Swydd Wag -- Rheolwr Tîm - Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC, ym Merthyr, Caerdydd neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac ni fydd unrhyw drefniant gweithio o bell neu weithio gartref yn gyfystyr â newid eich man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. 

Yn atebol i Uwch-reolwr Gwasanaethau Cymorth, bydd deiliad y swydd hon yn arwain y gwaith o ddatblygu a chynnal trefniadau sy'n sicrhau y caiff dinasyddion a rhanddeiliaid eu cynnwys yn y broses o ddatblygu a chyflawni atebolrwyddau AGC.

Prif dasgau

  • Sefydlu a chyflawni strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu integredig ar gyfer AGC, gan gynnwys blaengynllun o weithgareddau a digwyddiadau sy'n cynnwys dinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill ac sy'n rhoi'r wybodaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gyfrannu at y gwaith o wella gofal a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
  • Rhoi gwybodaeth berthnasol ac amserol i ddinasyddion a rhanddeiliaid eraill drwy ddatblygu dulliau gweithredu priodol a'u rhoi ar waith, gan gynnwys: 

            - Delio â'r Wasg a'r Cyfryngau
            - Y Wefan a chyfathrebu digidol (gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu fideos)
            - Cyhoeddi cylchlythyrau mewnol ac allanol
            - Cyhoeddiadau yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol
            - Rheoli Digwyddiadau 

  • Arwain y broses o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i'r Prif Arolygydd, y Dirprwy Brif Arolygwyr a'r Tîm Uwch-reolwyr lle y bo angen, gan sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth amserol ac effeithiol wrth ddelio â materion yn y cyfryngau a digwyddiadau allanol ac wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid. 
  • Arwain y broses o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i uwch-reolwyr ar nifer o brosiectau AGC a llunio cynlluniau cyfathrebu cadarn ac effeithiol i adlewyrchu'r gwaith pwysig hwn ar gyfer y sefydliad. 
  • Cyflawni strategaeth gyfathrebu fewnol ar gyfer AGC sy'n cwmpasu dulliau, systemau a phrotocolau priodol, fel bod pob aelod o'r staff yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arno i wneud ei waith, ymgysylltu a chyfrannu at agenda AGC ac agenda ehangach Llywodraeth Cymru. 
  • Arwain a rheoli tîm o bedwar aelod o staff (2 MB2, 2 MB3 ac 1 TS) gan ddefnyddio system rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru i'w galluogi i wireddu eu potensial, darparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwella'n barhaus. 
  • Fel aelod o'r Proffesiwn Cyfathrebu - sicrhau bod strategaethau AGC yn gyson  gweithgareddau cyfathrebu eraill a chyfrannu at agenda ehangach Llywodraeth Cymru, gan gysylltu â'r tîm Cyfathrebu Canolog lle y bo'n bosibl.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

13/02/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Arwain a Chyfathrebu
Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen

Newid a Gwella
Bod yn barod i gymryd risgiau a reolir, gan sicrhau y cynllunnir ar eu cyfer ac yr asesir eu heffaith

Rheoli Gwasanaeth Safonol
Gweithio gyda'r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni

Gweld y Darlun Ehangach
Ceisio deall y modd y mae'r gwasanaethau, y gweithgareddau a'r strategaethau yn yr ardal yn gweithio gyda'i gilydd i roi gwerth i'r cwsmer/defnyddiwr

Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

  1. Dangos profiad o ddatblygu a chyflawni cynlluniau cyfathrebu a gweithgareddau ymgysylltu sy'n cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid mewnol ac allanol
  2. Profiad o gynnal ymgyrchoedd amlddisgyblaethol ar draws amrywiaeth eang o sianeli, gan ddangos y defnydd o ddealltwriaeth a segmentu cynulleidfaoedd 
  3. Dangos amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu ehangach, gan gynnwys profiad o ddau o'r meysydd canlynol, o leiaf: delio â'r wasg a'r cyfryngau, cyfathrebu digidol, digwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol, fideo a rheoli'r broses o gynhyrchu cyhoeddiadau



Proses Asesu

Y broses ymgeisio 

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams. 

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru, sef ffurflenni cais a chyfweliadau ar sail cymhwysedd. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeiswyr AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddio dull STAR wrth ddarparu tystiolaeth. 

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams. Os na allwch gynnal cyfweliad ar-lein am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau eraill lle bo modd. 

Os ydych yn unigolyn anabl, â nam neu gyflwr iechyd, neu’n niwrowahanol, neu os ydych yn defnyddio BSL ac yn dymuno gwneud cais am addasiad rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at CIWHR@gov.wales

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Lleoliad

Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC, ym Merthyr, Caerdydd neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac ni fydd unrhyw drefniant gweithio o bell neu weithio gartref yn gyfystyr â newid eich man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol.

Proses Gwneud Cais

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru sef ffurflenni cais a chyfweliadau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeiswyr AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddiwch ddull STAR wrth roi tystiolaeth. 

Llunio Rhestr Fer/Sifftio Ceisiadau

Caiff rhestr fer ei llunio drwy asesu'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y cais, y CV a'r dystiolaeth a lanlwythwyd.  Caiff hyn ei asesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn y cymwyseddau a'r meini prawf penodol i'r swydd a nodir yn y disgrifiad swydd/hysbyseb swydd.  

Os daw nifer mawr o geisiadau i law, efallai mai dim ond yn seiliedig ar eich ymatebion i'r tri maen prawf penodol i'r swydd y bydd y panel yn llunio'r rhestr fer. Noder: bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â'r pedwar cymhwysedd o hyd, er mwyn pasio'r cam rhestr fer yn llwyddiannus.

Cewch wybod y canlyniad drwy'r system ar-lein.   

Cyfweliadau

Caiff cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir dros Microsoft Teams.  Os na allwch gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau amgen lle y bo'n bosibl. 

Os ydych yn anabl, os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, os ydych yn niwrowahanol neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a hoffech wneud cais am addasiadau rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy e-bostio CIWHR@gov.wales

Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflawni asesiad neu roi cyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Os felly, byddwn yn rhoi rhybudd o bum diwrnod gwaith o leiaf o'r gofynion. 

Sgiliau Cymraeg

Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rydym yn annog ceisiadau ar gyfer y swyddi hyn gan siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Gweithio Hyblyg – Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd.

Gwyliau Blynyddol – Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol os byddwch yn gweithio'n llawn amser, pro rata ar gyfer rhan amser (e.e. 4 diwrnod = 25 diwrnod). 

Gwyliau Banc – Mae cyflogeion llawn amser yn cael 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn, pro rata ar gyfer rhan amser. 

Cyflog – Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw â graddfeydd cyflog cynyddrannol. Mae gennym hefyd strwythur cyflog cyfartal, beth bynnag fo oedran, statws priodasol, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth o ran rhywedd. Ceir rhagor o wybodaeth yma. https://llyw.cymru/datganiad-polisi-tal-llywodraeth-cymru-2020 

Teithio a Chynhaliaeth – Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu cyflogeion am gostau ychwanegol angenrheidiol yr eir iddynt mewn perthynas â theithio a chynhaliaeth ar deithiau busnes swyddogol i ffwrdd o'r swyddfa arferol.  Ni fydd yn ad-dalu costau y gellid bod wedi eu hosgoi drwy gynllunio'n well neu a oedd yn angenrheidiol fel arall i gyflawni diben swyddogol yr ymweliad. 

Pensiwn – Ceir rhagor o wybodaeth am gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yma: https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/ 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei holl gyflogeion. Mae gennym raglenni talent amrywiol a rhwydweithiau staff cryf a rhagweithiol er mwyn helpu pawb, beth bynnag fo'u cefndir, i wireddu eu potensial yn llawn. 

Dysgu a Datblygu – Caiff pob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru ei gefnogi i ddatblygu ei sgiliau a'i alluoedd, sy'n cynnwys mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygu gyda darparwyr o'r radd flaenaf.  Mae AGC yn ymrwymedig i Ddysgu a Datblygu ac i sicrhau bod ein staff yn cwblhau pum diwrnod o ddysgu o leiaf bob blwyddyn.  Caiff hyn ei gefnogi gan raglen ddysgu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC.  

Sefydlu – Caiff pob newydd-ddyfodiad hyfforddiant Sefydlu fel un o gyflogeion Llywodraeth Cymru.  Caiff hyn ei gefnogi gan raglen sefydlu bwrpasol ar gyfer cyflogeion AGC. 

Cod y Gwasanaeth Sifil – Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi'r gwerthoedd craidd a'r safonau a ddisgwylir gan bob gwas sifil: uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd.  Disgwylir i bob gwas sifil ymddwyn yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, https://llyw.cymru/cod-y-gwasanaeth-sifil

Gwerthoedd Craidd AGC – Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a'n dyheadau fel sefydliad.

  • Gofalgar: rydym yn dosturiol ac yn gyfeillgar
  • Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
  • Uniondeb: rydym yn onest a gellir ymddiried ynom
  • Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
  • Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
Toby Mason - 03000 256839 Jackie.Bracey@gov.wales 03000 628087/ 07968 702724

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.