Swydd Wag -- Pennaeth Datblygu’r Rhaglen Ymchwil

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£51,380
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli partneriaethau gweithio strategol yn llwyddiannus gyda rhanddeiliaid AU, yn enwedig cyrff ariannu ymchwil a sefydliadau addysg fasnachol ac addysg uwch ledled Cymru.  Bydd yn gyfrifol hefyd am ddarparu cyngor a chymorth gweithredol, technegol a strategol i Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ar gyfer datblygu mentrau Cymreig i geisio cyllid y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Ymchwil y DU (RCUK);

Bydd deiliad y swydd:

  • Yn gyfrifol am ddatblygu ac arwain rhaglenni yn y dyfodol, gan gynnwys cam nesaf Sêr Cymru;
  • Yn gyfrifol am:
  • Yn gyfrifol am farchnata, cyhoeddusrwydd a digwyddiadau o gwmpas y rhaglenni;
  • Yn gyfrifol am ymwneud â’r sector iechyd a darparu cyngor a dadansoddiad technegol arbenigol am y sector iechyd dros Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru; a
  • Gan fod yn atebol i Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, bydd deiliad y swydd yn gweithio’n annibynnol a hefyd mewn tîm, gan sicrhau bod yr holl weithgareddau sy’n berthnasol i fentrau ymchwil perthnasol yn ategu ei gilydd.

Prif dasgau

  • Bod yn gyfrifol am roi cyngor a chymorth gweithredol a strategol i Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, Gweinidogion a Phennaeth yr Is-adran Wyddoniaeth ar gyfer datblygu mentrau Cymreig i geisio am fwy o gyllid oddi wrth UKRI;
  • Bod yn gyfrifol am ddatblygu a chyfathrebu strategaethau a rhaglenni i gefnogi mentrau gwyddoniaeth ac arloesi Cymru a’u perchenogi, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud ag asiantaethau ariannu'r Comisiwn Ewropeaidd ac UKRI;
  • Bod yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal mentrau Cymreig yn effeithiol a’u perchenogi, gan geisio am gyllid grant a’i gael a sicrhau gwerth am arian;
  • Rheoli a hwyluso perthynas well rhwng rhanddeiliaid a phartneriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys gydag arweinwyr polisi perthnasol eraill Llywodraeth Cymru;
  • Ymgymryd â rôl cynghori mewn perthynas â materion gweinyddol a pholisi ar gyfer partneriaid a chyllidwyr ymchwil allanol;
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod Llywodraeth y DU, UKRI ac asiantaethau ymchwil eraill yn hyrwyddo ac yn ystyried buddiannau Cymru trwy ddylanwadu a chytuno ar anghenion blaenoriaeth y Llywodraeth a’u hyrwyddo, a gweithio gyda rhanddeiliaid allanol uwch a Gweinidogion i hyrwyddo ymagwedd fwy cydlynus at ymchwil;
  • Yn gyfrifol am gynghori Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ar sut orau i ddatblygu a hwyluso rhagoriaeth wyddonol ledled Cymru a helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru;
  • Bod yn gyfrifol am sefydlu a chynnal cysylltiadau â’r sector academaidd;
  • Bod yn gyfrifol am gynrychioli Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru ar weithgorau mewnol ac allanol;
  • Bod yn gyfrifol am ddadansoddi swm sylweddol o ddata’r portffolio ymchwil wyddonol a thechnegol, a’u perchenogi, ac am gyflwyno’r canlyniadau i gydweithwyr uwch mewn ffordd glir, cryno ac amserol i’w helpu i wneud penderfyniadau ymchwil strategol;
  • Bod yn gyfrifol am gasglu data, marchnata, cyhoeddusrwydd a digwyddiadau o gwmpas eu meysydd gwaith eu hunain; a
  • Bod yn gyfrifol am friffio ac ysgrifennu adroddiadau technegol a phapurau Gweinidogol perthnasol am eu rhaglenni.

Cyfleoedd datblygu

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio gyda hunan-ymreolaeth a heb fawr o oruchwyliaeth.  Bydd ganddynt gryn ddisgresiwn a byddant yn gyfrifol am gyflawni amcanion diffiniedig ac am nodi agweddau sydd â goblygiadau gwleidyddol neu o ran polisi, a bwrw ymlaen â’u gwaith yn briodol.  O ganlyniad uniongyrchol i'r proffil uchel sy'n gysylltiedig â'r holl feysydd gwaith hyn, bydd deiliad y swydd hefyd yn cael dylanwad sylweddol ar enw da'r sefydliad gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Dyddiad Cau

02/11/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol 

  • Dod i gasgliadau rhesymol ar sail amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth, a chyflwyno’r casgliadau hynny – gan allu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan nad yw’r manylion yn glir.

Arwain a Chyfathrebu

  • Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Sicrhau y glynir wrth ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol wrth gyflenwi gwasanaethau a chynnwys ystyriaethau amrywiaeth a chydraddoldeb mewn cynlluniau.

Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth

  • Yn gweithio o fewn meysydd gwyddonol gwahanol ac ochr yn ochr â nhw e.e. y byd academaidd, diwydiant, adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth a chyrff rhyngwladol eraill.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd; 

1. Â chymhwyster at lefel PhD mewn disgyblaeth berthnasol ym maes yr amgylchedd neu’r gwyddorau bywyd / disgyblaeth wyddonol ym maes iechyd, gyda phrofiad arwyddocaol o roi cyngor gwyddonol a chynnal gwaith dadansoddi gwyddonol.

2. Hanes o ymwneud â chydweithio llwyddiannus yn y byd academaidd a’r sector cyhoeddus.

3. Profiad o lwyddo i sicrhau cyllid ariannu ar lefel y DU, Ewrop a rhyngwladol, yn cynnwys datblygu a chostio cynigion, ysgrifennu papurau gwyddonol a rheoli prosiectau.  

Proses Asesu

Bydd y cais yn cael ei asesu mewn dau cham:

1)       Y Cam Sifftio

Bydd sifft gychwynnol yn cael ei chynnal ar sail y cwestiynau sy'n benodol i'r swydd.  Bydd yr ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam hwn yn cael eu gwerthuso yn erbyn y cymwyseddau gofynnol.

2)       Y Cyfweliad

Bydd yr ymgeiswyr sydd wedi pasio'r cam sifftio yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad (sesiwn fideo o bell gyda'r Panel Cyfweld).  Bydd y cyfweliad yn.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Chris Hale - chris.hale@gov.wales - 07870 507262

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.