Swydd Wag -- Rheolwr Tîm, Cyllid a Rheoli Contractau
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
Yn atebol i'r Uwch-reolwr, Gwasanaethau Corfforaethol a Busnes, bydd y swydd hon yn arwain y gwaith o baratoi, dyrannu a rheoli cyllideb AGC drwy ddatblygu systemau sy'n cefnogi'r defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau a rhoi'r systemau hyn ar waith, gan sicrhau cydymffurfiaeth ariannol ym mhob agwedd ar ymddygiad busnes.
Deiliad y swydd hefyd fydd yn bennaf gyfrifol am bob maes gweithgarwch rheoli contractau ar ran y sefydliad.
Prif dasgau
Rheolwr llinell 1 x Swyddog Gweithredol Uwch, 1 x Swyddog Cymorth Tîm
Yn gyfrifol am y tîm Cyllid a Chaffael, ac yn darparu cymorth i'r Prif Arolygydd a'r Tîm Uwch-reolwyr wrth drafod y cais i'r gyllideb flynyddol, dyrannu arian i gyllidebau a rheoli'r gwaith o ddirprwyo cyllidebau i dimau yn AGC.
Arwain prosesau cynllunio, rheoli, monitro ac adrodd ar gyllidebau AGC er mwyn cynnwys tueddiadau a phatrymau proffilio gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol, gan baratoi rhagolwg cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod a diweddaru'r rhagolwg hwn bob mis yng ngoleuni'r gwariant gwirioneddol.
Arwain yr holl waith rheoli contractau ar gyfer AGC, gan roi cyngor a chymorth i Uwch-reolwyr, rheoli a chynghori ar bob contract a gweithio yn unol â disgyblaethau caffael y Gwasanaeth Caffael Corfforaethol (CPS).
Arwain y gwaith o gwblhau ac adrodd ar yr holl swyddogaethau archwilio, gan gynnwys rheolaethau Ariannol Mewnol, archwiliad Teithio a Chynhaliaeth a Datganiad Rheolaethau Mewnol.
Rhoi dadansoddiad manwl o'r adroddiadau cyllideb misol a geir gan SAP i'r Tîm Uwch-reolwyr a chynnal dadansoddiad o feysydd gwariant allweddol.
Arwain y gwaith o baratoi a chyflwyno'r adroddiadau ariannol diwedd blwyddyn, ac adroddiadau rhagolygon i'r dyfodol, yn unol â'r gweithdrefnau.
Adolygu a datblygu systemau ariannol mewnol yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn darparu gwybodaeth gywir, berthnasol ac amserol.
Arwain gweithgareddau cynllunio busnes ar gyfer y sefydliad, a sicrhau bod gwybodaeth ariannol gadarn a chywir ar gael i gefnogi a llywio'r holl gynlluniau a dogfennau strategol a gweithredol.
Cynhyrchu papurau, adroddiadau a sesiynau briffio cywir ac amserol ar gyfer y Tîm Uwch-reolwyr ac mewn perthynas â blaenoriaethau busnes dynodedig
Arwain y fframwaith llywodraethu, dirprwyo a rheoli ar gyfer AGC, gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r canlynol:
- Cofrestr Risg
- Rhoddion a Lletygarwch
- Iechyd a Diogelwch
- Parhad busnes
- Colledion/Taliadau Arbennig
Gweithredu fel arweinydd Iechyd a Diogelwch AGC, mynychu cyfarfodydd rheolaidd a darparu cyngor i'r Tîm Uwch-reolwyr yn ôl yr angen
Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd priodol mewn trafodaeth â'r Uwch-reolwr, Gwasanaethau Corfforaethol a Busnes.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Newid a Gwella
Adolygu gweithdrefnau neu systemau yn rheolaidd gyda thimau er mwyn nodi gwelliannau a symleiddio prosesau a threfniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau
Gweithio ar y cyd ac Mewn Partneriaeth
Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi'r broses o wireddu canlyniadau busnes
Darparu Gwerth am Arian
Gweithio'n hyderus gyda data ariannol a rheoli perfformiad i baratoi rhagolygon, a rheoli a monitro cyllidebau yn erbyn cynlluniau y cytunwyd arnynt
Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Gweithio gyda'r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
- Dangos profiad o weithio'n hyderus gyda systemau a data ariannol, gan gynnwys paratoi rhagolygon cyllideb, rheoli a monitro'r gyllideb yn erbyn cynlluniau y cytunwyd arnynt
- Y gallu i gynhyrchu a chyflwyno papurau, adroddiadau a sesiynau briffio cywir ac amserol ar gyfer y Tîm Uwch-reolwyr mewn perthynas â blaenoriaethau busnes/prosiectau allweddol
- Dangos sgiliau arwain cryf wrth arwain a rheoli tîm wrth gyflawni swyddogaethau dynodedig yn effeithiol ac yn effeithlon.
Proses Asesu
Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff pob cyfweliad ei gynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams.
Cyn gwneud cais ar gyfer y rôl, e-bostiwch CIWHR@gov.wales i gael gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC: Caerfyrddin, Cyffordd Llandudno neu Ferthyr Tudful
Caiff ceisiadau gan staff sydd am weithio'n rhan amser neu ar sail rhannu swydd eu hystyried
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.