Swydd Wag -- Dylunydd Graffeg

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Cyfathrebu
EO - £26,900 - £30,610
£23,625
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Mae hwn yn swydd tymor sefydlog blwyddyn o hyd gyda’r posibilrwydd o gael ei ymestyn neu ei wneud yn barhaol.
Caerdydd
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Darparu atebion dylunio creadigol a pharatoi gwaith celf gorffenedig ar gyfer amrywiaeth helaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys cyhoeddiadau wedi'u hargraffu, digwyddiadau, ymgyrchoedd, brandio, arddangosfeydd a sianeli digidol.

Mae'r swydd yn gofyn am gryn dipyn o sgiliau dylunio graffeg, a'r gallu i feddwl yn greadigol, cynnig atebion dylunio ymarferol a chreu gwaith celf manwl gywir o ansawdd uchel.

Bydd rhaid bod gan ddeiliad y swydd yr hyder i weithio i fodloni amserlenni heriol ac i reoli mwy nag un prosiect ar unrhyw adeg. Bydd rhaid iddo/iddi allu gweithio'n unigol a/neu fel rhan o dîm ymroddgar, sy'n cael ei ysgogi gan brosiectau, o ddylunwyr, cysodwyr, ffotograffwyr, darlunwyr, uwch-reolwyr, swyddogion polisi, datblygwyr y we, arbenigwyr marchnata a chontractwyr allanol. 

Bydd hefyd angen i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf o ran cymwysiadau meddalwedd a phrosesau cyfredol y diwydiant dylunio.  

Prif dasgau

  • Cyfuno elfennau teipograffyddol, ffotograffig, darluniadol a graffeg i ddylunio gwaith celf ar gyfer deunyddiau wedi'u hargraffu a sianeli digidol.
  • Meddwl am gysyniadau dylunio a chynnig atebion ymarferol.
  • Gweithio'n uniongyrchol gyda chleientiaid i werthuso gofynion prosiectau ac argymell beth sy'n bosibl ei gyflawni.
  • Deall hunaniaeth brand Llywodraeth Cymru a'r nodau brand cysylltiedig, a'u defnyddio'n gywir.
  • Rhoi cyngor i swyddogion polisi ar faterion brandio Llywodraeth Cymru.
  • Rhoi cyngor i swyddogion polisi ar ganllawiau hygyrchedd Llywodraeth Cymru o ran iaith, lliw, ffontiau a delweddau, technolegau Screen Reader, deunyddiau Hawdd eu Darllen.
  • Gweithio fel rhan o dîm sy'n cael ei ysgogi gan brosiectau.
  • Cynnal gwiriadau sicrhau ansawdd - adolygu proflenni.
  • Diweddaru cronfeydd data cynhyrchu
  • Blaenoriaethu eu gwaith eu hunain.
  • Cadw cofnodion rheolaidd o'r gwaith.
  • Addasu delweddau ffotograffig.
  • Deall nodau ac amcanion, blaenoriaethau a materion sensitif Llywodraeth Cymru.
  • Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn meddalwedd TG, yn arbennig Adobe Creative Suite.
  • Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y gymuned ddylunio ehangach.

Cyfleoedd datblygu

Mae hon yn swydd heriol, sydd hefyd yn rhoi boddhad, mewn maes cyfathrebu allweddol gyda chyfle i weithio gydag amrywiol adrannau fel cleientiaid, yn ogystal ag arbenigwyr marchnata ac uwch-swyddogion.

Dyddiad Cau

25/10/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Canolbwyntio ar nod a bwriad cyffredinol yr hyn y maen nhw'n ceisio ei gyflawni, ac nid ar y dasg yn unig.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Siarad â'r bobl berthnasol er mwyn cael yr wybodaeth fwyaf cywir a chael cyngor pan na fyddant yn siŵr sut i symud ymlaen.

Arwain a Chyfathrebu

  • Mynegi syniadau'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn modd sy'n dangos sensitifrwydd a pharch at eraill.

Sicrhau Gwerth am Arian

  • Deall fod costau ynghlwm wrth bopeth a dewis y ffordd fwyaf effeithiol o wneud rhywbeth gan ddefnyddio adnoddau’n effeithlon.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  • Arbenigo mewn defnyddio systemau yn Adobe Creative Suite (Yn benodol, InDesign, Illustrator, Photoshop, Acrobat).
  • Arbenigo mewn cynhyrchu gwaith celf manwl gywir, o ansawdd uchel.
  • Gradd mewn Dylunio Graffeg neu o leiaf dwy flynedd o brofiad mewn swydd ag iddi ffocws ar ddylunio graffeg - y ceir tystiolaeth ohono mewn portffolio helaeth o waith y gellir ei briodoli ichi.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio. Y cam cyntaf bydd eich ffurflen gais. Bydd y ceisiadau yn mynd drwy sift cychwynnol ac fe gysylltwn ni â’r ymgeiswyr hynny sy’n llwyddo i basio’r cam cyntaf er mwyn iddynt gyflwyno portfolio o’u gwaith. Gellir cyflwyno’r portfolio, nail ai drwy e-bost neu drwy ddolen i dudalen we. Rhoddir manylion ynghylch ble i anfon y wybodaeth hon yn ddiweddarach. Ni ddylid cyflwyno portfolios yr un pryd â’ch cais cychwynnol.

Ail gam y broses fydd sift o’ch portffolio.

Bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n llwyddo i basio cam dau yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Bydd dau ran i’r cyfweliad-cyflwyniad byr am eich portffolio i’w ddilyn gan gyfweliad gyda panel.

Bydd adborth yn cael ei ddarparu dim ond os byddwch yn mynychu cyfweliad.

Paul O'Leary - 03000 250821 - paul.oleary@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.