Swydd Wag -- Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwybodaeth ac Archifau
SEO - £41,700 - £49,370
£40,100
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llyfrgell Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau gwybodaeth ac ymchwil i dimau polisi a chyfreithiol sydd wedi'u lleoli mewn sawl lleoliad. 

Rydym yn chwilio am lyfrgellydd cymwysedig sydd â phrofiad o reoli gwasanaethau llyfrgell i fod yn Bennaeth Gwasanaethau Llyfrgell.  

Byddwch yn arwain tîm o 15, gan gynnwys ein gwasanaeth gwybodaeth cyfreithiol arbenigol, sy'n darparu gwasanaeth ymchwil cyflym o ansawdd uchel yn ogystal â gwasanaethau eraill i holl staff Llywodraeth Cymru.  Bydd gennych gyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod gwasanaeth cynhwysfawr o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu gan ein tîm o lyfrgellwyr ac y gall y gwasanaeth hwn addasu i anghenion sefydliadol sy'n newid. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a'ch gwybodaeth broffesiynol i:  

  • Sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â deddfwriaeth rheoli gwybodaeth y DU megis ailddefnyddio Rheoliadau Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (2015), Hawlfraint, cytundebau trwyddedu a mynediad agored, yn ogystal â Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data/GDPR. 
  • Datblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion y sefydliad wrth iddyn nhw newid, cyrraedd targedau a sicrhau bod polisi’n cael ei ddiweddaru. 
  • Dirprwyo ar ran y Pennaeth Gwybodaeth ac Archifau (Prif Lyfrgellydd) ar faterion sy’n ymwneud â llyfrgelloedd, yn darparu cymorth ar gyfer ymholiadau hawliau gwybodaeth ac ailddefnyddio gwybodaeth sector gyhoeddus cymhleth; canllawiau i’r tîm; cyngor i KAS; cymorth i’r proffesiwn Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd. 
  • Cyfrifoldeb am wariant y llyfrgell gan gynnwys dethol, caffael ac adnewyddu adnoddau electronig.  
  • Adroddiadau ariannol, cynllunio a monitro.

Prif dasgau

  • Cyfrifoldeb am y timau llyfrgell gan gynnwys rheoli llinell uniongyrchol i'r 3 rheolwr llyfrgell (MB2/HEO). Bydd y rôl yn cynnwys cyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygiad proffesiynol yn y llyfrgell. 
  • Goruchwylio proses effeithiol o ddethol, datblygu, rheoli, a chynnal a chadw caffael ac adnoddau y llyfrgell.  
  • Cydlynu a datblygu cynllun ar gyfer marchnata a hyrwyddo adnoddau’r llyfrgell.
  • Cysylltu â thimau polisi Llywodraeth Cymru a meysydd busnes eraill i asesu eu hanghenion gwybodaeth a chael adborth ar y gwasanaethau Llyfrgell.
  • Cynrychioli Llywodraeth Cymru ar Bwyllgor Llyfrgellwyr Adrannol (CDL) a fforymau eraill. Cymryd rhan mewn rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol eraill yn unol â chyfarwyddyd. Dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Gwybodaeth ac Archifau yn ôl y gofyn. 
  • Monitro cofnodion o wariant ar adnoddau a gedwir yn y Llyfrgell yn gywir a chwblhau adroddiadau yn ôl y gofyn. 
  • Sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu gwerthuso a’u caffael yn effeithiol.  Rheoli contractau cyflenwyr a monitro perfformiad er mwyn sicrhau bod safonau y cytunwyd arnynt yn cael eu bodloni.     
  • Ymateb i ymholiadau hawlfraint, ailddefnydd gwybodaeth y gwasanaeth cyhoeddus (PSI) a hawliau gwybodaeth, datblygu diwylliant o gydymffurfio a chynghori ar arfer gorau. 
  • Darparu cymorth ychwanegol ar ymchwil ac ymholiadau yn ôl y gofyn.
  • Cyfrifol am adolygu, datblygu a gweithredu cyfarwyddiadau desg a threfniadau gweithredu priodol. 
  • Cymryd rôl flaenllaw mewn prosiectau a thasgau yn unol â chyfarwyddyd.
  • Datblygu, gwerthuso ac adolygu gwasanaethau llyfrgell gan sicrhau eu bod yn cyrraedd anghenion defnyddwyr ac yn parhau i addasu i ffyrdd newydd o weithio.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn rhoi cyfle i weithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid a chael dealltwriaeth o anghenion gwybodaeth cydweithwyr polisi a deddfu o fewn y llywodraeth.  Mae hwn yn amgylchedd sy'n newid yn gyflym gan fod y gwasanaeth yn delio â materion proffil uchel fel Covid yn ogystal â swyddogaethau newydd ar ôl Brexit. Mae meddwl ystwyth a gweld dros y gorwel yn ffactorau llwyddiant allweddol. Bydd y swydd yn galluogi unigolion i ehangu amrywiaeth o sgiliau llyfrgell a rheoli gwybodaeth.    

Bydd deiliad y swydd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn nifer o rwydweithiau proffesiynol. Yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth ehangach o faterion proffesiynol, bydd cymryd rhan yn rhwydwaith Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd y Llywodraeth ehangach yn datblygu ymwybyddiaeth o'r sector.

Bydd y swydd hon yn benodiad Cyfnod Penodol o 2 flynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad neu barhad, er na ellir gwarantu hyn. 

Dyddiad Cau

15/11/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Newid a Gwella

  • Bod yn barod i wynebu heriau neu newidiadau anodd neu gymhleth, gan annog a chefnogi eraill i wneud yr un fath.

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Gweithio gyda’r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni.

Sicrhau Gwerth am Arian

  • Gweithio’n hyderus gyda data ariannol a data rheoli perfformiad i baratoi rhagolygon, a rheoli a monitro’r cyllidebau yn unol â’r cynlluniau y cytunwyd arnynt.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd;

Sgil GKIM 1 – Defnyddio a manteisio ar wybodaeth a hysbysrwydd. Manteisio ar gyfleoedd i’r sefydliad gael y budd mwyaf posib o’i wasanaethau llyfrgell ac arbenigedd llyfrgellwyr.  

Sgil GKIM 2 – Caffael, rheoli a threfnu gwybodaeth a hysbysrwydd. Datblygu strategaethau a pholisïau ar gyfer gwasanaethau llyfrgell sy'n diwallu anghenion busnes ac sy'n unol â'r gofynion cyfreithiol a pholisi. 

Sgil GKIM 3 – Llywodraethu Gwybodaeth.  Deall y drefn ddeddfwriaethol a rheoleiddiol y mae angen i’r llyfrgell weithredu o’i mewn a datblygu gwasanaethau i sicrhau cydymffurfiaeth.  

Proses Asesu

Bydd y cyfweliad hwn yn cynnwys cwestiynau sy'n seiliedig ar gymhwysedd ac asesiad o sgiliau rheoli gwybodaeth a hysbysrwydd ar ffurf prawf gwybodaeth a rhai cwestiynau sy'n seiliedig ar sgiliau. Cynhelir y cyfweliad drwy Microsoft Teams

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Emma Harvey-Woodason - Emma.Harvey-Woodason@gov.wales - 03000 250381

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.