Swydd Wag -- Swyddog Cymorth Arolygiaeth Gofal Cymru (x5)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Cymru
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£21,300
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Cyfnod penodol am hyd at 12 mis gyda phosibilrwydd o swydd barhaol yn amodol ar y meini prawf sydd ar waith ar y pryd.
Lleoliad arall
Gall y swyddi hyn gael eu lleoli ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Rydym yn gweithredu dull hybrid o weithio – a elwir yn 'Gweithio'n Glyfar' yn Llywodraeth Cymru'; mae hyn yn cynnwys cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau ac anghenion y busnes.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

Diben AGC yw annog gwelliant mewn gofal cymdeithasol, yn y blynyddoedd cynnar ac mewn gwasanaethau cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu ac adolygu a thrwy ddarparu cyngor proffesiynol. Mae AGC yn cyflawni ei swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru. Rydym yn eistedd o fewn Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu o fewn Llywodraeth Cymru. 

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Arolygu, Cymorth Cofrestru neu Wasanaethau Cymorth i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol ac i'w cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion busnes corfforaethol.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o becynnau Microsoft yng nghynnwys Word, Excel ac Outlook.

Prif dasgau

Mae’r tasgau isod yn dibynnu ar y rôl y bydd unigolion yn cael eu paru â hi:

  • Darparu cymorth gweinyddol a digidol cyffredinol, gan gynnwys y pwynt cyswllt cyntaf i alwyr drwy ein gwasanaeth cyswllt ffôn. Cofnodi a dosbarthu post sy'n dod i mewn ac yn mynd allan dros e-bost, gan gynnal cofnodion mewnol yn ôl y gofyn.
  • Monitro blychau post tîm, gan brosesu a chyfeirio ymholiadau at gysylltiadau perthnasol ar draws AGC a Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth fel y bo’n briodol, neu eu cyfeirio’n allanol at bartneriaid a sefydliadau eraill.
  • Trefnu cyfarfodydd mewnol yn ôl yr angen, gan reoli’r defnydd o Microsoft Teams ac ystafelloedd cyfarfod / ystafelloedd cyfweld ar y safle (lle bo angen), cymryd cofnodion a dosbarthu papurau. 
  • Rhoi cymorth ar goladu dogfennau sy'n ymwneud â chofrestriad neu arolygiad, gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu mewnbynnu a'u cynnal yn gywir.
  • Cynorthwyo'r swyddfa i gynhyrchu adroddiadau arolygu, adolygu a chofrestru, gan fonitro cyflawniad yr amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi a chynnal rheolaeth ar y broses o gynhyrchu adroddiadau, gan gynnwys prosesu geiriau a fformatio a dosbarthu adroddiadau.
  • Gan weithio gyda’r tîm Cyswllt, darparu cymorth fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer AGC, gan ddarparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd a chwsmeriaid mewnol, a chan dderbyn ac ymateb i ymholiadau a phryderon cyffredinol ac arolygu. Sicrhau mewn achosion lle nad ydych yn gallu datrys yr ymholiad bod eitemau'n cael eu dirprwyo a'u trosglwyddo i'r tîm/arolygydd perthnasol i ymateb iddynt.
  • Defnyddio system rheoli achosion AGC i ymateb yn sensitif ac yn gyfrinachol wrth gydnabod pryderon a hysbysiadau, gan gynnwys darparu cymorth yn ystod camau gorfodi yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr Cyswllt AGC.
  • Defnyddio system rheoli achosion AGC i fewnbynnu data cywir ac amserol. Gwirio cywirdeb manylion cyswllt cyn cyfathrebu â darparwr. Rhoi gwybod i'r tîm perthnasol am broblemau sy'n codi o'i defnydd lle nad oes modd eu datrys.
  • Cyflenwi a chefnogi cydweithwyr yn nhîm y Prif Arolygydd a’r tîm uwch-reolwyr ehangach, yn ôl yr angen. 
  • Cynnal cyfrinachedd ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys trin gwybodaeth gyfrinachol. 
  • Sefydlu a chynnal dogfennau iShare ar gyfer gweithgarwch prosesau busnes, gan reoli’r gwaith o reoli fersiynau a sicrhau bod ffeiliau'n cael eu diweddaru. 
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a mynd ar drywydd cyfleoedd priodol gyda rheolwr y tîm.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill a all fod yn ofynnol gan reolwr y tîm.

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn elwa o'r canlynol:

  • Dealltwriaeth eang o bob maes o fusnes AGC 
  • Cyfle i weithio gyda chydweithwyr mewn gwahanol feysydd gwaith yn AGC, gan gynnwys arolygwyr sy’n ymwneud â gweithgarwch rheoleiddio, cydweithwyr tîm cymorth a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru 

Dyddiad Cau

07/06/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Monitro a storio data critigol mewn modd diogel, priodol a chyfrifol gan gynnal cyfrinachedd.

Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth

  • Cyfrannu'n rhagweithiol i waith y tîm cyfan.

Gwella gallu pawb

  • Dod o hyd i ffyrdd o ddysgu a gwella'n bersonol wrth gyflawni tasgau o ddydd i ddydd

Rheoli gwasanaeth safonol

  • Bod yn atebol am faterion, gan ganolbwyntio ar ddarparu'r ateb cywir a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a phartneriaid cyflenwi.

Meini prawf penodol i'r swydd

Y gallu i ddarparu gwasanaeth rheng flaen o safon i gwsmeriaid mewnol ac allanol, dros y ffôn, ar-lein, neu'n ysgrifenedig, gan nodi'r camau gweithredu mwyaf priodol.
Y gallu i ddangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn effeithiol i ddelio ag ystod o gydweithwyr mewnol ac allanol, gan gynnwys uwch-reolwyr.
Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol i gwrdd â therfynau amser a gweithio'n hyblyg fel rhan o dîm neu ar eich menter eich hun.

Proses Asesu

Y Broses Ymgeisio
Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru, sef ffurflenni cais a chyfweliadau ar sail cymhwysedd. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeisydd AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddio dull STAR wrth ddarparu tystiolaeth.

Cyfweliadau
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams.  Os na allwch gynnal cyfweliad ar-lein am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau eraill lle bo modd.  

Os ydych yn unigolyn anabl, â nam neu gyflwr iechyd, neu’n niwrowahanol, neu os ydych yn defnyddio BSL ac yn dymuno gwneud cais am addasiad rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at CIWHR@llyw.cymru.

Proses baru
Mae’r rolau cymorth ar gael ar draws Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n cynnwys meysydd fel y Tîm Cyswllt, Cymorth Arolygu, Cofrestru a Gorfodi, a Gwasanaethau Cymorth. Os byddwch yn llwyddiannus, byddech yn cael eich paru i rôl yn nhrefn teilyngdod. Mae hyn yn golygu na allwch ddewis pa rôl rydych yn cael eich dyrannu iddi, ond bydd yr wybodaeth a roddwch yn eich ffurflen gais yn cael ei hystyried, lle bo modd, pan fyddwn yn eich paru. Mae tua phum rôl ar gael, ond bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chadw a fydd yn caniatáu i ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn gael eu penodi i rôl o fewn 12 mis i'r cynnig cychwynnol pe bai swydd addas ar gael.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Lleoliad

Gall y swyddi hyn gael eu lleoli ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Rydym yn gweithredu dull hybrid o weithio – a elwir yn 'Gweithio'n Glyfar' yn Llywodraeth Cymru'; mae hyn yn cynnwys cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau ac anghenion y busnes.

Sgiliau Cymraeg

Mae'r Gymraeg yn sgil dda i'w chael ond dydi o ddim yn hanfodol ar gyfer y rolau hyn. Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg i ymgeisio am y swyddi hyn.

Beth yw'r buddion?

Mae llawer o fuddion gwych i weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Byddwch yn ennill £21,300 y flwyddyn am y 12 mis cyntaf, yno wedyn byddwch yn derbyn cynyddran a fydd yn codi eich cyflog hyd at £22,960 (mae hyn yn amodol ar basio cyfnod prawf).
  • Byddwch yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod cyhoeddus a braint. 
  • Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i gael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith. 
  • Byddwch hefyd yn gymwys i fod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Buddion eraill

  • Gweithio hyblyg – rydym yn cefnogi staff i reoli eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith trwy weithio gartref (yn amodol ar angen busnes ac os yw’n briodol ar gyfer y rôl).
  • Patrymau gwaith – mae opsiynau gwahanol ar gael: llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, oriau wedi'u crynhoi, yn ystod y tymor ac ati (yn amodol ar angen y busnes ac os yw’n briodol ar gyfer y rôl).
  • Cynllun car gwyrdd – sy’n eich galluogi i brydlesu car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano drwy aberthu cyflog.
  • Cymorth cyllid – benthyciadau cyflog ymlaen llaw ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, cynllun beicio i'r gwaith a mwy.
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o absenoldeb tadolaeth.
  • Amser llesiant – awr llesiant benodedig bob wythnos i’w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. P'un a yw hwn yn daith gerdded yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu fynd i'r gampfa, dyma amser i chi.
  • Tâl – cynyddrannau cystadleuol ar draws y bandiau cyflog.
  • Hyfforddiant a dilyniant – mynediad i hyfforddiant a datblygiad wedi'i deilwra i'ch rôl.
  • Cynhwysiant ac amrywiaeth – rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol lle mae pawb yn teimlo y gallant fod yn nhw eu hunain, a lle nad oes neb yn teimlo y gwahaniaethir yn ei erbyn.
  • Ymgysylltu â staff – mae gennym ystod eang o rwydweithiau gweithgar a chroesawgar iawn, gan gynnwys: awtistiaeth, gofalwyr, Merched Ynghyd, PRISM (ein rhwydwaith LHDTC+) a llawer mwy.
  • Diogelwch ac iechyd galwedigaethol – mae gennym dimau ymroddedig i ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen fwyaf ar staff.
  • Iechyd meddwl – mae gennym Raglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i reoli eu hiechyd meddwl.
  • Cyfarpar TG cyfoes – bydd gliniaduron gydag Office 365 yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble rydych chi'n gweithio.
  • Tri undeb – mae tri undeb yn weithredol yn ein sefydliad ar hyn o bryd. 
CIWHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.