Swydd Wag -- Swyddog Ystadegol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Proffesiwn Ystadegau
EO - £26,900 - £30,610
£26,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
Wythnos yn cychwyn 8fed a'r 15eg Fai

Pwrpas y swydd

Mae nifer o swyddi ar gael. Caiff ymgeiswyr eu penodi yn ôl teilyngdod, a chedwir rhestr wrth gefn am gyfnod o 12 mis rhag ofn y bydd rhagor o swyddi'n codi.

Rôl ystadegwyr Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau, dyrannu adnoddau, ymchwilio a thrafod yn y llywodraeth ac yn y gymuned ehangach, drwy ddarparu gwasanaethau ystadegol dibynadwy ac effeithlon. Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys addysg, iechyd, tai, tlodi, cyfiawnder cymdeithasol, diwydiant, yr economi, llywodraeth leol, trafnidiaeth, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, demograffeg a'r Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'n hystadegwyr yn cydweithio mewn hyb canolog o ddadansoddwyr, sef yr Is-adran Gwasanaethau Ystadegol; fodd bynnag, mae nifer bach o dimau ystadegol wedi'u lleoli yn adrannau polisi Llywodraeth Cymru hefyd.

Diben cyffredinol ein swyddi Swyddog Ystadegol yw rheoli'r gwaith o ddarparu dadansoddiadau a chyngor drwy gasglu, coladu, dadansoddi a chyflwyno data ar bynciau penodol.

Mae ein swyddi Swyddogion Ystadegol yn rhai parhaol. Os ydych eisoes yn was sifil, mae hefyd yn bosibl dewis gwneud y swyddi hyn fel benthyciad rhwng adrannau am hyd at 2 flynedd, os byddai'n well gennych wneud hyn. Noder, fodd bynnag, mai dim ond ar sail symud ar draws y mae ein benthyciadau ar gael.

Prif dasgau

Mae'r tasgau allweddol nodweddiadol y bydd angen i Swyddog Ystadegol yn y Gwasanaethau Ystadegol eu cyflawni yn amrywio o swydd i swydd. Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • Rhoi cyngor ystadegol a gwybodaeth friffio i dimau polisi a gweinidogion yn Llywodraeth Cymru
  • Dadansoddi setiau data mawr, gan nodi negeseuon allweddol a thueddiadau, a llunio sylwadau craff
  • Paratoi delweddau data a thablau ystadegol priodol er mwyn helpu i gyfleu negeseuon mewn data
  • Ymateb i geisiadau am ddata a dadansoddiadau gan amrywiaeth o ffynonellau mewnol ac allanol
  • Rheoli a thrin data, gan gynnwys storio data'n effeithlon ac awtomeiddio prosesau ystadegol

Sicrhau ansawdd, gan gynnwys gwirio data, adrodd ar ansawdd ystadegol a chynnal adolygiadau cymheiriaid o allbynnau ystadegol. 

Cyfleoedd datblygu

  • Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r staff ystadegol profiadol, ac yn cael ei fentora ganddynt.
  • Cyfle i feithrin gwybodaeth am bolisïau Llywodraeth Cymru mewn meysydd penodol a dealltwriaeth ohonynt.
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu penodol, wedi'u llywio gan fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus Ystadegwyr y Llywodraeth.

Dyddiad Cau

03/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ffurflen Gais a Sifft

Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ar gyfer y manyleb person canlynol yn eu datganiad personol;

Manyleb Person y Swyddog Ystadegol 

  • Profiad yn y gymhwysiad ymarferol o ddadansoddi neu ymchwil gyda gwybodaeth fanwl o ffynonellau data
  • Y gallu i reoli llwyth gwaith ei hun a chyfrannu at gynhyrchu ystadegol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, gyda'r gallu i gyfathrebu dadansoddiad cymhleth i bobl nad ydynt yn arbenigwyr a chyfathrebu’n effeithiol gyda rhanddeiliaid
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm i ddarparu cyngor a dadansoddiad ystadegol o ansawdd uchel, yn aml i derfynau amser tyn.

Cyngor: Wrth benderfynu pa enghreifftiau i'w defnyddio yn eich datganiad personol, cofiwch gyfeirio'n ôl at yr hysbyseb swydd, Lefel 1 fframwaith cymwyseddau Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth a Lefel 2 Ymddygiadau Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil am ddangosyddion ymddygiad effeithiol.

Ceir rhagor o wybodaeth am rôl ystadegwyr y llywodraeth, ynghyd â chyngor ar lunio cais a pharatoi ar gyfer cyfweliad yn y pecyn i ymgeiswyr sydd ynghlwm.


Cyfweliad ar-lein a phrawf lledaenu

Cymwyseddau Technegol:

  • Cyflwyno a Lledaenu Data yn Effeithiol – Dangos sut rydych yn rhannu technegau ystadegol ag unigolion nad ydynt yn arbenigwyr gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.
  • Caffael Data/Deall Anghenion Cwsmeriaid – Dangos eich dealltwriaeth o ffynonellau data ynghyd â'u cryfderau a'u cyfyngiadau. Dangos y dulliau rydych wedi'u defnyddio i gasglu data.
  • Dadansoddi Data – Dangos sut rydych yn dadansoddi data gan ddefnyddio technegau ystadegol. DS Rhaid i chi ddangos tystiolaeth o ddefnyddio dwy dechneg ystadegol o leiaf.

Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil:

  • Rheoli Gwasanaeth Safonol
  • Newid a Gwella
  • Gweithio ar y Cyd

Proses Asesu

Meini prawf cymhwyso

Mae'n rhaid eich bod yn meddu, neu ar y trywydd iawn i’w feddu erbyn Medi 2023, ar un o'r canlynol er mwyn gwneud cais:

• Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth mewn pwnc sy'n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol (e.e. Ystadegau, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, Seicoleg, Daearyddiaeth, Gwyddor Data neu bwnc tebyg); neu

• Gradd uwch, e.e. MSc neu PhD, mewn pwnc sy'n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol (e.e. Ystadegau, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, Gwyddor Data, Seicoleg, Daearyddiaeth neu bwnc tebyg)

• Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt radd, ond bydd yn rhaid iddynt ddangos eu bod wedi gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig ag ystadegau/gwyddor data. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu datblygiad proffesiynol parhaus (drwy Gofnodlyfr DPP) ym maes ystadegau/gwyddor data i ddangos gwybodaeth ar yr un lefel â gradd sylfaen/HND (Lefel 5).

 

Ffurflen Gais a Sifft

Gwnewch gais drwy gyflwyno CV a datganiad personol drwy ein system gwneud cais ar-lein. Dylai eich CV gynnwys manylion addysg a chymwysterau proffesiynol, hanes cyflogaeth a sgiliau a phrofiad perthnasol.

Dylai eich datganiad personol adlewyrchu manyleb y person. Rhaid iddo gynnwys manylion eich cyflawniadau technegol a phroffesiynol, ac ni ddylai fod yn fwy na 1250 o eiriau.

Wrth edrych ar geisiadau, bydd yr aseswyr yn chwilio am dystiolaeth glir o'ch gwybodaeth a'ch profiad ystadegol.

 

Prawf amlddewis

Os yw eich cais yn dangos y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl, cewch eich gwahodd i ymgymryd â phrawf amlddewis ar-lein, wedi'i gynllunio i brofi eich sgiliau rhifedd a'ch gwybodaeth ystadegol. Anfonir e-bost atoch gyda dolen i'r prawf. Bydd gennych wythnos i gwblhau'r prawf. Mae'n brawf wedi'i amseru a rhaid ei gwblhau a'i gyflwyno erbyn canol dydd ar y dyddiad a bennir yn yr e-bost er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer cam nesaf y broses.   

Os ydych eisoes yn aelod o Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, rydych wedi'ch eithrio rhag sefyll y prawf. E-bostiwch Rebecca.Gillard@llyw.cymru gyda'ch rhif aelodaeth Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, er mwyn cael cadarnhad nad oes angen i chi gwblhau'r prawf. Byddwch wedyn yn symud ymlaen i'r cam nesaf (cyfweliad).

 

Cyfweliad ar-lein a phrawf lledaenu

Os byddwch yn pasio'r prawf amlddewis, cewch eich gwahodd i gyfweliad ar-lein. Bydd y cyfweliad ar-lein yn cael ei gynnal dros Microsoft Teams. Bydd y cyfweliad yn defnyddio technegau asesu amrywiol sy'n cyd-fynd â fframwaith Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Mae arddulliau cwestiynu yn cynnwys Profiadau o wahanol Sefyllfaoedd a phrofiadau blaenorol. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i'r unigolyn cywir ar gyfer y swydd. Yn ogystal, gofynnir cwestiynau ichi ar gymwyseddau Technegol Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, pan fydd disgwyl i chi ddangos dealltwriaeth o ddwy dechneg ystadegol. Cyn y cyfweliad, byddwch yn cael 30 munud i sefyll prawf byr, a fydd yn ffurfio cyflwyniad i'w roi i'r panel ar ddechrau'r cyfweliad. Ni ddylai'r cyflwyniad bara mwy na phum munud, a byddwch yn aros yn eich sedd yn ystod y cyflwyniad. Os ydych eisoes yn aelod o Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, rydych wedi'ch eithrio rhag sefyll y prawf hwn.

Cymwyseddau Technegol:

  • Cyflwyno a Lledaenu Data yn Effeithiol – Dangos sut rydych yn rhannu technegau ystadegol ag unigolion nad ydynt yn arbenigwyr gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.
  • Caffael Data/Deall Anghenion Cwsmeriaid – Dangos eich dealltwriaeth o ffynonellau data ynghyd â'u cryfderau a'u cyfyngiadau. Dangos y dulliau rydych wedi'u defnyddio i gasglu data.
  • Dadansoddi Data – Dangos sut rydych yn dadansoddi data gan ddefnyddio technegau ystadegol. DS Rhaid i chi ddangos tystiolaeth o ddefnyddio dwy dechneg ystadegol o leiaf.

Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil:

·       Rheoli Gwasanaeth Safonol

·       Newid a Gwella

·       Gweithio ar y Cyd  

 

Eisiau gwybod mwy?

Er mwyn helpu i egluro’r broses ymgeisio ac ateb unrhyw gwestiynau am ein swyddi Swyddog Ystadegol Uwch ac Uwch-swyddog Ystadegol, byddwn yn cynnal dau weminar ar Microsoft Teams.

I ymuno ar eich cyfrifiadur neu ap symudol, cliciwch ar un o’r dolenni canlynol:

13:30-14:00 ar 15 Mawrth 2023: Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

11:30-12:00 ar 21 Mawrth 2023: Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
externalrecruitment@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.