Swydd Wag -- Uwch-reolwr – Arolygu Awdurdodau Lleol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Bydd cyflog dechrau hyd at pwynt 3 (£55,235) yn cael ei ystyried ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yw AGC. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sichrau llesiant pobl Cymru. Mae Arolygu Awdurdodau Lleol yn swyddogaeth allweddol wrth ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. Mae rôlyr Uwch-reolwr – Arolygu Awdurdodau Lleol yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd ac ysgogi gwelliant o ran ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 Gall deiliad y swydd fod â chyfrifoldeb rheolwr llinell dros hyd at bedwar Arolygydd Awdurdod Lleol a/neu Reolwyr Cymorth Arolygu a bydd yn cefnogi Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol wrth sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n gyson, yn effeithiol ac yn effeithlon.

 Bydd deiliad y swydd yn atebol i Bennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol.

Prif dasgau

  •  Arwain, rheoli a chyfrannu at y gwaith o gynllunio a chyflawni rhaglen o arolygiadau, gwaith craffu ac adolygiadau, arolygon ac archwiliadau awdurdodau lleol ledled Cymru, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu rheoli'n gadarn ac yn unol â'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.
  • Dod i farn gytbwys a chadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth am ansawdd, effeithiolrwydd ac effaith y gwasanaethau a ddarperir o fewn yr ystod o wasanaethau i blant ac oedolion yn ôl yr angen.
  • Cynhyrchu adroddiadau cyhoeddus ar sail gwerthusiad sydd o ansawdd uchel yn gyson, a gweithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol i gefnogi gwelliant ac arloesedd a rhannu arfer da.
  • Arwain a bod yn gyfrifol am ansawdd a phrydlondeb pob agwedd ar waith craffu ar berfformiad, a gweithgarwch adolygu ac arolygu awdurdodau lleol, yn unol â'r canllawiau mewnol a’r ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu dulliau arloesol o integreiddio gwaith craffu, adolygu ac arolygu, a chyfrannu at y datblygiadau hyn.  
  • Paratoi llythyr adolygu blynyddol ynghylch effeithiolrwydd yr adran gwasanaethau cymdeithasol lleol a'i heffaith ar ganlyniadau ar gyfer dinasyddion lleol. Bod yn gyfrifol am gyflwyno'r llythyr hwn i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol, y prif aelodau etholedig a'r pwyllgorau craffu.  
  • Dadansoddi data sy'n deillio o ddangosyddion allweddol, gan gynnwys gwybodaeth o waith rheoleiddio ac arolygu a gwybodaeth arall, er mwyn nodi'r blaenoriaethau datblygu a gwella ar gyfer rhaglen o weithgarwch arolygu, craffu ac adolygu awdurdodau lleol AGC.
  • Datblygu a chynnal cydberthnasau gweithio cynhyrchiol ac effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid allanol priodol a chysylltiadau polisi allweddol perthnasol mewn cyrff cenedlaethol, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ynghyd â chyrff archwilio, arolygu a rheoleiddio penodedig perthnasol, a gydag asiantaethau statudol eraill sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu a chomisiynu gwasanaethau.
  • Cynrychioli'r Arolygiaeth Gofal yn ôl yr angen mewn amrywiaeth eang o grwpiau mewnol ac allanol ac mewn cynadleddau a digwyddiadau allanol.
  • Bod yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth am ddatblygiadau polisi ac arfer ym maes gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant o amrywiaeth eang o ffynonellau a rhannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr.
  • Arwain gweithgarwch ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u gofalwyr, er mwyn llywio gweithgarwch arolygu ac adolygu perfformiad awdurdodau lleol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau bod trefniadau sicrhau ansawdd a pherfformiad cryf yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol, a chyfrannu at ddatblygu a gwella trefniadau o'r fath
  • Mewn amgylchiadau lle y mae cyfrifoldeb rheolwr llinell, sicrhau bod trefniadau cadarn ar gyfer atebolrwydd, cydymffurfiaeth, goruchwylio rheolaeth a datblygiad y tîm.
  • Arwain ar y gwaith o ddarparu cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau i'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol yn ôl yr angen.
  • Paratoi deunydd briffio i Weinidogion a Thîm yr Uwch-reolwyr o ran materion penodol yn ôl yr angen.
  • Gweithio'n agos gydag Uwch-reolwyr mewn timau rheoleiddio i rannu gwybodaeth.
  • Sefydlu a chynnal cydberthnasau effeithiol ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd o ran trefniadau statudol a chydweithredol.
  • Sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni i safon uchel, mewn modd amserol, a bod penderfyniadau'n cael eu cyfleu'n effeithiol.
  • Datblygu a sefydlu arferion arolygu cryf ac effeithiol ym mhob rhan o AGC a chyfrannu at sicrhau bod canllawiau ac adnoddau arolygu ar waith, eu bod yn addas at y diben, yn cael eu gwerthuso ac yn cael eu hadolygu'n gyson.  
  • Ystyried sylwadau mewn perthynas â gweithgarwch rheoleiddio, yn unol â'r rota y cytunwyd arni.
  • Sicrhau bod gwaith tîm, gweithgarwch cydweithredu a chyfathrebu yn effeithiol, a chyfrannu atynt.
  • Cynrychioli'r sefydliad ar lefel uwch yn ôl yr angen.
  • Dirprwyo ar ran y Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol yn ôl yr angen. Ysgwyddo'r cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a’ch datblygiad proffesiynol eich hun, a cheisio cyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac mewn trafodaethau â'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

31/01/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau


Strategol – Gosod y Trywydd:

Newid a Gwella – Sylwi ar arwyddion bod pethau'n mynd o chwith ac ymateb yn gadarn i heriau mawr rhag cyflenwi. 

 

Strategol – Gosod y Trywydd:

Gwneud penderfyniadau effeithiol – Dod i gasgliadau rhesymol ar sail amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth, a chyflwyno’r casgliadau hynny – gan allu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan nad yw’r manylion yn glir.

 

Clwstwr Pobl – Ennyn diddordeb pobl

Arwain a Chyfathrebu – Bod yn amlwg i staff a rhanddeiliaid eu gweld a chynnal gweithgareddau rheolaidd er mwyn ennyn diddordeb pobl sy’n gweithio yn eu maes ac ennill eu hymddiriedaeth.


Clwstwr Perfformiad – Cyflawni Canlyniadau

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd – Creu cyfleoedd rheolaidd i staff a chwsmeriaid er mwyn helpu i wella ansawdd gwasanaethau, a chymryd rhan amlwg yn y gwaith hwn.



Meini Prawf Penodol i'r Swydd 

  • Cymhwyster Gofal Cymdeithasol Cydnabyddedig, megis Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol), cymhwyster nyrsio neu ofal perthynol i iechyd, cymhwyster addysgu neu addysg i lefel gradd gyda Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu Ddiploma  mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r gallu i ddangos perthnasedd y cymhwyster hwn i'r rôl.  
  •  Profiad o fod yn rheolwr canol neu'n uwch-reolwr sydd wedi rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol neu iechyd i oedolion yn effeithiol, a phrofiad eang a pherthnasol o wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.
  •  Gwybodaeth, gallu a phrofiad o weithio'n strategol ac yn weithredol i lywio a chyflawni gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol neu wasanaethau iechyd. 

Proses Asesu

Fe fydd y broses asesu yn cynnwys cyfweliad ar sail cymwysterau a chyflwyniad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Louise Bushell-Bauers 07392314825 Louise.Bushell-Bauers@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.