Swydd Wag -- Rheolwr Rhaglen Cartrefi Clyd (SEO) - Cyfle am Fenthyciad o’r Tu Allan (trosglwyddiad ar draws y Gwasanaeth Sifil yn unig)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Mae'r swydd yn rhan o'r Is-adran Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni. Mae'r Is-adran wrth wraidd datblygu atebion ar gyfer yr hinsawdd ac argyfyngau costau byw, gan weithio ar draws Llywodraeth Cymru a chyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Rydym yn adrodd i dri Gweinidog am ein gwaith ac mae’n ystyriaeth allweddol i holl aelodau'r Cabinet. Mae'r swydd hon yn gyfle i weithio mewn cangen sy’n gyfrifol am gyflawni'r Rhaglen Cartrefi Clyd bresennol ac am greu Rhaglen newydd i'r dyfodol, sy’n ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
Deiliad y swydd fydd Rheolwr y Rhaglen a bydd yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu cam nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd, sy’n werth £105 miliwn. Disgwylir iddi gael ei dyfarnu ganol 2023 a disgwylir iddi ddechrau cael ei chyflawni yn hydref/gaeaf 2023.
Bydd deiliad y swydd yn llywio’r gwaith o reoli’r prosiect, gan gynghori a goruchwylio'r Bwrdd Prosiect a'r trefniadau llywodraethu, gan gydlynu’r gwaith o ymgysylltu â gwasanaethau cymorth technegol a benodir ac a rhanddeiliaid ehangach.
Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio datblygiad y caffael a'r masnachol, gan ymgysylltu â chydweithwyr, gan gynnwys Cartrefi a Lleoedd, Dyfodol Llewyrchus a Gwasanaethau Cyfreithiol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn arwain ysgogi'r contract newydd. Bydd deiliad y swydd yn rheoli dwy swydd HEO a swydd EO yn ystod datblygiad y Rhaglen.
Mae'r swydd yn cynnig cyfle i weithio ar gyflymder, o fewn cangen gyflenwi ac wedi'i harwain gan bolisi, i ddylanwadu a llunio maes blaenoriaeth Rhaglen i'r Llywodraeth. Bydd y cynllun Nyth Cartrefi Cynnes presennol yn parhau tan o leiaf Medi 2023. O 2023 ymlaen bydd y Rhaglen newydd, sy’n ymrwymiad yng Nghynllun Tlodi Tanwydd 2021-2035, yn parhau i gefnogi cartrefi, i ddatgarboneiddio a lleihau biliau ynni ein cartrefi sydd fwyaf agored i niwed.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i gael profiad o reoli rhaglenni mewn maes proffil uchel a hanfodol i fusnes, gan weithio gydag ystod amrywiol o randdeiliaid. Mae'r swydd o fewn yr Is-adran Newid Hinsawdd ac yn cynnig cyfle i weithio'n agos gydag eraill sy'n arwain ar ein hagwedd at sero net.
Prif dasgau
Bydd deiliad y swydd yn adrodd wrth y Pennaeth Effeithlonrwydd Ynni Domestig a Thlodi Tanwydd a bydd yn:
- Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gynllunio cynllun tlodi tanwydd i’r dyfodol, sy’n cyd-fynd â’r strategaeth tlodi tanwydd. Arwain at waith caffael sydd ynghlwm wrth y cynllun i’r dyfodol.
- Arwain y trefniadau llywodraethu a’r trefniadau o ran rheoli prosiect, gan baratoi pecynnau gwaith penodedig, o fewn ffrydiau gwaith, fel bod modd cyflawni cynnyrch wedi’i deilwra o fewn yr amserlen bresennol.
- Arwain ar waith rheoli rhaglenni a sicrwydd, gan gynnwys paratoi dogfennau a gofynion adrodd ar gyfer cyfarfodydd misol y Bwrdd Prosiect a Phorth y Llywodraeth.
- Cydweithio gyda’r swyddog polisi arweiniol a’r Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn diwygio’r Rheoliadau i adlewyrchu’r newidiadau sy’n ofynnol i’r Rhaglen newydd.
- Arwain ar waith rheoli’r cynllun symudedd ar gyfer y cynllun newydd, gan sicrhau trosglwyddiad didrafferth.
- Cydweithio gyda thîm ehangach Nyth ar ddatblygiad contract Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a Monitro i ategu gwaith gweithredu’r Rhaglen newydd.
- Cefnogi tîm Nyth ar waith cyflenwi’r Contract Sicrhau Ansawdd a Monitro ar ôl i’r contract gael ei ddyfarnu, gan gynnwys rheoli perfformiad y contract a rheoli’r trefniadau ariannol.
- Gweithio fel rhan o’r tîm ehangach i gynrychioli tlodi tanwydd a chyfrannu at y strategaeth newydd ar gyfer tlodi tanwydd.
- Meithrin cysylltiadau gyda rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnal cysylltiadau gwaith cadarn sydd o fudd i’r ddwy ochr.
- Bod yn rheolwr llinell ar staff, ar hyn o bryd dau HEO ac un EO.
- Arwain ar waith cyflenwi cyngor corfforaethol, cyngor o ran y llywodraeth a chyngor i Weinidogion, oll o safon uchel iawn, mewn perthynas â’r Rhaglen Cartrefi Cynnwys a chyfrannu at gyngor trawsbynciol ehangach.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Hyderus o ran Anabledd
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth yn y fformat canlynol yn eu cais.
- Profiad o bob agwedd ar gyflenwi prosiectau cymhleth neu raglen i gyflawni polisi gan y Llywodraeth. (300 geiriau)
- Tystiolaeth o adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys contractwyr y sector preifat. (300 geiriau)
- Profiad o feithrin sgiliau o fewn tîm i wella’r gallu i gyflawni. (300 geiriau)
Proses Asesu
Am ragor o wybodaeth ar y broses asesu gweler y pecyn ymgeisydd yma.
Gweler ‘Sut i Wneud Cais’ isod am ragor o gyfarwyddyd ar sut i gyflwyno ffurflen gais am y cyfle hwn.
Gwybodaeth arall
Swyddi a Thelerau ac Amodau
- Mae'r cyfleoedd benthyciad o’r tu allan ar gael i Weision Sifil presennol yn unig (ar sail benthyciad yn unig). Mae'r cyfle hwn ar gael i weithwyr presennol y gwasanaeth sifil sydd ar gontract cyfnod penodol neu barhaol ac a gafodd eu recriwtio i'w swydd bresennol drwy gystadleuaeth deg ac agored. Dim ond am weddill eu contract cyfnod penodol y gellir penodi'r rhai ar gontractau cyfnod penodol. Nid yw'r rhai sydd ar gontractau cyfnod penodol neu gontractau parhaol sydd ddim yn gweithio yn y gwasanaeth sifil ar hyn o bryd yn gymwys i wneud cais.
- Does dim disgwyl i chi gael eich trosglwyddo’n barhaol draw i Lywodraeth Cymru.
- Mae'r holl swyddi ar gael ar radd bresennol y gweithiwr ar sail symud ar draws yn unig. Nid yw'r cyfle hwn ar gael ar sail dyrchafiad dros dro.
- Nid yw cyfleoedd am ddyrchafiad dros dro neu barhaol ar gael drwy'r cyfle hwn, fodd bynnag, bydd llawer o'r rolau yn cynnig cyfle i gael profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
- Byddwn yn gwneud pob ymdrech i'ch paru â swydd yn seiliedig ar y dystiolaeth a roddwyd gennych yn eich ffurflen gais ac yn eich cyfweliad anffurfiol.
- Ni allwn warantu y cewch gynnig swydd neu swydd benodol.
- Os ydych yn llwyddo i gael eich paru â rôl, byddwch yn symud o dan drefniadau ffurfiol benthyciad o’r tu allan, h.y. byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru, gan fod y benthyciad am gyfnod o fwy na 6 mis.
- Bydd y cyflog yn cyfateb i’ch cyflog presennol i'r pwynt cyflog agosaf o fewn y band cyflog, ac ni fyddwch ar eich colled https://www.llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
- Sicrhewch eich bod wedi cael cymeradwyaeth/awdurdodiad y rheolwr llinell ar gyfer eich rhyddhau.
- Rhaid i chi fod ar gael i gael eich rhyddhau ar unwaith, oherwydd ar ôl eich paru â rôl, bydd disgwyl i chi ddechrau yn y swydd yn gyflym.
- Er nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y broses ddethol ar gyfer yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n gallu gweithio'n ddwyieithog.
- Gan mai cyfle ar fenthyg yw hwn, cofiwch os daw'r swydd i ben, neu os yw eich contract gyda'ch sefydliad gwreiddiol ar fin dod i ben, y bydd disgwyl i chi ddychwelyd i'ch sefydliad presennol.
Sut i wneud cais
Dylid cyflwyno pob cais ar gyfer y swydd hon ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.
I wneud cais am gyfle benthyciad o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi ffurflen gais i Symud ar Draws. Os na fydd y ffurflen hon yn cael ei chwblhau a/neu ei chyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.
Yn y Ffurflen Gais i Symud ar Draws, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:
- Datganiad Personol – yn rhoi trosolwg byr o'ch sgiliau a pham eich bod yn gwneud cais i symud. (300 gair)
- Hanes gyrfa yn gryno.
- Tystiolaeth sy’n benodol i’r swydd - bydd gofyn i chi ddweud wrthym am eich sgiliau, eich profiad a'ch gallu yn unol â'r dair elfen benodol i’r swydd a restrir yn yr hysbyseb swydd (300 gair ar gyfer pob un).
Bydd y dystiolaeth a ddarperir yn eich Ffurflen Gais i Symud ar Draws yn cael ei hasesu gan banel sifftio.
Yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a ddaw i law, efallai y bydd proses gyfweld anffurfiol yn dilyn lle bydd y panel yn cwrdd â phob ymgeisydd i archwilio ymhellach y dystiolaeth a gyflwynir yn eu cais a sut maent yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd a restrir yn yr hysbyseb swydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio'r broses sifftio (a lle bo hynny'n berthnasol y cyfweliad swydd anffurfiol) yn symud ymlaen i'r broses baru. I gael rhagor o fanylion ynglŷn â'r broses hon, y camau a restrir uchod a'r cyfle hwn, cyfeiriwch at y pecyn canllawiau i ymgeiswyr.
Os oes gennych amhariad sy’n golygu na allwch wneud cais ar-lein, anfonwch neges e-bost at: recriwtioallanol@llyw.cymru i ofyn am becyn cais mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy’n gysylltiedig ag amhariad, er mwyn cyflwyno'ch cais.
I wneud cais, bydd angen i chi gael cyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch ar y botwm 'Gwneud Cais' isod, a gofynnir i chi fewngofnodi os oes gennych gyfrif eisoes, neu 'Gofrestru' os nad oes gennych gyfrif. Gallwch gofrestru mewn ychydig funudau'n unig. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch er mwyn gallu cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif, a mewngofnodi, ewch i'r ffurflen gais ar-lein. Bydd angen i chi lenwi a chyflwyno’r ffurflen cyn y dyddiad cau.
Os hoffech wneud cais am y swydd hon yn Saesneg, defnyddiwch y ddolen 'Newid Iaith / Change Language' ar frig y dudalen hon, a fydd yn mynd â chi at y fersiwn Saesneg o'r hysbyseb, er mwyn ichi allu gwneud cais yn Saesneg.
**Noder: Os oes cyfrif gennych eisoes ar gyfer y system benodi ac yr hoffech ddiweddaru eich enw defnyddiwr a'ch cyfeiriad e-bost i'r cyfeiriad @llyw.cymru newydd, dylech fewngofnodi gan ddefnyddio eich hen fanylion, clicio ar eich enw yn y ddewislen, a dewis 'Golygu Manylion Personol' ar y gwymplen. Gallwch ddiweddaru unrhyw fanylion personol ar y dudalen hon.**
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.