Swydd Wag -- Rheolwr Arolygu Awdurdodau Lleol - Cymraeg

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£43,760) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Caerfyrddin, Merthyr, Cyffordd Llandudno
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Mae Arolygu Awdurdodau Lleol yn swyddogaeth allweddol wrth sicrhau y caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol diogel ac o ansawdd da eu darparu i ddinasyddion Cymru. Mae rôl Rheolwr Arolygu Awdurdodau Lleol yn hanfodol wrth roi sicrwydd ac ysgogi gwelliant o ran ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Prif dasgau'r Rheolwr Arolygu – Tîm Arolygu Awdurdodau Lleol yw cefnogi a helpu'r uwch-reolwr i adolygu ac arolygu awdurdodau lleol, a chraffu arnynt. Bydd y Rheolwr Arolygu yn helpu ac yn cefnogi'r Uwch-reolwr gyda'r gwaith o ddarparu rhaglen waith genedlaethol y cytunwyd arni yn effeithiol, yn amserol ac yn effeithlon. Mae'r tîm awdurdod lleol wrthi'n ailddylunio ei ddull o fonitro, adolygu ac arolygu. Bydd datblygu'r gwaith hwn yn agwedd allweddol ar y rôl.

Bydd y rôl yn arwain y gwaith o ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofalwyr. Cyflawnir rhywfaint o'r gwaith yn rhiwthwir, er y bydd rhywfaint o waith wyneb yn wyneb yn y dyfodol, yn enwedig wrth ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

Bydd Rheolwyr Arolygu yn atebol i Uwch-reolwr. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni'n effeithiol ac yn amserol ym mhob agwedd ar waith gydag awdurdodau lleol.

Cynhelir arolygiadau ledled Cymru. Efallai y bydd yn ofynnol i chi deithio ledled Cymru – er bod y gweithgarwch arolygu yn cael ei gynnal o bell ar hyn o bryd, byddwn yn gweithio i gynyddu ein cyswllt wyneb yn wyneb â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gan fod llais y defnyddiwr wrth wraidd popeth a wnawn.

Bydd angen i chi feddu ar sgiliau TG digonol, gan gynnwys PowerPoint, Excel a Word. Mae profiad o weithio ar raglenni datblygu a newid yn fuddiol.

Prif dasgau

  • Helpu i arolygu awdurdodau lleol, gan gynnwys cynnal adolygiadau ffeiliau a chyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol, casglu a dadansoddi tystiolaeth a sicrhau bod cofnodion manwl yn cael eu cadw.
  • Cyfrannu at ddadansoddi gwybodaeth a data perfformiad, darllen, craffu a syntheseiddio dogfennau allweddol a ddarperir gan awdurdodau lleol a gweithio'n agos gyda'r tîm o ddadansoddwyr.
  • Arwain gweithgareddau ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a'u gofalwyr, gan ystyried materion amrywiaeth a chydraddoldeb a defnyddio amrywiaeth o dechnegau i hwyluso cyfraniad.
  • Datblygu adnoddau a methodolegau i ategu gwaith y tîm arolygu awdurdodau lleol.
  • Cefnogi'r uwch-reolwr yn y rôl gyswllt ag awdurdodau lleol, cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol a gwerthuso perfformiad.
  • Mae'r tîm awdurdod lleol wrthi'n ailddylunio ei ddull o fonitro, adolygu ac arolygu. Bydd datblygu'r gwaith hwn yn agwedd allweddol ar y rôl.
  • Arwain y gwaith o gynllunio ymlaen llaw a chydlynu gwaith monitro, arolygu ac adolygu mewn nifer o awdurdodau lleol, gyda chymorth priodol.
  • Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, lle caiff materion amrywiaeth a chydraddoldeb eu hystyried yn llawn a'u hintegreiddio mewn ymarfer rheoleiddio, a gweithredu fel hyrwyddwr newid fel sy'n ofynnol gan y sefydliad.
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru yn y maes cyfrifoldeb.
  • Helpu i gynnal archwiliadau ac adolygiadau sicrhau ansawdd yn ôl y gofyn.
  • Ystyried cynrychiolaethau yn unol â'r rota y cytunwyd arno.
  • Gweithio'n agos gyda'r rheolwyr tîm yn y timau arolygu rheoleiddiol i rannu gwybodaeth a fydd yn llywio penderfyniadau.
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi a deddfwriaeth berthnasol, ynghyd â'r arferion gorau mewn meysydd a nodir a rhannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr.
  • Cydgysylltu'n agos â rheolwyr tîm yn y timau cofrestru a gorfodi i rannu gwybodaeth a fydd yn llywio penderfyniadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Rheolwr Llinell.
  • Darparu rheolaeth linell ar gyfer rheolwyr cymorth arolygu yn ôl yr angen.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

29/11/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Ceisio deall y modd y mae gwasanaethau, gweithgareddau a strategaethau yn yr ardal yn gweithio gyda'i gilydd i roi gwerth i'r cwsmer/defnyddiwr.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.

Arwain a Chyfathrebu

  • Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

Cyflawni'n Gyflym

  • Blaengynllunio ond ailasesu llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd pobl yn wynebu gofynion sy'n gwrthdaro.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

1) Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) y mae ganddynt brofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.

Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

a) Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
b) cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
c) cymhwyster addysgu neu addysg,
d) gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
e) Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

2) Profiad ôl-gymhwyso perthnasol o wasanaethau i oedolion, pobl hŷn neu blant.

3) Profiad o wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar lefel uwch-ymarferydd a/neu brofiad o gynnal arolygiadau.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

Gan fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ar gyfer dau gwestiwn, o leiaf, o'r meini prawf cymhwysedd neu feini prawf penodol i'r swydd yn yr iaith amgen. Er enghraifft, os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, dylai dwy o'r enghreifftiau, o leiaf, gael eu hysgrifennu yn Gymraeg. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, dylai dwy o'r enghreifftiau, o leiaf, gael eu hysgrifennu yn Saesneg.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Proses Gwneud Cais

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru sef ffurflenni cais a chyfweliadau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddiwch ddull STAR wrth roi tystiolaeth.

Cyn gwneud cais ar gyfer ein rolau, e-bostiwch CIWHR@gov.wales i gael gwybodaeth fanylach am sut i wneud hynny.

Swyddi sydd ar gael

Un swydd sydd ar gael

  • 1 x Rheolwr Arolygu Awdurdod Lleol wedi'i leoli ym Merthyr, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol

Bydd angen teithio ledled Cymru.

Cedwir rhestr wrth gefn o ymgeiswyr y gellir eu penodi i rôl o'r un fath o fewn 12 mis i'r cynnig cychwynnol os bydd swydd addas, sy'n cyd-fynd â'u lleoliad, yn codi.

Cyflog a Lwfansau

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur yn ofynnol.

Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£43,760) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos.

CIWHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.