Swydd Wag -- Cwch Patrolio'r Bysgodfa – Peiriannydd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Is-adran Môr a Physgodfeydd
EO - £26,900 - £30,610
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £25,030 a £28,850 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad a'u perfformiad yn y cyfweliad. Gellir trafod cyflog.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Gogledd Cymru, Y Canolbarth
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cangen Gweithrediadau Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am bob agwedd ar reoli pysgodfeydd, pysgota a chydymffurfiaeth yn ymwneud â physgodfeydd.  Mae’r maes hwn yn dod â staff i gysylltiad uniongyrchol â’r diwydiant pysgota, cymunedau arfordirol a rhanddeiliaid.

Prif bwrpas y swydd fydd bod yn Beiriannydd ar un o gychod patrolio'r Bysgodfa, a bod yn gyfrifol am gynnal a chadw peirianwaith ac offer y cwch a chynnal gweithgareddau archwilio a gorfodi, ar y môr yn bennaf. 

Cytunir ar batrymau gwaith y swydd gyda’r Meistr ymlaen llaw a rhoddir blaenoriaeth i weithgareddau’r cwch, ei redeg a'i gynnal a'i gadw.  Fel rhan o dîm bach, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol yn y tasgau hyn. Pan na fydd yn ymgymryd â dyletswyddau ar y cwch, bydd tasgau eraill ar y lan yn cael eu blaenoriaethu.

Prif dasgau

Yn gyfrifol am redeg stafell yr injan ac unrhyw waith cynnal a chadw peiriannau ac offer ar fwrdd y cwch.

Cadw cofnodion cynnal a chadw cywir o beirianwaith a systemau'r cwch.

Trefnu a chynnal stociau digonol o olew tanwydd/olew/darnau sbâr ac offer peirianyddol.

Yn gyfrifol am gynnal a chadw RIBS, cwadfeiciau a threlars.

Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau perthnasol sy'n ymwneud â defnyddio llongau patrolio'n effeithiol, gan gynnwys defnyddio badau a gaiff eu lansio o'r lan.

Gweithredu fel Llywiwr Cychod Aer Caled (RIB) wrth gyflawni dyletswyddau gorfodi yn ôl yr angen.

Helpu Meistr y Llong a'r Swyddogion Gorfodi Morol i gasglu a throsglwyddo gwybodaeth am weithgareddau pysgota ar y môr.

Helpu Meistr y Cwch a Swyddogion Gorfodi Morol i gasglu tystiolaeth yn unol â PACE (Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol).

Cymryd rhan mewn prosiectau ac arolygon i ymchwilio i bysgodfeydd Cymru, eu cynnal a'u cadw a'u gwella yn unol â'r cyfarwyddyd.

Helpu gyda dyletswyddau ‘gwylio' fel bo’r angen.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n cyd-fynd â gradd y swydd.

Monitro, rheoli a chadw llygad ar reoliadau Pysgodfeydd y CE, y DU a Chymru yn unigol ac fel rhan o dîm bychan.

Sicrhau cydymffurfiaeth â phob agwedd ar Reoliadau Rheoli'r UE, gan gynnwys archwilio cychod yn y porthladd ac ar y môr, asesu'r ddalfa yn unol â chyfyngiadau'r cwota, archwilio offer a thechnoleg pysgota.

Cymryd camau gorfodi yn erbyn gweithgareddau pysgota masnachol ar y lan ac ym mhysgodfeydd cregyn rhynglanwol masnachol ar hyd arfordir Cymru.

Rhoddir hyfforddiant llawn ym mhob agwedd ar y rôl ac mae hwn yn gyfle unigryw i unigolion ddatblygu sgiliau technegol ar lefel uwch a sgiliau rhyngbersonol cadarn sy'n drosglwyddadwy.

Cyfleoedd datblygu

Bydd gan ddeiliad y swydd gyfle i ddatblygu ei sgiliau peirianyddol.  

Bydd cyfle ar y rhaglen hyfforddiant yn yr hirdymor i ennill cymwysterau a chael profiad ar lefel Meistr Llong wrth gefn.  

Byddem hefyd yn annog ymgeiswyr i ddatblygu tuag at ddod yn Swyddog Pysgodfeydd gwarantedig. 

Dyddiad Cau

06/07/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

CYMWYSEDDAU:

Cyfeiriad - GWELD Y LLUN MAWR:
Canolbwyntio ar nod a bwriad cyffredinol yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, nid y dask yn unig. 

Ennyn Diddordeb Pobl - MEITHRIN GALLU I BAWB:
Cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eich gwaith eich hun a ceisio cyfleoedd i wella trwy ddysgu parhaus.

Sicrhau Canlyniadau - CYFLAWNI'N BRYDLON: 
Bod yn atebol am fynd i’r afael â phroblemau yn y maes y maen nhw’n gyfrifol amdano. 

Sicrhau Canlyniadau - CYFLAWNI'N BRYDLON:  
Dal ati i fod yn bositif a chanolbwyntio ar wireddu canlyniadau hyd yn oed os bydd pethau’n mynd o chwith.


MEINI PRAWF PENODOL I’R SWYDD: 

1.    Cymwysterau peirianneg morol a mordwyo gan gynnwys Yachtmaster (neu gyfwerth).

2.    Profiad o beirianneg cychod. Gwybodaeth digonol o systemau llongau bychain a sut i gyflawni gwaith cynnal a chadw cynlluniedig ar gychod.

3.    Profiad o weithio ar y môr. 

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff pob cyfweliad ei gynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Patrwm Gwaith:   Amser Llawn 
Ond, ystyrir ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

Bydd y swydd hon yn dod o dan gontract Oriau Blynyddol Llywodraeth Cymru a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i staff weithio nifer penodol o oriau’r flwyddyn (1924 awr) ond bydd angen gweithio mwy o oriau ar adegau penodol a llai ar adegau eraill.

Disgwylir i staff fynd ar batrôl am 3-4 niwrnod ar y môr yn rheolaidd a hefyd i weithio oriau anghymdeithasol.

Gwybodaeth Arall sy'n Berthnasol i'r Swydd: 

Maen prawf penodi yw y bydd ymgeisydd wedi pasio ENG1 neu brawf meddygol ML5 yn llwyddiannus.

Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau gweithio mewn tîm a chyfathrebu yn ogystal â barn gadarn, y gallu i reoli risgiau, hunan-gymhelliant a meddwl chwim.

Bydd angen safon dda o ffitrwydd corfforol a bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn barod i orfodi mewn amgylcheddau heriol ar y môr ac i'r lan.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd, gan gynnwys gyda’r nos ac ar y penwythnos.

Rhaid i ddeiliad y swydd sefyll profion meddygol rheolaidd i weld a yw’n ddigon ffit ar gyfer y gwaith.

Lle y bo’n bosibl, mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru gadw rhestr wrth gefn o ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swyddi gwag yn y dyfodol.  Bydd y rhestr yn agored am 12 mis yn dilyn y penodiad cyntaf.

Bydd sifftio'n cael ei wneud ar feini prawf sy'n benodol i'r swydd yn unig. Bydd cymwyseddau a manylion penodol am swyddi yn cael eu profi yn ystod y cyfweliad 

Huw.Hughes@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.