Swydd Wag -- Pennaeth Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£51,380
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cynllunio ac adrodd strategol a gweithredol
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu
  • Polisi a deddfwriaeth

Prif dasgau

Strategaeth

1.     Arwain ar y gwaith o ddatblygu, monitro ac adolygu strategaeth AGIC.

2.     Arwain ar y gwaith o gyhoeddi cynllun gweithredol blynyddol AGIC a chyhoeddiadau corfforaethol allweddol eraill.

3.     Sicrhau bod AGIC yn rhoi ystyriaeth lawn i ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi wrth reoli ei busnes ac wrth arwain ymateb AGIC i ddylanwadu ar ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi.

4.     Cefnogi’r Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu ar faterion cynllunio strategol a gweithredol, datblygiadau polisi a deddfwriaethol, cyfathrebu, datblygu sefydliadol a phroffesiynol, ac ymgysylltu mewnol/allanol â'r staff, partneriaid a’r cyhoedd.

 

Ymgysylltu

5.     Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth ymgysylltu gyffredinol ar gyfer AGIC sy’n sicrhau cyfranogiad cadarnhaol a chanlyniadau cadarnhaol o’n gwaith gyda chleifion a’r cyhoedd.

6.     Arwain ar y gwaith o greu strategaeth cydraddoldeb sy’n sail i’r ffordd y mae AGIC yn ystyried anghenion grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig, a grwpiau lleiafrifol eraill, trwy ein gwaith.

7.     Sicrhau bod adroddiadau a chyfathrebiadau eraill AGIC yn cael eu cyflwyno mewn ffordd glir sy’n rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a gweinidogion ynghylch ansawdd gofal iechyd yng Nghymru.

8.     Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Gwybodaeth a Phartneriaethau i sicrhau bod gwybodaeth ac adnoddau'n cael eu rhannu er mwyn cyflawni blaenoriaethau AGIC yn effeithlon, gan gynnwys drwy weithio mewn partneriaeth.

 

Cynllunio

9.     Sicrhau bod cynllun gweithredol, adroddiad blynyddol a chynlluniau eraill AGIC yn cyd-fynd yn briodol ag amcanion strategol y sefydliad.

 

Polisi

10.  Cynnal gwaith ymchwil a chynghori'r Prif Weithredwr a'r uwch-dîm ar oblygiadau datblygiadau polisi i gleifion, y cyhoedd a chyfrifoldebau AGIC.

11.  Sicrhau bod y dystiolaeth a’r wybodaeth sydd ar gael i AGIC yn cael eu defnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu syniadau a chynigion ar gyfer gwella gofal iechyd yng Nghymru.

12.  Ymgysylltu â chydweithwyr polisi a dylanwadu arnynt i wneud y mwyaf o’r buddion posibl i gleifion a’r cyhoedd wrth i gynigion gael eu llunio a dod yn fwriadau polisi cadarn.

 

Cyfathrebu

13.  Rheoli swyddogaeth gyfathrebu'r sefydliad ar lefel strategol, yn pennu'r negeseuon a chynulleidfa gyffredinol ar gyfer AGIC ac, ar lefel weithredol, yn sicrhau bod gweithgareddau cyfathrebu, gan gynnwys cysylltu â'r cyfryngau, yn cael eu darparu'n effeithiol.

14.  Sicrhau a rheoli unrhyw gyngor cyfathrebu arbenigol a all fod yn angenrheidiol pan fo'n briodol.

 

Cyffredinol

15.  Cymhwyso disgyblaethau rheoli pobl cryf i sicrhau bod y staff yn cael yr hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni'n effeithiol a'u bod yn gallu datblygu.

16.  Gweithio ar y cyd â chydweithwyr ledled AGIC.

17.  Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau ei dîm.

 

Cyfleoedd datblygu

Mae'r rôl yn cynnig y cyfle i ennill profiad o arweinyddiaeth mewn sefydliad sy'n weithredol annibynnol.

Bydd deiliad y swydd mewn rôl proffil uchel, yn cynrychioli’r sefydliad ac yn hyrwyddo ei farn gyda phartneriaid mewnol ac allanol.

Dyddiad Cau

07/06/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Llun Mawr

  • Dod â barn a safbwyntiau rhanddeiliaid ynghyd i gael darlun ehangach o'r dirwedd o amgylch gweithgareddau a pholisïau

Arwain a Chyfathrebu

  • Egluro strategaethau a chynlluniau, cyfathrebu pwrpas a chyfeiriad gydag eglurder a brwdfrydedd

Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Sicrhau y cedwir at ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a diogelwch wrth ddarparu gwasanaethau a chynnwys ystyriaethau amrywiaeth a chydraddoldeb mewn cynlluniau

Cyflawni'n Gyflym

  • Cael y gorau allan o bobl trwy roi negeseuon brwdfrydig ac anogol am flaenoriaethau, amcanion a disgwyliadau

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  • Dealltwriaeth dda o'r materion polisi, cyfreithiol a pherfformiad sy'n effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru.
  • Profiad o weithio gydag ystod eang o bartneriaid i gyflawni amcanion busnes a dylanwadu.
  • Profiad o reoli cyfathrebu ac ymgysylltu mewn amgylchedd cymhleth.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad.  Bydd y cyfweliad yn cynnwys cyflwyniad 5 munud ar beth yw'r prif heriau sy'n wynebu AGIC wrth geisio cyflawni ei strategaeth tair blynedd o 2022-25.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Abubakar.Askira@gov.wales Tel: 03000 628163

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.