Swydd Wag -- Uwch Arolygydd Henebion ac Archaeoleg (Gogledd Cymru)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£50,870
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan, Gogledd Cymru
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cyfrannu at amcanion Cadw i ddiogelu a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru drwy warchod a diogelu henebion hanesyddol. 

Arwain tîm rhanbarthol o Arolygwyr Rhanbarthol Henebion a Wardeiniaid Henebion Maes sy’n gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar ddiogelu, gwarchod a rheoli henebion cofrestredig.

Cynorthwyo Pennaeth y Gangen ac uwch swyddogion Cadw a Llywodraeth Cymru i lunio a gweithredu polisi sy’n ymwneud â diogelu, gwarchod a rheoli’r amgylchedd hanesyddol.

Bod yn bennaf cyfrifol am feysydd polisi sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol gan gynnwys dynodi, asesu cyflwr henebion, henebion sydd mewn perygl ac ymateb i newid yn yr hinsawdd.

Mae’r rôl hon yn gofyn am deithio’n aml ledled Cymru i ymweld â safleoedd a henebion archeolegol, rhai ohonynt mewn lleoliadau anghysbell ac yn anhygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus. O ganlyniad, mae trwydded yrru lawn yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd allu archwilio henebion mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwahanol a mynd i’r afael â’r gwaith archwilio gan ddefnyddio sgaffaldiau lle bo angen.

Prif dasgau

  • Arwain un o ddau dîm rhanbarthol yr Arolygiaeth Archaeolegol sy’n cynnwys Arolygwyr a Wardeiniaid Henebion Maes sy’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu canllawiau a chyngor arbenigol ar reoli’r amgylchedd archeolegol a hanesyddol mewn ymateb i waith achos ac ymchwiliadau. 
  • Darparu a goruchwylio’r gwaith o gyflenwi cyngor arbenigol proffesiynol ar waith achos sy’n ymwneud â henebion cofrestredig ar draws rhanbarth y Gogledd, gan gynnwys asesu cyflwr henebion a gofynion cadwraeth, darparu cyngor ar gyfer ceisiadau am ganiatâd a chynllunio ac asesu ceisiadau am gymorth grant ar gyfer gwaith cadwraeth a gwella. Hwyrach y bydd angen cynrychioli Cadw mewn ymchwiliadau cynllunio, achosion llys neu ddigwyddiadau i’r cyfryngau.
  • Gweithredu fel arweinydd arbenigol ar gyfer polisi amgylchedd hanesyddol sy’n ymwneud ag effaith newid yn yr hinsawdd.
  • Rheoli’r gwaith o weithredu rhaglen dynodi asesiadau cofrestru henebion Cymru gyfan.
  • Rheoli’r gwaith o weithredu’r arolwg o gyflwr Henebion mewn Perygl a hyrwyddo, cychwyn a chefnogi prosiectau cadwraeth a gynhelir gan gyrff y trydydd sector a pherchnogion safleoedd. 
  • Rheoli a monitro’r rhaglen grant sydd ar waith gan ddwy o bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru.
  • Gweithio gyda swyddogion arbenigol o ganghennau Eiddo dan Ofal a Chyflwyniad Cadw i gynllunio a gweithredu prosiectau i warchod, dehongli a gwella mynediad y cyhoedd i’r henebion sydd yng ngofal Cadw. Bydd hyn yn cynnwys rhoi cyngor ar archaeoleg a gofynion cofnodi adeiladau, cynhyrchu datganiadau o arwyddocâd ac arwain/cyfrannu at Dimau Datblygu a Gweithredu Henebion.
  • Cychwyn, cyfrannu at a chynnal ymchwil i gefnogi gwell dealltwriaeth a chadwraeth o amgylchedd hanesyddol Cymru, gan gynnwys ymchwil sy’n gysylltiedig â’r henebion yng ngofal Cadw.
  • Cynrychioli Cadw mewn cyfarfodydd gyda sefydliadau allanol sy’n ymwneud â rheoli’r amgylchedd hanesyddol.
  • Chwarae rôl arweiniol ar draws Cadw gan gynnwys cyfrannu at nodau a strategaethau sefydliadol ehangach, a rhoi cyngor mewn ymateb i fusnes Gweinidogion a’r llywodraeth.      
  • Paratoi gwybodaeth i Weinidogion a/neu uwch swyddogion ar gyfrifoldebau pwnc, gan gynnwys sesiynau briffio llafar neu fynychu cyfarfodydd, a chyfrannu cyngor ysgrifenedig ar gyfer comisiynau briffio ar draws Cadw.

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan ac arwain timau Datblygu Henebion mewn eiddo dan ofal Cadw; a gweithio gyda rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector amgylchedd hanesyddol ar brosiectau thematig.

Mae Cadw wedi ymrwymo i ddysgu gydol oes ac mae’n annog staff arbenigol i ymgymryd â hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gan gynnwys cymwysterau academaidd ac aelodaeth o gyrff proffesiynol priodol e.e. Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA).

Dyddiad Cau

16/07/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Gweld y darlun ehangach

  • Sicrhau bod materion perthnasol sy’n ymwneud â’u gweithgarwch/maes polisi yn cael eu bwydo’n effeithiol i strategaeth ac ystyriaethau darlun ehangach 

Gwneud penderfyniadau effeithiol

  • Dadansoddi a gwerthuso data o wahanol ffynonellau i nodi manteision ac anfanteision a nodi risgiau er mwyn gwneud penderfyniadau ystyriol

 Arwain a chyfathrebu

  • Ymgysylltu’n hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i sbarduno ymrwymiad i nodau

 Cydweithredu a Meithrin Partneriaethau

  • Mynd ati’n ddyfal i gynnwys partneriaid i sicrhau deilliant busnes drwy gydweithredu sy’n sicrhau gwell canlyniadau i ddinasyddion

Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

  1. Gradd anrhydedd dda mewn archaeoleg, hanes, rheoli treftadaeth neu bwnc perthnasol arall a gwybodaeth am archaeoleg a hanes safleoedd a henebion o bob cyfnod o’r cyfnod cynharaf. Mae cymhwyster ôl-raddedig perthnasol hefyd yn ddymunol.
  2. Gwybodaeth gyfoes am weithio o fewn y fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu’r amgylchedd hanesyddol, a phrofiad ohono.
  3. Profiad helaeth mewn gwaith maes archeolegol a rheoli henebion maes a chadwraeth henebion maen sy’n sefyll, gan weithredu ar lefel sy’n cyfateb i Aelod o Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA).

Proses Asesu

Bydd y broses werthuso yn cynnwys sifftio ceisiadau. Mae hon yn swydd arbenigol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau a phrofiad priodol mewn archeoleg a rheoli treftadaeth. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus sy'n bodloni’r gofynion i gyfweliad. Gofynnir iddynt roi cyflwyniad ar effaith newid hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol ac ateb cwestiynau sy'n archwilio eu gwybodaeth am ddeddfwriaeth treftadaeth, profiad archeolegol a'u gallu i gyflawni dyletswyddau arbenigol y swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Dr Kathryn Roberts - Kathryn.Roberts@gov.wales - 03000 259013

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.