Swydd Wag -- Uwch-reolwr – Arolygu Awdurdodau Lleol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£56,620) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC: Caerfyrddin, Cyffordd Llandudno neu Ferthyr Tudful
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae Arolygu Awdurdodau Lleol yn swyddogaeth allweddol wrth sicrhau y caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol diogel ac o ansawdd da eu darparu i ddinasyddion Cymru.  Mae rôl Uwch- reolwr – Arolygu Awdurdodau Lleol yn hanfodol wrth roi sicrwydd ac ysgogi gwelliant o ran ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae'n bosibl y bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar hyd at bedwar Rheolwr Arolygu Awdurdodau Lleol a/neu Reolwyr Cymorth Arolygu, a bydd yn cefnogi'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau cyson, effeithiol, effeithlon ac o ansawdd da.

Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol.

Prif dasgau

Arwain, rheoli a chyfrannu at y broses o gynllunio a darparu rhaglen ar gyfer arolygu, craffu ar ac adolygu awdurdodau lleol, yn ogystal â chynnal arolygon ac archwiliadau ledled Cymru, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu rheoli'n gadarn ac yn unol â blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.

Llunio barn gadarn a chytbwys sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran ansawdd, effeithiolrwydd ac effaith gwasanaethau a ddarperir o fewn yr ystod o wasanaethau i blant ac oedolion, fel sy'n ofynnol.

Llunio adroddiadau gwerthusol ar gyfer y cyhoedd sydd o ansawdd cyson uchel a gweithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol i gefnogi gwelliant ac arloesedd a rhannu arferion da.

Arwain a bod yn gyfrifol am ansawdd ac amseroldeb pob agwedd ar weithgarwch craffu ar berfformiad, adolygu ac arolygu awdurdodau lleol yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau mewnol.

Arwain a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu dulliau arloesol o ymgymryd â gweithgarwch craffu, adolygu ac arolygu integredig, a rhoi'r dulliau hyn ar waith.

Paratoi llythyr adolygu blynyddol mewn perthynas ag effeithiolrwydd yr adran gwasanaethau cymdeithasol leol a'i heffaith ar ganlyniadau i ddinasyddion lleol. Bod yn gyfrifol am gyflwyno'r llythyr hwn i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, aelodau etholedig arweiniol a phwyllgorau craffu'r Awdurdod Lleol.

Dadansoddi data sy'n deillio o ddangosyddion allweddol, gan gynnwys gwybodaeth o weithgarwch rheoleiddio ac arolygu a gwybodaeth arall i nodi blaenoriaethau datblygu a gwella ar gyfer rhaglen arolygu, craffu ac adolygu Awdurdodau Lleol AGC.

Datblygu a chynnal cydberthnasau gwaith cynhyrchiol ac effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid allanol priodol a chysylltiadau polisi allweddol perthnasol mewn cyrff cenedlaethol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac yn Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyrff archwilio, arolygu a rheoleiddio perthnasol a dynodedig ac ag asiantaethau statudol eraill sy'n gyfrifol am ddarparu a chomisiynu gwasanaethau.

Cynrychioli'r Arolygiaeth Gofal ar ystod eang o grwpiau mewnol ac allanol fel sy'n ofynnol ac mewn cynadleddau a digwyddiadau allanol.

Bod yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth am ddatblygiadau polisi ac ymarfer ym maes gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant o amrywiaeth eang o ffynonellau a rhannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr.

Arwain y gwaith o ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'u gofalwyr er mwyn llywio adolygiadau o berfformiad awdurdodau lleol a gweithgarwch adolygu.

Arwain y gwaith o sicrhau bod trefniadau perfformiad a sicrhau ansawdd cryf ar waith a chyfrannu at y broses o ddatblygu a gwella trefniadau o'r fath.

Mewn amgylchiadau lle mae cyfrifoldeb rheoli llinell, sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith mewn perthynas ag atebolrwydd, cydymffurfiaeth a goruchwylio a datblygu'r tîm gan reolwyr.

Arwain y gwaith o ddarparu cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau i'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol fel sy'n ofynnol.

Paratoi gwybodaeth friffio ar gyfer Gweinidogion a'r Tîm Uwch-reolwyr mewn perthynas â materion penodol fel sy'n ofynnol.

Gweithio'n agos gydag Uwch-reolwyr mewn timau rheoleiddio er mwyn rhannu gwybodaeth.

Sefydlu a chynnal cydberthnasau effeithiol ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn perthynas â threfniadau statudol a chydweithredol.

Sicrhau y caiff gwaith ei gyflawni i safon uchel ac yn amserol, a bod penderfyniadau'n cael eu cyfleu'n effeithiol.

Datblygu arferion arolygu cryf ac effeithiol a'u hymgorffori ym mhob rhan o AGC a chyfrannu at sicrhau bod canllawiau ac adnoddau arolygu ar waith, yn addas at y diben, wedi'u gwerthuso ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Ystyried sylwadau ynghylch gweithgarwch rheoleiddio yn unol â'r rota y cytunwyd arno.

Sicrhau gwaith tîm a phrosesau cydweithio a chyfathrebu effeithiol, a chyfrannu at hyn.

Cynrychioli'r sefydliad ar lefel uwch fel sy'n ofynnol.

Dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol fel y bo angen.

Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.  

Dyddiad Cau

08/03/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

  • Newid a Gwella – Adnabod yr arwyddion pan fydd pethau'n mynd o chwith a chynnig ymatebion pendant i heriau sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau
  • Gwneud penderfyniadau effeithiol – Llunio a chyflwyno casgliadau rhesymol o amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth – gallu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan fydd y manylion yn aneglur
  • Arwain a Chyfathrebu – Bod yn weladwy i staff a rhanddeiliaid a chynnal gweithgareddau yn gyson i ymgysylltu â phobl sy'n ymwneud â'r maes gwaith a meithrin eu hyder
  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd – Creu cyfleoedd rheolaidd i staff a chwsmeriaid helpu i wella ansawdd gwasanaethau a dangos cyfranogiad gweladwy

Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

  • Cymhwyster Gofal Cymdeithasol cydnabyddedig megis Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol), cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, cymhwyster addysgu neu fod wedi'ch addysgu i lefel gradd gyda chymhwyster Lefel 5 perthnasol gan ILM neu Ddiploma mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gallu dangos sut mae'r cymhwyster hwn yn berthnasol i'r rôl.  
  • Profiad o weithio fel rheolwr canol neu uwch-reolwr a rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion neu wasanaethau iechyd yn effeithiol a phrofiad helaeth a pherthnasol o wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.
  • Gwybodaeth am weithio'n strategol ac yn weithredol i ysgogi a chyflawni gwelliant mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol neu wasanaethau iechyd, y gallu i wneud hyn a phrofiad perthnasol. 

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff pob cyfweliad ei gynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams.

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

Cyn gwneud cais ar gyfer y rôl, e-bostiwch CIWHR@gov.wales i gael gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn cyflenwi dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae angen trwydded yrru ddilys ac yswiriant modur.

Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£56,620) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos.

Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC: Caerfyrddin, Cyffordd Llandudno neu Ferthyr Tudful.


Lou Bushell-Bauers - Louise.Bushell-Bauers@gov.wales - 07392314825

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.