Swydd Wag -- Pennaeth y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal Cymdeithasol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyfodol Gofal Cymdeithasol
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
Dechrau talu hyd at Cam 3 o'r raddfa cyflog.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Y swydd hon yw’r rôl arwain allweddol yn y Swyddfa Genedlaethol newydd dros Ofal Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Mae’n adeiladu ar y cysyniad cychwynnol a ddisgrifir yn y Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol, a gaiff ei sefydlu’n llawn erbyn mis Ebrill 2024, yn rhoi arweiniad clir a chymorth ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a diwallu anghenion poblogaeth sy’n newid. Yng nghyd-destun egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a blaenoriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’i ffyrdd o weithio, bydd y Swyddfa’n gwneud hyn mewn tair prif ffordd.

Yn gyntaf, drwy ddatblygu a gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth. Bydd y Fframwaith Cenedlaethol newydd, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod y misoedd sydd i ddod, yn galluogi gwelliannau yn y gwaith o gomisiynu gofal a chymorth. Felly, mae’r Swyddfa Genedlaethol a’r Fframwaith Cenedlaethol yn gam pwysig tuag at sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, sy’n ymrwymiad sylweddol yn y Cytundeb Cydweithio a’r Rhaglen Lywodraethu.

Yn ail, bydd y swyddfa yn cefnogi’r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol fel llais proffesiynol cenedlaethol ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys cyflawni blaenoriaethau’r Prif Swyddog, gan gynnwys sicrhau bod ‘cynnig gweithredol’ gofal cymdeithasol ar gael yn Gymraeg a mesurau i gynyddu amrywiaeth y gweithlu gofal cymdeithasol.

Yn drydydd, bydd y swyddfa genedlaethol yn datblygu ac yn cynnal trosolwg o ddarpariaeth gofal a chymorth, gan gynnwys sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol, er mwyn hwyluso rhagor o ddysgu a gwella ar draws y system. Bydd yn sail ar gyfer gyrru’r gwaith i gyflawni mentrau polisïau cenedlaethol allweddol.

Mae swydd Pennaeth y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal Cymdeithasol yn un uwch yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio yn Llywodraeth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a hefyd gyda rhanddeiliaid allanol ar lefel weithredol uwch. 

Mae’r Swyddfa Genedlaethol yn cael ei datblygu ochr yn ochr â Gweithrediaeth GIG Cymru newydd. Felly, bydd angen i ddeiliad y swydd ddatblygu arferion gweithio ar y cyd a hyrwyddo ethos integreiddio. 

Bydd rhaid datblygu cydberthnasau gweithio cadarnhaol â chyrff cenedlaethol eraill megis y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Consortiwm Comisiynu Plant Cymru, a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Prif dasgau

  • Sefydlu’r Swyddfa Genedlaethol dros Ofal Cymdeithasol, fel cam tuag at Wasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru. Wrth wneud hynny, bydd deiliad y swydd yn defnyddio profiadau o ddylanwadu, rheoli newid a rheoli rhaglenni ar draws prosiectau aml-randdeiliaid.
  • Datblygu diwylliant yn y Swyddfa Genedlaethol sy’n hyrwyddo’r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol, gan weithio’n agos gyda phartneriaid i wella ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaethau a gomisiynir. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod y rheoliadau cyfatebol a chanllawiau statudol yn cael eu cyflawni.
  • Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n effeithiol gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid allweddol eraill i lywio’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Cenedlaethol. Wrth wneud hynny, bydd deiliad y swydd yn arddangos sgiliau arwain cryf a gwybodaeth am weithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cynnal hwb y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth drwy ysgogi tîm o staff yn effeithiol a chynnig canllawiau ac arbenigedd ynghylch sgiliau rheoli rhaglenni, yn ogystal â nodi blaenoriaethau, a gofynion cyflawni.
  • Darparu cymorth i Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, i fod yn llais cryf dros broffesiwn gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol, gan bwysleisio arferion da, a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ofal cymdeithasol.

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd flaenllaw hon yn gyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn holl gymunedau yng Nghymru. Bydd deilydd y swydd yn gweithio’n agos gyda Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru i siapio rôl a chynllun gwaith y Swydd Genedlaethol newydd.

Bydd y rôl yn ymdrin yn helaeth â’r amgylchedd gwleidyddol deinamig a datblygu gwasanaethau, gan weithio’n agos gydag uwch gydweithwyr mewn sefydliadau partner. Yna caiff deilydd y swydd lawer iawn mwy o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd mewn rhwydwaith o uwch arweinwyr ac ymarferwyr.

Dyddiad Cau

17/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweld y Darlun Cyflawn 

  • Creu polisïau, cynlluniau a gwasanaethau i fodloni’r amrywiol anghenion sydd gan ddinasyddion, gan wneud hynny ar sail y diweddaraf am anghenion, materion ac arferion da perthnasol.

Newid a Gwella 

  • Casglu, defnyddio a rhannu sylwadau a safbwyntiau eu cwsmeriaid yn effeithiol, gan gynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid, er mwyn gwella’r polisi a’r ffordd y caiff ei weithredu.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth 

  • Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt.

Gwella Gallu Pawb 

  • Sicrhau bod pob cyfle dysgu ar gyfer yr unigolyn a’r sefydliad a chyfleoedd i ddatblygu doniau yn cael eu defnyddio’n llawn er mwyn meithrin gallu’r sefydliad.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Dealltwriaeth weithredol fanwl o wasanaethau gofal cymdeithasol a gofal iechyd a’r gallu i adnabod a goresgyn heriau posibl wrth ddatblygu a chyflawni polisïau.

  2. Ddangos sgiliau arwain wrth sefydlu diwylliannau amrywiol a chynhwysol, gan ddangos ymwybyddiaeth o anghenion gwasanaeth amrywiol cymunedau ar draws Cymru.

  3. Tystiolaeth o brofiad mewn trafod, dylanwadu, rheoli newid a rheoli rhaglenni mewn amgylchedd partneriaeth gymhleth.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, a chaiff ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad.  Yn ystod y cyfweliad, gofynnir iddynt wneud cyflwyniad i fynd i'r afael â "Sut fyddech chi'n gwneud gwahaniaeth fel Pennaeth y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal Cymdeithasol newydd?" a gofynnir nifer o gwestiynau yn seiliedig ar gymhwysedd ac sy'n benodol i’r swydd sy'n ymwneud â rôl y swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mae cyfle i ymgeiswyr glywed gan a gofyn cwestiynau sy'n recriwtio rheolwr am 1.30pm ar 13 Ebrill.  Os hoffech chi gofrestru ar gyfer y sesiwn hon, e-bostiwch: DyfodolAcIntegreiddio@llyw.cymru
Matt Jenkins - FuturesAndIntegration@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.