Swydd Wag -- Arolygydd Rhanbarthol Henebion ac Archaeoleg

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Cadw
SEO - £41,700 - £49,370
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y Canolbarth, Gogledd Cymru
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae swydd Arolygydd Rhanbarthol Henebion ac Archaeoleg yn swydd arbenigol sy’n gyfrifol am ddarparu ystod eang o ddyletswyddau statudol yn ymwneud â gwarchod, cynnal, diogelu a hyrwyddo dealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru ar draws un o bedwar rhanbarth yng Nghymru (ar hyn o bryd y De-Orllewin, y De-ddwyrain, y Gogledd-orllewin a’r Gogledd-ddwyrain a’r Gororau).

Mae’r swydd hon yn galw am ymgymryd â dyletswyddau statudol a gwaith achos sy’n ymwneud â henebion dynodedig (cofrestredig) o bob math a chyfnod, o’r cynhanesyddol hyd at yr 20fed ganrif, o fewn rhanbarth ddiffiniedig yng Nghymru. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys darparu cyngor rheoli treftadaeth a chynllunio, ysgogi a monitro ymchwiliadau archaeolegol, ymdrin ag adroddiadau o ddifrod, cyflawni dyletswyddau gorfodaeth, cynrychioli Llywodraeth Cymru (gan gynnwys mewn ymchwiliadau cyhoeddus) a chydsynio a monitro prosiectau cadwraeth gwaith maen a gwrthgloddiau.

Yn ogystal â dyletswyddau rhanbarthol, fel un o bedwar arolygydd rhanbarthol, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb dros feysydd polisi amgylchedd hanesyddol strategol ar draws Cymru gyfan, gan adlewyrchu blaenoriaethau Rhaglen y Llywodraeth a Cadw. Mae’r meysydd polisi hyn yn cael eu pennu ar sail blaenoriaethau cynllun busnes Cadw a meysydd arbenigedd a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae hon yn swydd arbenigol sydd yn gofyn am gymwysterau archaeolegol a/neu reoli treftadaeth ffurfiol i lefel gradd, ynghyd â phrofiad ymarferol sylweddol. Mae’n ofynnol i ddeiliad y swydd roi cyngor yn unol ag arfer ac arweiniad gorau. Yn ddelfrydol, bydd yn Aelod o Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (MCIfA), neu’n gallu sicrhau hynny o fewn blwyddyn o ymgymryd â’r swydd.

Mae gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb rheolwr llinell am dros un neu fwy o Wardeniaid Henebion Maes a bydd disgwyl iddo ddarparu arweinyddiaeth ehangach ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd hanesyddol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynrychioli Cadw ar grwpiau thematig allanol, ar draws y sector a datblygu partneriaethau gyda rhanddeiliaid allanol allweddol.

Dylid nodi bod y swydd yn gofyn am deithio rheolaidd i safleoedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus. O ganlyniad, mae angen i ddeiliad y swydd ddal trwydded yrru lawn yn y DU.

Mae’r swydd yn gofyn am ymweld â safleoedd mewn lleoliadau anghysbell (tir fferm a chefn gwlad agored) gyda mynediad ar droed yn unig, a gallai’r swydd hefyd olygu angen i archwilio safle o ben sgaffaldiau.

Bydd offer a hyfforddiant iechyd a diogelwch ar gyfer ymweld â safleoedd anghysbell yn cael eu darparu.

Prif dasgau

  • Darparu cyngor proffesiynol arbenigol, goruchwylio a monitro cydsyniadau heneb cofrestredig a cheisiadau grant henebion ar gyfer henebion o bob math, oed a chymhlethdod.
  • Cynrychioli Cadw a rhoi cyngor arbenigol ar reoli treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol mewn fforymau rhanbarthol a grwpiau eraill sy’n canolbwyntio ar gadwraeth.
  • Gweithredu fel swyddog penodedig y llywodraeth a monitro’r gwaith sy’n cael ei wneud gan un o Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru dan gymorth grant gan Lywodraeth Cymru.
  • Rheoli rhaglen waith Wardeiniaid Henebion Maes, gan gynnwys darparu cyngor a hyfforddiant i roi cyngor a chyflawni cytundebau rheolwyr.
  • Darparu cyngor proffesiynol arbenigol ar waith achos sy’n effeithio ar henebion cofrestredig, gan gynnwys ymgynghoriadau cynllunio statudol.
  • Cynrychioli’r Gangen Amgylchedd Hanesyddol wrth gyfrannu at Dimau Datblygu Henebion Rhanbarthol a Thimau Prosiect henebion yng ngofal Cadw.
  • Briffio neu helpu i friffio Gweinidogion a/neu uwch swyddogion ar gyfrifoldebau pwnc, gan gynnwys sesiynau briffio llafar neu fynychu cyfarfodydd neu ymweliadau gweinidogol, a chyfrannu cyngor ysgrifenedig ar gyfer comisiynau briffio ledled Cadw.
  • Rheoli contractau a rhaglenni gwaith ar gyfer prosiectau cadwraeth mawr gan ymgynghorwyr a chontractwyr mewn henebion nad ydynt yn cael eu gwarchod.
  • Rheoli grantiau a chontractau ar gyfer gwasanaethau a chyngor archaeolegol arbenigol, gan gynnwys cloddio, synhwyro o bell, dadansoddi darganfyddiadau a chadwraeth, ac ymchwiliadau palaeo-amgylcheddol.
  • Asesu achosion o waith heb ei awdurdodi neu ddifrod i henebion cofrestredig; goruchwylio’r gwaith o baratoi adroddiadau difrod a chydweithio gyda’r awdurdodau statudol (Heddlu a’r Arolygiaeth Wledig) perthnasol, gan gynnwys rhoi tystiolaeth fel tyst arbenigol.
  • Archwilio, asesu ac argymell safleoedd o fewn eu rhanbarth i’w dynodi (cofrestru).
  • Goruchwylio ac ymgymryd â gwaith ymchwil gwreiddiol i wella ein dealltwriaeth o safleoedd gwarchodaeth Cadw a henebion cofrestredig eraill sy’n cael eu heffeithio gan brosiectau neu waith achos.
  • Cynrychioli Cadw ac arwain ar feysydd polisi sy’n ymwneud â meysydd arbenigedd.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n gymesur â graddfa a chymwyseddau gofynnol y swydd ar gais rheolwr llinell.

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd yn rhan o dîm Arolygiaeth Archaeolegol Cadw sy’n cynnwys archaeolegwyr arbenigol a gweithwyr treftadaeth proffesiynol. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn ystod o gyfleoedd hyfforddi mewnol ac allanol gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus.

Bydd deiliad y swydd yn cael cyfleoedd i arwain a chymryd rhan mewn prosiectau sy’n gysylltiedig â chadwraeth, rheoli, dehongli a chyflwyno, yn fewnol gyda Llywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad â phartneriaid megis Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol

Dyddiad Cau

23/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Gweld y Darlun Cyflawn –Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw. 
  • Arwain a Chyfathrebu – Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
  • Rheoli Gwasanaeth Safonol – Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaethau er mwyn sicrhau rhagoriaeth ac arbenigedd proffesiynol ynghyd â gwerth am arian.
  • Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth – Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Gradd dda mewn archaeoleg neu radd ôl-raddedig berthnasol (e.e. rheoli treftadaeth, cadwraeth adeiladau).
  • Dealltwriaeth amlwg a phrofiad ymarferol o egwyddorion cadwraeth a rheoli asedau hanesyddol.
  • Profiad ymarferol o arwain, pennu a gweithio ar brosiectau cadwraeth archaeolegol a/neu reoli treftadaeth, a gweithredu ar lefel sy’n cyfateb i lefel Aelod o Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA). 

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Swarnim Srivastava-SharedServiceHelpdesk@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.