnaws â’r meini prawf dylunio a chost a gyhoeddwyd ar gyfer y rhaglen, gan gomisiynu ymgynghorwyr costau pan fo angen. 
  • Gweithio gyda Chyfrifydd y Rhaglen i broffilio gwariant cyfalaf a refeniw gan ddarparu rhagamcanion prydlon, cywir yn erbyn y rhaglen.
  • Dirprwyo ar ran Cyfarwyddwr y Rhaglen Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif pan fo angen, a helpu i baratoi a darparu adroddiadau i Fwrdd Rhaglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
  • Cyfrannu at ganllawiau a gwaith rheoli ar gyfer Iechyd a Diogelwch Ysgolion gan gynnwys materion yn ymwneud â ffabrig/cynnal a chadw/cyfalaf.
  • Cyfrannu at reoli Busnes y Llywodraeth a bennwyd gan Lywodraeth Cymru a swyddfa'r Gweinidog mewn perthynas â Rhaglenni a'r holl weithgareddau cysylltiedig.

Cyfleoedd datblygu

Mae Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif yn Rhaglen buddsoddi cyfalaf â phroffil uchel a fydd yn cynnig y buddsoddiad mwyaf mewn seilwaith addysgol ers y 1960au.

Bydd deiliad y swydd yn dod i gysylltiad sylweddol ag uwch randdeiliaid gan gynnwys Prif Weithredwyr awdurdodau lleol; Cyfarwyddwyr Addysg; penaethiaid colegau; a Chyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol.

Mae cyfle sylweddol i ddatblygu sgiliau rheoli prosiectau a rhaglenni ac i gael gwybodaeth ymarferol am Broses Achos Busnes Gwell y Trysorlys. Bydd cyfle hefyd i wneud cyflwyniadau mewn cynadleddau a digwyddiadau ar ran y Rhaglen.


Dyddiad Cau

20/06/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Newid a Gwella

  • Sylwi ar arwyddion bod pethau’n mynd o chwith ac ymateb yn gadarn i heriau mawr rhag cyflenwi.

Arwain a Chyfathrebu

  • Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Chwilio am ganlyniadau adeiladol i drafodaethau, gan herio rhagdybiaethau ond bod yn barod i gyfaddawdu pan fydd hynny‘n helpu i symud pethau yn eu blaenau.

Cyflawni’n Brydlon

  • Adolygu, herio ac addasu perfformiad er mwyn sicrhau bod canlyniadau safonol yn cael eu gwireddu’n brydlon, yn ogystal â gwobrwyo llwyddiant.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Profiad gwaith o reoli buddsoddiadau cyfalaf yn unol â Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM a methodoleg y Model Busnes 5 Achos.  Byddai profiad rheoli eiddo ac aelodaeth lawn o gorff proffesiynol sy'n gysylltiedig ag eiddo yn fantais.
  • Profiad o reoli grantiau neu gyllid ar raddfa fawr yn y sector cyhoeddus mewn maes rhaglen gan gadw at safonau amser, cost ac ansawdd.
  • Y gallu a'r profiad o weithio gydag ystod eang o randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyflawni canlyniadau strategol.



Proses Asesu

Bydd y broses gyfweld yn rhithiol, gan ddefnyddio ‘Microsoft Teams’. Bydd ymgeiswyr yn cael eu profi yn erbyn yr holl gymwyseddau a manylion swydd a fydd yn gyfuniad o gwestiynau, cyflwyniad a chwestiwn senario.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Neal O'Leary - neal.oleary@gov.wales - 03000 256075

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.