Swydd Wag -- Prif Swyddog Gweithredu, Llywodraeth Cymru

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 3
Tua £120,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o leoliad yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru bedair prif swyddfa – yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Cyffordd Llandudno ac Aberystwyth, er bod natur y swydd yn golygu y bydd gofyn ichi dreulio peth amser yng Nghaerdydd. Rydym wedi ymrwymo i weithio’n glyfar a bydd cyfleoedd i weithio o bell am o leiaf ran o’r wythnos yn y rôl hon. Ar gyfer y rôl hon, bydd disgwyl ichi deithio ledled Cymru i gwrdd â rhanddeiliaid a staff y gyfarwyddiaeth. (Yn y tymor byr bydd y rhan fwyaf o’r staff yn gweithio o gartref/o bell). Mae’n bosibl y bydd costau adleoli o hyd at £8,000 ar gael.

Dyddiad Cau

13/02/22 23:55

Pwrpas y Swydd

Prif ddiben y rôl hon yw sicrhau bod y gwasanaeth sifil yn cael ei arfogi a’i gefnogi i gyflawni cyfrifoldebau cynyddol gymhleth ac eang Llywodraeth Cymru o fewn cyd-destun economaidd a chymdeithasol eithriadol o heriol. Byddwch yn helpu i lunio dyfodol y sefydliad, gan sicrhau bod gennym y gallu a’r arferion gwaith y bydd eu hangen ar gyfer dyfodol ar ôl Covid ac ar ôl ymadael â’r UE. Byddwch yn arwain y gwaith o gyflawni ein strategaethau ar gyfer y gweithlu, y  gweithle a materion digidol yn y dyfodol, gan helpu i greu model gweithredu sefydliadol integredig a all gyflawni ar gyfer y Gweinidogion a phobl Cymru gydag effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd. Byddwch yn darparu cymorth hanfodol o ddydd i ddydd i’r Ysgrifennydd Parhaol, gan sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn llwyddiannus, a fydd yn ei alluogi ef i ganolbwyntio ar oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r rhaglen lywodraethu ar ran y Gweinidogion. Byddwch yn helpu i greu diwylliant o arweinyddiaeth gynhwysol, wedi’i dosbarthu ar bob lefel a all alluogi ac ysgogi gweithlu galluog a hyblyg sy’n llawer mwy cynrychioliadol o’r bobl rydym yn eu gwasanaethu na’r sefydliad sydd gennym heddiw. Gan  adeiladu ar y cynnydd enfawr rydym wedi’i wneud o ran galluogi ein staff i weithio’n llwyddiannus ble bynnag y bônt, bydd ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Prif Swyddog Gweithredu yn arwain cam nesaf ein gwaith o drawsnewid ein  hystad – gan gefnogi ein pobl i weithio o gymunedau ledled Cymru a rhannu lleoliadau gyda’n partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd gennych rôl allweddol o ran sicrhau y gellir blaenoriaethu adnoddau’r sefydliad a sicrhau eu bod yn cyd-fynd  ag ymrwymiadau cyflawni’r Prif Weinidog a’r Cabinet a bod gan y sefydliad fodel ariannu cynaliadwy sy’n ein galluogi i fyw o fewn ein cyllidebau; gan gynnal safonau uchel o reolaeth ariannol, moeseg, priodoldeb, sicrwydd a rheoli risg. 
Byddwch yn meddu ar y gallu hefyd i sicrhau bod ein systemau corfforaethol yn cael eu trawsnewid, gan greu gwasanaethau, prosesau a llywodraethiant cymesur ac effeithlon sy’n galluogi yn hytrach nag yn llesteirio’r gwaith cyflawni, ac  sy’n rhoi ‘digidol yn gyntaf’. Fel aelod o’r Pwyllgor Gweithredol – prif dîm arwain gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru – byddwch yn gweithio’n hyblyg ac yn gyfannol gydag aelodau eraill y tîm i sicrhau bod adnoddau dynol ac ariannol 
yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau i fodloni blaenoriaethau’r Gweinidogion a bod effeithlonrwydd ac arloesedd yn cael eu galluogi a’u hannog. Mae hefyd yn 3 Y Rôl Briff i’r Ymgeisydd a Disgrifiad o’r Swydd golygu rheoli risgiau a  hynllunio wrth gefn a defnyddio data, tystiolaeth a dadansoddeg i lywio penderfyniadau.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cael eu rhoi ar y rhestr fer yn cael profion seicometrig arlein a fydd yn cynnwys rhesymeg rifyddol a geiriol a thrafodaeth gyda seicolegydd. 


Ymarferion Ymgysylltu â Staff/ Rhanddeiliaid
Gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gymryd rhan mewn ymarferion ymgysylltu â staff/ rhanddeiliaid. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.

Sgwrs Anffurfiol

Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cymryd rhan mewn sgwrs anffurfiol gyda  Gweinidog. Bydd y gweithgareddau uchod yn rhan o’r asesiad cyffredinol y mae ei angen ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn yn ogystal â chyfweliad y panel dethol.

Cyfweliadau 

Bwriedir cynnal y cyfweliadau at yr 25ain a 28ain o Ebrill.

Cynhalir pob asesiad ar lein

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Bydd angen i unrhyw ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am y swydd yn rhan-amser wneud cais fel rhan o sail rhannu swyddi.
25ain a 28ain o Ebrill
SCSrecruitment@gov.wales

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.