Swydd Wag -- PRIF WEITHREDWR AROLYGIAETH GOFAL IECHYD CYMRU

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Uwch Wasanaeth Sifil 2
Tua £93.000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

30/05/22 23:55

Pwrpas y Swydd

Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am reoli gweithrediadau AGIC o ddydd i ddydd ac am y rhaglen waith flynyddol. Bydd yn arwain AGIC o ran ei holl gyfrifoldebau amrywiol, a bydd yn gyfrifol am faterion ymarfer da, gonestrwydd ac atebolrwydd corfforaethol. Bydd hefyd yn gyfrifol am broffil AGIC a’r modd y mae’n cael ei weld gan gyrff allanol, y GIG a’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae gan y Prif Weithredwr awdurdod i ddarparu asesiadau annibynnol o ofal iechyd yng Nghymru, a phenderfyniadau yn ymwneud ag ef, a fydd yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) cyhoeddi adroddiadau, gwneud datganiadau cyhoeddus a phennu blaenoriaethau a rhaglen waith flynyddol AGIC. 

Mae hon yn rôl â phroffil uchel a bydd deiliad y swydd wedi profi llwyddiant blaenorol ar lefel uwch-reolwr ac wedi cael profiad o weithio o fewn fframwaith cenedlaethol.  

Bydd deiliad y swydd:

  • yn rhoi arweiniad i’r sefydliad er mwyn datblygu ei gyfeiriad strategol ymhellach;
  • yn gallu mynd i’r afael yn fedrus ag ystod amrywiol o faterion cymhleth, gan ddangos gwytnwch a chraffter gwleidyddol;
  • yn gweithredu ar y lefel uchaf un ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, cyd-drafod a dylanwadu rhagorol;
  • cyfrannu cyngor proffesiynol cadarn a dibynadwy i Weinidogion a’r timau polisi sy’n eu cynorthwyo, gan gynnwys drwy adroddiadau cyhoeddedig, ar y cyd ag arolygiaethau eraill pryd bynnag y bo angen, a rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgorau Llywodraeth Cymru pryd bynnag y bo angen;
  • yn ennyn parch a hygrededd amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd, cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, grwpiau cynrychioli cleifion, gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweinidogion ac Aelodau o’r Senedd;
  • yn gallu gweithredu â llawer iawn o ymreolaeth, gan gynnal annibyniaeth yr arolygiaeth, tra’n gweithio gyda chyrff eraill tuag at nodau cyffredin er mwyn sicrhau gwell canlyniadau a chynnal cysylltiadau adeiladol gydag eraill. 

Mae’r rôl hon yn cynnig her ac yn dod â llawer iawn o gyfrifoldebau at ei gilydd. Mae’n cyfuno arwain, datblygu strategaeth, rheoli newid, datblygu cysylltiadau, rheoli perfformiad a gosod safonau. Bydd y Prif Weithredwr yn gweithio mewn cysylltiad agos â nifer o wahanol randdeiliaid er mwyn meithrin ymrwymiad, gosod safonau ar gyfer gwaith AGIC a sicrhau canlyniadau ar draws sefydliadau gofal iechyd. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth sylweddol i’r gofal iechyd y mae pobl yng Nghymru’n ei gael yn eu bywydau bob dydd drwy ysgogi gwelliant parhaus yn ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd. 

Fel un o’r arweinwyr ymhlith y ‘teulu’ o gyrff rheoleiddio ac arolygu yng Nghymru, mae gan y Prif Weithredwr hefyd rôl gorfforaethol ehangach, sef hybu cydweithrediad rhwng y cyrff hynny gyda’r bwriad o gynyddu eu heffeithlonrwydd a’u heffeithiolrwydd wrth wella gwasanaethau cyhoeddus.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Bydd yr ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar y rhestr fer yn cael profion seicometrig ar-lein a fydd yn cynnwys rhesymeg rifyddol a geiriol a thrafodaeth gyda seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein o fewn 10 diwrnod i lunio’r rhestr fer. Cynhelir y cyfarfod i lunio’r rhestr fer ar 9 Mehefin 2022. 

Os ydych chi wedi gwneud y profion seicometrig ar-lein yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ar gyfer swydd ar yr un radd yn y gwasanaeth sifil, ni fydd angen ichi wneud y profion hyn eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn.

 

Ymarferion Ymgysylltu â Staff/Rhanddeiliaid

Gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gymryd rhan mewn ymarferion ymgysylltu â staff/rhanddeiliaid yr wythnos sy’n dechrau ar 20 Mehefin 2022. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.

 

Prawf Cyfryngau

Gofynnir i ymgeiswyr ar y rhestr fer gymryd rhan mewn prawf cyfryngau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 20 Mehefin 2022. Rhagor o fanylion i ddilyn. 

Bydd y gweithgareddau uchod yn rhan o'r asesiad cyffredinol sy'n ofynnol ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn yn ogystal â chyfweliad y panel dethol.

 

Cyfweliadau

Bwriedir cynnal y cyfweliadau ar 8 Gorffennaf 2022. Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal o bell ac yn para rhyw 45 munud. Bydd y panel yn cael adborth ar eich profion seicometrig, yr ymarfer ymgysylltu â staff/rhanddeiliaid a’r prawf cyfryngau cyn ichi gael cyfweliad. Bydd eich cyfweliad yn un seiliedig ar gymwyseddau a fydd yn ystyried sut mae eich sgiliau a'ch profiad, fel y nodwyd yn eich CV a'ch datganiad personol, yn bodloni'r gofynion ar gyfer y swydd hon. 

Os gofynnir i ymgeiswyr baratoi cyflwyniad ar gyfer eu cyfweliad, byddant fel arfer yn cael o leiaf un wythnos o rybudd ynglŷn â'r pwnc. 

Nodwch na ellir defnyddio taflenni na dyfeisiau electronig ar gyfer y cyflwyniad. Fodd bynnag, mae croeso ichi ddefnyddio cardiau i brocio'r cof.

 Os bydd y panel o’r farn bod ymgeiswyr yr un mor deilwng â’i gilydd, bydd y meini prawf dymunol yn cael eu defnyddio i bennu trefn eu teilyngdod.

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

8 Gorffennaf 2022

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.