Swydd Wag -- Pennaeth Digwyddiadau Busnes
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Yn atebol i'r Dirprwy Gyfarwyddwr - Datblygu Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr, dyma swydd newydd gyffrous ar gyfer gwireddu uchelgais benodol Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ddatblygu ffordd draws-sectorol, uchelgeisiol a chwbl integredig o dargedu a denu cynadleddau a digwyddiadau busnes i Gymru gan annog cymdeithasau, corfforaethau a'r sector cyhoeddus ym Mhrydain a thu hwnt i gynnal eu cyfarfodydd, sesiynau adeiladu tîm a'u cymhellion yng Nghymru.
 phrofiad helaeth o farchnata cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau, bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo Cymru o dan amodau masnachol - gan ganolbwyntio ar greu busnes go iawn - gan alinio hynny â sectorau busnes blaenoriaeth Cymru a'i chryfderau academaidd, gwyddonol a meddygol. Bydd gofyn datblygu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn rhoi hwb i broffil a pherfformiad Cymru ac yn helpu i wneud sector digwyddiadau Cymru'n fwy cystadleuol ac i gynyddu capasiti digwyddiadau busnes er mwyn ennill mwy o fusnes. Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau rheoli a chynllunio strategol ardderchog i ddatblygu a chynnal ffordd newydd gynaliadwy o weithio, gan harneisio partneriaid a rhanddeiliaid allweddol ym mhob lefel ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd hynny'n cynnwys greu model cyllido tymor hir. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu proffil Cymru fel cyrchfan i ddigwyddiadau busnes ac am droi hynny'n fentrau fydd yn diffinio'r brand ac yn sbarduno twf cynaliadwy i fusnesau.
Prif dasgau
Defnyddio gwybodaeth am waith y sector digwyddiadau busnes, gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol niferus i greu a rheoli tîm a ffordd o weithio newydd – datblygu model cynaliadwyedd ariannol tymor hir - i hyrwyddo a chipio digwyddiadau busnes i Gymru, gan ystyried y gwahanol fathau o ganolfannau, cryfderau sectorol/academaidd/meddygol a strwythurau trefniadol ar draws Cymru;
Recriwtio a rheoli tîm digwyddiadau busnes bach i weithio mewn ffordd gwbl integredig i ddenu cynadleddau, cyfarfodydd a digwyddiadau eraill i fusnesau yng Nghymru. Gweithio mewn dull matrics gyda chydweithwyr perthnasol ledled Llywodraeth Cymru.
Ymchwilio i'r farchnad a'r rhagolygon ar gyfer digwyddiadau yn y diwydiannau meddygol, academaidd, busnes a diwylliannol yng Nghymru;
Gweithio'n glos â chydweithwyr yn yr Uned Digwyddiadau Mawr ac ar draws adran yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol a chyda'r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru i ddatblygu ffordd effeithiol o ymdrin â bidiau. Bidio am ddigwyddiadau a'u denu, ar y cyd â sectorau busnes, cysylltiadau mewn cynadleddau a chanolfannau ledled Cymru;
Cyfrannu at gynnal strategaeth frandio Cymru a'r cynlluniau marchnata strategol a chreu dadl gref i fusnesau o blaid cynnal eu digwyddiadau yng Nghymru. Datblygu asedau a phlatfformau o'r ansawdd uchaf a rhannu cynnwys deinamig;
Cynyddu'r galw am Gymru trwy ddatblygu a chynnal cynlluniau a rhaglenni marchnata a PR, mewn cydweithrediad clos â chydweithwyr yn yr Uned Farchnata gan gynnwys darparu platfformau ar gyfer cyflenwyr o Gymru - microsafleoedd ar y we, sianelau cymdeithasol, digwyddiadau, sioeau masnach a thripiau ymgyfarwyddo;
Sefydlu dulliau gweithio priodol a goruchwylio gweithgareddau gwerthu gan dargedu cymdeithasau a chorfforaethau a chleientiaid cymell ac adeiladu tîm yn y DU a thu hwnt;
Gweithio gyda rhanddeiliaid ar y lefel uwch yng Nghymru a thu hwnt, gan roi ystyriaeth i drefniadau gweithio presennol y sectorau cyhoeddus a phreifat, creu a chynnal rhaglen llysgenhadon cenedlaethol gydag arweinwyr diwydiannol, academaidd a meddygol Cymru;
Arwain y diwydiant yng Nghymru, ac mewn cydweithrediad ag Adran Ddatblygu Croeso Cymru, cefnogi mentrau i sicrhau bod y sgiliau a'r gwasanaethu cwsmeriaid mwyaf priodol ac o'r ansawdd uchaf yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion y sector. Helpu i ddatblygu capasiti a darpariaeth ar gyfer y farchnad hon trwy weithio'n briodol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol;
Meithrin cysylltiadau a sbarduno cyfleoedd i Gymru gyda sefydliadau allweddol o'r DU - tîm digwyddiadau busnes VisitBritain a'r Bartneriaeth Ymweliadau a Digwyddiadau Busnes yn arbennig;
Paratoi bidiau ar gyfer rhaglen Cymorth i Ddigwyddiadau VisitBritain, gan weithio gyda threfnwyr digwyddiadau perthnasol yn Llywodraeth Cymru ac ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat;
Gan ystyried y gwaith gwerthuso a'r gwariant cenedlaethol ar gynrychiolwyr, gweithio gyda tim ymchwil Llywodraeth Cymru i ddatblygu meincnod priodol, proses gwerthuso effeithiau ar gyfer gwaith y tîm a sicrhau bod gwaith ymchwil a dadansoddi yn cael ei roi yn ei le i fonitro a chofnodi llwyddiant y drefn newydd hon ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ac eraill;
Datblygu a rheoli cysylltiadau ar draws y diwydiant a chyda rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru a thu hwnt, gan feithrin ffordd gydweithredol a phositif o weithio;
Rheoli asiantaethau allanol yn ôl y gofyn i ddarparu rhaglenni i gefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru - gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr hyn a wneir yn fewnol ac a wneir yn allanol;
Gweithio gyda chydweithwyr yn y tîm marchnata i ddenu mwy o'r rheini sy'n mynd i ddigwyddiadau busnes yng Nghymru i fanteisio ar gyfleoedd twristiaeth hamdden - trwy raglenni o ansawdd i bartneriaid/priod yn ogystal ag annog estyniadau i ddigwyddiadau a busnes eildro.
Cyfleoedd datblygu
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm uwch Twristiaeth a Marchnata'r ESNR a bydd yn cynnig ystod o gyfleoedd datblygu i staff ledled Llywodraeth Cymru.
Gallai mwy o gyflog gael ei gynnig i ymgeisydd eithriadol.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Dadansoddi a gwerthuso data o wahanol ffynonellau er mwyn pennu manteision ac anfanteision a phennu risgiau, gan wneud penderfyniadau priodol
Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth
Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt
Sicrhau canlyniadau masnachol
Deall y ffactorau masnachol a fydd yn dylanwadu ar sefydliadau preifat neu sefydliadau’r trydydd sector a’r hyn y gellir ei ddefnyddio wrth drafod/ddylanwadu ar gontractau
Cyflawni'n Brydlon
Bod yn batrwm i eraill wrth gefnogi a sbarduno timau er mwyn meithrin hyder yn eu gallu i wireddu canlyniadau
Meini Prawf Penodol i’r Swydd
Profiad o reoli yn y sector digwyddiadau busnes a hanes llwyddiannus o ddatblygu a chynnal strategaethau i ddenu digwyddiadau busnes, o ddewis ar lefel y gyrchfan. Dealltwriaeth ragorol o farchnadoedd MICE yn y DU a thu hwnt, ac yn ddelfrydol, bydd gennych rwydwaith da o gysylltiadau yn y diwydiant;
Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau arwain, phrofiad o'r berthynas gymhleth â rhanddeiliad yn y sectorau cyhoeddus/phreifat ac o reoli tîm i gynnal prosiectau cymhleth;
Profiad o reoli prosiectau gan gynnwys prosiectau marchnata/cyfathrebu yn y sector preifat a/neu gyhoeddus.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.