Swydd Wag -- Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Gellir ystyried cyflog cychwynnol o hyd at bwynt 3 (£59,480) ar gyfer ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad hanfodol i lefel eithriadol.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Y lleoliad swyddfa y cytunir arno yw naill ai swyddfa AGC Cyffordd Llandudno, Merthyr neu Gaerfyrddin. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac ni fydd unrhyw drefniant gweithio o bell neu weithio gartref yn gyfystyr â newid eich man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar Reolwyr Tîm ledled Cymru ac felly, bydd angen teithio o bryd i'w gilydd. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill ar wahân i'ch man gwaith arferol dewisol.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.  Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol wrth sicrhau y caiff gwasanaethau rheoleiddiedig diogel o ansawdd da eu darparu i ddinasyddion Cymru. 

Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb rheoli llinell dros bedwar Rheolwr Tîm (MB1) a bydd yn cefnogi'r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau cyson, effeithiol, effeithlon ac o ansawdd da.

Mae Arolygu Gofal Plant a Chwarae yn destun rhaglen newid sylweddol er mwyn cefnogi ffocws cliriach ar wella gwasanaethau.  Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at agweddau allweddol ar y prosiect ac yn eu cefnogi.

Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae.

Prif dasgau

Prif dasgau

  • Darparu cymorth arwain a rheoli llinell i'r tîm arolygu gofal plant a chwarae, gan gynnwys arolygwyr a staff cymorth arolygu. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb rheoli llinell dros Reolwyr Tîm (MB1).
  • Arwain a bod yn gyfrifol am berfformiad cyffredinol, ansawdd ac amseroldeb pob agwedd ar waith arolygu rheoleiddiol yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau mewnol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau y caiff adnoddau a staff yn y tîm arolygu gofal plant a chwarae eu rheoli'n effeithiol, a datblygu a rhoi camau unioni ar waith yn ôl yr angen.
  • Sicrhau y caiff gwaith y tîm arolygu gofal plant a chwarae ei gyflawni i safon uchel ac mewn modd amserol, ac y caiff penderfyniadau eu cyfleu'n effeithiol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau bod trefniadau perfformiad a sicrhau ansawdd cryf ar waith a chyfrannu at y broses o ddatblygu a gwella trefniadau o'r fath.
  • Gwneud penderfyniadau rheoli achosion a gorfodi yn unol â'r dyletswyddau dirprwyedig a nodir yng nghanllawiau sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.
  • Gweithio'n agos gydag uwch-reolwyr ym mhob rhan o AGC i rannu gwybodaeth a chydweithio ar brosiectau a rhaglenni
  • Sicrhau trefniadau effeithiol ar gyfer atebolrwydd, cydymffurfiaeth a goruchwylio rheolaeth y tîm.
  • Arwain y gwaith o ddarparu cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau i'r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae fel sy'n ofynnol.
  • Paratoi gwybodaeth friffio ar gyfer Gweinidogion a'r Tîm Uwch-reolwyr mewn perthynas â materion penodol.
  • Datblygu, gweithredu a monitro arferion arolygu cryf ac effeithiol ym mhob rhan o AGC a sicrhau bod canllawiau ac adnoddau arolygu ar waith, yn addas at y diben, wedi'u gwerthuso ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
  • Cefnogi staff gydag achosion cymhleth, cadeirio cyfarfodydd perthnasol â darparwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill er mwyn ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau rheoleiddiedig.
  • Gweithio gyda rheoleiddwyr eraill, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, yr heddlu ac arolygiaethau eraill i ddatblygu a chyflawni gwaith rheoleiddio effeithiol dan arweiniad dinasyddion.
  • Gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Estyn i gefnogi'r rhaglen arolygu ar y cyd.
  • Sefydlu a chynnal cydberthnasau effeithiol ag awdurdodau lleol mewn perthynas â diogelu a materion perthnasol eraill, gan sicrhau y caiff gwybodaeth ei rhannu â thîm yr awdurdod lleol.
  • Cefnogi'r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae wrth ymgysylltu â sefydliadau mantell yn y sector gofal plant ac ym mhob agwedd ar y gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliad.
  • Ystyried sylwadau a chwynion yn unol â'r rota y cytunwyd arni. 
  • Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi perthnasol, ynghyd â'r arferion gorau ym maes gofal plant a chwarae a rhannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr.
  • Cynrychioli'r sefydliad ar lefel uwch fel sy'n ofynnol.
  • Dirprwyo ar ran y Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae fel y bo angen.
  • Sicrhau bod rhaglen ddatblygu ar gael i'r staff mewn perthynas ag arolygu er mwyn sicrhau bod yr arolygwyr a'r staff cymorth arolygu yn gymwys, yn hyderus ac yn ddibynadwy.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

14/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Strategol – Pennu Cyfeiriad

  • Sylwi ar arwyddion bod pethau’n mynd o chwith ac ymateb yn gadarn i heriau mawr rhag Cyflenwi.

Strategol – Pennu Cyfeiriad

  • Dod i gasgliadau rhesymol ar sail amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth, a chyflwyno’r casgliadau hynny – gan allu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan nad yw’r manylion yn glir.

Y Clwstwr Pobl - Ymwneud â Phobl

  • Bod yn amlwg i staff a rhanddeiliaid eu gweld a chynnal gweithgareddau rheolaidd er mwyn ennyn diddordeb pobl sy’n gweithio yn eu maes ac ennill eu hymddiriedaeth.

Y Clwstwr Perfformiad - Gwireddu Canlyniadau

  • Creu cyfleoedd rheolaidd i staff a chwsmeriaid er mwyn helpu i wella ansawdd gwasanaethau, a chymryd rhan amlwg yn y gwaith hwn.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Cymhwyster Gofal Cymdeithasol cydnabyddedig megis Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol), Gradd mewn Astudiaethau'r Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod, gradd addysgu, cymhwyster TAR neu Ddiploma Lefel 5 mewn Arwain Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant a gallu i ddangos sut mae'r cymhwyster hwn yn berthnasol i'r rôl.  
  • Profiad ôl-gymhwyso perthnasol helaeth fel ymarferwr mewn gwasanaethau neu reoleiddiwr gwasanaethau. 
  • Profiad o arwain a rheoli tîm o staff sy'n perfformio i lefel uchel yn y sector gofal cymdeithasol.

Proses Asesu

Mae'r broses recriwtio yn cynnwys dau gam:

Cam 1 – Cwblhau cais ar-lein a chyflwyno CV (heb fod yn fwy na 2 dudalen) a datganiad personol.

Cam 2 – Cyfweliad ac asesiad.

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru sef ffurflenni cais a chyfweliadau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeiswyr AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddiwch ddull STAR wrth roi tystiolaeth.

Llunio Rhestr Fer/Sifftio Ceisiadau

Caiff rhestr fer o ymgeiswyr ei llunio drwy asesu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y CV a'r datganiad personol a lanlwythwyd.

Cam 1 - Sifftio

Lanlwythwch eich CV (heb fod yn fwy na 2 dudalen) yn manylu ar eich rôl bresennol, hanes gwaith blaenorol, cymwysterau ac unrhyw hyfforddiant perthnasol. Nid oes angen i ni weld tystysgrifau ar y cam hwn.

Ynghyd â'ch CV, gwnewch yn siŵr eich bod yn lanlwytho datganiad personol yn amlinellu sut rydych yn bodloni'r 4 cymhwysedd a'r 3 maen prawf penodol i'r swydd yn yr hysbyseb (un enghraifft ar gyfer pob un = 7 enghraifft i gyd).  Sicrhewch eich bod yn defnyddio penawdau fel bod y panel yn gallu gweld pa gymhwysedd neu faen prawf penodol i'r swydd y mae eich tystiolaeth yn berthnasol iddo hefyd.

Os daw nifer mawr o geisiadau i law, efallai mai dim ond yn seiliedig ar eich ymatebion i'r tri maen prawf penodol i'r swydd y bydd y panel yn llunio'r rhestr fer.  Noder: bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â'r pedwar cymhwysedd o hyd, er mwyn pasio'r cam rhestr fer yn llwyddiannus.

Cewch wybod y canlyniad drwy'r system ar-lein. Bydd rhywfaint o adborth ysgrifenedig yn cael ei roi yn ystod y cam sifftio.

Cam 2 – Cyfweliad

Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad rhithwir dros Microsoft Teams. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflawni asesiad neu roi cyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Os felly, byddwn yn rhoi rhybudd o bum diwrnod gwaith o leiaf o'r gofynion.

Os yw'r swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg, bydd asesiad ysgrifenedig Cymraeg hefyd.

Os na allwch gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau amgen lle y bo'n bosibl. 

Os ydych yn anabl, os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, os ydych yn niwrowahanol neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac yr hoffech wneud cais am addasiadau rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i CIWHR@gov.wales.

 Yn ystod y cam sifftio a chyfweld, byddwn yn eich   asesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn y pedwar cymhwysedd a'r tri maen prawf penodol i'r swydd a nodir yn y disgrifiad swydd/hysbyseb swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cyflog a Lwfansau
Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur yn ofynnol.
Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£59,480) i ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol i lefel eithriadol.

Lleoliad 
Y lleoliad swyddfa y cytunir arno yw naill ai swyddfa AGC Cyffordd Llandudno, Merthyr neu Gaerfyrddin. 
Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac ni fydd unrhyw drefniant gweithio o bell neu weithio gartref yn gyfystyr â newid eich man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol.  Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. 
Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar Reolwyr Tîm ledled Cymru ac felly, bydd angen teithio o bryd i'w gilydd.
Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill ar wahân i'ch man gwaith arferol dewisol. 

Kevin Barker

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.