Swydd Wag -- Pennaeth Polisi Datgarboneiddio Cartrefi

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Safonau a Datgarboneiddio Cartrefi
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Caiff cyflog cychwynnol o rhwng £53,440 a £63,900 ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus ar sail ei sgiliau, ei wybodaeth a’i brofiad a’i berfformiad mewn cyfweliad. Ni fydd modd amrywio’r ystod cyflog hwn.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Cyfnod Penodol / Secondiad dau flynedd (drwy gystadleuaeth deg ac agored.)
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i fod yn rhan o’r Tîm Safonau a Datgarboneiddio Cartrefi, sy’n gyfrifol am y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio’r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru, ynghyd â’r safonau ategol. 

Mae cartrefi yng Nghymru yn gyfrifol am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir yng Nghymru, a 15% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae ôl-osod y cartrefi hyn yn ddull ataliol, am ei fod yn ceisio gwella effeithlonrwydd cartrefi o ran ynni ac yn helpu Gweinidogion Cymru i gyflawni targedau sy’n rhwymo mewn cyfraith.

Nod ein strategaeth a’n buddsoddiadau yw rhoi blaenoriaeth i dai cymdeithasol, gan roi’r arferion gorau ar waith a datblygu cadwyni cyflenwi a sgiliau a fydd yn ysgogi’r farchnad ac yn arwain strategaethau ar gyfer rhaglenni i ôl-osod cartrefi sy’n eiddo i berchen-feddianwyr.  Bydd yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol, eu tenantiaid, busnesau bach a chanolig, cyrff cyllido a rhanddeiliaid allweddol eraill weithio gyda'i gilydd i sicrhau canlyniadau sydd o fudd i bawb. 

Bydd y gwaith o gyflawni'r strategaeth yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio flaengar Llywodraeth Cymru
  • Datblygu a sicrhau cymorth trawslywodraethol a thraws-sector ar gyfer strategaeth i gyflawni'r ymrwymiadau lefel uchel a osodwyd gan Weinidogion Cymru yng Nghynllun Sero Net Cymru ar gyfer 2021–25;
  • Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC); a
  • Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru.

Bydd deiliad y swydd hon yn darparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth strategol wrth ddatblygu polisi mewn perthynas â’r agenda ar gyfer Datgarboneiddio Cartrefi, yn ogystal â gweithio ar draws adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu rheoliadau newydd y mae’r Tîm Rheoliadau Adeiladu yn ymdrin â nhw, a chyflawni ymrwymiadau Sero Net Cymru ar gyfer tai.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth gyffredinol ar gyfer datgarboneiddio cartrefi, a datblygu a gweithredu polisïau yn y maes hwn. Bydd angen ichi ddatblygu’r gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen Ôl-osod er Mwyn Optimeiddio i arwain rhagor o ddatblygiadau, gan ystyried, er enghraifft, polisïau ar gyfer yr elfennau ehangach o’r farchnad breswyl fel y sector rhentu preifat a chartrefi sy’n eiddo i berchen-feddianwyr. Y nod yw datblygu polisïau i gyflawni’r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu, yn ogystal â’n targedau ar gyfer Cymru Sero Net, ac i gyflymu’r gwaith yn y maes hwn yn sylweddol.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu datblygu, a hynny mewn modd effeithlon. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â swyddfa’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, gan sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd yn arwain y cyfeiriad polisi. 

Mae’n bosibl hefyd y bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflawni cyfres fach o brosiectau sy’n profi ac yn arwain ein gweithgareddau datblygu polisi.

Mae hon yn swydd newydd sy’n adrodd i’r Swyddog Gradd 6, sef Pennaeth Datgarboneiddio Cartrefi. 

Prif dasgau

  • Gweithio’n agos gyda Gweinidogion, cydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a phartneriaid strategol i sicrhau bod y ffordd rydym yn ystyried ac yn datblygu polisïau’n cyd-fynd a’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu a Sero Net Cymru, ac yn bodloni’r gofynion ariannol, cyfreithiol a rheoleiddiol.
  • Darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a goruchwyliaeth ar gyfer y Tîm Polisi Datgarboneiddio Cartrefi.
  • Hyrwyddo’r gwaith strategol o ddatblygu a gweithredu Strategaeth Datgarboneiddio Cartrefi newydd sy’n ein helpu i gyflawn ymrwymiadau Sero Net Cymru mewn perthynas â datgarboneiddio cartrefi. 
  • Gweithio gyda’r Swyddog Graff 6 i sefydlu a chynnal perthynas weithio gref â Gweinidogion – gan ddarparu cymorth effeithiol ar gyfer Gweinidogion ar yr holl faterion sy’n ymwneud â gwaith y Tîm Datblygu Polisi. Mae hyn yn cynnwys arwain y gwaith o reoli holl fusnes y Llywodraeth yn y maes hwn, gan gynnwys briffiau gweinidogol, llythyrau ac areithiau, ymatebion i adroddiadau pwyllgorau, ymholiadau  gan y wasg, Cwestiynau Ysgrifenedig y Senedd, Cwestiynau Llafar y Senedd ac unrhyw ohebiaeth arall.
  • Cefnogi’r tîm ehangach i ysgogi’r trawsnewid sydd ei angen mewn polisi, diwylliant ac arferion er mwyn gwneud newidiadau a chyrraedd targedau mewn perthynas â datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru.
  • Gwneud hyn drwy fapio, rheoli a gweithio gyda rhanddeiliaid, a gwrando arnynt, ac adeiladu consensws â phartneriaid strategol allanol mewn maes polisi sy’n gallu bod yn gynhennus ar adegau, a lle mae llawer o fuddiannau a safbwyntiau’n gwrthdaro.
  • Drwy reoli matricsau, ymgysylltu a dylanwadu, gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.  
  • Arwain y gwaith o weithredu polisïau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar y cyd ag Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y sector rhentu preifat a chartrefi sy’n eiddo i berchen-feddianwyr, gan sicrhau bod polisïau’r Llywodraeth yn cael eu gweithredu mewn ffordd effeithiol, a bod canlyniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni.
  • Sefydlu perthynas weithio gref ag uwch-bartneriaid allweddol mewnol ac allanol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, prif weithredwyr sefydliadau trydydd sector a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn ogystal â Llywodraeth y DU a Grŵp Datgarboneiddio Llywodraeth Cymru. 

Cyfleoedd datblygu

Mae hwn yn faes proffil uchel iawn, sy’n cael cryn sylw ym myd gwleidyddiaeth a’r cyfryngau. Felly bydd angen i ddeiliad y swydd weithio ar draws y Llywodraeth gydag amrediad o uwch-randdeiliaid sydd â buddiannau polisi allweddol – er enghraifft, rheoliadau adeiladu, datgarboneiddio, tlodi tanwydd, cyflenwi tai, addysg / prentisiaethau yn ogystal â buddiannau sylweddol yn y sector tai e.e. gwasanaethau cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnwys cryn ymgysylltu allanol ar lefel uwch ag awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r sector preifat, yn enwedig adeiladu ac arweinwyr y sector ar ddatgarboneiddio, ac â’r Grŵp Gweithredu ar Ddatgarboneiddio, grŵp cynghorol ffurfiol Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio cartrefi. Mae hyn yn ogystal â’n gwaith ymarferol â’r llywodraethau eraill.

Dyddiad Cau

19/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gosod y Trywydd – Newid y Gwella - Mynd ati mewn modd effeithiol i gasglu, defnyddio a rhannu dealltwriaeth a safbwyntiau cwsmeriaid gan amrediad amrywiol o randdeiliaid, i sicrhau polisïau a chanlyniadau gwell.

Gosod y Trywydd – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Coladu a cyflwyno casgliadau rhesymol o amrediad eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth – gyda’r gallu i weithredu neu wneud penderfyniadau hyd yn oed os nad yw’r manylion yn glir.

Ymwneud â Phobl – Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Mynd ati mewn ffordd weithredol i gynnwys partneriaid, er mwyn sicrhau canlyniadau busnes drwy cydweithio sy’n sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer dinasyddion. 

Gwireddu Canlyniadau – Sicrhau Gwerth am Arian - Sicrhau cydbwysedd rhwng uchelgeisiau o ran polisi a chyflwyno polisïau, amlinellu risgiau a manteision gwahanol opsiynau er mwyn sicrhau gwerth am arian a sicrhau bod bob cynnig yn cynnwys gwybodaeth ariannol briodol.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Profiad o datblygu polisi mewn maes cymhleth sydd â rhyngddibyniaethau ar draws y Llywodraeth a rhwng portffolios, a gwybodaeth am y fframwaith polisi o fewn Llywodraeth Cymru ynghyd â hanes o roi polisi ar waith yn llwyddiannus.
  2. Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar lefel uwch mewn perthynas â maes polisi sensitif, yn allanol ymhlith rhanddeiliaid amrywiol, ac o fewn Llywodraeth Cymru – gan gynnwys herio rhanddeiliaid sydd â blaenoriaethau gwahanol.
  3. Crebwyll rhagorol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a sgiliau dadansoddi strategol – profiad o reoli gwybodaeth gymhleth a thechnegol gan amrediad o ffynonellau, gan gynnwys profiad o nodi, comisiynu ac adrodd ar ddata cymhleth i alluogi monitro rhaglenni mewn modd effeithiol.

Proses Asesu

Mae 3 cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am i chi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu’ch CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf.

    Cam 2 – Sifftio’r CV

    Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

     

    Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn derbyn prawf sgiliau ar-lein/ (teitl) cyflwyniad o 5 munud.

    Cam 3 - Presentation

     

    Dyddiad cyfweliadau:  I'w gadarnhau.

     

    Cam 4 – Cyfweliad

     

    Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

    Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chadw am 12 mis rhag ofn bydd swyddi gwag yn codi yn y dyfodol
Tanya Wigfall - optimisedretrofitprogramme@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.