Swydd Wag -- Syrfëwr Meintiau

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Safonau Ansawdd Tai
SEO - £41,700 - £49,370
Caiff cyflog cychwynnol o rhwng £41,700 a £49370 ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus ar sail ei sgiliau, ei wybodaeth a’i brofiad a’i berfformiad mewn cyfweliad. Ni fydd modd amrywio’r ystod cyflog hwn
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Penodiad Cyfnod Penodol/Secondiad o 2 flynedd (cystadleuaeth deg ac agored)
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau.

Pwrpas y swydd

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm sy'n gwireddu blaenoriaethau strategol allweddol Llywodraeth Cymru.

Mae'r swydd yn rhan o'r Tîm Cyllid Tai. Y tîm hwnnw sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu'r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol. Y Grant Tai Cymdeithasol yw'r brif ffynhonnell ariannu ar gyfer datblygu tai cymdeithasol newydd. Mae'r rhaglen yn rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol newydd.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am helpu i reoli a monitro'r rhaglen ar gyfer awdurdodau lleol penodol yn ogystal ag asesu ceisiadau am grant.

Bydd angen i ddeiliad y swydd reoli ei lwyth gwaith i sicrhau y cedwir at derfynau amser a bod yn hyblyg i addasu i flaenoriaethau newidiol o fewn y tîm

Prif dasgau

  • Monitro a chytuno ar gynlluniau ar gyfer cyflawni rhaglenni awdurdodau lleol i sicrhau bod y grant a ddyrennir iddynt yn cael ei wario'n briodol
  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer awdurdodau lleol penodol o ran eu rhaglen SHG gan fod yn gyfrifol am ateb ymholiadau a datrys problemau gan roi gwybod i’r rheolwr am faterion o bwys
  • Asesu ceisiadau am grant ac argymell cymeradwyo. O fewn awdurdodau dirprwyedig bydd deiliad y swydd yn cael cymeradwyo cynlluniau isel eu gwerth.
  • Gwirio ceisiadau am grant gan gynnwys dilysu dogfennau ategol ac ardystio taliadau. Ar gyfer hawliadau bach, bydd deiliad y swydd yn cael cymeradwyo taliadau
  • Drafftio cyngor polisi, papurau briffio, gohebiaeth ac areithiau ar gyfer uwch swyddogion a Gweinidogion
  • Gweinyddu'r broses ar gyfer newid taliadau cyfreithiol ar gynlluniau tai cymdeithasol sydd wedi derbyn grant a chysylltu â chyfreithwyr Llywodraeth Cymru i weithredu'r newidiadau perthnasol

Cyfleoedd datblygu

Mae hwn yn faes proffil uchel iawn, sy’n cael cryn sylw ym myd gwleidyddiaeth a’r cyfryngau. Felly bydd angen i ddeiliad y swydd weithio ar draws y Llywodraeth gydag amrediad o uwch-randdeiliaid sydd â buddiannau polisi allweddol – er enghraifft, rheoliadau adeiladu, datgarboneiddio, tlodi tanwydd, cyflenwi tai, addysg / prentisiaethau yn ogystal â buddiannau sylweddol yn y sector tai e.e. gwasanaethau cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnwys cryn ymgysylltu allanol ar lefel uwch ag awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r sector preifat, yn enwedig adeiladu ac arweinwyr y sector ar ddatgarboneiddio, ac â’r Grŵp Gweithredu ar Ddatgarboneiddio, grŵp cynghorol ffurfiol Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio cartrefi. Mae hyn yn ogystal â’n gwaith ymarferol â’r llywodraethau eraill

Dyddiad Cau

19/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gwireddu canlyniadau masnachol – Casglu a defnyddio tystiolaeth i asesu costau, manteision a risgiau amrywiaeth eang o opsiynau cyflenwi wrth wneud penderfyniadau masnachol

Gwireddu canlyniadau masnachol – Gan ymgynghori ag arbenigwyr masnachol, ystyried gwahanol ffyrdd o weithio gyda phartneriaid a chontractwyr er mwyn nodi canlyniadau mwy effeithlon, gan gadw cydbwysedd rhwng cost, ansawdd ac amser

Sicrhau gwerth am arian - Argymell camau i sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd

Gwneud penderfyniadau effeithiol - Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posib

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Syrfëwr Meintiau Siartredig brwd a chymwys sy’n meddu ar gymhwyster addas ar gyfer Rheoli Prosiectau
  2. Yn gallu profi ei fod yn deall peirianneg yn ôl gwerth a gwerth am arian mewn perthynas â gwaith adeiladu o ansawdd uchel a chostau oes.
  3. Yn gallu profi ei allu i ddadansoddi data costau adeiladau a defnyddio a rheoli systemau dadansoddi costau.

Proses Asesu

Mae 3 cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am i chi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu’ch CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf.

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn derbyn prawf sgiliau ar-lein/ (teitl) cyflwyniad o 5 munud

Cam 3 - Presentation

Dyddiad cyfweliadau:  I'w gadarnhau.

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae 3 cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am i chi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu’ch CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf.

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn derbyn prawf sgiliau ar-lein/ (teitl) cyflwyniad o 5 munud

Cam 3 - Presentation

Dyddiad cyfweliadau:  I'w gadarnhau.

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon

Darren Hatton - HousingQualityStandards@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.