Swydd Wag -- Pennaeth Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynllunio ac adrodd strategol a gweithredol
- Cyfathrebu ac ymgysylltu
- Polisi a deddfwriaeth
Prif dasgau
Strategaeth
1. Arwain ar y gwaith o ddatblygu, monitro ac adolygu strategaeth AGIC.
2. Arwain ar y gwaith o gyhoeddi cynllun gweithredol blynyddol AGIC a chyhoeddiadau corfforaethol allweddol eraill.
3. Sicrhau bod AGIC yn rhoi ystyriaeth lawn i ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi wrth reoli ei busnes ac wrth arwain ymateb AGIC i ddylanwadu ar ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi.
4. Cefnogi’r Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu ar faterion cynllunio strategol a gweithredol, datblygiadau polisi a deddfwriaethol, cyfathrebu, datblygu sefydliadol a phroffesiynol, ac ymgysylltu mewnol/allanol â'r staff, partneriaid a’r cyhoedd.
Ymgysylltu
5. Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth ymgysylltu gyffredinol ar gyfer AGIC sy’n sicrhau cyfranogiad cadarnhaol a chanlyniadau cadarnhaol o’n gwaith gyda chleifion a’r cyhoedd.
6. Arwain ar y gwaith o greu strategaeth cydraddoldeb sy’n sail i’r ffordd y mae AGIC yn ystyried anghenion grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig, a grwpiau lleiafrifol eraill, trwy ein gwaith.
7. Sicrhau bod adroddiadau a chyfathrebiadau eraill AGIC yn cael eu cyflwyno mewn ffordd glir sy’n rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a gweinidogion ynghylch ansawdd gofal iechyd yng Nghymru.
8. Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Gwybodaeth a Phartneriaethau i sicrhau bod gwybodaeth ac adnoddau'n cael eu rhannu er mwyn cyflawni blaenoriaethau AGIC yn effeithlon, gan gynnwys drwy weithio mewn partneriaeth.
Cynllunio
9. Sicrhau bod cynllun gweithredol, adroddiad blynyddol a chynlluniau eraill AGIC yn cyd-fynd yn briodol ag amcanion strategol y sefydliad.
Polisi
10. Cynnal gwaith ymchwil a chynghori'r Prif Weithredwr a'r uwch-dîm ar oblygiadau datblygiadau polisi i gleifion, y cyhoedd a chyfrifoldebau AGIC.
11. Sicrhau bod y dystiolaeth a’r wybodaeth sydd ar gael i AGIC yn cael eu defnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu syniadau a chynigion ar gyfer gwella gofal iechyd yng Nghymru.
12. Ymgysylltu â chydweithwyr polisi a dylanwadu arnynt i wneud y mwyaf o’r buddion posibl i gleifion a’r cyhoedd wrth i gynigion gael eu llunio a dod yn fwriadau polisi cadarn.
Cyfathrebu
13. Rheoli swyddogaeth gyfathrebu'r sefydliad ar lefel strategol, yn pennu'r negeseuon a chynulleidfa gyffredinol ar gyfer AGIC ac, ar lefel weithredol, yn sicrhau bod gweithgareddau cyfathrebu, gan gynnwys cysylltu â'r cyfryngau, yn cael eu darparu'n effeithiol.
14. Sicrhau a rheoli unrhyw gyngor cyfathrebu arbenigol a all fod yn angenrheidiol pan fo'n briodol.
Cyffredinol
15. Cymhwyso disgyblaethau rheoli pobl cryf i sicrhau bod y staff yn cael yr hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni'n effeithiol a'u bod yn gallu datblygu.
16. Gweithio ar y cyd â chydweithwyr ledled AGIC.
17. Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau ei dîm.
Cyfleoedd datblygu
Mae'r rôl yn cynnig y cyfle i ennill profiad o arweinyddiaeth mewn sefydliad sy'n weithredol annibynnol.
Bydd deiliad y swydd mewn rôl proffil uchel, yn cynrychioli’r sefydliad ac yn hyrwyddo ei farn gyda phartneriaid mewnol ac allanol.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Gweld y Llun Mawr
- Dod â barn a safbwyntiau rhanddeiliaid ynghyd i gael darlun ehangach o'r dirwedd o amgylch gweithgareddau a pholisïau
Arwain a Chyfathrebu
- Egluro strategaethau a chynlluniau, cyfathrebu pwrpas a chyfeiriad gydag eglurder a brwdfrydedd
Rheoli Gwasanaeth o Safon
- Sicrhau y cedwir at ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a diogelwch wrth ddarparu gwasanaethau a chynnwys ystyriaethau amrywiaeth a chydraddoldeb mewn cynlluniau
Cyflawni'n Gyflym
- Cael y gorau allan o bobl trwy roi negeseuon brwdfrydig ac anogol am flaenoriaethau, amcanion a disgwyliadau
Meini Prawf Penodol i'r Swydd
- Dealltwriaeth dda o'r materion polisi, cyfreithiol a pherfformiad sy'n effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru.
- Profiad o weithio gydag ystod eang o bartneriaid i gyflawni amcanion busnes a dylanwadu.
- Profiad o reoli cyfathrebu ac ymgysylltu mewn amgylchedd cymhleth.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.