Swydd Wag -- Lleoliad i Fyfyriwr

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Busnes a Rhanbarthau
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£20,500
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Arall
lleoliad ar gyfer Myfyrwyr Israddedig
50 Wythnos
Y De-ddwyrain
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Llywodraeth Cymru yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl Cymru ac i wneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio ynddi. Mae’n gwaith yn effeithio ar bron bob agwedd o fywydau pobl Cymru. Cyfrifoldeb Adran yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol yw creu economi lewyrchus a gwnawn hynny trwy:

 

Prif dasgau

Gweithio gyda phartneriaid a chontractwyr i hyrwyddo strategaethau'r adran gan gynnwys cyflawni yn erbyn ymrwymiadau o dan y Cynllun Gweithredu Economaidd
Cynorthwyo’r timau a’r partneriaid i drefnu a i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau arbennig yng Nghymru ar gyfer sefydliadau a phobl ifanc.
Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a darparu cynnwys gwefan a sianelau’r tîm ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cynorthwyo i ymchwilio i destun ar gyfer y wefan, e-gylchlythyrau, cyhoeddiadau ac adroddiadau, eu drafftio a’u prawfddarllen.  
Cydweithio â chyflenwyr contractau allanol i ddarparu gwasanaethau gan gynnwys astudiaethau achos ar ffurf copi caled a fideo.
Rhoi cefnogaeth weinyddol i’r timau gan gynnwys cynnal taenlenni prosiectau, goruchwylio tasgau caffael a diweddaru cofnodion ariannol.

Cyfleoedd datblygu

Gweithio gyda’r llywodraeth a chyfrannu’n uniongyrchol at strategaeth genedlaethol

Cysylltu â phobl ifanc a busnesau arloesol a’r mudiadau sy’n gweithio gyda nhw, a dylanwadu arnyn nhw.

Meithrin rhwydweithiau a sgiliau cyfathrebu lefel uchel.

Cynigir cyfleoedd rhagorol i’r myfyriwr ennill profiad eang o bob agwedd ar fusnes, yn enwedig o ran rheoli prosiectau, cyfathrebu a gweithio mewn tîm.

Bydd cyfle i’r myfyriwr wneud dyletswyddau y tu allan i’r swyddfa a gweithio ar nifer o brosiectau, gan elwa yn arbennig ar fod yn bresennol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled y wlad.

Dyddiad Cau

20/04/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Gosod y Trywydd

Casglu gwybodaeth o amryw o ffynonellau perthnasol yn eu hadran a thu hwnt, i lywio eu gwaith eu hunain.

Ystyried goblygiadau eu penderfyniadau cyn cadarnhau sut i fynd i’r afael â phroblem/mater.

Ymwneud â Phobl

Gofyn am gymorth pan fo angen er mwyn cwblhau eu gwaith eu hunain yn effeithiol.

Gwireddu Canlyniadau

Dysgu am anghenion cwsmeriaid a chyflenwyr.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

Cyfrannu’n rhagweithiol i waith y tîm cyfan

Meini prawf penodol i'r swydd

Defnyddio offerynnau TG a gwasanaethau gwybodaeth yn effeithiol i gyflawni amcanion gwaith
Arddangos y gallu i reoli amryw o brosiectau ac ymgysylltu’n effeithiol â phartneriaid, cyflenwyr ac aelodau o’r tîm
Sgiliau cyfathrebu da i baratoi deunydd ysgrifenedig a chynrychioli Llywodraeth Cymru mewn digwyddiadau

Proses Asesu

Bydd y broses ymgeisio yn didoli ymgeiswyr gan ddefnyddio'r holl gymwyseddau. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ei gwahodd i gyfweliad ar-lein lle mae'r cymwyseddau hyn yn cael eu profi.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Byddai’r lleoliadau’n addas i rywun sydd â diddordeb mewn arloesi ac entrepreneuriaeth, neu fyfyriwr sydd am ddechrau ei fusnes ei hun.
Jennifer Clark - Jennifer.Clark@gov.wales - 03000616040

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.