Swydd Wag -- Swyddog Cymorth Arolygu AGC X3
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Pwrpas AGC yw annog gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu, adolygu a darparu cyngor proffesiynol. Mae AGC yn cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru. Rydym yn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn Llywodraeth Cymru. Mae nifer o fesurau diogelu ar waith i sicrhau ein bod yn gweithredu'n annibynnol.
Ein tri rhanbarth yw’r canolbwynt ar gyfer asesu a dyfarnu gwasanaethau a sefydliadau mewn ffordd broffesiynol. Maent yn arolygu ac adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, ac yn rheoleiddio ac arolygu lleoliadau ac asiantaethau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar.
Pwrpas y swydd yw darparu cymorth i'r Tîm Rheoleiddio ac Arolygu (a drefnir o gwmpas ffiniau grwpiau o awdurdodau lleol), cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol a chynorthwyo'r Rheolwr Cymorth Busnes i gynnal trosolwg o lwyth gwaith y rhaglen arolygu ac adolygu o fewn yr ardal ddaearyddol. Bydd y ffordd y rhennir dyletswyddau yn ôl disgresiwn y Rheolwr Cymorth Busnes er mwyn cyd-fynd ag amodau lleol, ond yn nodweddiadol byddant yn cynnwys y canlynol Prif dasgau
Prif dasgau
Darparu cymorth wrth gyflawni swyddogaethau rheoleiddio, arolygu ac adolygu'r rhanbarth, yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cymorth Arolygu;
Cynnal a monitro rhaglen gofrestru, arolygu ac adolygu'r Tîm Rheoleiddio ac Arolygu, gan sicrhau y caiff nodion atgoffa eu cynhyrchu ar gyfer arolygiadau statudol;
Cydlynu pob agwedd weinyddol ar y broses o wneud cais i gofrestru, gan gynnwys cyhoeddi, derbyn a gwirio ceisiadau, trefnu y caiff gwiriadau priodol eu cynnal, creu ffeiliau achosion a chofnodi manylion ar y gronfa ddata;
Rheoli'r holl ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â chofrestru neu arolygu, gan sicrhau y caiff cofnodion y gronfa ddata, ffeiliau papur a thystysgrifau eu mewnbynnu a'u cynnal yn gywir, gan gynnwys prosesu dogfennaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;
Cynorthwyo'r swyddfa yn y gwaith o gynhyrchu adroddiadau arolygu, adolygu a chofrestru, monitro'r gwaith o gyflawni'r amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi, a rheoli'r broses o gynhyrchu adroddiadau gan gynnwys prosesu geiriau, fformatio a dosbarthu adroddiadau;
Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol; gan gynnwys gwasanaeth derbynnydd a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr a'r rhai sy’n ffonio’r swyddfa. Cynnal gwiriadau hunaniaeth cyn cyfathrebu ar lafar â darparwyr; trafod, cofnodi a dosbarthu post sy'n dod i mewn ac yn mynd allan; cynnal a dyrannu cyflenwadau offer swyddfa; cynnal cofnodion mewnol yn ôl yr angen;
Cynorthwyo gyda'r gwaith o gofnodi pryderon a hysbysiadau a rhoi cymorth yn ystod camau gweithredu gorfodi dan gyfarwyddyd y Rheolwr Cymorth Arolygu;
Trefnu cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl yr angen, rheoli'r defnydd o ystafelloedd cyfarfod/cyfweld ar y safle, trefnu ystafelloedd cyfarfod oddi ar y safle os oes angen, a threfnu offer, parcio i ymwelwyr, lluniaeth a dosbarthu papurau fel sy'n briodol. Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol; gan gynnwys cymryd cofnodion;
Cynnal cronfa ddata AGC, drwy fewnbynnu data yn gywir ac yn brydlon a sganio ac atodi dogfennau. Cadarnhau cywirdeb manylion cyswllt cyn cyfathrebu â darparwr. Hysbysu'r tîm perthnasol am broblemau sy'n codi wrth ddefnyddio'r gronfa ddata pan na all eu datrys;
Unrhyw ddyletswyddau eraill y bydd y Rheolwr Cymorth Arolygu yn gwneud cais amdanynt.
Cyfleoedd datblygu
Bydd deiliad y swydd yn elwa ar y canlynol:
- Dealltwriaeth eang o'r holl weithgareddau sydd ar agenda AGC
- Profiad gwaith amrywiol, tra'n gweithio gydag uwch-gydweithwyr i gyflenwi gweithgarwch rheoleiddio
- Cyfleoedd i helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl
Meini prawf penodol i'r swydd
Proses Asesu
Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff pob cyfweliad ei gynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams.
Cyn gwneud cais ar gyfer y rôl, e-bostiwch CIWHR@gov.wales i gael gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.