Swydd Wag -- Uwch Swyddog y Wasg

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Cyfathrebu
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700 - gellir cynnig £44,200 i ymgeiswyr eithriadol yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad. Nid oes sicrwydd o hyn ac mae'n parhau yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Unrhyw leoliad ar draws Cymru gyda theithio rheolaidd i Gaerdydd (tua unwaith bob pythefnos) i gwrdd â'r angen busnes.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Fel Uwch Swyddog y Wasg, byddech yn arwain ar gyfathrebu rhai o'r materion pwysicaf ac uchel eu proffil sy'n wynebu Cymru heddiw. Byddech yn gweithio ochr yn ochr â'n timau cyfathrebu corfforaethol ac adrannol i ddatblygu cynnwys creadigol ac effeithiol ar ran Gweinidogion a Llywodraeth Cymru yn ehangach.

Cefndir

Mae swyddfa'r wasg Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o Wasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru, gan ddarparu gwasanaeth newyddion 24/7.

Mae swyddfa'r wasg yn lle prysur a diddorol i weithio, sy'n trin llawer o ymholiadau yn y cyfryngau, tra hefyd yn datblygu cyfleoedd rhagweithiol, creadigol i hyrwyddo'r Llywodraeth. 

Y rôl

Gan weithio gyda chydweithwyr polisi, marchnata a digidol, byddwch yn arwain ar gyfleu ein negeseuon trwy'r cyfryngau, gan ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd a datblygu ymgyrchoedd cyffrous. 

Byddwch yn rhoi cyngor a chefnogaeth y cyfryngau dibynadwy i Weinidogion ac uwch-swyddogion.

Mae datblygu perthynas weithio gref ac adeiladol gyda newyddiadurwyr yn allweddol i'r rôl, yn ogystal ag estyn allan at ffigurau dylanwadol ac arbenigwyr allanol allweddol.

Mae sicrhau sylw cadarnhaol yn y cyfryngau yn rhan ganolog o'r swydd, felly mae synnwyr da am newyddion, creadigrwydd a brwdfrydedd yn hanfodol. Rhan fawr o hyn yw llwyddo i werthu straeon i olygyddion newyddion a newyddiadurwyr - felly, rydyn ni'n chwilio am rywun sydd ag agwedd gadarnhaol ac ymroddedig.

Wrth ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i newyddion sy’n torri, mae'n rhaid i chi allu darogan problemau posibl all godi yn y dyfodol. Gan weithio gyda'ch rheolwr llinell a thîm swyddfa'r wasg, byddwch yn gweithredu strategaethau rheoli argyfwng os ydynt yn codi.

Fel aelod o'n swyddfa'r wasg, bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y rota dyletswydd y tu allan i oriau, ac mae goramser yn cael ei dalu.

Prif dasgau

Gan weithio i'ch Prif Swyddog y Wasg, a dirprwyo ar eu cyfer pan fydd angen, byddwch yn:

  • Gweithio'n agos gyda Gweinidogion, uwch-swyddogion polisi a thimau cyfathrebu i ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd cyfryngau creadigol a dychmygus;
  • Meithrin cysylltiadau cryf â chyfryngau y DU, Cymru, rhanbarthol ac arbenigol, yn ogystal â llwyfannau digidol allweddol;
  • Ymateb yn gyflym ac yn gywir i ymholiadau gan y cyfryngau a straeon newyddion sy’n torri, gan sicrhau eich bod yn edrych i’r dyfodol i ragweld problemau;
  • Cywiro a gwrthbrofi straeon newyddion anghywir pan fo angen.
  • Defnyddio crebwyll rhagorol er mwyn rhoi cyngor dibynadwy i Weinidogion ac uwch-gydweithwyr polisi;
  • Cefnogi'r Prif Swyddog y Wasg wrth reoli tîm y wasg, gosod blaenoriaethau a rheoli llif gwaith, darparu arweinyddiaeth ac arweiniad a chefnogi eu datblygiad;
  • Defnyddio sgiliau mewnwelediad a gwerthuso i dargedu cyfathrebu ac asesu effaith, gan ddefnyddio'r wybodaeth i wella'n barhaus;
  • Arddel safonau proffesiynol uchel, gan gynnwys sgiliau ysgrifennu da iawn;
  • Dilyn datblygiadau yn y byd cyfathrebu ac addysgu cydweithwyr;
  • Gweithio gyda chydweithwyr cyfathrebu mewn disgyblaethau eraill i ddarparu gweithgarwch cyfathrebu strategol trawsbynciol a datblygu gwybodaeth ehangach am yr holl waith cyfathrebu;
  • Bod yn rhan o rota dyletswydd swyddfa'r wasg, gan ddarparu gwasanaeth cyfryngau 24/7 ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl yn rhan o broffesiwn Cyfathrebu Llywodraeth Cymru. Mae hon yn rôl heriol, werth chweil mewn maes cyfathrebu allweddol sydd yng nghraidd y Llywodraeth. Mae'r swydd yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau ym meysydd y wasg a'r cyfryngau, yn ogystal â phrofiad o weithio'n agos gyda Gweinidogion, cynghorwyr arbennig ac uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau

24/03/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Mae'r sgiliau penodol canlynol yn HANFODOL ar gyfer y rôl hon.  Sicrhewch fod eich llythyr eglurhaol yn dangos eich gallu a'ch profiad mewn perthynas â'r sgiliau hyn.

  • Y gallu i gynllunio strategaethau ac ymgyrchoedd cyfryngau creadigol wedi'u targedu;
  • Sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol; gan gynnwys sgiliau ysgrifenedig ardderchog;
  • Y gallu i feithrin perthynas gref gyda newyddiadurwyr a phartneriaid allweddol eraill;
  • Y profiad o reoli a datblygu tîm, gosod blaenoriaethau, rheoli llif gwaith, a darparu arweinyddiaeth;
  • Y gallu i feithrin cysylltiadau cryf gyda chyfryngau y DU, Cymru, rhanbarthol ac arbenigol, yn ogystal â llwyfannau digidol allweddol.

Y broses asesu

I wneud cais am y rôl hon, atodwch CV gyfoes, a llythyr cais sy'n nodi'r meini prawf hanfodol sy'n benodol i'r swydd (uchod). Rhaid i bob un o'r rhain fod yn ddim mwy na dwy ochr i A4.

Sicrhewch fod eich llythyr cais yn adlewyrchu'n y meini prawf hanfodol sy'n benodol i’r swydd yn llawn. Wrth i'r meini prawf sy'n benodol am swyddi gael eu sgorio, byddem yn argymell eich bod yn rhoi enghreifftiau clir i bob un, gan gynnwys effaith eich gweithredoedd. 

Os byddwch yn llwyddiannus yn y rownd didoli, fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymarfer ysgrifenedig a chyfweliad.

Bydd yr ymarfer ysgrifenedig yn dangos tystiolaeth o'ch sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, iaith Gymraeg a thrin y cyfryngau. Bydd manylion pellach am yr ymarfer ysgrifenedig ar gael i chi cyn eich cyfweliad.

Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a'ch profiad mewn perthynas â'r rôl, yng nghyd-destun y chwe ymddygiad isod.

Proffil llwyddiant y Gwasanaeth Sifil:

Cyfathrebu a dylanwadu: Dangoswch bositifrwydd a brwdfrydedd tuag at waith, gan annog eraill i wneud yr un peth.

Cyflawni ar gyflymder: Gweithredwch yn brydlon i ailasesu llwyth gwaith a blaenoriaethau pan fo gofynion croes i gynnal perfformiad.

Fframwaith Gwasanaeth Cyfathrebu y Llywodraeth:

Mewnwelediad: Adolygu cynlluniau cyfathrebu a chyfryngau i sicrhau bod gweithgareddau'n adlewyrchu datblygiadau polisi a'r agenda newyddion sy'n dod i'r amlwg.

Syniadau: Gweithio'n adeiladol gyda chydweithwyr polisi a phartneriaid er mwyn sicrhau barn arbenigol.

Gweithredu: Dangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig cryf. Rhoi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr ar ysgrifennu'n glir ar gyfer cynulleidfaoedd targed.

Effaith: Dadansoddi canlyniadau monitro'r cyfryngau i asesu effeithiolrwydd strategaethau cyfryngau a llywio ymgyrchoedd cyfryngau rhagweithiol ac adweithiol yn y dyfodol.

Yn dilyn y cyfweliad, os byddwch yn llwyddiannus, efallai y byddwn yn cadw eich manylion am hyd at 12 mis ar restr wrth gefn pe bai swyddi tebyg eraill ar gael.

Proses Asesu

I wneud cais am y rôl hon, atodwch CV gyfoes, a llythyr cais sy'n nodi'r meini prawf hanfodol sy'n benodol i'r swydd (uchod). Rhaid i bob un o'r rhain fod yn ddim mwy na dwy ochr i A4.

Sicrhewch fod eich llythyr cais yn adlewyrchu'n y meini prawf hanfodol sy'n benodol i’r swydd yn llawn. Wrth i'r meini prawf sy'n benodol am swyddi gael eu sgorio, byddem yn argymell eich bod yn rhoi enghreifftiau clir i bob un, gan gynnwys effaith eich gweithredoedd. 

Os byddwch yn llwyddiannus yn y rownd didoli, fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymarfer ysgrifenedig a chyfweliad.

Bydd yr ymarfer ysgrifenedig yn dangos tystiolaeth o'ch sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, iaith Gymraeg a thrin y cyfryngau. Bydd manylion pellach am yr ymarfer ysgrifenedig ar gael i chi cyn eich cyfweliad.

Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a'ch profiad mewn perthynas â'r rôl, yng nghyd-destun y chwe ymddygiad isod.

Proffil llwyddiant y Gwasanaeth Sifil:

Cyfathrebu a dylanwadu: Dangoswch bositifrwydd a brwdfrydedd tuag at waith, gan annog eraill i wneud yr un peth.

Cyflawni ar gyflymder: Gweithredwch yn brydlon i ailasesu llwyth gwaith a blaenoriaethau pan fo gofynion croes i gynnal perfformiad.

Fframwaith Gwasanaeth Cyfathrebu y Llywodraeth:

Mewnwelediad: Adolygu cynlluniau cyfathrebu a chyfryngau i sicrhau bod gweithgareddau'n adlewyrchu datblygiadau polisi a'r agenda newyddion sy'n dod i'r amlwg.

Syniadau: Gweithio'n adeiladol gyda chydweithwyr polisi a phartneriaid er mwyn sicrhau barn arbenigol.

Gweithredu: Dangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig cryf. Rhoi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr ar ysgrifennu'n glir ar gyfer cynulleidfaoedd targed.

Effaith: Dadansoddi canlyniadau monitro'r cyfryngau i asesu effeithiolrwydd strategaethau cyfryngau a llywio ymgyrchoedd cyfryngau rhagweithiol ac adweithiol yn y dyfodol.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

Trafodaethau datblygu aml a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch ar gyfer eich rôl ac i dyfu.

  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â diwrnod ar gyfer y Nadolig a Phen-blwydd y Brenin
  • Cyfnod absenoldeb rhiant hael, gan gynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cymwys
  • Cynllun pensiwn hael gyda chyfraniadau cyflogwr
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith: dewiswch feic newydd sbon hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
  • Cyfran o’r Cyflog o Flaen Llaw: ceisiadau am arian ar gyfer y Nadolig, offer cyfrifiadurol neu Adneuon Tenantiaeth
  • Benthyciadau Tocynnau Tymor
  • Polisi oriau hyblyg

Bydd secondiadau hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o'r cynllun hwn. Mae secondiadau ond ar agor i’r rhai sydd ddim yn weision sifil, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus sy'n ymgymryd â'r opsiwn hwn yn aros ar delerau ac amodau eu cyflogwr.

ExternalRecruitment@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.