Swydd Wag -- Arolygydd Oedolion AGC x2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Cymru
HEO - £32,460 - £39,690
Gellir ystyried cyflog cychwynnol o hyd at bwynt 3 (£35,180) ar gyfer ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad hanfodol i lefel eithriadol.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Eich lleoliad swyddfa cytunedig yw naill ai Swyddfa AGC Merthyr neu Gyffordd Llandudno. Hwn fydd eich man gwaith parhaol. Fel arolygydd, byddwch yn gweithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys peth amser yn gweithio gartref, peth amser yn y lleoliad swyddfa cytunedig, a pheth amser yn safle'r gwasanaeth yr ydych yn ei arolygu. Y lleoliad swyddfa cytunedig fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i’ch man gwaith dynodedig neu delerau ac amodau eich contract. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu am gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill nad ydynt yn fan gweithio arferol o'ch dewis.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol wrth ddarparu gwasanaethau rheoledig diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. 

Prif dasg arolygydd yw sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig yn darparu gofal diogel o ansawdd da ac i annog ac ysgogi gwelliant. Mae arolygwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i ddiogelu ac amddiffyn llesiant pobl sy’n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig ac i gasglu gwybodaeth am ganlyniadau i bobl. Gall AGC ddefnyddio hyn yn ei gwerthusiad o gynghorau lleol ac i lywio datblygiad polisi.

Bydd arolygwyr yn atebol i reolwr tîm. Bydd ganddynt swyddogaeth hollbwysig i’w chyflawni i sicrhau bod cyfrifoldebau craidd AGC yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac mewn modd amserol ar draws sbectrwm llawn y gwasanaethau gofal rheoleiddiedig.

Prif dasgau

  • Goruchwylio a rheoli llwyth achosion o wasanaethau rheoleiddiedig, sicrhau bod yr arolygiadau gofynnol yn cael eu cynnal, monitro lefelau risg, asesu pryderon sy'n dod i mewn, a sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu diweddaru.
  • Cynnal arolygiadau yn unol â rhaglen y cytunwyd arni, arsylwi ac adrodd ar lesiant y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, nodi a monitro meysydd o ddiffyg cydymffurfio, a mynegi pryderon ynghylch diogelu ac ymateb iddynt.
  • Cymryd cyfrifoldeb am ddilyn a datblygu camau gweithredu mewn perthynas â gwasanaethau sy’n peri pryder a chysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys comisiynwyr, cyrff rheoleiddio eraill ac arweinwyr diogelu.
  • Paratoi a chyflawni gweithgarwch gorfodi, gan gynnwys drafftio hysbysiadau statudol.
  • Coladu a darparu tystiolaeth ar gyfer gwrandawiadau o’r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol yn y gwrandawiadau hyn.
  • Gweithio gyda rheolwyr i gyfrannu at osod a chyflawni amcanion perfformiad sefydliadol, gan gynnwys mesurau meintiol ac ansoddol.
  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol ar draws y tîm i sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu a meysydd o bryder yn cael eu hadrodd.
  • Cyfrannu at ddatblygu a gwella arferion i sicrhau safonau rheoleiddio cadarn a chyson lle eir i'r afael yn llawn â materion amrywiaeth a chydraddoldeb a chânt eu hintegreiddio.
  • Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, a pholisïau, gweithdrefnau a datblygiad arferion gorau.
  • Sicrhau datblygiad ac ymgysylltiad effeithiol parhaus â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr.
  • Paratoi gohebiaeth mewn perthynas â materion penodol a godwyd ynglŷn â gwasanaethau.
  • Sicrhau bod cofnodion yn parhau i gael eu rheoli’n gywir, gan gynnwys defnyddio cronfa ddata CRM (CaSSI).
  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad eich hun a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses perfformiad a datblygiad / cymorth rheoli Llywodraeth Cymru / AGC ac mewn trafodaeth â'r rheolwr tîm.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi'r cyfle i weithio mewn sefydliad deinamig sydd yn hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol trwy ddull sydd â phwyslais penodol ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

05/09/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Gweld y Darlun Cyflawn - Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr.
  2. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.
  3. Arwain a Chyfarthrebu - Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
  4. Cyflawni'n Brydlon - Cynllunio ymlaen llaw ond gan ailystyried llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd y galwadau ar unigolion yn gwrthdaro.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  • Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) y mae ganddynt brofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol. Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
    • Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
    • cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
    • cymhwyster addysgu neu addysg,
    • gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
    • Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Tystiolaeth o arwain a llywio'r gwaith o wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a bodloni gofynion amrywiol defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid/defnyddwyr.
  • Y gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid yn gadarn, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

Y broses ymgeisio
Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru, sef ffurflenni cais a chyfweliadau ar sail cymhwysedd. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeisydd AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddio dull STAR wrth ddarparu tystiolaeth.

Cyfweliadau
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams. Os na allwch gynnal cyfweliad ar-lein am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau eraill lle bo modd.

Os ydych yn unigolyn anabl, â nam neu gyflwr iechyd, neu’n niwrowahanol, neu os ydych yn defnyddio BSL ac yn dymuno gwneud cais am addasiad rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at CIWHR@llyw.cymru.

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cyflog a Lwfansau

Bydd Lwfans Recriwtio a Chadw o hyd at £4,535 y flwyddyn yn daladwy. Mae'r lwfans ynghlwm wrth swydd yr arolygydd ac mae'n ychwanegol at y cyflog parhaol.

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae angen trwydded yrru ddilys ac yswiriant modur.

Gellir ystyried cyflog cychwynnol o hyd at bwynt 3 (£35,180) ar gyfer ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol i lefel eithriadol.

Mae angen gwaith achlysurol y tu allan i oriau swyddfa arferol er mwyn cwblhau arolygiadau.

Lleoliad

Eich lleoliad swyddfa cytunedig yw naill ai Swyddfa AGC Merthyr neu Gyffordd Llandudno. Hwn fydd eich man gwaith parhaol. Fel arolygydd, byddwch yn gweithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys peth amser yn gweithio gartref, peth amser yn y lleoliad swyddfa cytunedig, a pheth amser yn safle'r gwasanaeth yr ydych yn ei arolygu. Y lleoliad swyddfa cytunedig fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i’ch man gwaith dynodedig neu delerau ac amodau eich contract. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu am gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill nad ydynt yn fan gweithio arferol o'ch dewis.

Y broses ymgeisio

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru, sef ffurflenni cais a chyfweliadau ar sail cymhwysedd. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeisydd AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddio dull STAR wrth ddarparu tystiolaeth.


Swyddi ar gael

Mae dwy swydd Arolygydd Oedolion ar gael ar draws y lleoliadau canlynol:

  • 1 x Arolygydd AGC – Swyddfa Merthyr
  • 1 x Arolygydd AGC – Swyddfa Cyffordd Llandudno

 

Rhestr fer / sifftio

Bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer trwy asesu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y cais a’r CV a'r dystiolaeth a lanlwythwyd. Bydd hon yn cael ei hasesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn meini prawf y cymwyseddau penodol i'r swydd fel y nodir yn y disgrifiad o’r swydd / hysbyseb swydd. 

Os yw nifer y ceisiadau’n uchel, efallai bydd y panel yn llunio rhestr fer ar sail eich ymatebion i’r tri maen prawf sy’n benodol i’r swydd yn unig. Sylwch, mae dal angen darparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â'r pedwar cymhwysedd i basio'r cam llunio rhestr fer yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad drwy'r system ar-lein.  

Ar hyn o bryd, mae dwy swydd wag ar gael ar adeg yr hysbyseb ond gallai hyn gynyddu erbyn yr amser cynnig. Bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chadw am 12 mis.

 

Cyfweliadau

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams. Os na allwch gynnal cyfweliad ar-lein am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau eraill lle bo modd. 

Os ydych yn unigolyn anabl, â nam neu gyflwr iechyd, neu’n niwrowahanol, neu os ydych yn defnyddio BSL ac yn dymuno gwneud cais am addasiad rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at CIWHR@llyw.cymru.

Efallai y gofynnir i ymgeiswyr wneud asesiad neu gyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Os felly, byddwn yn rhoi o leiaf pum diwrnod gwaith o rybudd o'r gofynion.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â rôl yn un o'r lleoliadau uchod yn seiliedig ar eu sgiliau, eu profiad a'u lleoliad daearyddol. Penodir ymgeiswyr yn ôl trefn teilyngdod oni bai nad yw eu sgiliau a'u lleoliad daearyddol yn cyfateb i'r swyddi gwag sydd ar gael. Yn yr achos hwn, bydd yr ymgeisydd nesaf â'r sgôr uchaf sy'n cyfateb i ofynion y swyddi gwag yn cael ei benodi.

Cedwir rhestr wrth gefn a fydd yn caniatáu i ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn gael eu penodi i rôl arolygydd o fewn 12 mis i'r cynnig cychwynnol pe bai swydd addas sy'n cyfateb i'w sgiliau a'u lleoliad yn codi. Unwaith eto, bydd ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn yn cael cynnig swyddi ar sail trefn teilyngdod oni bai nad yw eu sgiliau a'u lleoliad daearyddol yn cyfateb i'r swydd wag sydd ar gael.

 

Sgiliau Cymraeg

Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rolau hyn. Rydym yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg ar gyfer y swyddi hyn.

 

Gweithio hyblyg – Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i gael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.  

Gwyliau blynyddol – Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol os ydych yn gweithio’n llawn amser, pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser (e.e. 4 diwrnod = 25 diwrnod).

Gwyliau banc – Mae gweithwyr amser llawn yn cael deg diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn, pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser.

Cyflog – Rydym yn gyflogwr cyflog byw gyda graddfeydd cyflog cynyddrannol. Mae gennym hefyd strwythur cyflog cyfartal, waeth beth fo'ch oedran, statws priodasol, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth rhywedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: https://llyw.cymru/datganiad-polisi-tal-llywodraeth-cymru-2020

Teithio a chynhaliaeth – Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau ychwanegol angenrheidiol i weithwyr ar gyfer teithio a chynhaliaeth wrth gymryd rhan mewn teithiau busnes swyddogol i ffwrdd o'r swyddfa arferol. Ni fydd treuliau y gellid bod wedi eu hosgoi trwy gynllunio gwell neu a oedd fel arall yn ddiangen at ddiben swyddogol yr ymweliad yn cael eu had-dalu.

Pensiwn – Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yma: https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei holl weithwyr. Mae gennym rwydweithiau staff cadarn a rhagweithiol a rhaglenni talent amrywiaeth i helpu pawb, waeth beth fo'u cefndir, i gyflawni eu llawn botensial.

Dysgu a datblygu – Mae pawb yn Llywodraeth Cymru yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau a’u galluoedd, sy’n cynnwys mynediad at ddysgu a datblygu gyda darparwyr o’r radd flaenaf. Mae AGC wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu ac yn sicrhau bod ein staff yn cael o leiaf pum diwrnod o ddysgu bob blwyddyn. Cefnogir hyn gan raglen ddysgu wedi’i theilwra ar gyfer gweithwyr AGC. 

Cyfnod sefydlu – Mae pob dechreuwr newydd yn cael cyfnod sefydlu fel gweithiwr Llywodraeth Cymru. Cefnogir hyn gan raglen sefydlu wedi’i theilwra ar gyfer gweithwyr AGC.

Cod y Gwasanaeth Sifil – Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r gwerthoedd a safonau craidd a ddisgwylir gan bob gwas sifil: uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Disgwylir i bob gwas sifil ymddwyn yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, https://llyw.cymru/cod-y-gwasanaeth-sifil

Gwerthoedd craidd AGC – Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a phopeth yr ydym yn anelu at fod fel sefydliad.

  • Gofalgar: rydym yn dosturiol ac mae’n hawdd mynd atom
  • Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
  • Uniondeb: rydym yn onest ac yn ddibynadwy
  • Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
  • Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
CIWHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.