Swydd Wag -- Arolygydd AGC x 3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru
HEO - £32,460 - £39,690
Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£34,490) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Caerfyrddin, Merthyr, Cyffordd Llandudno
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol er mwyn darparu gwasanaethau rheoleiddiedig diogel ac o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru.

Prif dasg Arolygydd yw sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig yn darparu gofal diogel o ansawdd da, ac yn annog ac yn ysgogi gwelliant. Caiff Arolygwyr y cyfle i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddiogelu llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig a chasglu gwybodaeth am ganlyniadau i bobl. Gall AGC ddefnyddio hyn yn ei gwerthusiad o gynghorau lleol ac i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau.

Bydd Arolygwyr yn atebol i Reolwr Tîm. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni'n effeithiol ac yn amserol ym mhob agwedd ar Wasanaethau Gofal Rheoleiddiedig.

Prif dasgau

  • Goruchwylio a rheoli llwyth achosion gwasanaethau rheoleiddiedig, gan sicrhau y caiff yr arolygiadau gofynnol eu cynnal, monitro lefelau risg, asesu pryderon a dderbynnir a sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu diweddaru.
  • Cynnal arolygiadau yn unol â rhaglen gytûn (gan gynnwys arolygiadau ar y cyd ag Estyn mewn lleoliadau gofal plant a chwarae), arsylwi ac adrodd ar lesiant pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, nodi a monitro meysydd o ddiffyg cydymffurfio, a chodi ac ymateb i bryderon sy'n ymwneud â diogelu.
  • Bod yn gyfrifol am gymryd a datblygu camau gweithredu mewn perthynas â gwasanaethau sy'n achosi pryder, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys comisiynwyr, cyrff rheoleiddio eraill ac arweinwyr diogelu.
  • Paratoi a chwblhau gweithgarwch gorfodi gan gynnwys drafftio hysbysiadau statudol.
  • Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
  • Cydweithio â rheolwyr i gyfrannu at y gwaith o osod a chyflawni amcanion perfformiad sefydliadol, gan gynnwys mesurau meintiol ac ansoddol.
  • Sicrhau bod y tîm yn cyfathrebu'n effeithiol er mwyn sicrhau y rhennir arferion da a rhoi gwybod am feysydd sy'n achosi pryder.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gwella ymarfer er mwyn cynnal safonau rheoliadol cadarn a chyson, lle eir i'r afael â materion sy'n ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb a'u hintegreiddio'n llawn.
  • Bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a datblygu arfer gorau.
  • Sicrhau yr ymgysylltir â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr, yn effeithiol ac yn barhaus.
  • Paratoi gohebiaeth mewn perthynas â materion penodol a gaiff eu codi am wasanaethau.
  • Rheoli cofnodion yn gywir gan gynnwys defnyddio cronfa ddata CRM (CaSSI).
  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses gymorth rheoli / datblygu a pherfformiad Llywodraeth Cymru/AGC ac ar ôl trafod â rheolwr y tîm.

 

Tasgau ychwanegol ar gyfer Arolygwyr Cofrestru a Gorfodi AGC yn unig

Cofrestru:

  • Asesu ceisiadau i gofrestru sy'n dod i law yn unol â gweithdrefnau, gan gynnwys ymweld â safleoedd, cyfweliadau person addas, ysgrifennu adroddiadau cofrestru sy'n cynnwys argymhellion a pharatoi hysbysiadau cynnig a phenderfynu.
  • Sicrhau bod cofnodion effeithiol a llwybr archwilio clir ar gyfer y dystiolaeth a ddefnyddir a'r penderfyniadau a wneir.
  • Rhoi cyngor i ymgeiswyr sydd am gofrestru ag AGC.
  • Gweithio'n agos gyda thimau arolygu rheoleiddiol i rannu gwybodaeth er mwyn llywio penderfyniadau a chynnal arolygiadau rheoliadol yn ôl y gofyn.

Gorfodi:

  • Rhoi cyngor a chymorth ymarferol i arolygwyr mewn perthynas â gweithgarwch gorfodi sifil, gan gynnwys wrth lunio hysbysiadau statudol a chamau gweithredu sy'n deillio o Baneli Sicrhau Gwelliant a Gorfodi.
  • Ymateb i honiadau am wasanaethau a all fod yn gweithredu heb gofrestru ac ymchwilio i'r gwasanaethau hyn.
  • Paratoi camau gorfodi troseddol a'u cymryd, gan gynnwys adolygiadau cychwynnol, casglu tystiolaeth o dan PACE, paratoi bwndeli tystiolaeth a chronolegau fel rhan o ymchwiliadau troseddol ac erlyniadau.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

15/03/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:


Pennu Cyfeiriad – Gweld y Darlun Cyflawn

Ceisio deall y modd y mae gwasanaethau, gweithgareddau a strategaethau yn yr ardal yn gweithio gyda'i gilydd i roi gwerth i'r cwsmer/defnyddiwr

 

Pennu Cyfeiriad – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl

 

Ymgysylltu â Phobl – Arwain a Chyfathrebu

Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen

 

Cyflawni Canlyniadau – Cyflawni'n Gyflym

Blaengynllunio ond ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd pobl yn gorfod bodloni gofynion sy'n gwrthdaro



Meini Prawf Penodol i’r Swydd: 

1. Cymhwyster Gofal Cymdeithasol cydnabyddedig megis: 

  • Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
  • cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
  • cymhwyster addysgu,
  • gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
  • Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

    Y gallu i ddangos sut mae'r cymhwyster uchod yn berthnasol i'r rôl.  

2. Tystiolaeth o arwain a llywio'r gwaith o wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a bodloni gofynion amrywiol defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid/defnyddwyr.

3. Y gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid yn gadarn, yn ysgrifenedig ac ar lafar. 


Proses Asesu

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru sef ffurflenni cais a chyfweliadau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddiwch ddull STAR wrth roi tystiolaeth.

Cyn gwneud cais ar gyfer ein rolau, e-bostiwch CIWHR@gov.wales i gael gwybodaeth fanylach am sut i wneud hynny ac am ein ffeiriau recriwtio rhithwir.

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff pob cyfweliad ei gynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams.

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Swyddi sydd ar gael:

Mae 3 swydd ar gael mewn tri thîm:

  • Un swydd yn Nhîm Arolygu Gofal Plant a Chwarae AGC (ym Merthyr)
  • Un swydd yn Nhîm Gwasanaethau Oedolion a Phlant AGC (ym Gyffordd Llandudno)
  • Un Arolygydd Cofrestru Gofal Plant a Chwarae AGC (ym Caerfyrddin neu Ferthyr)

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael rôl yn un o'r timau uchod yn seiliedig ar eu sgiliau, eu profiadau a'u lleoliad daearyddol. Caiff yr ymgeiswyr eu penodi yn ôl teilyngdod, ac eithrio achosion lle nad yw eu sgiliau a'u lleoliad daearyddol yn cyd-fynd â'r swyddi sydd ar gael. Yn yr achosion hyn, caiff yr ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf ac sy'n bodloni gofynion y swydd ei benodi.

Cedwir rhestr wrth gefn o ymgeiswyr y gellir eu penodi i rôl Arolygydd o fewn 12 mis i'r cynnig cychwynnol os bydd swydd addas, sy'n cyd-fynd â'u sgiliau a'u lleoliad, yn codi. Unwaith eto, cynigir swyddi yn ôl teilyngdod i'r ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn, ac eithrio achosion lle nad yw eu sgiliau a'u lleoliad daearyddol yn cyd-fynd â'r swyddi sydd ar gael.


Mae swyddi ar gael i ymgeiswyr sy'n dymuno gweithio'n rhan amser, ond bydd angen gweithio patrwm o isafswn o 28 awr dros 4 diwrnod, ar ddiwrnodau i'w cytyno.

Cyflog a Lwfansau:

Bydd Lwfans Recriwtio a Chadw o hyd at £4,535 y flwyddyn yn daladwy. Atodir y lwfans i swydd yr Arolygydd ac mae'n ychwanegol i'r cyflog parhaol.

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur yn ofynnol.

Mae rhywfaint o waith yn ofynnol y tu allan i oriau swyddfa arferol er mwyn cwblhau arolygiadau.

CIWHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.