Swydd Wag -- Cynghorydd Llys Teulu - Gwent/Newport x 4

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafcass Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £40,100 a £41,980 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a pherfformiad yn y cyfweliad. Nid yw'r ystod hon yn agored i drafodaeth.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Gwent (Casnewydd)
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cafcass Cymru yn weithredol – yn cynghori’r llys ar achosion lle mae lles plentyn yn y fantol – ac mae hefyd yn rhan o Lywodraeth Cymru.  Mae gennym felly'r gorau o ddau fyd - cyflawni gwasanaethau a'r gallu i siapio a dylanwadu.  Rydym yn sefydliad sy'n byw ac yn anadlu ei werthoedd.  Rydym yn sefydliad sy'n wirioneddol yn ei awydd i wella canlyniadau i'r plant rydym yn gweithio gyda nhw.  Rydym yn sefydliad sy’n rhoi Cymru ar y map ym myd gwaith cymdeithasol a chyfiawnder teuluol.  Rydym am i chi fod yn rhan o’r daith gyffrous hon o roi’r plentyn yn gyntaf a gwneud gwahaniaeth.

Yn Cafcass Cymru, rydym yn cefnogi miloedd o blant a theuluoedd mewn achosion llys teulu bob blwyddyn.  Ein pwrpas yw diogelu’r plentyn a sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed yn y system cyfiawnder teuluol.  Mae dyfodol y plentyn wrth wraidd pob argymhelliad a wneir a phob cam a gymerir gan Cafcass Cymru.

Ein nodau

Fel sefydliad sy’n dysgu, mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo’n gryf i barhau i fuddsoddi yn ein staff er mwyn cynnal lefelau cyson o ansawdd, datblygu ein gwasanaethau ac arloesi a gwella’n barhaus mewn ymateb i heriau’r dyfodol.  Ein nodau yw:

  • Darparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i gefnogi canlyniadau gwell i bob plentyn, unigolyn ifanc a theulu rydym yn gweithio gyda nhw.
  • Creu amgylchedd a diwylliant dysgu lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu llesiant yn cael ei gefnogi.
  • Rhannu ein gwybodaeth, dysgu gan bartneriaid a defnyddio ein dylanwad ar y cyd i wella'r system cyfiawnder teuluol a gofal cymdeithasol plant yng Nghymru.

Buddion gweithwyr

Mae Cafcass Cymru yn Is-adran o’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru ac mae gyrfa gyda ni yn cynnig llawer o fanteision gwasanaeth sifil gan gynnwys:

  • Dilyniant cyflog yn seiliedig ar flaenswm cynyddrannol blynyddol.
  • Hawl gwyliau llawn amser o 31 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â deg diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.
  • Mynediad i gyfleoedd hyfforddi niferus.

Fel Cynghorydd Llys Teulu, byddwch yn mynd allan i gyfarfod â phlant a theuluoedd ac yn mynychu'r llys yn rheolaidd.  Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ar gyfer yr holl deithiau busnes swyddogol ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae angen trwydded yrru ddilys ac yswiriant modur.  Mae rhagor o wybodaeth am leoliad a theithio isod. 

Amrywiaeth

Rydym yn ymroddedig i ddod yn sefydliad sy'n fwyfwy amrywiol gyda gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y plant a'r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion o gefndiroedd amrywiol sydd ag ystod o brofiadau gwaith cymdeithasol proffesiynol a byw. Cefnogir hyn gan ein hymagwedd ddeinamig at ddysgu a datblygu ac mae nifer o rwydweithiau amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol, Rhwydwaith PRISM LGBTI+, a'r Rhwydwaith Menywod Ynghyd.

Y rôl

Rôl Cynghorwyr Llys Teulu Cafcass Cymru yw cynrychioli dymuniadau, teimladau a buddiannau gorau plant a phobl ifanc sy’n ymwneud ag achosion llys teulu yng Nghymru, gan ddarparu cyngor gwaith cymdeithasol annibynnol sy’n amddiffyn a hybu eu lles. 

I fod yn Gynghorydd Llys Teulu, rhaid i chi fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda dealltwriaeth o wasanaethau diogelu i blant a'u teuluoedd yn y sector statudol.

Mae ein gwaith yn heriol, felly bydd angen i chi fod yn wydn a threfnus, gyda'r gallu i weithio'n gymesur, gyda sgiliau TG cryf a sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol.

Os mai dyma’r math o ddiwylliant a sefydliad y credwch y gallwch ffynnu ynddynt a’ch bod yn cael eich ysgogi i wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd, byddai Cafcass Cymru yn croesawu eich diddordeb.

 

Prif dasgau

Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd sy'n agored i niwed, i gynghori'r llysoedd teulu ar y camau gorau i'w cymryd ar gyfer y plentyn neu'r unigolyn ifanc. Wrth wraidd hyn, byddwch yn darparu dadansoddiad achos ac argymhellion i'r llys.

Byddwch yn gweithio gyda rhieni, perthnasau, awdurdodau lleol a’r llysoedd, ac yn dangos eich dealltwriaeth o’r hyn y mae’r plentyn ei angen, ei eisiau ac yn ei deimlo.

Fel Cynghorydd Llys Teulu byddwch yn:

  • Gyfrifol am lwyth achosion cyfraith breifat a/neu gyhoeddus.
  • Darparu cyngor a chymorth gwaith cymdeithasol proffesiynol i Lysoedd er mwyn i achosion ddod i gasgliad amserol a sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'r plentyn yn seiliedig ar ei anghenion unigol a'i les pennaf.
  • Darparu tystiolaeth o ansawdd uchel (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i'r Llys.
  • Sicrhau bod lles y plentyn yn ganolog drwy gydol achos, gan gynnwys sicrhau bod y plentyn cael ei ddiogelu yn unol â gofynion sefydliadol a Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. 
  • Sicrhau bod cynrychiolaeth gyfreithiol ar gyfer y plentyn yn cael ei phenodi a'i chyfarwyddo fel sy'n ofynnol ac yn unol â gofynion statudol a sefydliadol.
  • Sicrhau bod dymuniadau a theimladau'r plentyn yn cael eu hystyried yn briodol ac adrodd ar y rhain yn brydlon ac o ansawdd uchel drwy gydol yr asesiad o anghenion y plentyn fel rhan o achos teulu.
  • Cynghori a chynorthwyo rhieni a phartïon perthnasol eraill i achosion mewn anghydfod er lles pennaf y plentyn er mwyn lleihau'r angen am ymyrraeth gan y llys.
  • Gweithio'n effeithiol gyda sefydliadau partner, rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau wrth gynnal yr annibyniaeth ofynnol fel rhan o achos.
  • Sicrhau eich bod yn gwybod y diweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, rheolau'r llys, polisïau, gweithdrefnau a datblygiadau arfer gorau.
  • Cydymffurfio â pholisïau sefydliadol, gweithdrefnau, gofynion statudol a rheolau'r llys wrth ddarparu gwasanaethau i blant a theuluoedd sy'n rhan o achos teulu.
  • Bod yn gyfrifol am ddysgu a datblygu personol yn unol â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru a phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru.
  • Gweithio fel aelod o dîm, mynd i gyfarfodydd perthnasol a chyfrannu at effeithiolrwydd a chynllunio ehangach Cafcass Cymru yn ôl yr angen.
  • Darparu gwybodaeth reoli am lwythi gwaith, arfer a pherfformiad yn ôl yr angen.
  • Defnyddio TGCh yn effeithiol ar gyfer cynllunio a chofnodion achosion a chynorthwyo darparu gwasanaeth.
  • Cynrychioli Cafcass Cymru a Llywodraeth Cymru mewn modd proffesiynol sy'n ffafriol i hyrwyddo delwedd gadarnhaol ar bob adeg.

Cyfleoedd datblygu

Yn Cafcass Cymru, rydym am fuddsoddi mewn dysgu parhaus, gan helpu i ysbrydoli ac ysgogi ein staff i ddatblygu yn eu rolau a bod y gorau y gallant fod o fewn sefydliad deinamig, amrywiol ac agored.

Mae rôl Cynghorydd Llys Teulu yn cynnig cyfleoedd sylweddol i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli, datblygu a gwella gwasanaeth Cymru gyfan, gan gynnwys cysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau.

Dyddiad Cau

29/09/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau Swyddi:

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Gwneud penderfyniadau pan fydd eu hangen, hyd yn oed os ydynt yn anodd neu'n amhoblogaidd.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Ymdrin ag achosion o wrthdaro yn brydlon ac adeiladol a chan gadw eu pennau.

 Gweld y Darlun Cyflawn

  • Mynd ati i chwilio am brofiadau i ddatblygu dealltwriaeth o’u gwaith eu hunain ac o feysydd busnes eu timau, a rhannu’r profiadau hynny.

Newid a Gwella

  • Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Tystiolaeth o ddulliau seiliedig ar Arfer i ategu arfer sy'n canolbwyntio ar dystiolaeth.
  2. Dealltwriaeth o anghenion plant sy'n ymwneud ag achosion cyfraith breifat a chyhoeddus yn y system cyfiawnder teuluol gan gynnwys pwysigrwydd adrodd amserol ac osgoi oedi wrth wneud penderfyniadau ar gyfer plant.
  3. Tystiolaeth o gynllunio achos effeithiol a chofnodi gwaith achos gyda phlentyn/plant a theuluoedd yn unol â'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.

Proses Asesu

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfatebol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru) a bod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu Reoleiddiwr Gofal arall.

I wneud cais, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein, gan ateb y 2 gwestiwn canlynol yn seiliedig ar y meini prawf penodol i swydd uchod:

  1. Gan ddefnyddio enghraifft o'ch ymarfer, dangoswch eich dealltwriaeth o anghenion plant sy'n destun achosion teulu ac esboniwch pam mae adrodd a gwneud penderfyniadau amserol yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau da i blant. (Cyfanswm 500 o eiriau).
  2. Trwy ddefnyddio esiamplau o’ch ymarfer, dywedwch wrthym am eich profiad o ddefnyddio ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth i lywio eich dadansoddi a sut mae hyn yn arwain at argymhellion diogel a chadarn sy'n llywio'r gwaith o wneud penderfyniadau er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i blant a phobl ifanc. (Cyfanswm 500 o eiriau).

Nodwch, nid oes angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig ar gyfer y 4 cymhwysedd.  Caiff rhain eu profi yn ystod y cam cyfweld.

Cofiwch ddweud wrthym beth yw eich lleoliad a ffefrir yn y blwch 'Gwybodaeth ychwanegol'.

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich ffurflen gais, bydd y broses ddethol yn cynnwys y camau canlynol:

  • Cam 1 – Llunio rhestr fer yn seiliedig ar ymatebion i'r cwestiynau uchod.
  • Cam 2 – Cyfweliad gan banel ar y cymwyseddau a meini prawf penodol i swydd, gan gynnwys cyflwyniad a baratowyd ar y diwrnod.

I gael rhagor o fanylion am y broses gwneud cais a chyfweld cysylltwch â CafcassCymruHR@llyw.cymru

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cyflog Cychwynnol:  Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £40,100 a £41,980 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a pherfformiad yn y cyfweliad.  Nid yw'r ystod hon yn agored i drafodaeth.

Lleoliad: Mae ein Cynghorwyr Llys Teulu yn gweithio’n hyblyg, boed yn y llys, gartref, yn y swyddfa neu gyda phlant a theuluoedd, wrth gwrs, ac rydym yn darparu’r dechnoleg i’ch galluogi i wneud hyn yn effeithiol.  Fel Cynghorydd Llys Teulu, byddwch yn cael eich neilltuo i un o'n pum ardal weithredol ddaearyddol gyda phrif swyddfa o fewn yr ardal honno a dylech fod yn barod i deithio'n rheolaidd o fewn pellter rhesymol i hyn.

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ar gyfer yr holl deithiau busnes swyddogol ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae angen trwydded yrru ddilys ac yswiriant modur.  Mae rhagor o wybodaeth am leoliad a theithio isod. 

Mae'r hysbyseb hon yn cynnwys swydd wag yn ardal Gwent (swyddfa yng Nghasnewydd).  Mae’n hawdd cyrraedd swyddfa Casnewydd o'r M4 (Cyffordd 28) a ffiniau’r sir, Bryste, De Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd.  Felly, byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarthau hyn ar hyn o bryd.

Os hoffech gael gwybod mwy, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â ni cyn cwblhau eich cais i drafod y rôl a’r broses recriwtio.  Anfonwch e-bost at CafcassCymruHR@llyw.cymru gyda'ch manylion cyswllt, gan nodi'r maes y mae gennych ddiddordeb mewn gweithio ynddo a'r amseroedd gorau i gysylltu â chi. 

Mae Cafcass Cymru yn gwahodd ceisiadau gan unigolion cymwys a phrofiadol i ffurfio adnodd proffesiynol o ymarferwyr sy’n derbyn ffi i weithio ar sail ad hoc.  Am ragor o wybodaeth am rôl ymarferwyr sy’n derbyn ffi a’r broses ymgeisio, cysylltwch â: CafcassCymruHR@llyw.cymru

CafcassCymruHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.