Swydd Wag -- Cynghorydd Cynnwys ac Ymgysylltu Hwb

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uned Dysgu Digidol
SEO - £41,700 - £49,370
Cyflog cyfredol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
2 flynedd
Y De-orllewin
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae swydd Cynghorydd Cynnwys ac Ymgysylltu Hwb yn rôl hanfodol wrth ddatblygu platfform a chynnwys Hwb yn unol â gofynion y rhanddeiliaid.

Bydd deiliad y swydd yn ymarferydd ysgol, a fydd yn dod â dealltwriaeth amhrisiadwy i'r ffordd y caiff platfform Hwb ei ddefnyddio mewn ysgolion ar hyn o bryd. Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth proffesiynol i hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu a rhannu'r cynnwys a gaiff ei greu gan ddefnyddwyr (athrawon a dysgwyr yng Nghymru) a bydd disgwyl iddo ymgysylltu ag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i esbonio manteision platfform Hwb.

Bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg ddigidol er mwyn sicrhau camau mawr ymlaen o ran deilliannau addysgu a dysgu, ac wrth gefnogi a sefydlu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a Cwriwcwlwm i Gymru 2022.

Mae'r swydd hon yn cefnogi'r gwaith sy'n dal i fynd yn ei flaen i gyflwyno a datblygu rhaglen Hwb, sy'n cefnogi'n uniongyrchol y cyfleoedd i ysgolion weddnewid arferion digidol yn y dosbarth ledled Cymru.

Prif dasgau

Dyma rai o'r gweithgareddau allweddol sy'n rhan o'r swydd hon:

  • Cydlynu amrywiaeth eang o weithgareddau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol
  • Cysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi i sicrhau bod Hwb yn datblygu er mwyn diwallu anghenion pob dysgwr ac athro • Rhoi adborth i dîm Hwb ar y gwaith ymgysylltu â defnyddwyr a phrofiadau defnyddwyr
  • Cydweithio â dysgwyr, athrawon, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg ddigidol drwy adnoddau Hwb
  • Mentora a darparu hyfforddiant i ymarferwyr eraill i'w helpu i ddatblygu eu hyder a'u cymhwysedd eu hunain ym maes technoleg ddigidol
  • Defnyddio ystod o dechnolegau ar-lein (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a fideos) er mwyn hyrwyddo negeseuon allweddol a chymryd rhan mewn deialog adeiladol
  • Nodi a rhannu arferion gorau drwy Hwb
  • Datblygu adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu cwricwlwm digidol effeithiol, gan ganolbwyntio ar yr arlwy sydd eisoes gan Hwb
  • Sicrhau ansawdd y cynnwys digidol a gyflwynir drwy Hwb ar sail pa mor briodol y mae ar gyfer ei ddefnyddio yn y dosbarth
  • Rhoi cyngor arbenigol ar gynnwys a gaiff ei greu gan ddefnyddwyr i'w ddefnyddio drwy Hwb mewn gweithgareddau dysgu i ddisgyblion.

Cyfleoedd datblygu

• Ymgymryd â rôl mewn maes uchel ei broffil.
• Cael cyswllt â rhanddeiliaid allweddol.
• Datblygu gwybodaeth a phrofiad.

Dyddiad Cau

27/09/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Fel rhan o'ch cais, dylech baratoi datganiad personol sy'n amlinellu sut rydych yn bodloni'r gofynion HANFODOL canlynol ar gyfer y rôl. Ni ddylai eich datganiad personol fod yn hirach na 2 ochr papur A4.


Cymwysaddau

  • Rheoli'r berthynas â rhanddeiliaid - Yn gallu cyfathrebu â rhanddeiliaid yn glir ac yn rheolaidd, gan egluro anghenion ac ymrwymiadau drwy yngynghori ac ystyried effeithiau, gan ganolbwyntio ar anghenion defnyddwyr ar yr un pryd.
  • Dylunio cynnwys gan ganolbwyntio ar y defnyddiwr - Yn gallu dylunio cynnwys i ddiwallu anghenion defnyddwyr ac egluro iaith a phrosesau cymhleth.
  • Gwenud Penderfyniadau Effeithiol - Croesawu heriau a, lle bo hynny’n briodol, cynnwys pobl eraill wrth wneud penderfyniadau i helpu i ennyn diddordeb a chyflwyno argymhellion cadarn.
  • Newid a Gwella - Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain

Meini Prawf Penodol i'r Swydd


Mae'r sgiliau canlynol hefyd yn HANFODOL i lwyddo yn rôl hon. Sicrhewch eich bod yn atodi CV sy'n dangos eich gallu yn y sgiliau hyn.

  1. Profiad o ddarparu hyfforddiant i ymarferwyr eraill ar ddefnyddio offer hwb.
  2. Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid i gael a lledaenu gwybodaeth berthnasol.
  3. Gallu coladu, deall a defnyddio data am ddefnyddwyr i gynnig dulliau o ddiwallu anghenion defnyddwyr.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae'r canlynol hefyd yn ofynion i gael eich ystyried am y rôl:

  • Gallu dod â phrofiad o arfer presennol yr ysgol a phrofiad ymarferol sylweddol o ddefnyddio Hwb.
  • Gallu dangos defnyddio technoleg ddigidol i gyflawni newidiadau sylweddol mewn deilliannau addysgu a dysgu.

Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a'ch profiad mewn perthynas â gofynion hanfodol y rôl. Efallai y byddwn yn cynnwys prawf neu asesiad os yw'n briodol.

Yn dilyn y cyfweliad, os ydych chi'n aflwyddiannus, efallai y byddwn yn cadw'ch manylion am hyd at 12 mis ar restr wrth gefn os bydd swyddi tebyg eraill ar gael.

Noder: Mae'n bwysig eich bod yn atodi'r dogfennau hyn (y datganiad personol a'r CV) yn eich cais ar-lein ar gyfer y swydd hon.

Peter Thomas - peter.thomas@gov.wales - 03000 253091

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.